Postiwyd ar

Sut brofiad ydi beicio i’r gwaith ym Mhen Llŷn? – Stori Elin

Mae Hwb Beics Pen Llŷn yn gynnig newydd wedi’i leoli yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Deilliodd o gydweithio rhwng grŵp Trafnidiaeth Werdd GwyrddNi, O Ddrws i Ddrws ac Ynni Llŷn, gyda diolch enfawr i Sustrans am roddi a rhoi benthyg rhai o’r beiciau. Am aelodaeth o £20 y mis, gallwch fenthyg beic (hyd yn oed un trydan) i gael blas ar feicio cyn ymrwymo i brynu un!

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elin Jones, a oedd yn un o’r bobl gyntaf i ymuno a benthyg beic!

Blog gan Elin Jones

Dros y mis diwetha’ ‘ma wrth ymaelodi a Hwb Beics Pen Llŷn dwi wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle o logi un o’u beics trydan. Hoffwn ddiolch i GwyrddNi am y cyfle gwych. Dyma ‘chydig o’r hanes.

Nôl ym mis Mai bu rhaid i mi sgrapio nghar bach ffyddiog o rai blynyddoedd ac adeg honno, efo pres yn brin, esi ati i ddechrau meddwl sut yn y byd fedrwn i fyw yma- yn ganol nunlla – heb gar.

Fues i’n meddwl am fysus, cerdded, reidio beic a beic trydan ond y gwir amdani ydi nes i fethu.. tro ‘ma. Ar ôl pythefnos o ddibynnu ar mam am liffts i’r gwaith (diolch Mam), bod yn styc adra a dal bysus prin Rhydyclafdy rois i’r ffidl yn y tô a sylwi fo’ raid mi brynu car a dyna fo. Ges i hanes car ail-law, ryn abowt bach digon rhad – felly dyna fu. Rhaid mi gyfadda mae o wedi bod yn handi iawn dros y haf *tagu* gaeaf ‘ma a swni wedi stryglo bod hebddo, ond…

 Yn y cyfnod ‘na heb gar, ro’n i wedi penderfynu mod i eisiau dibynnu llai arno fo. Roeddwn i wedi bod yn edrych ar feics trydan ond mod i’n methu fforddio un. Yn fy nghawod-feddwl ac wrth holi o gwmpas ddes i glywed am yr Hwb Beics – prosiect ar y cyd rhwng GwyrddNi ac mentrau cymunedol eraill fel Ynni Llŷn ac O Ddrws i Ddrws. Roedd ‘na feics trydan ar gael i’w defnyddio i’r gymuned ac roeddwn i ar dȃn isio cael treialu un a defnyddio un mor aml a medrwn i dros yr haf! Sgwn i pa mor bosibl ydi hi i mi fyw yma heb gar, go iawn?

Wedi Cyfarfod Dafydd yng Nghongl Meinciau a gweld y beics oedd ar gael, ges i gyfle i fynd am sbin bach rownd y maes parcio i ddod i ddallt y dalltings. Mae ‘na 4 cic gwanhaol sy’n mynd o ‘chydig bach o help gan y beic i chydig bach mwy o help gan y beic- ‘‘eco’ ‘tour’ ‘sport’ a ‘turbo’ – a 10 ger. Aiff y beic ddim i nunlla heb i mi badlo. A dyna ni! Syml. Mond arfer reidio’r beic ar y lôn oedd eisiau gwneud wedyn. Mae’r beic s’gen i yn plygu ‘chydig, yr handlebars yn dod i lawr felly’n gallu ei ffitio i’r car. Grêt!

Diwrnod wedyn a helmet ar ‘y mhen a fest lachar amdanaf mi gychwynnais i i’r gwaith. I Lanbedrog fysa’n reid gyntaf – tua 5 milltir traws gwlad o Fadryn tuag at yr arfordir. Bendigedig. Ac am y tro cynta’ i mi gofio erioed mi fedrais i fynd yna ac o’no yr holl ffordd heb orfod dod oddi ar y beic a’i wthio fyny allt. Waw! Mae’n brofiad gwanhaol reidio beic fel hyn ac mae’n teimlo’n grêt – mi ddoi eto.

Gweithio ar feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fydda i dros yr haf rŵan yn rhai o fannau arbennig a bellach prysuraf Llŷn –  Llanbedrog, Porthdinllaen, Porthor a’r pentra dela’ ym mhen draw’r byd – Aberdaron. Mae hi’n braf gallu defnyddio’r beic trydan i fynd yno.

Dwi’n cael defnydd rheolaidd o’r beic – i fynd i’r gwaith a thu allan i’r gwaith hefyd. Mae gen i fag bach yn sownd ar ei ochr lle fedrai gario be dwi angen ac weithiau mynd â’r charger os dwi’n meddwl mynd yn bellach. Er – mae’r batri’n para’n wych ac mi aiff i Aberdaron ac yn ôl (sydd yn 13 milltir bob ffordd) – dim problem! Mae ceir yn reit dda am adael digon o le ar y cyfan, a dwi’n hapus fy myd yn mynd o amgylch y lle efo’r beic.

