Postiwyd ar

Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol: Adroddiad “Adlewyrchu ar 2024”

Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!

Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu – yn fyw!

Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.

Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.

Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:

GwyrddNi: Adlerwyrchu ar 2024: Darllenwch yr adroddiad fel llyfr “fflipio” neu fel PDF statig.

Ond nid dyma ddiwedd y stori – dim ond y dechrau! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu cefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed gennych! Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.

Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Gwynedd a thu hwnt!

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.

Postiwyd ar

Da i’r waled a’r blaned: Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Bro Ffestiniog

Dydd Sadwrn, yr 20fed o Orffennaf – cynhaliwyd Cyfnewidfa Gwisg Ysgol ym Mlaenau Ffestiniog.

Cyfle i deuleuoedd dod draw am banad, gadael i’w plant chwarae ar y byrddau crefft a chael peintio eu gwynebau, tra’n edrych drwy’r 100kg neu fwy o wisgoedd ysgol cafodd eu rhoddi dros yr wythnosau diwethaf.

Daeth y Gyfnewidfa fel syniad gan y Grŵp Rhannu Stwff a Trwsio a dyfodd allan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi ym Mro Ffestiniog. Mae’r grŵp wedi ymrwymo i leihau gwastraff a chefnogi’r gymuned i fyw’n gynaliadwy ym Mro Ffestiniog.

Mae Cyfnewidfa Gwisg Ysol yn cynnig ateb syml ond dylanwadol: gall teuluoedd gyfnewid gwisg ysgol a sicrhau bod dillad yn dod o hyd i gartrefi newydd yn hytrach na mynd i dirlenwad. Nid yn unig bod hyn yn helpu i leihau gwastraff, ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwerthfawr i deuluoedd arbed arian ar wisg ysgol.

O 11yb tan 2yp roedd y drysau yn agor, ond erbyn 5 munud i 11 roedd teuleuoedd wedi dechrau llifo i fewn. Doedd dim angen bod rhywun wedi cyfrannu gwisg er mwyn derbyn un; ac roedd yn amlwg o’r gwynebau hapus bod llawer yn gwerthfawrogi’r cyfle i arbed arian a helpu’r blaned ar yr un pryd!

Os nad oedd y dillad y maint iawn, roedd gwirfoddolwyr o Ffiws hefo peiriannau gwnio ar gael i wneud newidiadau.

Meddai Nina, Hwylusydd Bro Ffestiniog:

“Pan rydyn ni’n rhannu pethau, mae’n creu cymuned gryfach ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng pobol, pobol yn teimlo fel bod eu cymuned yn helpu nhw, bod yr ysgol yn teimlo fel teulu. Mae o’n creu teimladau da am lle rydyn ni’n byw.”

Bydd Cyfnewidfa yn digwydd dydd Sadwrn nesaf (27) yn Nhrawsfynydd, hefyd, ac mae Partneriaeth Ogwen (yn Nyffryn Ogwen) ac Yr Orsaf (yn Nyffryn Nantlle), mewn cydweithriad hefo GwyrddNi, yn brysur yn trefnu cyfleoedd i gyfnewid gwisgoedd ysgol.

Credwn gall camau bach arwain at newidiadau mawr, ac mae’r fenter hon yn gam tuag at gymuned fwy cynaliadwy a chefnogol.

Am ragor o wybodaeth neu i wirfoddoli, cysylltwch hefo Nina@Cwmnibro.cymru, neu ymunwch hefo’r grŵp Rhannu Stwff a Trwsio Bro Ffestiniog os ydych yn yr ardal a hefo WhatsApp: linc yma


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!