Postiwyd ar

Briff – Cynyddu defnydd Map Ogwen

Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i drefnu a chynnal gweithdai a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o Map Ogwen.

Gofynnwn i’r ymgesiwyr llwyddianus drefnu cyfres o weithdai a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn cyflwyno Map Ogwen i drigolion yr ardal. Bydd disgwyl cyrraedd amrywiaeth o grwpiau dros gyfnod o hyd at 6 mis.

Beth yw Map Ogwen?

Map rhyngweithiol sydd yn galluogi defnyddwyr i fapio beth sydd yn bwysig iddyn nhw yn Dyffryn Ogwen.

Gall cael ei ddefnyddio i fapio amrywiaeth o bethau o goed, i fusnesau bwyd, i llecynnau celfyddydol arwyddocaol. Gellir addasu’r wefan i anghenion y gymuned, gan fapio beth sydd yn bwysig i bobl leol.

Mae’n bosib i unrhyw un wneud cyfrif ac ychwanegu at y map, a mae croeso i chi ei weld a y linc isod.

Y Telerau

I gael eich ystyried ar gyfer y briff hwn:

  • Mae’n rhaid i’r gwaith cael ei gwbwlhau rhwng 01.07.2026 a 31.01.2026. Gallwch gwbwlhau’r gwaith yn ystod y cyfnod yma yn unig. 
  • Mae cyllideb o hyd at £3,500 ar gael, a gofynnwn i chi amlinellu eich costau yn eich cais.
  • Byddwn yn disgwyl i chi gynnal o leiaf 10 gweithdy neu digwyddiad yn cyflwyno Map Ogwen.
  • Byddwn yn disgwyl i chi adrodd ar faint o bobl, a pha grwpiau yr ydych chi wedi ymgysylltu hefo nhw.

Sut i ymgeisio

Gyrru llythyr cais, gyda amlinelliad bras o’ch costau, sut byddwch yn cyflawni’r gwaith, a proffil byr o’r rheini fydd yn ymgymryd â’r gwaith i chris@ogwen.org erbyn 28.05.2026 12:00pm (Hanner dydd). Yn eich cais, dylech chi hefyd sôn am eich gwaith neu profiad cysylltiedig.
Bydd panel yn sgorio’r ceisiadau cyn cynnal cyfweliadau wythnos yn cychwyn 08.06.2026. 

Am GwyrddNi

Eisiau gwybod mwy am GwyrddNi a Phartneriaeth Ogwen cyn ymgeisio? Gallwch ddarllen popeth am y ddau ar y dolenni isod.

GwyrddN: Amdanom ni (https://www.gwyrddni.cymru/ynglyn-a-gwyrddni/)

Partneriaeth Ogwen: Amdanom ni (https://www.partneriaethogwen.cymru/en/about-us/)

GwyrddNi Dyffryn Ogwen: YouTube (https://youtu.be/YUIa59rMWi8?si=JukSu3TCfbkr4BzS)

Postiwyd ar

Ysgolion Creadigol

Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn cefnogi pobl ifanc i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.

Y syniad: Cysylltu ysgolion hefo artistiaid ac ymarferwyr creadigol lleol i greu prosiect i gyfleu negeseuon y bobl ifanc. Mae’r disgyblion yn cyfweld ac yn dewis yr ymarferydd creadigol eu hunain, ac mae’r allbwn yn dibynnu ar y syniadau mae nhw’n eu cynhyrchu gyda’i gilydd.

Mae hyn yn golygu gall unrhyw beth ddigwydd! Hyd yn hyn, rydym wedi cael caneuon, perfformiadau, llyfrau, cerddi, erthyglau, gwaith celf, parêd a mwy!

Y story hyd yma…

Dyffryn Ogwen

Yn Ysgol Dyffryn Ogwen, penderfynodd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 eu bod eisiau gwneud “sblash” mawr drwy fynd a’u neges i Garnifal Bethesda – gan berfformio dramâu byrion a chreu “fflôt” trawiadol i’w gario yn y parêd. Bu’r disgyblion yn brysur yn addurno eu llusernau a banneri hefo Manon Prysor.

Gwelsom bysgodyn enfawr yn llawn plastic, a hefyd Spongebob a Patrick yn dod i gwyno am ansawdd eu cartref! Bu’r bobl ifanc hefyd yn ysgrifennu ac ymarfer eu dramau dan arweiniad yr actores Angharad Llwyd. 

Dyffryn Nantlle

Dewisodd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle i weithio hefo’r cerddor ac awdur Gai Toms, ac maent wedi creu llyfr a thair cân wreiddiol o ganlyniad.

Mae’n siwr eich bod yn gyfarwydd â nofel wych Manon Steffan Ros – Llyfr Glas Nebo? Fel gwrthwenwyn i neges dystopian y llyfr, penderfynodd y disgyblion eu bod eisiau creu Llyfr Gwyrdd Nantlle, sef casgliad o gelf, barddoniaeth a gweledigaethau positif ar gyfer dyfodol y Dyffryn.

Mae tair cân wreiddiol hefyd wedi eu hysgrifennu: Cwm y Cerrig, y Llithr a’r Llethr a Pigavo.

Darllenwch y stori gyfan, gwrandewch ar y caneuon ac edrychwch ar fersiwn ddigidol o Lyfr Gwyrdd Nantlle yma.

Dyffryn Peris

Yn Ysgol Dolbadarn, dewisodd y plant i weithio hefo’r artist lleol Katie Ellidge. O greu llyfrau braslunio (sgrap) a gwehyddu gwaith celf allan o wastraff, cafodd y plant gyfle hefyd i ddysgu am bynciau pwysig fel gwastraff, rhywogaethau prin a theithio llesol.

Daeth artist lleol arall, Femke van Gent, i mewn wedyn i greu darn o gelf weledol yn dal gweledigaethau’r plant o ddyfodol disglair i’r Dyffryn.

Fel y gwelwch o’r lluniau – mae’r plant yn breuddwydio am fyd gwyrdd, glân, lle mae pobl yn teithio ar feiciau ac yn codi eu sbwriel! 

Bro Ffestiniog

Yn Ysgol y Moelwyn, dewisodd grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 i weithio hefo Buddug Roberts. Ar ôl gwario dipyn o amser yn dod i nabod ei gilydd a’u bro, dechreuodd y disgyblion feddwl am ba negeseuon y hoffan nhw eu rhannu.

Maent wedi creu ‘Lotobot’ creadur sydd am gynnal a rhannu eu negeseuon am yr hinsawdd gyda’r gymuned yn ystod Gwyl y Glaw ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Medi.

Be’ nesaf?

Bydd prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn parhau… dewch yn ôl i weld beth arall bydd ein pobl ifanc wedi ei ddychmygu!

Postiwyd ar

Ysgrifennu Creadigol am Natur a’r Hinsawdd

Mae Clwb Sgwennu Diosg Dyffryn Ogwen yn cyfarfod bob pythefnos i ysgrifennu’n greadigol am natur a’r hinsawdd ac i rannu ysbrydoliaeth.

Ewch i’r dudalen Digwyddiadau i weld pryd mae’r sesiwn nesaf yn dod i fyny, neu cysylltwch hefo chris@ogwen.org

Sefydlwyd grŵp ysgrifennu Diosg gan yr awdur a’r bardd, Casia Wiliam fel rhan o gynllun Llên mewn Lle, Llenyddiaeth Cymru. Nod y cynllun yw datblygu lleisiau creadigol y gymuned a lleihau pryder hinsawdd trwy lenyddiaeth.

Caiff Llên mewn Lle ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â WWF Cymru, ac mae’n brosiect sydd yn archwilio’r argyfwng hinsawdd a natur trwy lenyddiaeth, gan archwilio datrysiadau ymarferol ar gyfer yr effeithiau. Mae’r prosiect ym Methesda wedi derbyn nawdd gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU drwy Gyngor Gwynedd, ac mae’n cael ei gefnogi gan Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi.

Postiwyd ar

Mapio Dyffryn Ogwen

Yng Nghynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Ogwen, mae’r gymuned wedi nodi eu bod eisiau:

“Map ar y wê i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol lleol i unigolion, busnesau a sefydliadau lleol, a thwristiaid, hefo tudalen sy’n dangos gweithgaredd amgylcheddol cwmniau lleol.”

Syniad y map/gwefan yma ydi y byddai unrhyw un yn gallu cyfrannu yn syml, hefo linciau i lwybrau cerdded lleol, llefydd o arwyddocad naturiol, a phrosiectau amgylcheddol.

Mae’r syniad yn dechrau dod yn fyw rŵan drwy weithio ar y cyd hefo Wild Resources. Mae grant gan Partneriaeth Natur Gwynedd am ariannu’r dechnoleg y tu ôl i greu map rhyngweithiol a fydd yn cynnwys llefydd o bwysigrwydd amgylcheddol a diwyllianol yn Nyffryn Ogwen, gyda haenau yn dangos llwybrau cerdded, safleoedd natur ayyb.

Bydd pobl yn gallu cyfrannu at y mapio gan gynnwys eu hoff goeden, llefydd arbennig iddyn nhw neu luniau o’r pethau maent yn eu ffeindio. Gall busnesau cynaliadwy a phrosiectau amgylcheddol lleol hefyd gael eu cynnwys ar y map.

Bydd y straeon gwerin leol sydd wedi eu dal gan brosiect Lleisiau Lleol (Partneriaeth Ogwen) wedi eu lincio yn ôl i’r map.

I ddarganfod mwy am y prosiect neu i fod yn rhan ohono, cysylltwch hefo chris@ogwen.org

Postiwyd ar

Gŵyl Hinsawdd

Fel rhan o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen.

Ym Mis Mai 2024 cynhaliwyd Gŵyl Hinsawdd yng Nghanolfan Tregarth. Roedd llawer o weithgareddau: plannu hadau, codi sbwriel, creu lluniau, edrych ar fwsog hefo microsgop, a chreu bocsys nythu i adar. Yn ogystal ac arwain taith beics ar y Lôn Las, bu Beics Ogwen ar y maes yn helpu i drwsio beics, rhoi gwynt yn nheiars pobl, neu rhoi cyngor cyffredinol iddynt am feicio yn yr ardal.

Roedd darlithoedd hefyd gan Margot Saher am y gwyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd, a gan Alison Cameron am ddifodiant a newid hinsawdd, yn ogystal â chwis hinsawdd mawr ar ddiwedd y dydd.

Gŵyl Hinsawdd 2024, Tregarth: https://www.gwyrddni.cymru/ail-wyl-hinsawdd-dyffryn-ogwen/

Gŵyl Hinsawdd 2023, Bethesda: https://www.gwyrddni.cymru/gwyl-hinsawdd-dyffryn-ogwen/

Grŵp Facebook Gŵyl Hinsawdd: https://www.facebook.com/groups/6070995169653563

Eisiau bod yn rhan o drefnu Gŵyl Hinsawdd 2025? Cysylltwch â chris@ogwen.org

Postiwyd ar

Paned i’r Blaned

Lle i siarad am newid hinsawdd ac i ymarfer Cymraeg!

Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes; People, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Bwriad Paned i’r Blaned ydi rhoi gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth. 

Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg, ac rydym yn annog Cymry Cymraeg i ddod draw i rhoi cefnogaeth iddynt!

Bydd geirfa sydd yn addas i bwnc y mis ar gael i’ch helpu, ac wrth gwrs gallwch ofyn am esboniad neu gyfieithiad. Mae Menter Iaith wedi bod yn ein cefnogi i wneud yn siwr bod yn sesiynau yn hwylus ac yn hygyrch.

Cynhaliwyd sesiwn gyntaf Paned i’r Blaned ar y 25ain o Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, ac mae pob ardal eisoes yn barod i gychwyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau i weld y rhai diweddaraf.

Gwyliwch allan am Paned i’r Blaned yn eich hardal chi – neu gysylltwch os ydych eisiau cychwyn un!

Postiwyd ar

Gerddi a thyfu bwyd

Roedd yn glir o’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd bod pob ardal yn angerddol am fedru tyfu bwyd eu hunain, sydd yn rhan hanfodol o leihau ein hôl troed carbon a chreu cymunedau gwydn ac iach.

Mae GwyrddNi wedi bod yn cefnogi rhai prosiectau tyfu a oedd yn bodoli yn barod, ac wedi helpu sbarduno rhai newydd. Cysylltwch os ydych eisiau cychwyn rhywbeth yn eich ardal chi!

Bro Ffestiniog:

Gerddi Maes-y-Plas

Mae grŵp garddio yn cyfarfod rhwng 11yb-1yp ar Ddydd Iau ym Mlaenau Ffestiniog – yng ngerddi Maes-y-Plas neu’r ar safle garddio gymunedol newydd gerllaw.

Ymunwch â grŵp Bwyd Lleol Bro Ffestiniog ar WhatsApp am fanylion o le/pryd i gyfarfod, neu hyd yn oed dim ond i gadw llygad am gynnydd a chynnyrch. Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru

Prosiect gardd farchnad gan Y Dref Werdd ydi Gerddi Maes-y-Plas ym Mlaenau Ffestiniog – dyma glip o’r gerddi ar S4C (ar Facebook). Mae GwyrddNi wedi bod yn cydweithio gyda Maes Y Plas, gyda gwirfoddolwyr ac i hybu ac ehangu’r gwaith.

