Ydych chi’n: Artist? Cerddor? Bardd? Animeiddiwr? Llenor? Dramodydd? Ymarferydd Ddawns? Storïwr? Gwneuthurwr Ffilmiau? Codiwr? Gwneuthurwr gemau? Crefftwr? Neu unrhyw fath arall o ymarferydd creadigol? Neu’n: Grŵp o unrhyw un/rhai o’r rhain?

Ydych chi’n gallu gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac ysgolion – a gyda’r gymuned?
Ydach chi’n credu ym mhŵer cymunedau i ymateb i’r heriau sy’n eu hwynebu?
Hoffech chi helpu plant a phobl ifanc i ddarganfod a chyfathrebu neges/euon am yr hinsawdd i’r gymuned?
Os hynny dyma’r comisiwn i chi!
Rydym yn chwilio am ymarferydd/wyr neu grŵp/iau o ymarferwyr creadigol i gydweithio a phlant ysgol neu grwp o bobl ifanc yn ardaloedd GwyrddNi i greu ar hyd thema ‘Gweithredu Hinsawdd Gymunedol’.
CLICIWCH YMA I WELD EIN BRIFF sydd yn esbonio llawer mwy ac yn egluro sut i ddatgan diddordeb a gwneud cais. Rydym wedi newid rhywfaint ar y broses recriwtio eleni er mwyn ei wneud yn haws a lleihau’r baich gwaith ar gyfer ymarferwyr wrth ymgeisio.
Yn frâs: Bydd yr hyn yr ydych yn ei greu ar y cyd yn cyfrannu at weithredu hinsawdd leol drwy rannu neges gydag aelodau cymuned yr ardal. Mae llais pobl yn eu cymuned yn allweddol i holl waith GwyrddNi ac felly llais y plant a phobl ifanc fydd yn ganolog i’r neges sy’n cael ei gyfleu a sut caiff ei gyfleu.
Am gip ar rhai o brosiectau 2025 cliciwch yma.
Yn ogystal â chydweithio a’r plant/bobl ifanc i greu’r ‘cynnyrch terfynol’, bydd y broses greadigol rydych yn ei hwyluso yn eu helpu i ganfod eu llais a’u neges am y thema dan sylw. Rydym yn agored i unrhyw ymarfer creadigol gall gyfrannu at gyrraedd y nod hwn.
Pryd? Bydd y gwaith yn digwydd rhwng Chwefror a Gorffenaf (yn factora i mewn y broses recriwtio, cyd-gynllunio, hyfforddiant a darparu’r gwaith).
Tâl: Rydym yn cynnig £300/diwrnod. Bydd hyd at 5 diwrnod o waith yn ynghlwm a bob ardal – felly £1500 fesul ardal. Rydym yn gweithio mewn 5 ardal mewn cyfanswm – mae croeso i chi ymgeisio am y gwaith oddi mewn i un, sawl un neu bob un o’r pum ardal.
Dyddiad cau ar gyfer datgan diddordeb: Ionawr 16, 2026.
Sut i wneud cais? Darllenwch y briff – mae’r manylion i gyd yno!
