Dyffryn Peris

Cynhaliwyd y cynulliad cyntaf ym mis Mai 2022 a cynhaliwyd y sesiwn olaf yn ystod gwanwyn 2023. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Peris a greuwyd gan y gymuned drwy broses y cynulliadau.

Dyma fideo yn edrych ar bopeth sydd wedi digwydd ers cynnal y Cynulliadau ac yn dathlu popeth sydd wedi bod yn digwydd yn Nyffryn Peris:

Eisiau gweithredu ar newid hinsawdd yn Nyffryn Peris? Cysylltwch hefo Lowri: lowri@deg.cymru

Mae hysbysfwrdd Dyffryn Peris yn cynnwys gwybodaeth am y digwyddiadau a’r cynigion diweddaraf: cliciwch yma neu edrychwch ar y calendr digwyddiadau.

Gallwch ddysgu mwy am yr hyn a ddigwyddodd ym mhob sesiwn o’r cynulliad wrth glicio isod. Mae lluniau, cyflwyniadau a llawer mwy. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y broses, y bartneriaid, y nawdd a llawer mwy wrth glicio yma i ddarllen yr adroddiad, GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.

Addewid GwyrddNi

Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y Cynulliad? Os felly, beth am arwyddo Addewid GwyrddNi er mwyn ymrwymo i ddarllen ac ystyried cynnwys Cynllun Gweithredu Dyffryn Peris pan fydd yn barod, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y gymuned? Byddwn yn anfon y Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at bawb sydd wedi arwyddo’r Addewid. I weld pwy sydd wedi arwyddo’r Adduned eisoes, ewch i waelod y dudalen neu cliciwch yma. 

Ewch ati i bori, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os oes ganddoch unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â’ch hwylusydd lleol heddiw neu fynd draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Pwy sydd wedi arwyddo’r addewid?

Angharad Owen, Bwyd Bendigedig Rhiwlas / Incredible Edible Rhiwlas

Ann Bierd

Catrin Gruffudd

Ceris ap Gwilym

Duncan de Silva

Ellen George

Euriona Croft

Ferida, Land Justice UK

Fiona Nicholson, Plas Coch Guest House

Gareth Roberts

Gerry Murphy

Gwenan Pennant

Gwenllian Rhys

Gwilym Evans, Cynghorydd Cymuned Llanberis

Hourieh

Huw Lewis

Huw Morris, Gwelliant Trefin

Hywel Williams, Aelod Seneddol

Ifor Jones

Jess Silvester, Cydlynydd Gwynedd DTA Cymru, Aelod o Ynni Padarn Peris

Jodie Pritchard

John Pike

Keith Jones

Kerry Bond

Lisa de Rijk, Bwthyn GwyliauTŷ Maen

Llinos Druce

Lucy Finchett-Maddock, Prifysgol Bangor

Lyndsey Pleming, Pwyllgor Pentra Deiniolen

Ray Wood

Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru

Siobhan Vye

Sofie Roberts, Prifysgol Bangor

Tiffany Arnold

Wendy Jones

Rhannwch hwn: