Ysbrydoliaeth

Yng ngwyneb yr argyfwng hinsawdd mae’n hawdd iawn colli gobaith, felly dyma dudalen yn llawn gwahanol adnoddau i’ch ysbrydoli a’ch annog i fynd ati i weithredu!

Darganfod llawenydd wrth weithredu
Dyma sgwrs ‘Ted Talk’ gan Ayana Elizabeth Johnson sy’n son am sut y gall pob un ohonom chwarae rhan yn y mudiad newid hinsawdd, wrth uno ein sgiliau, ein adnoddau a’n rhwydweithiau mewn ffordd sy’n dod â budd i ni ac eraill. Beth ydach chi’n dda am ei wneud? Beth ydi’r gwaith sydd angen ei wneud? A be sy’n eich gwneud chi’n hapus? Wrth i’ch atebion ddod ynghyd gallwch weld beth all eich rôl chi fod o fewn gweithredu hinsawdd.

Ffermio Paramaethu yn Henbant
All Ffermio Paramaethu fwydo’r byd? Sut fyddai hynny’n edrych? Dyma daith o gwmpas mentau paramaethu Henbant yng Nghlynnogfawr, a chyfle i glywed am iaith y patrynau sydd oddi tanynt.


Transition Town
“Rydan ni’n dechrau yn lleol, ond os ydan ni’n dechrau yn lleol ym mhob man yna ella y bydda ganddo ni gyfle go iawn o newid y ffordd rydan ni’n byw ar raddfa fawr.” Gwyliwch y fideo fer yma (8 munud) i ddysgu mwy am gysyniad Transition Town.


Advancing Sustainable Solutions

Awydd gwrando ar rywbeth ychydig yn wahanol? Dyma bodlediad newydd o’r enw ‘Advancing Sustainable Solutions’, a gynhyrchwyd gan y IIIEE ym Mhrifysgol Lund. Mae’r Sefydliad Rhyngwladol Economeg Amgylcheddol Ddiwydiannol (IIIEE) yn sefydliad ymchwil ac addysg rhyngddisgyblaethol wedi’i leoli yn Lund, Sweden gyda gweithgareddau’n canolbwyntio ar y newid i economïau carbon isel ac effeithlon o ran adnoddau. Mwynhewch!

👉 https://open.spotify.com/show/44BXUYFTNACWjh87I8G16A





Prosiect The Green Valleys (Cymru)

Beth am ddarllen am waith a llwyddiant prosiect arall o Gymru? Cwmni Buddiannau Cymunedol ym Mannau Brycheiniog sydd wedi ennill llu o wobrau yw The Green Valleys (Cymru). Maent yn ysbrydoli a chefnogi cymunedau i gynhyrchu buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy trwy bontio i ddyfodol o allyriadau carbon isel. Ewch draw i’w gwefan i ddysgu mwy amdanynt.

Rhannwch hwn: