Mae llawer o gyfleoedd yn ardaloedd GwyrddNi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd.
Llenwch ein arolwg fer i adael i ni wybod lle’r ydych, pa bynciau sydd o ddiddordeb i chi a faint o amser sydd gennych i’w sbario, a dawn yn ôl atoch i’ch cysylltu hefo’r person iawn:
Edrychwch isod i ddarganfod rhai gweithgareddau sy’n cael eu cynnal yn eich ardal chi.
Pen Llŷn
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Pen Llŷn. Os hoffech chi helpu i gefnogi unrhyw un o’r syniadau yn y cynllun hwn, cysylltwch gyda dafydd.rhys@ynnillyn.cymru – https://www.gwyrddni.cymru/pen-llyn/
Ymunwch â gweithgareddau Ffrindiau Pwllheli – grŵp wedi ei sefydlu allan o gynulliad hinsawdd Pen Llŷn. Ffurfiwyd Ffrindiau Pwllheli fel endid annibynnol i ddatblygu’r gweledigaethau am ofodau a gweithgareddau gwyrdd yn y dre. Mae gweithgareddau fel dyddiau codi sbwriel yn cael eu trefnu – dilynwch y dudalen Facebook am y rhai diweddaraf! https://ffrindiaupwllheli.cymru/
‘Ôl-Osod i Bawb’: Mae mwyafrif aelodau Grŵp Ynni Cynulliad GwyrddNi wedi ymuno â YnNi Llŷn fel cyfarwyddwyr ac aelodau ac wedi lawnsio’r prosiect ‘Ôl-Osod i Bawb’. Mae ‘Ôl-Osod i Bawb’ yn torri tir newydd yn ei fwriad i greu swyddi crefftus, lleol i insiwleiddio cartrefi, gwella systemau gwresogi a chynhyrchu trydan mewn cartrefi ym Mhen Llŷn. Mae YnNi Llŷn yn chwilio am aelwydydd lleol i fod yn rhan o’r cynllun ac adeiladwyr lleol i gydweithio â nhw a meithrin sgiliau newydd: https://www.ynnillyn.cymru/
‘Llŷn Beic-gyfeillgar’: Mae grŵp wedi cyfarfod yn ddiweddar i ddatblygu a gweithredu ‘Strategaeth Beicio Cyfeillgar Llŷn’. Y bwriad yw y bydd cydweithio rhwng O Ddrws i Ddrws, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Yr Eco Amgueddfa a mentrau cymunedol a phreifat lleol eraill i hyrwyddo llwybrau, teithiau, hybiau a defnydd cyffredinol o feiciau. Bydd prif hwb trafnidiaeth yn cael ei ddatblygu yn un o unedau Congl Meinciau, Botwnnog fydd yn gartref i dri beic trydan newydd ‘O Ddrws i Ddrws’ – anfonwch ebost i dafydd.rhys@ynnillyn.cymru am fwy o fanylion
Dewch i weld y Morwellt: Bydd Amlyn Parry o’r Prosiect Morwellt Porthdinllaen yn cyfrannu i gyfarfod nesaf GwyrddNi Pen Llŷn. Mae GwyrddNi wedi cytuno i gefnogi ar egwyddor strategaeth y prosiect i adfer dolydd morwellt gan drafod eu cefnogi’n ymarferol pan fydd hi’n amserol i wneud hynny. Yn y cyfamser, mae ymweliad â’r dolydd morwellt i aelodau GwyrddNi wedi ei drefnu ar Ebrill yr 8fed – anfonwch ebost i dafydd.rhys@ynnillyn.cymru am fwy o fanylion
Caffi Trwsio – mae’n werth dilyn tudalen digwyddiadau M-Sparc “Ar y Lôn” i weld pryd mae nhw’n dod i Bwllheli nesaf. Bydd cyfle i chi gael trwsio eich dillad, beiciau neu cyfrifiadur – neu i wirfoddoli eich amser i drwsio pethau eraill! https://m-sparc.com/cy/digwyddiadau/
Bro Ffestiniog
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Bro Ffestiniog. Os hoffech chi helpu i gefnogi unrhyw un o’r syniadau yn y cynllun hwn, cysylltwch gyda Nina ar ffestiniog@gwyrddni.cymru – https://www.gwyrddni.cymru/bro-ffestiniog/
Ymunwch hefo grŵp WhatsApp i gael y newyddion diweddaraf am weithgareddau!