Dwi ’wrth fy modd ar y beic ac mae’n gyfle gwych i gael defnydd bob-dydd o feic trydan am bris hynod o resymol fedrai ei fforddio. Mae’r cyfle hwn hefyd wedi chwarae rhan fawr i mi ddod yn fwy cyfarwydd â gwaith GwyrddNi fel mudiad cymunedol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd.

Wrth ‘mi lifo lawr y lonydd cefn a’r gwynt yn fy ngwyneb dwi’n cael amser i feddwl a gwerthfawrogi bob dim. Mae’r awyr yn las hapus. Pinc y blodyn neidr a phiws y bysedd cwn yn neidio allan o’r cloddiau gwyrdd gwyllt. Mae ’na ogla’ gwair. Ogla’ allan. Ogla’ bywyd. Dwi’n gweld adar – llwyth o adar!  Lot o adar ysglyfaethus mawr, yn isel, yn hofran, ar bolyn letric-  barcyd coch, bwncath ac adar bach y bore – un melyn llachar! Dwi’n gweld y byd o bersbectif gwahanol am ‘chydig.

Mae’n newid positif, yn gyfla ac yn ffres. Mae’r ymarfer corff ac yr awyr iach yn gwneud lles. Mae’r lonydd diddiwedd fel afonydd drwy’r tir a minnau’n padlo’n braf ond yn ystyried fy rôl fy hun yn y gymuned ac am newidiadau bach fedra’i wneud i droedio’r ddaear yn ‘sgafnach.

–

Os ydych eisiau benthyg beic, cysylltwch hefo Dafydd ar dafydd.rhys@ynnillyn.cymru


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

Dyma bost blog gan Trey, sy’n byw ym Mhenygroes. Mae Trey yn dod yn wreiddiol o Mississippi ac mae wedi taflu ei hun i weithgareddau cymunedol ers symud i Gymru wyth mlynedd yn ôl. Roedd Trey yn aelod o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, ac mae’n un o’r bobl frwd y tu ôl i’r syniad o’r Cwt Piclo.

Bydd y Cwt Piclo wedi’i lleoli yng nghefn yr hen swyddfa bost ym Mhenygroes – tra bydd blaen yr adeilad yn ganolbwynt bwyd gwyrdd, yn gartref parhaol i’r pantri cymunedol ac yn ganolbwynt bwyd gan gynhyrchwyr lleol.

Cysylltwch â Siôn ( nantlle@gwyrddni.cymru ) am fwy o wybodaeth neu i fod yn rhan o hyn!

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle – gan Trey

Nos Lun y 24ain o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod y Cwt Piclo, sef criw newydd yn Nyffryn Nantlle sy’n mynd ati i ddysgu am sut mae pobl wedi cadw bwyd ers talwm ac i gyflwyno ffyrdd a thraddodiadau newydd o biclo, bragu a ffermentio bwyd.

Pam cwt piclo?

Mae nifer o bobl wedi troi’n ôl at yr ardd i dyfu llysiau a ffrwythau’u hunain. Dyma gam arall, i ddysgu sut i drin y bwyd unwaith fod y cynhaeaf wedi cyrraedd, yn enwedig pan mae gormodedd o gnwd wedi aeddfedu ar unwaith. Yn lle poeni am be i wneud efo llwyth o riwbob neu fresych, rydym ni’n hel ryseitiau i wneud siytni neu kimchi.

Trey leading a session on creating kombucha

Edrychwn ymlaen felly at bryd ddaw mwy o lysiau a ffrwythau at y bwrdd wedi’r cychwyn oer i’r tymor garddio rydym wedi ei brofi. Yn y cyfamser, rydym yn hel ryseitiau a’u rhannu efo’n gilydd.

Creu Kombucha

Rydym wedi cynnal dau weithdy ar siytniau riwbob ac ar kombucha, diod o de wedi’i fragu â meithriniad symbiotaidd o furum a bacteria.

Mae diddordeb mewn kombucha yn tyfu ar draws y byd oherwydd pa mor hawdd yw i’w fragu. Te a siwgr yw’r unig anghenion, efo ambell litr o ddŵr Eryri a chwpwrdd i anghofio amdano am wythnos.

Efallai fod bragu kombucha’n ymddangos fel rhyw ffansi’r funud, ond mae newidiadau bach yn medru helpu i ni i ailgysylltu i be rydym ni’n ei fwyta a pham.

O ble ddaeth y syniad?

Ffurfiwyd y Cwt Piclo fel ymateb i newid hinsawdd yn Nyffryn Nantlle, fel rhan o gynulliadau Gwyrddni yn 2022-23. Rydym yn ailafael ar ein bwyd i drio lleihau’r egni a ddefnyddir i’w dyfu, i’w drin a’i gludo, ac i greu cymuned fwy gwydn sy’n barod am unrhyw aflonyddiadau i’n systemau bwyd.

