Postiwyd ar

GwyrddNi’n cefnogi ceir di-danwydd yn eich cymunedau chi

Mae ein clybiau yn cynnig ffordd newydd o drafnidiaeth hygyrch a fforddiadwy sydd yn dda dros yr amgylchedd, gan dynnu cymunedau at ei gilydd.”

— Tom Simone, Prif Swyddog Cymunedol TrydaNi

Ydych chi’n barod i ail-wefru eich ffordd o deithio? 

Mae TrydaNi yn cynnig ffordd fodern, werdd, ac eithriadol o gyfleus i deithio heb lygru’r amgylchedd a gwagio’ch waled. Fel un o fentrau mwyaf cyffrous Cymru sydd gyda phartneriaethau ledled Ewrop, mae TrydaNi yn cynnig gwasanaethau ceir trydan ar gyfer cymunedau dros Gymru – gan gynnwys ein cymunedau ni yng Ngwynedd! Dyma’ch cyfle chi ymuno â theithio’n wyrdd, yn rhad, ac yn gyfforddus. 

Fel rhan o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o weithredoedd pwysig GwyrddNi oedd sicrhau trafnidiaeth werdd yn y cymunedau, gan annog llai o ddefnydd o geir personol, a sbarduno cyfleoedd i ddefnyddio ceir cymunedol. Mae cydweithio gyda TrydaNi yn galluogi i ni roi’r weithred yma ar waith, a chynnig trafnidiaeth gyhoeddus ac actif sy’n hwylus i’w ddefnyddio, gan leihau allyriadau carbon. Mae ymuno â TrydaNi yn gyfle gwych i barhau i ddatblygu gweithredoedd lleol GwyrddNi, ac yn ffordd ardderchog o sicrhau dyfodol glân a chynaliadwy yn eich ardaloedd chi.

Fel tîm bach o weithwyr angerddol, mae TrydaNi yn parhau i ddatblygu dros Gymru, ac mae’r niferoedd sydd yn ymuno yn cynyddu’n sylweddol. A wnewch chi ymuno a’ch hybiau lleol?

Hybiau Lleol

Bethesda

“Mae gan glwb ceir Bethesda 85 o aelodau bellach. Ym mis Ebrill, gyrrwyd cyfanswm o 5,110km gyda’r ddau gar”

Mae 2 gar trydan cyfforddus ar gael i drigolion ardal Bethesda. Mae’r ceir yn cael eu pweru yn Llyfrgell Gymunedol Bethesda, ac ar gael i bawb – does dim angen i chi fod wedi dreifio car trydan yn flaenorol!

Penygroes

Mae car trydan cyntaf Penygroes ar y ffordd! Mi fydd y car yn cael ei bweru yn Yr Orsaf yng nghanol Penygroes, ac felly mi fydd gan bawb fynediad ati.

Rydym yn annog aelodau lleol i ymuno nawr!

Mi fydd noson lansio’r car yn cael ei gynnal yn fuan, felly cadwch lygad allan am ddyddiad a dewch draw i’w weld.

Menter Arloesol ledled Gymru

Mae TrydaNi yn galluogi i filoedd o bobl dros Gymru i deithio’n hygyrch a gwyrdd, ac yn ddiweddar, maent wedi cyrraedd carreg-filltir yn Aberystwyth o dros 100 o ddefnyddwyr actif.

“Mae’n wasanaeth anhygoel dwi’n ei ddefnyddio pan dwi’n gweithio i ffwrdd – dwi’n hawlio milltiroedd yn ôl o’r gwaith fel petai’n gar fy hun! Rydyn ni wedi mynd o gael dau gar y llynedd i ddim ond un car teulu nawr, gan ddefnyddio’r car trydan cymunedol pan fo angen. Mae hefyd wedi lleihau straen i mi ac wedi arbed arian!”

 – Al Cowlishaw.

Gwasanaeth Gwych a Chefnogaeth Di-Baid

Ydych chi’n nerfus am ddreifio car trydan am y tro cyntaf? Peidiwch bod! Mae tîm TrydaNi ar gael i leddfu’ch poenau.

Mae gwasanaeth TrydaNi yn cynnig sesiynau ymgyfarwyddo cyfeillgar ac astud i aelodau sydd yn newydd i ddreifio ceir trydan – mi fyddwch chi’n hyderus i ddreifio ceir trydan mewn dim o bryd!

Mae gan TrydaNi hefyd linell cymorth sydd ar gael i gefnogi gyrrwyr ledled Cymru, pan fo problem technegol neu os ydych eisiau ychydig o heddwch meddwl. Nid dim ond gofalu am y gymuned mae TrydaNi, ond am gymdogion hefyd.

Hawdd, Hynod a Hydrin

Lleisiau defnyddwyr TrydaNi

Megan Meeke – Bethesda

“Does gen i ddim trafferth mynd i ble bynnag dwi angen mynd. Er enghraifft, dwi wrthi’n cefnogi rhywun yn Nolgellau ar hyn o bryd, sydd tua 50 milltir i ffwrdd. Dwi’n gallu mynd yno ac yn ôl, gollwng y car, ac mae dal 50% o wefr ar ôl ynddo!”

Hannah Mefin – Bethesda

“Mae llawer o fanteision personol i yrru car trydan. Nid yn unig y mae’n wych i’r amgylchedd, ond mae hefyd yn braf cael gyrru car heb orfod meddwl am waith cynnal a chadw. Mae’n deimlad mor braf cael gyrru car glân a chyfforddus. Rydw i wedi gallu cael gwared ar fy ail gar, ac wedi arbed arian drwy ddefnyddio’r car cymunedol hwn yn ei le.”

Angharad

Cliciwch a gwrandewch ar brofiad Angharad yn defnyddio un o geir Bethesda:

Fforddiadwy a Dibynadwy

Gydag argyfwng costau byw yn pwyso’n drymach fyth, gall defnyddio ceir trydan TrydaNi fod yn un baich ariannol yn llai i chi. Am ddim ond £2 yr awr, ac 16c y miilltir, gallwch yrru’n gyfforddus ac yn gynaliadwy heb orfod torri’r banc.

Pencampwyr Cymunedol

Bod yn rhan o’r ateb: Dewch yn Bencampwr Cymunedol!

Nid gwasanaeth llogi ceir yn unig yw TrydaNi, ond mudiad sy’n rhoi perchnogaeth yn ôl i’r gymuned. Drwy’r cynllun Pencampwyr Cymunedol, gallwch chwarae rhan allweddol yn sicrhau cynaliadwyedd eich clwb lleol ac ennill credydau gyrru gwerth hyd at £25 fesul tasg. Rydym yn chwilio am aelodau gweithgar sydd wedi ymuno â TrydaNi ers dros fis i helpu gyda thasgau fel cadw’r ceir yn lân, cynnal gwiriadau misol, a recriwtio aelodau newydd. Mae’n ffordd berffaith o gael eich gwobrwyo am ofalu am eich ardal a helpu eraill i droi at yr elfen drydanol.

Rydym eisoes yn gweithio gyda thua thri Phencampwr ym mhob ardal, ac mae’r cyfle nawr i chi ymuno â nhw!

Dyfodol Disglair a Di-lygredd

Byddwch yn rhan o DrydaNi wrth iddynt adeiladu ar lwyddiannau parod a parhau i ddatblygu yn y blynyddoedd i ddod – gan wella’ch bywyd yn uniongyrchol a’r amgylchedd, un car ar y tro.

Mae TrydaNi yn gobeithio datblygu a chael mwy o geir ledled Cymru, gan gynnwys mewn cymunedau gwledig. Maent yn gweithio’n galed i ddatblygu’r ddarpariaeth o drafnidiaeth lân, ac yn annog chi, drigolion lleol, i ymuno a defnyddio’r ceir hygyrch yma.

Ymunwch â menter TrydaNi. Gyrrwch gar glân. Lleihewch eich llygredd lleol.

Cerwch Amdani!

Ymunwch, Archebwch, Mynd!

Dilynwch y ddolen isod i ymuno â TrydaNi ac am fwy o wybodaeth:

Postiwyd ar

Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol: Adroddiad “Adlewyrchu ar 2024”

Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!

Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu – yn fyw!

Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.

Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.

Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:

GwyrddNi: Adlerwyrchu ar 2024: Darllenwch yr adroddiad fel llyfr “fflipio” neu fel PDF statig.

Ond nid dyma ddiwedd y stori – dim ond y dechrau! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu cefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed gennych! Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.

Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Gwynedd a thu hwnt!

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.

Postiwyd ar

Sut brofiad ydi beicio i’r gwaith ym Mhen Llŷn? – Stori Elin

Mae Hwb Beics Pen Llŷn yn gynnig newydd wedi’i leoli yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Deilliodd o gydweithio rhwng grŵp Trafnidiaeth Werdd GwyrddNi, O Ddrws i Ddrws ac Ynni Llŷn, gyda diolch enfawr i Sustrans am roddi a rhoi benthyg rhai o’r beiciau. Am aelodaeth o £20 y mis, gallwch fenthyg beic (hyd yn oed un trydan) i gael blas ar feicio cyn ymrwymo i brynu un!

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elin Jones, a oedd yn un o’r bobl gyntaf i ymuno a benthyg beic!

Blog gan Elin Jones

Dros y mis diwetha’ ‘ma wrth ymaelodi a Hwb Beics Pen Llŷn dwi wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle o logi un o’u beics trydan. Hoffwn ddiolch i GwyrddNi am y cyfle gwych. Dyma ‘chydig o’r hanes.

Nôl ym mis Mai bu rhaid i mi sgrapio nghar bach ffyddiog o rai blynyddoedd ac adeg honno, efo pres yn brin, esi ati i ddechrau meddwl sut yn y byd fedrwn i fyw yma- yn ganol nunlla – heb gar.

