Postiwyd ar

Uchafbwyntiau o Gwanwyn GwyrddNi

Wrth i’r dyddiau ymestyn a phopeth ddechrau blodeuo, roedd cymunedau GwyrddNi ar draws Gwynedd yn fywiog gyda gweithgaredd yn ystod ein tymor Gwanwyn. Roedd yn gyfnod llawn cyfleoedd i gysylltu, dysgu, a chymryd camau gweithredu lleol ar hinsawdd a natur. Wrth edrych yn ôl, mae cymaint i’w ddathlu!

Dyma rai o uchafbwyntiau Gwanwyn GwyrddNi:

🫙Creu ‘picalili’, sauerkraut a ffyn moron pefriog: yn Nyffryn Ogwen, dysgodd Claire Mace i ni sut i droi bresych a moron yn rhywbeth iach fydd yn para am amser hir – gyda ei Gweithdy Eplesu a Phiclo. Yn y cyfamser, yn y Cwt Piclo yn Nyffryn Nantlle – a dyfodd allan o sgyrsiau am beth i’w wneud â chynnyrch gormodol ac sy’n anelu at leihau gwastraff bwyd – dysgon ni sut i wneud “picalili”!

🌎Steve Eaves yn ein cyflwyno i Eco-ieithyddiaeth: Mae gwaith Steve yn dwyn ynghyd angerdd dros amddiffyn y byd naturiol gydag awydd cryf i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ac yn dangos sut y gellir darganfod byd-olwg gwahanol trwy ffenestr pob iaith. Myfyriom ar faint o eiriau sy’n ymwneud â chysylltiadau teuluol a’r tir sydd wedi mynd ar goll yn y Gymraeg a’r Saesneg. Faint o eiriau am blanhigion, er enghraifft, oedd eich hen nain yn eu hadnabod o’i gymharu â chi? A beth sy’n digwydd i’n perthynas â’r tir pan fydd y geiriau hyn yn mynd ar goll?

🌳Trafodaeth Carwyn Graves, Elinor Gwynn a Gerallt Pennant ar Yr Iaith yn y Tir: Bu’r sgwrs hon, a gynhaliwyd yng Nghaffi’r Orsaf, Pen-y-groes, yn drafodaeth hynod ddiddorol ar y berthynas rhwng iaith a thirwedd – a roedd y caffi’n llawn dop!

🌿Plannu llysiau gyda Gardd Nant: Ymunodd y cyfranogwyr â gardd gymunedol Talysarn i roi eu dwylo yn y pridd a pharatoi ar gyfer yr haf. Mae Gardd Nant tu ôl i Ganolfan Gymunedol Talysarn, ac maent yn awyddus i wirfoddolwyr ymuno – cysylltwch â garddnant@yahoo.com am wybodaeth!

Cawsom hefyd ddigonedd o hwyl yn plannu a garddio yng Ngardd Ffrancon, Bethesda; Yr Ardd Wyllt, Penygroes, a Gerddi Maes-y-Plas a Gardd Newydd, Blaenau Ffestiniog/Manod. Dysgwch fwy am brosiectau bwyd y gallwch chi gymryd rhan gyda nhw yma.

🫖Lansiodd Paned i’r Blaned ar draws ein pum ardal: Gofod cyfforddus i bobl ddod ynghyd a thrafod materion amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chroeso mawr i ddysgwyr gael ymarfer eu hiaith wrth ehangu eu geirfa.

Cynhaliwyd ein Paned i’r Blaned cyntaf ym Mhwllheli, Blaenau Ffestiniog a Llanberis, gan barhau â’r rhai a ddechreuodd ym mis Ionawr ym Methesda a threialu sesiwn o Glwb Clebran ar thema’r hinsawdd ym Mhenygroes.

Sgyrsiau diddorol yn Llyfrgell Pwllheli gan R Gareth Wyn Jones, Rhys Williams + Siôn Williams: Ar y 3ydd o Ebrill, rhoddodd R Gareth Wyn Jones, Prifysgol Bangor, awdur Ynni a Phŵer – Ein Chwantau Peryglus ac Energy – the Great Driver, ddarlith ddiddorol iawn i ni am gyfyngiadau ein system ynni a’r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol.

Ymunodd Sîon Williams, pysgotwr lleol, a Rhys Williams, ac ymgynghorydd amaethyddol, â ni eto ar yr 16eg i drafod sut mae newid hinsawdd wedi effeithio eu gwaith yn barod, a beth maent yn ei wneud yn wahanol, yn y drafodaeth Amaethyddiaeth, y Môr, a Bioamrywiaeth.

🍕Rhannu hadau a phitsa ym Manc Hadau Pen Llŷn: Cafon Ddiwrnod Agored ym Manc Hadau Llangwnadl i gyfnewid hadau, sgyrsiau, a phitsa wedi’i gwneud â llysiau o’r ardd.

📽️Noson ffilm – River: Cawsom nifer fawr o bobl yn Llanberis ar gyfer dangosiad River (2021), “odisi sinematig a cherddorol” sy’n archwilio’r berthynas ryfeddol rhwng bodau dynol ac afonydd.

🪡Caffis trwsio: Cynhaliwyd nifer o gaffis trwsio ym Mlaenau Ffestiniog, Penygroes a Bethel – gyda gweithdy gwadd ym Methel ar y 13eg o Ebrill ar Drwsio Gweladwy – sut i drwsio’ch dillad yn greadigol wrth weithio’r ‘atgyweiriad’ i mewn i’r dyluniad!

🐰Fe wnaethon ni hefyd bartneru â llawer o sefydliadau fel Cymdeithas Eryri, Ffiws, a Ffrindiau Pwllheli i gefnogi nifer o ddigwyddiadau cydweithredol.

Roedd yr egni a’r brwdfrydedd a ddangoswyd yn ystod Gwanwyn GwyrddNi yn ysbrydoledig. O ddyfnhau ein cysylltiad â’r tir trwy iaith a straeon i gamau ymarferol fel tyfu bwyd, lleihau gwastraff, a chefnogi bioamrywiaeth, mae ein cymunedau’n dangos gweithredu hinsawdd lleol pwerus.

Cadwch lygad allan am Haf GwyrddNi, a fydd yn digwydd rhwng Gorffennaf 19eg – Awst 3ydd!

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i weithredu ar newid hinsawdd.

P’un a ydych chi eisiau helpu o bryd i’w gilydd gyda garddio cymunedol neu a allwch chi gymryd rhan fwy dwys yn un o’n prosiectau niferus, cysylltwch â ni! Rydym yn cefnogi grwpiau i greu cymunedau mwy bywiog a gwydn, gan ganolbwyntio ar feysydd fel ynni, trafnidiaeth, tai, bwyd, gwastraff, natur a rhannu sgiliau ac adnoddau.

Postiwyd ar

Paned i’r Blaned – Cyfle i drafod natur a’r hinsawdd yn y Gymraeg

Ydych chi’n edrych am le i siarad am newid hinsawdd a materion amgylcheddol yn y Gymraeg?

Rydym wedi dechrau Paned i’r Blaned – gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth. 

Cynhaliwyd sesiwn gyntaf Paned i’r Blaned Dyffryn Ogwen ar y 25ain o Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, a’r ail ar y 22ain o Chwefror. Trafodwyd y newidiadau yr oedd pobl wedi eu gweld yn y tywydd, a pa fath o ddatrysiadau ac atebion i newid hinsawdd sydd gennym. Bydd y trydydd sesiwn ar y 29ain o Fawrth, fel rhan o Gwanwyn GwyrddNi, o 10:30-11:30Yyb yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda.

Bydd Paned i’r Blaned yn lansio yn yr ardaloedd eraill yn fuan:

  • Dyffryn Peris: 29ain o Fawrth, 10yb yng Nghaffi’r Goeden Unig, Llanberis (mwy o wybodaeth)
  • Pen Llŷn: 5ed o Ebrill, 10yb yng Nghaffi Largo, Pwllheli (mwy o wybodaeth)
  • Bro Ffestiniog: 11eg o Ebrill, 6yh yng Nghaffi Antur, Blaenau Ffestiniog (mwy o wybodaeth)
  • Dyffryn Nantlle: Sesiwn arbennig o Clwb Clebran yn edrych ar bynciau amgylcheddol ar y 4ydd o Ebrill o 11yb-12yp

Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes; People, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Paned i’r Blaned Dyffryn Ogwen, Ionawr 2025

Bydd croeso i chi ddewis pwnc y mis nesaf, a byddem yn hapus iawn i gefnogi aelodau o’r gymuned i redeg sesiynau eu hunain neu gymryd drosodd y sesiynau.

Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg, ac rydym yn annog Cymry Cymraeg i ddod draw i roi cefnogaeth iddynt.

Bydd geirfa sydd yn addas i bwnc y mis ar gael i’ch helpu, ac wrth gwrs gallwch ofyn am esboniad neu gyfieithiad. Mae Menter Iaith wedi bod yn ein cefnogi i wneud yn siwr bod yn sesiynau yn hwylus ac yn hygyrch.

Eisiau gwybod mwy, neu gychwyn Paned i’r Blaned eich hunain? Cysylltwch hefo ni!

Postiwyd ar

Hyrwyddo Cynnyrch Lleol

Mae pob cymuned yn cydnabod pwysigrwydd tyfu bwyd lleol i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi’r economi leol, a chynyddu hunangynhaliaeth.

Dwedodd sawl cymuned yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd eu bod eisiau creu lleoedd a systemau i rannu a dosbarthu bwyd a dyfwyd yn lleol, e.e. marchnadoedd, pantris, a chyfeiriaduron.

Mae marchnadoedd lleol eisoes wedi cychwyn yn Nyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.

Dyffryn Nantlle

Deilliodd Marchnad Lleu, marchnad gymunedol fisol, o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu cynigion.

Roedd y tîm craidd tu ôl i Farchnad Lleu eisoes wedi cyfarfod trwy grŵp Gwrthryfel Difodiant (XR) yn Nyffryn Nantlle. Cawsant eu hailuno yn ddiweddarach yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi. Daeth Marchnad Lleu i’r amlwg fel ymateb i’r angen a’r awydd am ddewisiadau amgen cynaliadwy ac ymgysylltiad cymunedol.

Rydym yn cydweithio hefo’r Farchnad lle gallwn, e.e. drwy drefnu cyfnewidfa hadau. Mae’r Farchnad yn le gwych i brynu cynnyrch organic, lleol: 3ydd dydd Sadwrn y mis yn Neuadd Goffa, Penygroes – 10yb-1.30yp. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth: https://marchnadlleu.co.uk neu ymunwch â’r grŵp Facebook i wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf.

Blog am Farchnad Lleu: https://www.gwyrddni.cymru/marchnad-lleu/

Bro Ffestiniog

Mae Marchnad Gymreig Tre’ Cocos, Penrhyndeudraeth yn rhedeg yn fisol o Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, hefo stondinau bwyd a chrefftau lleol (llun: Wil hefo cynnyrch o Gerddi Maes-y-Plas, Blaenau Ffestiniog).

Gallwch gadw bwrdd a chael fwy o wybodaeth drwy ebostio marchnadtrecosos@gmail.com

Oes gennych ddiddordeb mewn hybu cynnyrch lleol ym Mhen Llŷn, Dyffryn Ogwen neu Dyffryn Peris? Llenwch y ffurflen neu cysylltwch i weld sut all GwyrddNi helpu i gefnogi eich syniad.

Postiwyd ar

Map Natur Bro Ffestiniog

Mae GwyrddNi, mewn cydweithriad hefo Cwmni Bro Ffestiniog ac Y Dref Werdd, wedi comisiynu creu map unigryw sy’n amlygu deg o fannau cymunedol a natur arbennig ym Mro Ffestiniog.

Bydd y map hwn yn gwahodd trigolion ac ymwelwyr i archwilio’r lleoliadau hyn yn ddyfnach, gydag un ochr yn cynnwys dehongliadau artistig o bob gofod gan artist lleol, a’r ochr arall yn cynnig dehongliadau ysgrifenedig yn y disgrifiadau Cymraeg gan awdur lleol. Mae cyfieithiad Saesneg yn annog ymgysylltu â’r Gymraeg i gefnogi dysgu, defnyddio a phrofi’r Gymraeg a lle.

Nod y map yw cefnogi ac annog pobl i gysylltu â’u cymuned, dathlu a gwerthfawrogi eiliadau o fyd natur.

Mae’n ffordd newydd o brofi Bro Ffestiniog – boed yn artist, yn chwilfrydig am fyd natur, neu am iaith.

Cadwch lygad am ei lansiad, teithiau cymunedol a digwyddiadau yn y mannau natur trefol/gwledig hyn.

