Postiwyd ar

Pobl Ifanc, LotoBot, a Blaenau: Gweithgareddau ysbrydoledig yng nghalon Eryri

Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Wedi llwyth o waith cyffrous, mae rownd un o’r prosiect wedi dod i ben, ac mae un peth yn enwedig wedi dyfod o’r prosiect. 

Cynnig cyfle i bobl ifanc weithio ar brosiectau creadigol am newid hinsawdd mae Ysgolion Creadigol. Mae’r bobl ifanc ar draws 5 ardal GwyrddNi wedi dewis creu pethau gwahanol ym Mlaenau Ffestiniog ymddangosodd Lotobot! Peidiwch a phoeni os nad yw’r  gair LotoBot yn golygu unrhyw beth i chi, mae Agi o Ysgol y Moelwyn yn esbonio:

Lotobot yw ein cynrychiolydd ar gyfer newid hinsawdd ym Mro Ffestiniog. Fe’u cynlluniwyd gennym ni i gynrychioli popeth yn ein hardal leol, a dyna pam mae Lotobot yn edrych fel maen nhw.

I ddod ar broses o greu LotoBot yn fyw cafodd ffilm ei greu a cewch ei wylio yn fan hyn. 

3 munud 30 eiliad yw hyd y fideo ac mae yna isdeitlau Saesneg ar gael. 

Mae’r broses o gymryd rhan ym mhrosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn bwysig i bobl ifanc Ysgol y Moelwyn sydd ddim yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu clywed ar faterion newid hinsawdd. Dywedodd Gethin, disgybl yn yr Ysgol, pam ei fod o’n gweld hi’n bwysig gweithredu “Mae hi’n bwysig i weithredu ar newid hinsawdd oherwydd bod hi’n broblem enfawr a bysa pobl yn gallu gwneud rhywbeth i helpu trwy wneud y pethau bychain.

Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli staff GwyrddNi ac Ysgol y Moelwyn, sydd wedi cael y cyfle i adael i bobl ifanc redeg yn wyllt gyda’u syniadau. Dywedodd Edward Roberts, athro Daearyddiaeth yn Ysgol y Moelwyn  “Rydym yn hynod o ddiolchgar i GwyrddNi am gyd-weithio efo’r ysgol. Mae’r prosiect efo Buddug Roberts wedi bod yn fuddiol ofnadwy i’r plant sydd wedi cymryd rhan gan eu bod nhw wedi creu perthnasau arbennig efo’i gilydd ac wedi cyd-weithio’n agos o dan ei harweiniad i greu ffordd greadigol o gael eu neges am newid hinsawdd ac yr amgylchedd allan i’r gymuned leol”.

Dywedodd Nina Bentley, hwylusydd cymunedol GwyrddNi hefyd “Mae wedi bod yn llawenydd ac yn addysg bod yn rhan o’r gwaith hwn yn datblygu! Mae Lotobot wedi dod yn gynhwysydd ardderchog ar gyfer lleisiau plant wrth feddwl am eu hardal a’u dylanwad eu hunain. Maen nhw eisiau gweld lle gwyrddach, gyda mwy o goed, planhigion ac anifeiliaid a mwy o HWYL! Mae ganddyn nhw synnwyr craff o gyfiawnder cymdeithasol a natur a gallwn ni i gyd ddysgu a dylunio o amgylch hynny.

Carousel 1
previous arrow
next arrow

Doedd y gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth anhygoel Buddug Roberts, arbenigwr mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ymarfer Theatr a Mari Gwent, artist sy’n arbenigo mewn dyluniadau 3D. Wrth Adlewyrchu ar weithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau, dywedodd Buddug “Mae LotoBot yn greadur aml-haenog a hynny ar lefel diriaethol a haniaethol. Roedd creu LotoBot efo’r bobl ifanc yn broses arbennig o wylio’r cyfan, eu teimladau, eu pryderon a’u gobeithion yn dod at ei gilydd i lunio’r cymeriad digri a difrifol yma.”