Fues i’n meddwl am fysus, cerdded, reidio beic a beic trydan ond y gwir amdani ydi nes i fethu.. tro ‘ma. Ar ôl pythefnos o ddibynnu ar mam am liffts i’r gwaith (diolch Mam), bod yn styc adra a dal bysus prin Rhydyclafdy rois i’r ffidl yn y tô a sylwi fo’ raid mi brynu car a dyna fo. Ges i hanes car ail-law, ryn abowt bach digon rhad – felly dyna fu. Rhaid mi gyfadda mae o wedi bod yn handi iawn dros y haf *tagu* gaeaf ‘ma a swni wedi stryglo bod hebddo, ond…

 Yn y cyfnod ‘na heb gar, ro’n i wedi penderfynu mod i eisiau dibynnu llai arno fo. Roeddwn i wedi bod yn edrych ar feics trydan ond mod i’n methu fforddio un. Yn fy nghawod-feddwl ac wrth holi o gwmpas ddes i glywed am yr Hwb Beics – prosiect ar y cyd rhwng GwyrddNi ac mentrau cymunedol eraill fel Ynni Llŷn ac O Ddrws i Ddrws. Roedd ‘na feics trydan ar gael i’w defnyddio i’r gymuned ac roeddwn i ar dȃn isio cael treialu un a defnyddio un mor aml a medrwn i dros yr haf! Sgwn i pa mor bosibl ydi hi i mi fyw yma heb gar, go iawn?

Wedi Cyfarfod Dafydd yng Nghongl Meinciau a gweld y beics oedd ar gael, ges i gyfle i fynd am sbin bach rownd y maes parcio i ddod i ddallt y dalltings. Mae ‘na 4 cic gwanhaol sy’n mynd o ‘chydig bach o help gan y beic i chydig bach mwy o help gan y beic- ‘‘eco’ ‘tour’ ‘sport’ a ‘turbo’ – a 10 ger. Aiff y beic ddim i nunlla heb i mi badlo. A dyna ni! Syml. Mond arfer reidio’r beic ar y lôn oedd eisiau gwneud wedyn. Mae’r beic s’gen i yn plygu ‘chydig, yr handlebars yn dod i lawr felly’n gallu ei ffitio i’r car. Grêt!

Diwrnod wedyn a helmet ar ‘y mhen a fest lachar amdanaf mi gychwynnais i i’r gwaith. I Lanbedrog fysa’n reid gyntaf – tua 5 milltir traws gwlad o Fadryn tuag at yr arfordir. Bendigedig. Ac am y tro cynta’ i mi gofio erioed mi fedrais i fynd yna ac o’no yr holl ffordd heb orfod dod oddi ar y beic a’i wthio fyny allt. Waw! Mae’n brofiad gwanhaol reidio beic fel hyn ac mae’n teimlo’n grêt – mi ddoi eto.

Gweithio ar feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fydda i dros yr haf rŵan yn rhai o fannau arbennig a bellach prysuraf Llŷn –  Llanbedrog, Porthdinllaen, Porthor a’r pentra dela’ ym mhen draw’r byd – Aberdaron. Mae hi’n braf gallu defnyddio’r beic trydan i fynd yno.

Dwi’n cael defnydd rheolaidd o’r beic – i fynd i’r gwaith a thu allan i’r gwaith hefyd. Mae gen i fag bach yn sownd ar ei ochr lle fedrai gario be dwi angen ac weithiau mynd â’r charger os dwi’n meddwl mynd yn bellach. Er – mae’r batri’n para’n wych ac mi aiff i Aberdaron ac yn ôl (sydd yn 13 milltir bob ffordd) – dim problem! Mae ceir yn reit dda am adael digon o le ar y cyfan, a dwi’n hapus fy myd yn mynd o amgylch y lle efo’r beic.

Dwi ’wrth fy modd ar y beic ac mae’n gyfle gwych i gael defnydd bob-dydd o feic trydan am bris hynod o resymol fedrai ei fforddio. Mae’r cyfle hwn hefyd wedi chwarae rhan fawr i mi ddod yn fwy cyfarwydd â gwaith GwyrddNi fel mudiad cymunedol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd.

Wrth ‘mi lifo lawr y lonydd cefn a’r gwynt yn fy ngwyneb dwi’n cael amser i feddwl a gwerthfawrogi bob dim. Mae’r awyr yn las hapus. Pinc y blodyn neidr a phiws y bysedd cwn yn neidio allan o’r cloddiau gwyrdd gwyllt. Mae ’na ogla’ gwair. Ogla’ allan. Ogla’ bywyd. Dwi’n gweld adar – llwyth o adar!  Lot o adar ysglyfaethus mawr, yn isel, yn hofran, ar bolyn letric-  barcyd coch, bwncath ac adar bach y bore – un melyn llachar! Dwi’n gweld y byd o bersbectif gwahanol am ‘chydig.

Mae’n newid positif, yn gyfla ac yn ffres. Mae’r ymarfer corff ac yr awyr iach yn gwneud lles. Mae’r lonydd diddiwedd fel afonydd drwy’r tir a minnau’n padlo’n braf ond yn ystyried fy rôl fy hun yn y gymuned ac am newidiadau bach fedra’i wneud i droedio’r ddaear yn ‘sgafnach.

–

Os ydych eisiau benthyg beic, cysylltwch hefo Dafydd ar dafydd.rhys@ynnillyn.cymru


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!