Cynlluniau Gweithredu

Rhwng Mai 2022 ac Ebrill 2023 by GwyrddNi a’u partneriaid yn cynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum ardal yng Ngwynedd: Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Bro Ffestiniog a Phen Llŷn. Arianwyd y gwaith gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Cynhaliwyd rhaglen addysg mewn ysgolion lleol a phedair sesiwn gyda’r aelodau yn y gymuned er mwyn dysgu, rhannu a thrafod cyn cydweithio i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn [enw’r ardal] ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?

Mae’r atebion i’w gweld yn y Cynlluniau Gweithredu isod. Mae gwahoddiad nawr i unrhyw un o’r ardaloedd sydd â diddordeb i ymuno ar y daith i wireddu’r syniadau hyn.

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Peris

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Ogwen

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Nantlle

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Bro Ffestiniog

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Pen Llŷn

Am ragor o wybodaeth am broses gynulliadol GwyrddNi, y mudiad, partneriaid y bum ardal, y rhaglen addysg a llawer gallwch ddarllen adroddiad GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu yma.

Rhannwch hwn: