“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.”
Ers hynny, mae nifer o opsiynau wedi eu harchwilio, grŵp llywio wedi ei sefydlu, Cynllun Busnes wedi ei ddatblygu, Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Rheolwr Datblygu wedi ei ysgrifennu a threfniadau cyllido’r swydd honno trwy nawdd cynghorau cymuned a Chwmni Ynni Padarn Peris yn cael eu mireinio.
Mae £10,000 wedi ei sicrhau ar gyfer cynnal Asesiad Anghenion Tai Lleol ac i asesu modelau, eiddo a chyllido posib ar gyfer Tai dan arweiniad y gymuned. Bydd cyfarfodydd yn cael eu galw yn y flwyddyn newydd i glywed barn a syniadau trigolion ynglyn a hyn er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng tai mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol.
Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn.
Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol. Diolch iddynt am eu cyfraniadau brwd!
Nawr, mae plant yn cael y cyfle i weithredu ar eu syniadau!
Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau addysg hwylus, rhyngweithiol i blant oed cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a be sy’n ei achosi. Ar ddiwedd pob sesiwn mae’r plant yn cyfrannu at ddatblygu syniadau gweithredu yn eu cymunedau – ac yna yn cael cynnig i weithredu ar y syndiadau yma eu hunain, yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau dysgu pellach. Dyma ni’r cynnig:
Sesiwn Hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod teimladau ynghylch newid hinsawdd, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd.
Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!).
Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr. Mae hyn (o fewn rheswm!) i fyny i’r plant a byddwn yno i’w cefnogi.
Y nod yw galluogi’r plant i gyd-weithio ag eraill yn eu cymuned i weithredu ar yr hinsawdd ac i ddeall sut mae eu gweithredu’n cyfrannu at ymateb i newid hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gwneud cysylltiadau ag eraill yn eu cymuned a mynd ati i wneud rhywbeth i daclo her yr hinsawdd hefyd yn helpu i leddfu gôr bryder am yr hinsawdd.
Mae’r arwyddion cynnar yn addawol: neidiodd nifer y plant oedd yn deud y buasent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau.
Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i ymateb i feysydd gweithredu cynllun gweithredu hinsawdd eu hardal nhw.
Dyma flas o beth sydd wedi bod yn digwydd ac ar y gweill:
Dyffryn Ogwen
Ymweliadau i gynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
Cydweithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi ysgolion.
Ymchwilio patrymau teithio i’r ysgol ac adnabod ac ymateb i heriau teithio yno mewn modd mwy ‘actif’.
Dyffryn Peris
Cymryd rhan ym mhrosiect Stori’r Tir – sef prosiect i drigolion y dyffryn ail ddarganfod ac ail berchnogi hanes eu tîr.
Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu!
Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.
Rydym wrthi’n datblygu cynigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan!
Mae’r daith yn un cyffrous ac rydym wedi gwneud cychwyn cadarn arni! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Sara, ein Swyddog Addysg: sara@deg.cymru
Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!
Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawddyn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu– yn fyw!
Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.
Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.
Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:
Ond nid dyma ddiwedd y stori – dim ond y dechrau! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu cefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed gennych! Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.
Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Gwynedd a thu hwnt!
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.”
Dyma Lowri, Hwylusydd Dyffryn Peris, yn sôn am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn yma i geisio dod â’r weledigaeth yma yn fyw.
—
Lowri:
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.” – dyna chi lond ceg!
Her uchelgeisiol ac angenrheidiol i sicrhau ffyniant y fro hynod hon yng ngwyneb heriau lluosog, yn lleol a rhyngwladol. Mae ‘na beth wmbrath o waith gwych yn mynd rhagddo gan wirfoddolwyr a gweithwyr brwd, ac ychwanegu gwerth i hynny fu y nôd.
Ym mis Ionawr eleni, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Sefydliad Coffa Arwyr, Llanrug er mwyn dal y syniad yma i fyny i’r golau. Gwahoddwyd y cynghorau cymuned lleol, grwpiau a mudiadau di-elw ac unrhyw un arall gyda diddordeb. Roedd y caffi yn orlawn!
Clywsom am flaenoriaethau’r gymuned a gasglwyd gan Gyngor Gwynedd yn eu hymgynghoriad Ardal Ni 2035. Datblygu Llwybrau, Gwella Edrychiad, Tai addas, Trafnidiaeth gyhoeddus, Cefnogi Busnesau, Twristiaeth Cynaliadwy, Cynlluniau i bobl ifanc, Gweithgareddau Cymraeg, Gwella cydweithio, Sgiliau cymunedol.
Clywsom hefyd am amcanion GwyrddNi ac am rwydwaith newydd sy’n hybu perchnogaeth a hunan-benderfyniad cymunedol yng Ngwynedd; Cymunedoli Cyf.
Roedd cyflwyniad i waith Antur Stiniog dros y 15 mlynedd diwethaf yn ysbrydoledig. Mae nhw wedi troi heriau gor-dwrisitaeth ar ei ben a chreu incwm ohonno sydd wedi hadu nifer o brosiectau cymunedol eraill. Bachodd y syniad o greu mudiad ‘ymbarel’ fel Cwmni Bro Ffestiniog i gefnogi a chysylltu mudiadau parod a gallu creu prosiectau newydd yn nychymyg y rhai fu’n bresennol.
Erbyn diwedd y cyfarfod, roedd syniadau o ffrydiau incwm a phrosiectau newydd wedi eu cofnodi, opsiynnau cyllido wedi eu hadnabod, gofod swyddfa posib ar gael a chynigion i hybu’r syniad trwy’r Papur Bro lleol, Eco’r Wyddfa.
—
Poster a aeth allan i esbonio’r weledigaeth
Datblygu cynlluniau
Dros y 7 cyfarfod dilynnol eleni, mae nifer o opsiynau wedi eu harchwilio, grŵp llywio wedi ei sefydlu, Cynllun Busnes wedi ei ddatblygu, Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Rheolwr Datblygu wedi ei ysgrifennu a threfniadau cyllido’r swydd honno trwy nawdd Cynghorau Cymuned Llanberis a Nant a Llanrug a Cwm-y-Glo a Chwmni Ynni Padarn Peris yn cael eu mireinio.
£8000! Diolch i gyllido gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Grymuso Gwynedd, llogwyd gofod cydweithio yn Caban, Brynrefail am gyfnod o 6 mis. Rhoddodd hyn i’r gwaith o ddatblygu Partneriaeth Dyffryn Peris ofod swyddfa, ystafell gyfarfod, sgyrsiau achlysurol dros goffi a chyfle i gynnal digwyddiadau Cymraeg a denu gwirfoddolwyr.
Bu i’r grofna hon hefyd dalu am wasanaeth ymgynghorol gan arbenigwr Datblygu Cymunedol – Meleri Davies. Roedd dysgu o’i phrofiad hi o ddatblygu Partneriaeth Ogwen dros y ddegawd diwethaf yn amhrisiadwy, a’r Cynllun Busnes drafft a gynhyrchwyd yn hynod gynhwysfawr.
Diolch hefyd i holl wirfoddolwyr y Grŵp Llywio am rannu o’u profiadau ac arbenigeddau cyfoethog. Ecolegwyr, sylfaenwyr a chyfarfywddwyr sawl mudiad cymunedol, cynghorwyr Sir a chymuned, cyn- benaethiaid gwasanaethau tai, saeri, artistiaid a mwy!
Beth nesaf?
Diolch i waith diwyd a gofalus y Grŵp Llywio cychwynnol, mae trefniadau cyfreithiol, ariannol a chynllun busnes bron i gyd yn eu lle. Beth sydd ei angen nesaf ydy dod a’r Bartneriaeth yn FYW!
Perthynas ydy Partneriaeth yn y bôn, ac fel unrhyw berthynas, mae angen gofal a chariad ac ymdrech barhaus o bob ochr i’w chynnal. Nid oes un i arwain ac eraill i ddilyn! Wrth ddod i adnabod ein gilydd yn well mewn digwyddiadau achlysurol, a chefnogi ymdrechion ein gilydd, bydd y gwaith o ddatblygu’n cymunedau yn dod a mwy o wobrwyon i bawb, yn y pendraw.
Bydd digwyddiad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd (amser a lleoliad i’w gadarnhau) i ddod a thrigolion a busnesau at ei gilydd i gael cyfle i sgwrsio, i rannu o’u profiadau, ac i ddathlu’r gwaith caled sy’n digwydd ar draws ein cymunedau. Byddwn hefyd yn hysbysebu swydd Rheolwr Datblygu Partneriaeth Dyffryn Peris er mwyn codi gwynt i’r hwyliau o ddiffrif.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno gyda’r Grwp Llywio, byddwn yn croesawu sgwrs gyda chi.
Mae £10,000 wedi ei sicrhau ar gyfer cynnal Asesiad Anghenion Tai Lleol ac i asesu modelau, eiddo a chyllido posib ar gyfer Tai dan arweiniad y gymuned. Bydd cyfarfodydd yn cael eu galw yn y flwyddyn newydd i glywed barn a syniadau trigolion ynglyn a hyn er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng tai mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol.
Os hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau pellach – anfonwch ebost at peris@gwyrddni.cymru i gael eich ychwanegu i’r rhestr dosbarthu.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Ym mis Hydref, cychwynnodd criw bach o gymuned GwyrddNi ar gwrs preswyl Cymraeg Canolradd/Uwch yn Nant Gwrtheyrn, a ddarparwyd yn hael am ddim gan y Nant.
Dros yr wythnos, cafodd y myfyrwyr gyfle i glywed cyngerdd preifat gan Gwilym Bowen Rhys, i ymweld â’r Orsaf i glywed am eu gwaith, ac i glywed Steve Eaves yn sôn am “Ecoieithyddiaeth” – yn ogystal â’r cyfle i ddysgu ac ymarfer llawer o Gymraeg!
Dyma dri o’r myfyrwyr yn rhannu eu profiadau am yr wythnos: linc yma.