Cysylltwch â ffestiniog@gwyrddni.cymru i ddarganfod mwy!

Postiwyd ar

Mapio Dyffryn Ogwen

Yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Ogwen, mae’r gymuned wedi nodi eu bod eisiau:

“Map ar y wê i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol lleol i unigolion, busnesau a sefydliadau lleol, a thwristiaid, hefo tudalen sy’n dangos gweithgaredd amgylcheddol cwmniau lleol.”

Syniad y map/gwefan yma ydi y byddai unrhyw un yn gallu cyfrannu yn syml, hefo linciau i lwybrau cerdded lleol, llefydd o arwyddocad naturiol, a phrosiectau amgylcheddol.

Mae’r syniad yn dechrau dod yn fyw rŵan drwy weithio ar y cyd hefo Wild Resources. Mae grant gan Partneriaeth Natur Gwynedd am ariannu’r dechnoleg y tu ôl i greu map rhyngweithiol a fydd yn cynnwys llefydd o bwysigrwydd amgylcheddol a diwyllianol yn Nyffryn Ogwen, gyda haenau yn dangos llwybrau cerdded, safleoedd natur ayyb.

Bydd pobl yn gallu cyfrannu at y mapio gan gynnwys eu hoff goeden, llefydd arbennig iddyn nhw neu luniau o’r pethau maent yn eu ffeindio. Gall busnesau cynaliadwy a phrosiectau amgylcheddol lleol hefyd gael eu cynnwys ar y map.

Bydd y straeon gwerin leol sydd wedi eu dal gan brosiect Lleisiau Lleol (Partneriaeth Ogwen) wedi eu lincio yn ôl i’r map.

I ddarganfod mwy am y prosiect neu i fod yn rhan ohono, cysylltwch hefo chris@ogwen.org

Postiwyd ar

Gŵyl Hinsawdd

Fel rhan o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen.

Ym Mis Mai 2024 cynhaliwyd Gŵyl Hinsawdd yng Nghanolfan Tregarth. Roedd llawer o weithgareddau: plannu hadau, codi sbwriel, creu lluniau, edrych ar fwsog hefo microsgop, a chreu bocsys nythu i adar. Yn ogystal ac arwain taith beics ar y Lôn Las, bu Beics Ogwen ar y maes yn helpu i drwsio beics, rhoi gwynt yn nheiars pobl, neu rhoi cyngor cyffredinol iddynt am feicio yn yr ardal.

Roedd darlithoedd hefyd gan Margot Saher am y gwyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd, a gan Alison Cameron am ddifodiant a newid hinsawdd, yn ogystal â chwis hinsawdd mawr ar ddiwedd y dydd.

Gŵyl Hinsawdd 2024, Tregarth: https://www.gwyrddni.cymru/ail-wyl-hinsawdd-dyffryn-ogwen/

Gŵyl Hinsawdd 2023, Bethesda: https://www.gwyrddni.cymru/gwyl-hinsawdd-dyffryn-ogwen/

Grŵp Facebook Gŵyl Hinsawdd: https://www.facebook.com/groups/6070995169653563

Eisiau bod yn rhan o drefnu Gŵyl Hinsawdd 2025? Cysylltwch â chris@ogwen.org

Postiwyd ar

Paned i’r Blaned

Lle i siarad am newid hinsawdd ac i ymarfer Cymraeg!

Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes; People, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Bwriad Paned i’r Blaned ydi rhoi gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth. 

Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg, ac rydym yn annog Cymry Cymraeg i ddod draw i rhoi cefnogaeth iddynt!

Bydd geirfa sydd yn addas i bwnc y mis ar gael i’ch helpu, ac wrth gwrs gallwch ofyn am esboniad neu gyfieithiad. Mae Menter Iaith wedi bod yn ein cefnogi i wneud yn siwr bod yn sesiynau yn hwylus ac yn hygyrch.

Cynhaliwyd sesiwn gyntaf Paned i’r Blaned ar y 25ain o Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, ac mae pob ardal eisoes yn barod i gychwyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau i weld y rhai diweddaraf.

Gwyliwch allan am Paned i’r Blaned yn eich hardal chi – neu gysylltwch os ydych eisiau cychwyn un!

Postiwyd ar

Gerddi a thyfu bwyd

Roedd yn glir o’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd bod pob ardal yn angerddol am fedru tyfu bwyd eu hunain, sydd yn rhan hanfodol o leihau ein hôl troed carbon a chreu cymunedau gwydn ac iach.

Mae GwyrddNi wedi bod yn cefnogi rhai prosiectau tyfu a oedd yn bodoli yn barod, ac wedi helpu sbarduno rhai newydd. Cysylltwch os ydych eisiau cychwyn rhywbeth yn eich ardal chi!

Bro Ffestiniog:

Gerddi Maes-y-Plas

Mae grŵp garddio yn cyfarfod rhwng 11yb-1yp ar Ddydd Iau ym Mlaenau Ffestiniog – yng ngerddi Maes-y-Plas neu’r ar safle garddio gymunedol newydd gerllaw.

Ymunwch â grŵp Bwyd Lleol Bro Ffestiniog ar WhatsApp am fanylion o le/pryd i gyfarfod, neu hyd yn oed dim ond i gadw llygad am gynnydd a chynnyrch. Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru

Prosiect gardd farchnad gan Y Dref Werdd ydi Gerddi Maes-y-Plas ym Mlaenau Ffestiniog – dyma glip o’r gerddi ar S4C (ar Facebook). Mae GwyrddNi wedi bod yn cydweithio gyda Maes Y Plas, gyda gwirfoddolwyr ac i hybu ac ehangu’r gwaith.

Dilynwch Gerddi Maes-y-Plas ar Facebook.

Mae GwyrddNi hefyd wedi bod yn cydweithio gyda Gerddi Maes-y-Plas ar safle cymunedol arall gerllaw. Y llynedd daeth y safle â syniad o’r Cynlluniau Gweithredu i realiti a chynhyrchwyd mwy na 1000 o datws yn lleol. Eleni, bydd y ffocws yn symud i dyfu llwyni a choed ffrwythau.

Dosbarthodd Prosiect Tyfu Tatws 25 o focsys gyda phopeth y gallai fod ei angen arnoch i dyfu eich tatws eich hun i bob math o erddi gwahanol ym Manod. Mae’r prosiect hwn bellach ar gael i unrhyw grŵp Bwyd Lleol cymunedol ym Mro Ffestiniog – felly cysylltwch os ydych eisiau darparu Tatws i Bawb yn eich ardal.

Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru i fod yn rhan o hyn.

Dyffryn Nantlle:

Mae prosiect Bwyd a Lles Yr Orsaf yn datblygu 3 prif elfen – rhandiroedd cymunedol wrth ymyl y Ganolfan Hamdden; Gardd Wyllt Penygroes, i greu gardd gymunedol i bobl leol a chynyddu bio-amrywiaeth ar yr un pryd; a’r Pantri Cymunedol, sy’n defnyddio bwyd dros ben o’n Co-op lleol, a bwyd gan archfarchnadoedd eraill, yr ACT Foundation a FareShare. Cysylltwch hefo esyllt.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Mae Garddio Gyda’n Gilydd yn cymryd lle yn yr Ardd Wyllt, Penygroes pob Dydd Mercher o 10yb-12yp.

Gardd Nant, Talysarn

Mae Gardd Nant, Talysarn wedi ei gychwyn gan Gyfeillion Talysarn a Nantlle gyda chefnogaeth gan GwyrddNi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cydweithio hefo ysgolion lleol, wedi cael ymweliad gan grŵp o Alabama (roedd hyn ar S4C!) ac wedi bod yn trefnu digwyddiadau cymunedol eraill fel hel sbwriel.

Mae dyddiau gwirfoddoli yn cael eu trefnu yn rheolaidd. Cysylltwch hefo garddnant@yahoo.com neu gwyliwch am newyddion ar dudalen Facebook Cyfeillion Talysarn a Nantlle.

Dyffryn Ogwen

Mae Gerddi Ffrancon (wrth ymyl y Ganolfan Hamdden ym Methesda) yn ardd gymunedol gan Dyffryn Gwyrdd (Partneriaeth Ogwen), lle mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod 3-4 gwaith yr wythnos i dyfu bwyd, hefo’r gobaith o rannu’r bwyd i’r gymuned. Bu’r criw yn creu jam dros y gaeaf hefo’r ffrwythau a dyfwyd dros haf llynnedd.