Bwyd Lleol Grŵp WhatsApp
Rhannu Stwff a Trwsio Grŵp WhatsApp
Prosiect Natur Grŵp WhatsApp
Trafnidiaeth Grŵp WhatsApp
Ynni Cymunedol Grŵp WhatsApp
Inswleiddio Cymunedau Grŵp WhatsApp
Beth am ymuno â rhai o weithgareddau Hwb Cymunedol Y Dref Werdd? O blannu llysiau a phlanhigion i deithiau cerdded yn y goedwig, mae nifer o weithgareddau ar y gweill a chroeso i bawb:https://www.facebook.com/HwbCefnogiCymuned
GweLlan – llwyth o weithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc yr ardal: https://www.facebook.com/GweLlan-100494849253674/?ref=page_internal
Angen ychydig o gefnogaeth? Mae Prosiect Lles Cymunedol Tan y Maen yn cynnig amgylchedd gefnogol ac anffurfiol i helpu pobl gyda phroblemau cyffredin o ran iechyd meddwl a lles. https://www.tanymaen.org.uk/blaenau-ffestiniog
Mae Gerddi Stiniog yn darparu cyfle i unigolion ag anableddau dysgu gymryd rhan mewn tyfu amrywiaeth o blanhigion a llysiau. Mae’r prosiect yn defnyddio arferion garddwriaethol fel ffordd o wella sgiliau a iechyd: http://serencyf.org/cy/projects/stiniog-gardens
Mae Byw.Bod yn griw o bobl hunan-gyflogedig efo busnesau bach annibynnol sydd wedi eu gwreiddio yn eu cymuned. Maent yn cynnig amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleon rhwng mynyddoedd y Moelwynion ac aber yr afon Dwyryd: http://www.byw-bod.cymru/home.htm
Mwynhau ffilmio a chael hwyl? Mae Bro Cast yn gyfle i arbrofi gyda thechnoleg a chyfathrebu trwy’r cyfryngau cymdeithasol a chreu fideos: https://www.facebook.com/search/top?q=brocast%20ffestiniog
Cysylltwch â Nina am ragor o wybodaeth: ffestiniog@gwyrddni.cymru
Dyffryn Nantlle
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Nantlle. Os hoffech chi helpu i gefnogi unrhyw un o’r syniadau yn y cynllun hwn, cysylltwch gyda Siôn ar sion.yrorsaf@gmail.com – https://www.gwyrddni.cymru/dyffryn-nantlle/
Garddio Cymunedol yn Henbant ar ddyddiau Llun. Y gweithgareddau arferol yw helpu yn yr ardd, chwynnu, plannu a chynaeafu, ynghyd ag amryw o weithgareddau fferm eraill megis porthi, torri gwair, troi compost ac ati ac yn bwysicaf oll, sgwrsio. https://www.henbant.org/monday-community-gardening