Mae Nina, ein Hwylusydd Cymunedol ym Mro Ffestiniog, yn rhannu ei phrofiadau a’i mewnwelediad yn y blog hwn:
Nina
NINA: Os ydych chi eisiau newid neu addasu ymddygiad – mae angen i chi gynyddu cymhelliant, a chael gwared ar rwystrau. Fel dysgwr Cymraeg, a’r unig aelod o staff GwyrddNi oedd yn dysgu Cymraeg fel ail iaith, roeddwn i eisiau dipyn o “shake-up” o gwmpas dysgu’r iaith. Ond doeddwn i ddim wir wedi ystyried y byddai mynd i’r afael â chymhelliant a rhwystrau yn rhan bwysig o wneud hynny.
Fedrai dim ond 4.5 diwrnod o drochi wir gael effaith sy’n newid bywyd? Mi es gyda meddwl mor agored ag y gallwn, ond ni allwn anwybyddu’r teimlad na fyddai hyn yn bilsen hud.
Erbyn diwedd yr wythnos dechreuais weld fy nghymhelliant cynharach mewn golau newydd. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod fy ymdrech i ddysgu Cymraeg wedi ymwneud yn bennaf ag adeiladu cyfalaf cymdeithasol ac economaidd.
Yn gymdeithasol, rydw i eisiau i bobl fy hoffi, i fod eisiau siarad â mi, i deimlo ein bod yn rhannu’r un byd, yn deall ein gilydd. Yn economaidd, rydw i eisiau bod yn dda yn fy swydd ac yn aelod defnyddiol o dîm. Mae’r rhain yn dal i sefyll fel cymhellion. Ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli bod diffyg ysbryd ynddyn nhw. Diffyg dyfnder.
Rhoddodd yr wythnos yn Nant Gwrtheyrn gipolwg i mi ar fath dyfnach o gymhelliant-—fel bol dwfn y ddaear – islif lafa tanllyd teimladwy sy’n ymestyn dros lawer mwy o genedlaethau a rhywogaethau na’m moment fach wirion hunan-ganoledig ar y blaned hon. Mae hynny’n rhywbeth i godi yn y bore ar ei gyfer.
Un o’r rhwystrau mwyaf roeddwn i wedi cael trafferth hefo oedd credu na fasa perthnasoedd ystyrlon ffurfio heb ruglder, heb fynediad at yr holl eiriau cywir. Doedd o ddim yn bosib, meddyliais, i’r sgyrsiau herciog, chwithig yna, efallai wedi hanner eu deall ar y gorau, fod yn ddigon i feithrin perthnasau cryf arnynt. Ond maen nhw!
Roedd y saith ohonom yn siarad Cymraeg trwy frecwast, cinio, a swper, wrth i ni gerdded i’r dosbarth, i’r traeth, trochi yn y môr, yn y dafarn. Ni allwn ddweud wrthych fod ansawdd ein perthnasoedd rhyngbersonol o ansawdd gwaeth oherwydd diffyg rhuglder. Yn wir, byddwn yn dweud ei fod yn well. Rhoesom amser, gofod, tosturi ac anogaeth i’n gilydd.
Rhwystr arall oedd gennyf oedd yr amheuaeth syfrdanol y gallwn fyth wir gyflawni dyfnder a rhuglder. Rydw i wedi cymharu dysgu iaith â chodi ffidil am y tro cyntaf yn 35 oed, gydag efallai dim ond ychydig o gefndir cerddorol. Ni fyddech byth yn disgwyl ymuno â’r Royal Philharmonic ar ôl ychydig flynyddoedd. Efallai mai’r gorau y gallwn i obeithio amdano oedd bod yn hen oedolyn, gwallt llwyd yn eistedd yn lletchwith yng ngherddorfa’r ysgol ac yn dal i daro nodau” dud”. Ac roedd hyn oll wedi’i ddal i fyny â’r cwestiwn os oedd cyfieithu o un iaith i’r llall hyd yn oed yn wirioneddol gyraeddadwy.
Gwnaeth fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn i mi sylweddoli nad oedd angen i’r rhwystr fod yno o gwbl. Yn lle meddwl am ddysgu iaith fel taith gyda “fyny ac i lawr” (ella yn arwain i nunlle), dechreuais ei weld fel edrych drwy ffenestr i olwg newydd, safbwynt gwahanol ar fywyd a’r byd. Roedd fel gweld lle nad oedd golwg o’r blaen. Meddyliais am y gwaith manwl o adfer paentiadau wal Ganoloesol: dadorchuddio lliwiau a manylion a guddiwyd yn flaenorol.
Wrth edrych ar ddysgu Cymraeg — iaith leiafrifol — fel cyfle i ddatgloi’r bydoedd cudd hyn, roeddwn yn teimlo fy mod wedi fy ngrymuso gan beth oeddwn wedi’i ddysgu hyd yn hyn yn lle ymestyn yn ddiddiwedd am yr amhosibl.