Cysylltwch hefo chris@ogwen.org i fod yn rhan o hyn!

Mae GwyrddNi hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr i arddio hefo’r disgyblion yn Ysgol Abercaseg.

Pen Llŷn

Yng Nghynllun Gweithredu Pen Llŷn, mae cynlluniau i sefydlu rhandiroedd i dyfu bwyd lleol, i gydweithio hefo ysgolion ac i greu rhwydwaith o gynhyrchwyr lleol a hybu bwyd lleol er mwyn lleihau milltiroedd bwyd, gwella iechyd, cryfhau cydweithio, a rhoi hwb i’r economi leol.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo llyn@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Dyffryn Peris

Dymunodd Cynulliad Dyffryn Peris i:

  • Greu map bwyd cymunedol
  • Canfod mannau caedig ar gyfer gardd/rhandir
  • Rhannu bwyd a gwybodaeth
  • Creu gofod i rannu hadau, sgyrsiau, offer a chwmni
  • Creu micro erddi cymunedol a rhandiroedd i bobl dyfu eu hunain.
  • Creu grŵp sydd gyda diddordeb gweithio ar yr uchod.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo peris@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Postiwyd ar

Clirio Jac-y-Neidiwr

Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth ymledol eang ym Mhrydain. Mae’n niweidiol iawn, yn achosi erydiad i lannau afonydd, ac yn ffurfio clystyrau trwchus sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd ac yn lleihau neu’n atal planhigion brodorol, yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar fioamrywiaeth arall.

Mae’n cystadlu yn erbyn planhigion brodorol, gan dynnu sylw peillwyr oddi wrthynt. Mae Jac y Neidiwr yn cynhyrchu a gwasgaru hadau yn egnïol iawn, sy’n ei wneud yn ymledol iawn.

Un o syniadau o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris oedd “Cychwyn mapio y rhywogaethau ymledol (e.e. Jac y Neidiwr) a phwy sy’n gwneud be’ amdanyn nhw yn barod.

Roedd hyn yn ran o grŵp ehanach Dŵr a Thir, sydd hefo’r nodau canlynol:

  • Cynyddu gwybodaeth am beth sydd yma yn barod gan adnabod a mapio cynefinoedd, bioamrywiaeth a rhywogaethau ymledol i arwain ein hymagwedd.
  • Cymryd ymagwedd lle wrth le, osgoi ‘datrysiadau blanced’ a gweithio gyda thirfeddianwyr i greu clytwaith o ymatebion addas i le.
  • Cefnogi llewyrch cynefinoedd, rhywogaethau o blanhigion, coed ac anifeiliaid yn y llefydd cywir ar gyfer bioamrywiaeth, rheoli llifogydd a chynhyrchu bwyd.

Yr Ateb?

Mae’r Jac-y-Neidiwr yn cael ei fapio hefo’r app “INSS Mapper”, arweinwyr cymunedol yn cael eu hyfforddi a rydym a trefnu dyddiau ‘tynnu’ rheolaidd dros y gwanwyn a’r haf bob blwyddyn.

Rydym wedi bod yn gweithio hefo tirfeddianwyr, y gymunedol ac ysgolion Nyffryn Peris i weithio tuag at y nodau yma. Mae ymdrechion gwirfoddol yn canolbwyntio ar fanau uchel ger Afon Hwch ac Afon Caledffrwd i ddechrau a gweithio i lawr o’r mannau hynny.

Yn Ebrill 2024, trefnwyd hyfforddiant Clirio Jac-y-Neidiwr hefo Cymdeithas Eryri i 9 o bobl gael dysgu sut i arwain grwpiau clirio yn ddiogel ac yn effeithiol.

Dyma fideo o Fehefin 2024 gyda phlant Ysgol Dolbadarn, Llanberis a lenwodd 4 sach tunnell o Jac-y-Neidiwr!

Eisiau bod yn rhan o hyn? Cysylltwch hefo Lowri ar peris@gwyrddni.cymru

Postiwyd ar

Caffi Trwsio

Mae caffi trwsio yn ddigwyddiad cymunedol di-dal lle gall pobl drwsio eitemau sydd wedi torri gyda chymorth gwirfoddolwyr. Mae caffis trwsio yn rhan o fudiad ar lawr gwlad i leihau gwastraff ac annog pobl i atgyweirio eitemau yn lle prynu rhai newydd.

Dyffryn Peris:

Mae TECSTILIAU yn cynnal Caffi Trwsio ar ail Ddydd Sul pob mis yn Y Bedol, Bethel o 1-3yp – manylion ar eu tudalen Facebook. Bu GwyrddNi yn helpu’r grŵp i ddechrau y caffi trwsio, a rydym yn eu cefnogi o amser i amser. Mae Caffi Trwsio wedi ei gynnal yn Llanrug hefyd, hefo’r gobaith o wneud mwy yn y dyfodol.

Fideo o Gaffi Trwsio Bethel ar Prynhawn Da, S4C: https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/1404428036813961

Bro Ffestiniog:

Ym Mro Ffestiniog, daeth grŵp Rhannu Stwff a Thrwsio allan o’r Cynulliadau – gallwch ymuno hefo’u grŵp WhatsApp yma! Un bwriad ydi cydweithio hefo’r gofod gwneud ar stryd fawr Blaenau Ffestiniog lle mae Ffiws a Llyfrgell y Pethau am fod i gynnal caffis trwsio.

Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr Ffiws yn hapus i geisio trwsio eich eitemau a gallwch wirfoddoli hefo nhw: https://www.drefwerdd.cymru/cy/caffi-trwsio-ffiws

Dyffryn Nantlle

Mae Caffi Trwsio yn cael ei gynnal yn Yr Orsaf unwaith y mis, fel arfer ar Ddydd Sadwrn. Dilynwch Yr Orsaf ar Facebook, dilynwch eu cylchlythyr neu cysylltwch hefo cylchol.yrosaf@gmail.com am fanylion.

Gwelwch POB caffi trwsio yng Nghymru ar galendr Repair Cafe Wales.

Beth mae pobl yn ei drwsio mewn caffis trwsio?

Electroneg, dyfeisiau mecanyddol, cyfrifiaduron, beiciau, dillad, ac eitemau sentimental.

Beth yw manteision caffis trwsio?

Arbed arian: Gallwch drwsio eich eitemau yn lle prynu rhai newydd

Lleihau gwastraff: Gallwch osgoi taflu eitemau sydd wedi torri, yn aml i safleodd tirlenwi

Lleihau allyriadau carbon: Gallwch arbed adnoddau ac arbed yr ynni o greu eitemau newydd

Cryfhau cydlyniant cymdeithasol: Gallwch ddod at eich cymuned i ddysgu sgiliau newydd a rhannu gwybodaeth

Sut mae caffis trwsio yn gweithio?

Dewch â’ch eitemau sydd wedi torri i leoliad cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn trwsio yr eitemau – os bosib! Weithiau, bydd angen mynd i rywle arall, a byddynt yn eich cynghori ar ble i fynd.

Gallwch ddysgu sut i drwsio eich heitemau fel y gallwch wneud eich hunain adref y tro nesa’! Mae paned a chacen ar gael tra rydych yn aros, a mae bocs rhodd os byddech eisiau cyfrannu ar gostau rhedeg y caffi trwsio ar ôl i chi gael eich eitem yn ôl.

Dechreuodd y syniad o “gaffis trwsio” yn yr Iseldiroedd yn 2009, er bod y syniad o drwsio pethau wrth gwrs yn mynd yn ôl llawer, llawer pellach!

Mae’n rhan o’r syniad ehanach o greu economi gylchol, lle mae pethau yn cael eu trwsio a’i hailgylchu (neu uwch-gylchu) yn lle eu taflu. Hefyd, yn lle bod angen i bob person gael peiriant gwnio neu set o offer trwsio, y syniad ydi bod cymunedau yn rhannu’r pethau yma i leihau gorgynhyrchiad.

Mwy:

Mudiad byd-eang Caffis Trwsio

Caffis Trwsio Cymru

Be ydi’r Economi Gylchol? (Fideo 3 munud, Saesneg)

Am yr ymgyrch Hawl i Drwsio (Right to Repair)

Eisiau gwirfoddoli mewn caffi trwsio neu ddechrau un yn eich ardal? Y peth gorau i’w wneud ydi cysylltu hefo https://repaircafewales.org/ – ond mae croeso i chi hefyd gysylltu hefo ni am gefnogaeth!