Bydd y gwaith yn parhau eleni felly cadwch olwg allan am anturiaethau nesaf Lotobot! Yn y cyfamser, a ydych wedi cael eich ysbrydoli i weithredu? Mae gan GwyrddNi sawl ffordd gwahanol i chi gymryd rhan. 

Cofrestru i’n cylchlythyr misol i dderbyn newyddion a chyfleoedd ar draws Gwynedd: http://eepurl.com/h21srj

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

Dilynwch y gwaith anhygoel ein partner Cwmni Bro Ffestiniog hefyd fan hyn!  https://www.instagram.com/brocast_ffestiniog

Postiwyd ar

Cynnig Addysg

Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn.

Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol. Diolch iddynt am eu cyfraniadau brwd!

Darllenwch fwy yma neu gwyliwch y fideo:

Nawr, mae plant yn cael y cyfle i weithredu ar eu syniadau!

Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau addysg hwylus, rhyngweithiol i blant oed cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a be sy’n ei achosi. Ar ddiwedd pob sesiwn mae’r plant yn cyfrannu at ddatblygu syniadau gweithredu yn eu cymunedau – ac yna yn cael cynnig i weithredu ar y syndiadau yma eu hunain, yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau dysgu pellach. Dyma ni’r cynnig:

  • Sesiwn Hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod teimladau ynghylch newid hinsawdd, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd. 
  • Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!).
  • Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr. Mae hyn (o fewn rheswm!) i fyny i’r plant a byddwn yno i’w cefnogi.

Y nod yw galluogi’r plant i gyd-weithio ag eraill yn eu cymuned i weithredu ar yr hinsawdd ac i ddeall sut mae eu gweithredu’n cyfrannu at ymateb i newid hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gwneud cysylltiadau ag eraill yn eu cymuned a mynd ati i wneud rhywbeth i daclo her yr hinsawdd hefyd yn helpu i leddfu gôr bryder am yr hinsawdd. 

Mae’r arwyddion cynnar yn addawol: neidiodd nifer y plant oedd yn deud y buasent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau.

Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i ymateb i feysydd gweithredu cynllun gweithredu hinsawdd eu hardal nhw. 

Dyma flas o beth sydd wedi bod yn digwydd ac ar y gweill:

Dyffryn Ogwen

  • Ymweliadau i gynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
  • Cydweithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi ysgolion.
  • Ymchwilio patrymau teithio i’r ysgol ac adnabod ac ymateb i heriau teithio yno mewn modd mwy ‘actif’. 

Dyffryn Peris

  • Cymryd rhan ym mhrosiect Stori’r Tir – sef prosiect i drigolion y dyffryn ail ddarganfod ac ail berchnogi hanes eu tîr.
  • Tyfu bwyd efo Fferm Tyddyn Teg a phlannu perllannau efo Prosiect Natur Llanddeiniolen.
  • Taclo Jac y Neidiwr yn Llanberis hefo Cymdeithas Eryri.

Bro Ffestiniog

  • Hel ac ail-ddosbarthu gwisgoedd ysgol holl ysgolion yr ardal.
  • Datblygu cynllun coridorau bioamrywiaeth ar dir yr ysgol gan ymestyn allan i’r dref a’r dyffryn islaw.

Pen Llŷn

  • Ymweld â’r prosiect Morwellt – a gwneud crysau-T yn hysbysebu’r pwysigrwydd o adfer Morwellt. 
  • Cyd-weithio cynnar ar gynllun rhannu beics.

Dyffryn Nantlle

Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu! 

Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.

Rydym wrthi’n datblygu cynigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan! 

Mae’r daith yn un cyffrous ac rydym wedi gwneud cychwyn cadarn arni! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Sara, ein Swyddog Addysg: sara@deg.cymru