Dilynwch Gerddi Maes-y-Plas ar Facebook.

Mae GwyrddNi hefyd wedi bod yn cydweithio gyda Gerddi Maes-y-Plas ar safle cymunedol arall gerllaw. Y llynedd daeth y safle â syniad o’r Cynlluniau Gweithredu i realiti a chynhyrchwyd mwy na 1000 o datws yn lleol. Eleni, bydd y ffocws yn symud i dyfu llwyni a choed ffrwythau.

Dosbarthodd Prosiect Tyfu Tatws 25 o focsys gyda phopeth y gallai fod ei angen arnoch i dyfu eich tatws eich hun i bob math o erddi gwahanol ym Manod. Mae’r prosiect hwn bellach ar gael i unrhyw grŵp Bwyd Lleol cymunedol ym Mro Ffestiniog – felly cysylltwch os ydych eisiau darparu Tatws i Bawb yn eich ardal.

Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru i fod yn rhan o hyn.

Dyffryn Nantlle:

Mae prosiect Bwyd a Lles Yr Orsaf yn datblygu 3 prif elfen – rhandiroedd cymunedol wrth ymyl y Ganolfan Hamdden; Gardd Wyllt Penygroes, i greu gardd gymunedol i bobl leol a chynyddu bio-amrywiaeth ar yr un pryd; a’r Pantri Cymunedol, sy’n defnyddio bwyd dros ben o’n Co-op lleol, a bwyd gan archfarchnadoedd eraill, yr ACT Foundation a FareShare. Cysylltwch hefo esyllt.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Mae Garddio Gyda’n Gilydd yn cymryd lle yn yr Ardd Wyllt, Penygroes pob Dydd Mercher o 10yb-12yp.

Gardd Nant, Talysarn

Mae Gardd Nant, Talysarn wedi ei gychwyn gan Gyfeillion Talysarn a Nantlle gyda chefnogaeth gan GwyrddNi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cydweithio hefo ysgolion lleol, wedi cael ymweliad gan grŵp o Alabama (roedd hyn ar S4C!) ac wedi bod yn trefnu digwyddiadau cymunedol eraill fel hel sbwriel.

Mae dyddiau gwirfoddoli yn cael eu trefnu yn rheolaidd. Cysylltwch hefo garddnant@yahoo.com neu gwyliwch am newyddion ar dudalen Facebook Cyfeillion Talysarn a Nantlle.

Dyffryn Ogwen

Mae Gerddi Ffrancon (wrth ymyl y Ganolfan Hamdden ym Methesda) yn ardd gymunedol gan Dyffryn Gwyrdd (Partneriaeth Ogwen), lle mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod 3-4 gwaith yr wythnos i dyfu bwyd, hefo’r gobaith o rannu’r bwyd i’r gymuned. Bu’r criw yn creu jam dros y gaeaf hefo’r ffrwythau a dyfwyd dros haf llynnedd.

Cysylltwch hefo chris@ogwen.org i fod yn rhan o hyn!

Mae GwyrddNi hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr i arddio hefo’r disgyblion yn Ysgol Abercaseg.

Pen Llŷn

Yng Nghynllun Gweithredu Pen Llŷn, mae cynlluniau i sefydlu rhandiroedd i dyfu bwyd lleol, i gydweithio hefo ysgolion ac i greu rhwydwaith o gynhyrchwyr lleol a hybu bwyd lleol er mwyn lleihau milltiroedd bwyd, gwella iechyd, cryfhau cydweithio, a rhoi hwb i’r economi leol.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo llyn@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Dyffryn Peris

Dymunodd Cynulliad Dyffryn Peris i:

  • Greu map bwyd cymunedol
  • Canfod mannau caedig ar gyfer gardd/rhandir
  • Rhannu bwyd a gwybodaeth
  • Creu gofod i rannu hadau, sgyrsiau, offer a chwmni
  • Creu micro erddi cymunedol a rhandiroedd i bobl dyfu eu hunain.
  • Creu grŵp sydd gyda diddordeb gweithio ar yr uchod.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo peris@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Postiwyd ar

Cynnig Addysg

Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn.

Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol. Diolch iddynt am eu cyfraniadau brwd!