Gwelais fod beth oeddwn yn ei wneud yn barod – clirio rhan newydd sbon o’r ffenestr a gwerthfawrogi’r siapiau a’r lliwiau newydd roeddwn i’n gallu eu gweld, pa bynnag mor niwlog oeddynt, yn beth da. Fy mod i’n anturiaethwr, yn fforiwr, yn archeolegydd. Roedd y shift honno’n gweithio fel rhwbiwr pensal ar lun wedi’i thynnu o ffens anhyblyg.
Wrth gwrs, dwi wedi dysgu dipyn o taswn i a baswn i, dipyn o “cyntaf ar ddeg ar hugain” a mwy. Ond y lafa cymhelliant a’r dirwedd ddi-ffens sydd yn fy helpu i edrych ymlaen tuag at y dyfodol.
(Nodyn: Ysgrifennwyd yr erthygl hon yn Saesneg yn wreiddiol)
Myfyrwyr Nant Gwrtheyrn am yr wythnos – gyda Steve Eaves yn y cefndir!
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Ydych chi’n: Artist? Cerddor? Bardd? Animeiddiwr? Llenor? Dramodydd? Ymarferydd Ddawns? Storïwr? Gwneuthurwr Ffilmiau? Codiwr? Gwneuthurwr gemau? Crefftwr? Neu unrhyw fath arall o ymarferydd creadigol? Neu’n: Grŵp o unrhyw un/rhai o’r rhain?
Ydych chi’n gallu gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac ysgolion – a gyda’r gymuned?
Ydach chi’n credu ym mhŵer cymunedau i ymateb i’r heriau sy’n eu hwynebu?
Hoffech chi helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod a chyfathrebu neges/euon am yr hinsawdd i’r gymuned?
Os hynny dyma’r comisiwn i chi!
Rydym yn chwilio am ymarferydd/wyr neu grŵp/iau o ymarferwyr creadigol i gydweithio a phlant ysgol yn ardaloedd GwyrddNi i greu ar hyd thema ‘Gweithredu Hinsawdd Gymunedol’.
Yn frâs: Bydd yr hyn yr ydych yn ei greu ar y cyd yn cyfrannu at weithredu hinsawdd leol drwy rannu neges gydag aelodau cymuned yr ardal. Mae llais pobl yn eu cymuned yn allweddol i holl waith GwyrddNi ac felly llais y plant fydd yn ganolog i’r neges sy’n cael ei gyfleu a sut caiff ei gyfleu.
Yn ogystal â chydweithio a’r plant i greu’r ‘cynnyrch terfynol’, bydd y broses greadigol rydych yn ei hwyluso yn eu helpu i ganfod eu llais a’u neges am y thema dan sylw (mewn rhai ysgolion mae’r plant eisoes wedi cychwyn ar y gwaith hwn). Rydym yn agored i unrhyw ymarfer creadigol gall gyfrannu at gyrraedd y nod hwn.
Pryd? Bydd y gwaith yn digwydd rhwng rŵan a diwedd Mehefin (yn factora i mewn y broses recriwtio, cyd-gynllunio, hyfforddiant a darparu’r gwaith).
Tâl: Rydym yn cynnig £300/diwrnod. Bydd 5 diwrnod o waith yn ynghlwm a bob ardal – felly £1500 fesul ardal. Rydym yn gweithio mewn 5 ardal mewn cyfanswm – mae croeso i chi ymgeisio am y gwaith oddi mewn i un, sawl un neu bob un o’r pum ardal.
Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn. Gallwch ddarllen am hyn fan hyn https://www.gwyrddni.cymru/rhaglen-addysg/ Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol.
Gyda Chyfnod Gweithredu Cymunedol GwyrddNi ar y gweill, roedd yn bryd addasu’r gwaith addysg i adlewyrchu hyn. Ar ôl trafod gyda llawer o athrawon, rydym yn cynnig:
Sesiwn hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod ein teimladau yn ei gylch, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd.
Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!)
Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr
Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i weithredu ar y themau yng nghynlluniau gweithredu eu hardal nhw. Dyma un stori yn dangos beth sydd wedi bod yn digwydd hyd yn hyn:
Ysgol Rhosgadfan – Mapio Cynefin a Dysgu am Natur Gan Siôn, Hwylusydd Dyffryn Nantlle
Mae’n bleser cael gweithio hefo ysgolion y fro ar ddatrysiadau bach i newid hinsawdd, a’r flwyddyn yma rydym wedi cynnal sesiynau ar gyfer Ysgol Rhosgadfan ac Ysgol Bro Lleu.
Yn Rhosgadfan buom yn gweithio hefo blynyddoedd 3,4,5 a 6. Roedd y sesiwn hinsawdd un-diwrnod yn fan cychwyn da i adeiladu ar ddealltwriaeth y plant o’r hyn sydd yn newid yn yr hinsawdd, a sut gallwn ymateb iddo’n lleol.
Plant yn Nyffryn Nantlle yn cymryd rhan yn eu Sesiwn Hinsawdd gyntaf
Mae gan yr ysgol ardd tyfu bwyd a polytunnel ar safle ac mae ganddynt glwb garddio rheolaidd, felly roedd eu dealltwriaeth o dyfu bwyd yn rhyfeddol yn barod. Ond galluogodd y sesiwn hinsawdd iddynt osod beth maen nhw’n ei wneud yng ngardd yr ysgol mewn cyd-destun ehangach.
Wedyn, aethon ni ar wibdaith o amgylch y pentref yn chwilio am bethau diddorol ym myd natur, a chreu map mawr o bersbectif aderyn yn hedfan yn uchel dros ei gynefin, gyda’r pethau a gasglwyd ar y daith a lluniau gwych gan y plant arno. Fe welsom y Briallu’n blaguro, pob math o adar yn canu a sawl planhigyn diddorol fel rhedyn yn dadrolio a blodau bach melyn eithin, a’r grug yn eu plith. Rydym am adeiladu ar y map yma i ychwanegu bwyd fel mwyar duon, afalau ac eirin coginio hefyd.
Lluniau: Y plant yn mynd i weld Yr Ardd Wyllt – a helpu i adeiladu ffens!
Dywedodd un o’r athrawon: “Ar ôl mynd am dro, mae’r plant yn gofyn lot amlach beth ydy enwau pethau fel planhigion neu bryfaid, ac yn pwyntio allan y rhai ddysgon nhw yn ystod y sesiwn.”
Y plant yn mynd am dro
Mae’r plant hefyd yn awyddus iawn i gefnogi natur yn ogystal â gallu tyfu eu bwyd eu hunain, felly yn y flwyddyn newydd rydym am gychwyn gwaith o sefydlu dolydd blodau gwyllt ar ddarn o wair gyferbyn a’u gardd nhw. Daethon lawr i ardd wyllt Yr Orsaf i gychwyn eu hymchwil ac adnabod blodau gwyllt fel Erwain a Ffenigl, a hyd yn oed dod o hyd i fadfall yn byw yng nghysgod un o’r coed afalau.
Plant Rhosgadfan yn mapio eu cynefin
Mae syniadau’r plant mor wreiddiol ac arloesol ac rwyf yn edrych ymlaen at barhau o fis Medi ymlaen.
Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu!
Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.Rydym hefyd wrthi’n datblygu cynnigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan!
Os ydych yn gweithio o fewn ysgol yn un o ardaloedd GwyrddNi hefo diddordeb yn ein cynnig addysg, cysylltwch â Sara (sara@deg.cymru), ein Swyddog Addysg.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Rôl y Gymraeg o fewn grwpiau gweithredu cymunedol ac ymgysylltu cymunedol
Emily-Louise
Mae Emily-Louise yn astudio ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio sut mae pobl mewn cymunedau dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn dewis pa iaith i’w defnyddio, a sut mae’r dewisiadau hyn yn effeithio ar eu hymwneud â gweithgareddau cymunedol.
Mae Emily-Louise yn gweithio ochr yn ochr â GwyrddNi i edrych ar y defnydd o’r Gymraeg a’r Saesneg mewn gwahanol leoliadau cymunedol. Nod yr ymchwil yw taflu goleuni ar sut y gall iaith siapio nid yn unig sut rydym yn cyfathrebu, ond hefyd sut rydym yn teimlo am ein cymuned a’n lle ynddi.
Pam fy mod i’n edrych ar hyn?
Wedi fy magu mewn ardal Saesneg ei hiaith yn bennaf, mae fy rhuglder yn y Gymraeg bob amser wedi bod yn rhan hanfodol o’m hunaniaeth a’m cysylltiad â’m treftadaeth ddiwylliannol.
Mewn byd sy’n dod yn fwyfwy cysylltiedig, mae’r iaith rydyn ni’n ei siarad yn chwarae rhan fawr wrth lunio hunaniaeth, perthyn ac ymgysylltiad cymunedol. Mae iaith yn llawer mwy na ffordd o siarad gyda’n gilydd; mae’n rhan enfawr o bwy ydym ni a sut rydym yn perthyn.
Yng Nghymru, mae’r Gymraeg yn fwy na chyfrwng cyfathrebu yn unig—mae’n symbol o falchder cenedlaethol, hunaniaeth ddiwylliannol ac ymdeimlad o berthyn cymdeithasol. Mae’n iaith fyw y mae miloedd o bobl yn ei defnyddio bob dydd.
Fodd bynnag, mae Saesneg yn aml yn dominyddu mewn llawer o fannau cymunedol, gan godi cwestiynau ynghylch sut mae dewis iaith yn dylanwadu ar ymdeimlad pobl o berthyn a chyfranogiad. Mae’r PhD hwn yn cynnig cyfle unigryw i archwilio sut mae iaith yn siapio ymgysylltiad cymunedol a hunaniaeth bersonol, yn enwedig mewn lleoliadau dwyieithog.
Am be’ dwi’n edrych, a sut byddai’n gwneud hynny?
Prif nod yr ymchwil hwn yw deall pam mae pobl yn dewis siarad Cymraeg neu Saesneg yn ystod rhyngweithio cymunedol dwyieithog. Mae’n edrych ar sut mae’r dewisiadau hyn yn effeithio ar ymgysylltiad cymunedol, hunaniaeth, a sut mae pobl yn ymateb i wybodaeth a rennir yn ystod ymgynghoriadau cyhoeddus neu weithgareddau grŵp.
I gael yr atebion hyn, mae’r ymchwil yn defnyddio sawl dull:
Arolygon: Bydd y rhain yn casglu barn gyffredinol am ddefnydd iaith mewn lleoliadau cymunedol ac yn amlygu patrymau o ran dewis iaith.
Sylwadau: Trwy wylio sut mae iaith yn cael ei defnyddio mewn sefyllfaoedd go iawn—fel cyfarfodydd cymunedol a digwyddiadau lleol—bydd yr ymchwil yn nodi cynildeb pryd a pham bod pobl yn newid rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, a sut mae’r dewisiadau hyn yn effeithio ar ryngweithio grŵp a phrosesau gwneud penderfyniadau .
Grwpiau Ffocws: Bydd y trafodaethau hyn yn cynnig cipolwg ddyfnach ar sut mae pobl yn teimlo am eu dewisiadau iaith, ar lefel bersonol a chymunedol.
Gweithgareddau Mapio: Gan ddefnyddio offer fel U-Map a KOBO, rwyf wedi bod yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc i greu map digidol o fannau cymunedol pwysig yn Ynys Môn. Bwriad y mapio hwn, y byddaf yn ei gymhwyso i ardaloedd GwyrddNi, yw adlewyrchu natur ddwyieithog yr ardal ac archwilio sut mae iaith yn cysylltu ag arwyddocâd diwylliannol.
Be’ dwi’n gobeithio ei gyflawni
Rwy’n disgwyl datgelu mewnwelediadau pwysig i sut mae dewis iaith yn siapio deinameg cymunedol. Bydd yr ymchwil yn archwilio a all annog y defnydd o’r Gymraeg hybu cyfranogiad cymunedol a sut y gallai gwahanol ffyrdd o gyfathrebu mewn lleoliadau dwyieithog effeithio ar sut mae pobl yn cymryd rhan ac yn ymgysylltu â gweithgareddau cymunedol.
Dros y misoedd nesaf, byddaf yn ymuno â rhai o weithgareddau GwyrddNi i fy helpu i gynnal fy ymchwil – felly cadwch lygad amdanaf! Byddaf hefyd yn chwilio am bobl sy’n fodlon cymryd rhan mewn arolygon, cyfweliadau neu grwpiau ffocws – a byddwn yn gwerthfawrogi eich mewnbwn yn fawr.
Bydd fy ymchwil hefyd yn helpu GwyrddNi i gael syniad cliriach o alluoedd ieithyddol y cymunedau, ac i weithio allan sut y gallant gefnogi pawb yn well mewn amgylchedd dwyieithog. Yn ehangach, gall deall pam fod yn well gan bobl ddefnyddio un iaith dros y llall helpu arweinwyr cymunedol, llunwyr polisi, ac addysgwyr greu amgylcheddau mwy cynhwysol sy’n anrhydeddu ac yn hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Symudodd Jon Bethell i Anelog, ger Aberdaron chwe blynedd yn ôl ar ôl byw yn Coventry am flynyddoedd lawer yn gweithio yn y diwydiannau awyrofod a modurol. Cyn mynd i Brifysgol Coventry, bu’n byw yn Rhydycroesau, ger Croesoswallt. Mae’n ddysgwr Cymraeg ymroddedig a bellach yn difaru peidio â rhoi mwy o sylw i ddosbarthiadau Cymraeg ei ysgol gynradd yn Llansilin! Ar hyn o bryd mae ar fwrdd cyfarwyddwyr Ynni Llŷn ac mae hefyd yn sefyll i mewn fel rheolwr swyddfa yn y cwmni.
Dyma fo’n sôn am sut y gwnaeth mynychu Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi ei arwain at fod yn gyfarwyddwr yn Ynni Llŷn, ac am y rhaglenni y maent wedi bod yn gweithio arnynt eleni.
Grwpiau ynni yn y Cynulliadau Hinsawdd
Tua tair blynedd yn ôl derbyniais lythyr yn gofyn a hoffwn ymuno â mudiad o’r enw GwyrddNi. Gofynnodd y llythyr a oedd gennyf ddiddordeb yn yr amgylchedd ac a fyddwn yn fodlon mynychu cynulliad gydag aelodau eraill o’r gymuned. Roedd yn swnio’n ddiddorol, felly cofrestrais.
Ffurfiodd nifer ohonom is-grŵp ynni a thrafnidiaeth. Cyfarfu’r is-grŵp hwn ar sawl achlysur gwahanol a chynhyrchwyd syniadau i’w cynnwys yng nghynllun gweithredu GwyrddNi.
Yn ystod y cynulliad olaf cawsom ein calonogi i gymryd camau cadarnhaol felly cyfarfu ein his-grŵp eto a phenderfynwyd defnyddio Ynni Llŷn fel cyfrwng i gyflwyno ein syniadau gorau.
Ymuno â bwrdd Ynni Llŷn
Bryd hynny roedd Ynni Llŷn wedi’i restru gyda Thŷ’r Cwmnïau ac roedd ganddo gyfrif banc ond roedd yn gymharol segur. Cyn y pandemig, cafodd Ynni Llŷn lwyddiannau sylweddol, gan osod yr arae solar gymunedol gyntaf yng Nghymru yn Sarn Mellteyrn a chomisiynu sawl adroddiad ar gynhyrchu a throsglwyddo ynni ar Ben Llŷn. Fel llawer o gwmnïau, cafodd y pandemig effaith negyddol ar Ynni Llŷn ac felly roedd yn barod am syniadau a brwdfrydedd ffres.
Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar 24 Mehefin 2023 pan enwebwyd a chytunwyd ar y bwrdd cyfarwyddwyr. Roedd arian eisoes yn cael ei geisio drwy raglen ARFOR2 a weinyddir gan Gyngor Gwynedd a thrafodwyd opsiynau ariannu eraill hefyd. Mewn gwirionedd, dyma ddechrau ein prosiectau Ôl-osod i Bawb a Gwres a Lles.
Roedd 6 o bob 7 o aelodau’r bwrdd bellach yn bobl a oedd wedi cyfarfod drwy’r Cynulliadau GwyrddNi ac wedi dewis Ynni fel eu prif ffocws. Fe wnaethon ni hefyd greu grŵp WhatsApp i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i “aelodau” – dyma unrhyw un oedd wedi bod yn rhan o’r cynulliadau oedd eisiau dysgu beth oedden ni’n ei wneud.
Jon yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd Pen Llŷn
Ôl-osod i Bawb a phrosiectau eraill
Roedd yn bwysig i ni ein bod yn creu swyddi da i bobl leol, Gymraeg eu hiaith, a dyna’n union beth yw pwrpas y grant ARFOR2. Yn ogystal â hynny, cymerasom fenthyciad gan Fanc Cymunedol Robert Owen er mwyn inni allu dechrau recriwtio pobl ar unwaith.
Fel cyfarwyddwyr, nid ydym yn tynnu unrhyw gyflog o gwbl; penderfynasom gyda’n gilydd y bydd unrhyw elw a wnawn yn mynd at gyflogi pobl leol neu tuag at brosiectau sydd o fudd i’r gymuned.
Nod Ôl-osod i Bawb yw creu swyddi medrus lleol i insiwleiddio cartrefi, gwella systemau gwresogi, cynhyrchu trydan ar y safle a darparu dyfodol di-garbon a sero net i Ben Llŷn. Mae ôl-osod yn golygu uwchraddio adeiladau presennol i fod yn fwy ynni-effeithlon.
Rydym wedi gallu ariannu hyfforddiant ar gyfer ein haelodau staff, sydd i gyd yn hanu o ardaloedd Mynytho a Botwnnog, i ddod yn Gynghorwyr Ynni cymwys ac, i un ohonynt, yn Aseswr Ôl-osod.
Mae hyn yn bwysig oherwydd yn aml mae’r bobl sydd â’r cymwysterau hyn yn gyrru’r holl ffordd o Gaerdydd neu Lundain er mwyn gwneud asesiad ar dŷ. Fe feddylion ni – pam na ddylai pobl leol gael y cyfle i ddysgu sgiliau a fydd yn dod yn bwysicach fyth yn y dyfodol? Rydym hefyd yn defnyddio masnachwyr lleol i osod y mesurau arbed ynni pryd bynnag y bo modd.
Ers hynny rydym wedi dod yn bartneriaid ar brosiectau eraill: Prosiect Sero Net Gwynedd, Gwres a Lles, Cartrefi Clyd a Cyd Ynni (mwy o wybodaeth yma). Mae’r prosiectau hyn yn ategu ei gilydd ac yn canolbwyntio’n bennaf ar helpu’r gymuned leol gyda phwysau costau byw, tlodi tanwydd a gwella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi.
Mae Gwres a Lles a Prosiect Sero Net Gwynedd yn cynnig cyngor ynni ac ymweliadau cartref am ddim i helpu pobl gyda phethau fel talu biliau ynni, hawlio budd-daliadau a gwneud gwelliannau i’w cartrefi. Mae Ôl-osod i Bawb yn wasanaeth lle gall Ynni Llŷn ddarparu asesiadau ynni cartref, cyngor ôl-osod a rheoli prosiectau contractwyr.
Gan ein bod yn gwmni nid-er-elw rydym yn gallu cynnig gwasanaeth o ansawdd uchel gyda chysylltiadau cryf â’r gymuned. Credwn mai ni yw un o’r unig gwmni ôl-osod dielw sy’n gweithredu yng Nghymru, yn y DU o bosibl.
Tîm Ynni Llŷn yn Sioe Nefyn eleni
Beth rydym wedi’i ddysgu… a beth sydd nesaf?