Mae’r Caffi Trwsio/Gofod Gwneud yn darparu lle a gweithgareddau i bobl i arloesi, ond hefyd i ddefnyddio sgiliau traddodiadol i drwsio pethau. Mae’r offer yn cynnwys torrwr laser, argraffwyr 3D, peiriannau brodwaith a mwy. Unwaith ymis mae’r Caffi Trwsio yn cwrdd, i helpu gyda trwsio syml. Cysylltwch â osianr.yrorsaf@gmail.com neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Sesiynau Be Wnawn Ni? Mae’r Orsaf yn trefnu gweithgareddau i bobl hŷn, a gyrrwyr gwirfoddol i’w cludo i’r gweithgareddau, ac yn ol adref. Mae’r prosiect yn gweithio yn agos efo’ aelodau eraill y Tim, i ddarpau gweithgareddau pob pythefnos, gan cynnwys teithiau. Ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd. Cysylltwch â elenid.yrorsaf@gmail.com neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Llond Bol: Pryd bwyd gymunedol, am ddim, bob wythnos yn y Neuadd Goffa rhwng 5:30 a 7:30. Croeso mawr i bawb. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a post@yrorsaf.cymru
Gardd Wyllt a Choedlan Cymunedol Penygroes: Dewch am dro i’n gardd a choedlan cymunedol bob dydd Mercher, rhwng 10 – 12yp, ar gyfer ein sesiynau gwirfoddoli. Rydym hefyd yn cefnogi sesiynau Ysgol Goedwig yma, a chadwch lygad allan am rhaglen o weithdai a digwyddiadau ar gyfer y gymuned leol. Croeso i bawb! Cysylltwch â gwenllian.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Gardd Eden – Gardd lysiau cymunedol, sy’n cael ei redeg ar y cyd efo Capel Calfaria. Rydym yn edrych am wirfoddolwyr i helpu ddatblygu’r ardd, beth bynnag eich set sgiliau! Cysylltwch â gwenllian.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Pantri Cymunedol – Dosbarthu bwyd dros ben o archfarchnadoedd lleol a rhoddion bwyd i gymuned leol Dyffryn Nantlle. Cysylltwch â gwenllian.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Marchnad Lleu – Marchnad ffermwyr lleol ar 3ydd dydd Sadwrn y mis yn Neuadd Goffa, Penygroes o 9:30yb tan 1:00yp. Bwyd blasus a chroeso cynnes. E-bostiwch marchnadleu@yahoo.com i dyfwyr, gwneuthurwyr neu gynhyrchwyr lleol. Tudalen Facebook
Hwb Bwyd Dyffryn Nantlle – Gwasanaeth sy’n dosbarthu cynnyrch lleol i’r drws. Am fwy o wybodaeth, ewch draw i’r wefan.
Trafnidiaeth Cymunedol – Mae’r Orsaf yn datblygu prosiect i gefnogi trigiolion sy’n wynebu rhwystrau oherwydd diffyg trafnidaieth gyhoeddus yn y Dyffryn. Un rhan pwysig o’r prosiect yw hyrwyddo teithio cynaladwy, ac i gefnogi hyn, mae’r Orsaf yn prynu 3 cerbyd trydan (mini-bws, car 7 sedd a char 4 sedd), at ddefnydd y gymuned. Mae Swyddog Trafnidiaeth Cymunedol yn cydlynu’r prosiect, trwy gydweithio efo Partneriaeth Trafnidaeth Gymunedol Dyffyrn Nantlle. Ariennir gan Lywodraeth Cymru ac arian Ewrop. Cysylltwch â elenid.yrorsaf@gmail.com neu ewch draw i wefan Yr Orsaf.
Mwy o wybodaeth, a mwy o ddigwyddiadau i’w gweld yma: Be sy ‘Mlaen | digwyddiadau a gweithgareddau lleol yn ardal Penygroes (yrorsaf.cymru)
Dyffryn Ogwen
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Ogwen. Os hoffech chi helpu i gefnogi unrhyw un o’r syniadau yn y cynllun hwn, cysylltwch gyda Chris ar ogwen@gwyrddni.cymru
https://www.gwyrddni.cymru/dyffryn-ogwen/
Ynni Ogwen. Mae grŵp brwd o wirfoddolwyr yn helpu gyda bob math o dasgau yn Ynni Ogwen. Beth am ymuno a nhw? https://www.ogwen.cymru/cy/prosiectau-cymunedol/ynni-ogwen/
Fferm Moelyci. Mae Fferm Moelyci yn Fferm Gymunedol ac mae sawl cyfle i wirfoddoli a dysgu sgiliau newydd. Boed hynny yn tyfu bwyd, neu helpu yn y caffi! https://www.moelyci.org/volunteer/
Gofodau Gwyrdd Cymunedol. Mae sawl gofod gwyrdd cymunedol yn Dyffryn Ogwen gan gynnwys Gardd Ffrancon, Llys Dafydd a Tan Tŵr. Gallwch wirfoddoli i helpu edrych ar ôl y gofodau yma. Cysyllwtch hefo judith@ogwen.org am mwy o wybodaeth
Beics Ogwen. Mae Beics Ogwen yn llogi beiciau, a beiciau trydan ac hefyd yn trwsio beiciau a cynnal gweithdai sgiliau. Maent wastad yn chwilo am wirfoddolwyr i helpu hefo’u gwaith https://beicsogwen.co.uk/
Swpar Chwaral. Bob Nos Fercher yn Canolfan Cefnfaes 16:00 – 18:00 mae cyfle i bobl ddod at eu gilydd i gymdeithasu dros pryd o fwyd. Bydd unrhyw help i goginio a gweni’r bwyd, neu golchi llestri’n cael ei werthfawrogi. e-bostiwch anna@ogwen.org am mwy o fanylion.
Hel Sbwriel. Mae Dyffryn Gwyrdd yn trefnu sesiynnau hel sbwriel yn rheolaidd, neu gallwch fenthyg offer ganddynt i fynd eich hunain unrhyw dro o’u swyddfa yn 27 Stryd Fawr Bethesda. e-bostiwch anna@ogwen.org am mwy o fanylion neu ewch i dudalen Facebook Dyffryn Gwyrdd
Dyffryn Peris
Cynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris. Os hoffech chi helpu i gefnogi unrhyw un o’r syniadau yn y cynllun hwn, cysylltwch gyda Lowri@deg.cymru – https://bit.ly/CynllunGweithredu_DyffrynPeris
Edrychwch ar galendr Dyffryn Peris i weld beth sydd yn digwydd neu ewch i weld y Hysbysfwrdd ar Padlet am y newyddion diweddaraf.
Ymuno gyda gweithgareddau Prosiect Natur Llanddeiniolen. Prosiect i ddod a ni ynghyd i dyfu bwyd, gwarchod natur, harddio ein bro a tyfu fel cymunedau. https://www.facebook.com/Prosiect-Natur-Llanddeiniolen-110837134826346
Gwirfoddoli gyda Cymdeithas Eryri, Cymdeithas a sefydlwyd yn 1967 er mwyn cydweithio â chymunedau, sefydliadau, busnesau ag unigolion lleol er mwyn gwireddu eu gweledigaeth o warchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri ac i hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. https://www.snowdonia-society.org.uk/cy/
Cysidro dod yn aelod o fwrdd Ynni Padarn Peris. Mae Padarn Peris yn gynllun ynni adnewyddadwy cynaliadwy sy’n defnyddio pŵer dŵr i greu trydan. Defnyddir yr egni gan y gymuned leol, gydag unrhyw warged yn cael ei werthu i’r Grid Cenedlaethol. Fe welwch hi ar Afon Goch yn Llanberis – yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri yma yng Ngogledd Cymru. https://www.facebook.com/Ynni-Padarn-Peris-1584823911764145/
Gwirfoddoli gyda Pentref Taclus Llanberis, Grwp sy’n ymuno gyda’n gilydd i dacluso’r hen bentre bach Llanber; rhannu syniadau i wella ein ardal. Cyfarfod ar bore Sul, 10yb. Tu allan i siop Menter fachwen, Stryd Fawr. Offer ar gael i godi sbwriel mewn adrannau gwhanol o’r pentref. Croeso cynnes i pawb. http://www.hwberyri.co.uk/cy/tidy-village/
Mynychu cyfarfodydd Grŵp Datblygu Llanberis a chyfrannu syniadau gwreiddiol am sut i gyfoethogi bywyd yn yr ardal i bobl leol a phobl sy’n ymweld https://llanberis.org/cym/index.html