Darllenwch fwy yma neu gwyliwch y fideo:

Nawr, mae plant yn cael y cyfle i weithredu ar eu syniadau!

Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau addysg hwylus, rhyngweithiol i blant oed cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a be sy’n ei achosi. Ar ddiwedd pob sesiwn mae’r plant yn cyfrannu at ddatblygu syniadau gweithredu yn eu cymunedau – ac yna yn cael cynnig i weithredu ar y syndiadau yma eu hunain, yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau dysgu pellach. Dyma ni’r cynnig:

  • Sesiwn Hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod teimladau ynghylch newid hinsawdd, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd. 
  • Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!).
  • Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr. Mae hyn (o fewn rheswm!) i fyny i’r plant a byddwn yno i’w cefnogi.

Y nod yw galluogi’r plant i gyd-weithio ag eraill yn eu cymuned i weithredu ar yr hinsawdd ac i ddeall sut mae eu gweithredu’n cyfrannu at ymateb i newid hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gwneud cysylltiadau ag eraill yn eu cymuned a mynd ati i wneud rhywbeth i daclo her yr hinsawdd hefyd yn helpu i leddfu gôr bryder am yr hinsawdd. 

Mae’r arwyddion cynnar yn addawol: neidiodd nifer y plant oedd yn deud y buasent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau.

Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i ymateb i feysydd gweithredu cynllun gweithredu hinsawdd eu hardal nhw. 

Dyma flas o beth sydd wedi bod yn digwydd ac ar y gweill:

Dyffryn Ogwen

  • Ymweliadau i gynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
  • Cydweithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi ysgolion.
  • Ymchwilio patrymau teithio i’r ysgol ac adnabod ac ymateb i heriau teithio yno mewn modd mwy ‘actif’. 

Dyffryn Peris

  • Cymryd rhan ym mhrosiect Stori’r Tir – sef prosiect i drigolion y dyffryn ail ddarganfod ac ail berchnogi hanes eu tîr.
  • Tyfu bwyd efo Fferm Tyddyn Teg a phlannu perllannau efo Prosiect Natur Llanddeiniolen.
  • Taclo Jac y Neidiwr yn Llanberis hefo Cymdeithas Eryri.

Bro Ffestiniog

  • Hel ac ail-ddosbarthu gwisgoedd ysgol holl ysgolion yr ardal.
  • Datblygu cynllun coridorau bioamrywiaeth ar dir yr ysgol gan ymestyn allan i’r dref a’r dyffryn islaw.

Pen Llŷn

  • Ymweld â’r prosiect Morwellt – a gwneud crysau-T yn hysbysebu’r pwysigrwydd o adfer Morwellt. 
  • Cyd-weithio cynnar ar gynllun rhannu beics.

Dyffryn Nantlle

Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu! 

Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.

Rydym wrthi’n datblygu cynigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan! 

Mae’r daith yn un cyffrous ac rydym wedi gwneud cychwyn cadarn arni! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Sara, ein Swyddog Addysg: sara@deg.cymru

Postiwyd ar

Mapio Mwsog

Yn ogystal â cheisio annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas, nod prosiectau Mapio Mwsog yw cofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.

Wedi’i lansio’n swyddogol ar Hydref 21ain, 2023, Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, dechreuodd y prosiect Mapio Mwsog gyda thaith mwsogl ym Methesda. Wedi’i harwain gan Emily Meillieur a’i chefnogi gan Alys Wardle, Emily Farrell, a Catharine Moss, denodd y daith 35 o gyfranogwyr eiddgar. Ni cawsant eu rhwystro gan y glaw, a treulion amser yn astudio’r amrywiaeth gyfoethog o fryoffytau (sy’n cynnwys mwsogl, llysiau’r afu a llysiau’r afu deiliog) yn tyfu ar goed, creigiau, a waliau.

Yn dilyn lansiad y prosiect, mae’r tîm Mapio Mwsog wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau o fwsogl a’u defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar beth maent yn gweld ac yn teimlo.

Gan ddechrau gyda naw pwynt penodol yn Nyffryn Ogwen, bydd tîm Mapio Mwsog yn cofnodi ac yn arolygu mwsoglau a llysiau’r afu – gyda lensys llaw, microsgopau a’r llygad noeth. Bydd Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi yn cefnogi a hyrwyddo’r prosiect ochr yn ochr â’r tîm mwsogl. 

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y prosiect Mapio Mwsog, i gymryd rhan neu i ymuno â thaith mwsog, cysylltwch â Chris, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Ogwen (chris@ogwen.org).