Nid yw cychwyn (neu ail-syllu) cwmni yn hawdd! Fel bwrdd, rydym wedi gorfod wynebu pob math o heriau. Mae angen llawer iawn o egni ac ymroddiad, yn enwedig pan fo pobl yn gweithio’n wirfoddol. Nid yw’n hawdd cael cyllid – ond dim ond y cam cyntaf ydy hynny! Mae yna lawer o rwystrau i’w goresgyn ar ôl derbyn yr arian. Rydym yn ffodus iawn i gael tîm gwych o gyfarwyddwyr sydd wedi helpu i lywio’r cwmni i’r pwynt hwn. Mae hefyd wedi bod yn galonogol iawn gweld ein staff yn datblygu yn eu rolau ac mae gennym raglen lawn o hyfforddiant/datblygiad personol ar gyfer ein holl weithwyr.
Nawr ein bod wedi recriwtio tîm llawn a’r don gyntaf o hyfforddiant wedi’i darparu, rydym mewn sefyllfa i ddechrau ar y gwaith o osod mesurau arbed ynni i gartrefi ym Mhen Llŷn. Rydym wedi bod yn darparu cyngor ynni ers peth amser bellach ond rydym yn anelu at gryfhau ein rhwydweithiau er mwyn helpu llawer mwy o drigolion. Dyna pam rydyn ni yma, dyma ein rheswm dros fod: rydyn ni eisiau helpu cymaint o bobl yn ein cymuned â phosib.
Mae Ynni Llŷn hefyd yn bartner cyflawni ar gyfer GwyrddNi ym Mhen Llŷn, felly rydym hefyd yn gweithio ochr yn ochr â Dafydd i gefnogi ei waith yn dod â’r syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu yn fyw. Rydym yn ffodus ein bod wedi recriwtio pobl sy’n frwd dros ymgysylltu ag ysgolion lleol a darparu addysg am ynni, felly rydym yn gobeithio y bydd ein tîm yn gallu cefnogi gwaith GwyrddNi yn fwy wrth symud ymlaen.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Dydd Sadwrn, yr 20fed o Orffennaf – cynhaliwyd Cyfnewidfa Gwisg Ysgol ym Mlaenau Ffestiniog.
Cyfle i deuleuoedd dod draw am banad, gadael i’w plant chwarae ar y byrddau crefft a chael peintio eu gwynebau, tra’n edrych drwy’r 100kg neu fwy o wisgoedd ysgol cafodd eu rhoddi dros yr wythnosau diwethaf.
Daeth y Gyfnewidfa fel syniad gan y Grŵp Rhannu Stwff a Trwsio a dyfodd allan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi ym Mro Ffestiniog. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i leihau gwastraff a chefnogi’r gymuned i fyw’n gynaliadwy ym Mro Ffestiniog.
Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysol yn cynnig ateb syml ond dylanwadol: gall teuluoedd gyfnewid gwisg ysgol a sicrhau bod dillad yn dod o hyd i gartrefi newydd yn hytrach na mynd i dirlenwad. Nid yn unig bod hyn yn helpu i leihau gwastraff, ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i deuluoedd arbed arian ar wisg ysgol.
O 11yb tan 2yp roedd y drysau yn agor, ond erbyn 5 munud i 11 roedd teuleuoedd wedi dechrau llifo i fewn. Doedd dim angen bod rhywun wedi cyfrannu gwisg er mwyn derbyn un; ac roedd yn amlwg o’r gwynebau hapus bod llawer yn gwerthfawrogi’r cyfle i arbed arian a helpu’r blaned ar yr un pryd!
Os nad oedd y dillad y maint iawn, roedd gwirfoddolwyr o Ffiws hefo peiriannau gwnio ar gael i wneud newidiadau.
Meddai Nina, Hwylusydd Bro Ffestiniog:
“Pan rydyn ni’n rhannu pethau, mae’n creu cymuned gryfach ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng pobol, pobol yn teimlo fel bod eu cymuned yn helpu nhw, bod yr ysgol yn teimlo fel teulu. Mae o’n creu teimladau da am lle rydyn ni’n byw.”
Bydd Cyfnewidfa yn digwydd dydd Sadwrn nesaf (27) yn Nhrawsfynydd, hefyd, ac mae Partneriaeth Ogwen (yn Nyffryn Ogwen) ac Yr Orsaf (yn Nyffryn Nantlle), mewn cydweithriad hefo GwyrddNi, yn brysur yn trefnu cyfleoedd i gyfnewid gwisgoedd ysgol.
Credwn gall camau bach arwain at newidiadau mawr, ac mae’r fenter hon yn gam tuag at gymuned fwy cynaliadwy a chefnogol.
Am ragor o wybodaeth neu i wirfoddoli, cysylltwch hefo Nina@Cwmnibro.cymru, neu ymunwch hefo’r grŵp Rhannu Stwff a Trwsio Bro Ffestiniog os ydych yn yr ardal a hefo WhatsApp: linc yma
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol i chi trwy gofio'ch dewisiadau ac ailymweliadau. Trwy glicio “Derbyn pob cwci”, rydych chi'n cydsynio i'r HOLL gwcis gael eu defnyddio. Fodd bynnag, gallwch ymweld â "Gosodiadau Cwci" i roi caniatâd rheoledig.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.