Ail gyfarfod y Cwt Piclo, gyda Rachel yn cyflwyno ei Siytni Riwbob!

Wrth lenwi poteli a phacio jariau, rydym yn magu’r galluog o weld potensial lle bynnag rydym yn ei edrych. Pats heulog o dir gwag, coeden anghofiedig â ffrwythau aeddfed, a hyd yn oed y silff bwyd yn yr archfarchnad sy â bwydydd sy wedi mynd heibio’r dyddiad ar y pecyn. Rwy’n arfer mynd at y silff yma i weld be fedraf yn rhoi mewn jar i’w ffermentio. Wythnos diwethaf des i adra efo tri chilo o fefus a chilo o ffa gwyrdd. Pwy a ŵyr be ffeindiwn i wythnos yma?

Mae bodlondeb dwfn mewn cymryd bwyd dros ben a’i drawsffurfio i mewn i gynnyrch newydd, i achub rhywbeth a fyddai wedi’i wastraffu er mwyn i gyflwyno ar newydd wedd.

Mae’n cyffwrdd ar rywbeth ynom ni fel pobl, rhyw ysu rydym ni’n ei deimlo, rhyw olwg dan ni’n codi at y gorwel cyn mynd i mewn ar ddiwedd y dydd. Ac mae rhannu hyn efo gweddill y Cwt Piclo wedi bod yn llawenydd pur.

Mewn tymor o etholiadau a dadleuo, mewn byd sy’n crynu dan derfysg a rhyfel, rydym angen cyfle i ddod at ein gilydd a dathlu rhythm y tymhorau, i atgoffa’n hunain na gorthrymder a phoen yw diben ein bywydau. Dyma ffordd i ni gofio’r pethau bychain.


Ni fydd potel o kombucha yn arwain at chwyldro’n cymdeithas neu’n meddyliau ni. Ond mae wedi bod yn cychwyn da i rai ohonom ni yn Nyffryn Nantlle. Edrychaf ymlaen at be a ddaw nesaf.


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Marchnad Lleu – Hybu Tyfwyr a Chrewyr Lleol yn Nyffryn Nantlle

Dechreuwyd Marchnad Lleu o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu doniau a’u cynigion.

Y tîm Marchnad Lleu (o: marchnadlleu.co.uk)

Gall ymwelwyr bori trwy stondinau sy’n llawn danteithion cartref, cynnyrch o ffynonellau lleol, ac eitemau crefftwaith hardd, yn ogystal â mwynhau bwyd cartref a panad am bris rhesymol yn Caffi Tylluan.

Caffi Tylluan

Ond y mae Marchnad Lleu yn llawer mwy na marchnad; mae’n fan cyfarfod lle mae cymdogion yn dod at ei gilydd i gysylltu, sgwrsio a chefnogi ei gilydd. Mae yna sesiynau gwybodaeth ar bopeth o hylendid bwyd i ddefnyddio perlysiau gan arbenigwyr lleol, yn ogystal â gweithgareddau sy’n hwyl i bawb fel dawnsio salsa neu blannu hadau. Mae elusennau hefyd yn cael y cyfle i gael stondin a chodi arian heb dâl.

“Rydym wedi cael gweithdy gwneud papur, cyfarfod anifeiliaid (i blant), sgwrs Gwyddoniaeth Hinsawdd i Ddechreuwyr, hyfforddiant diffibriliwr, cyfnewid gwisg ysgol – pob math o bethau!” meddai Michelle, Trysorydd Marchnad Lleu. “Rydyn ni’n trio cael rhywbeth i bawb, ac mae yna thema bob mis.”

Roedd y tîm craidd tu ôl i Farchnad Lleu eisoes wedi cyfarfod trwy grŵp Gwrthryfel Difodiant (XR) yn Nyffryn Nantlle. Daethant yn ôl at ei gilydd yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi, lle penderfynwyd ffurfio Caffi Trawsnewid ym Mhenygroes. Daeth Marchnad Lleu i’r amlwg yn ddiweddarach fel ymateb i’r angen a’r awydd am ddewisiadau amgen cynaliadwy ac ymgysylltiad cymunedol.

“Rydyn ni’n gobeithio annog yr economi gylchol leol gan ein gwneud ni’n hunangynhaliol ac yn hunanddibynnol,” dywed y tîm ar eu gwefan newydd.

Os ydych yn gynhyrchydd lleol sy’n awyddus i rannu’ch creadigaethau neu’n aelod o’r gymuned sydd yn awyddus i gefnogi busnesau lleol, bydd croeso cynnes i chi ym Marchnad Lleu. 

Cynhelir Marchnad Lleu ar 3ydd dydd Sadwrn y mis yn Neuadd Goffa, Penygroes – 10yb-1.30yp. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth: https://marchnadlleu.co.uk neu ymunwch â’r grŵp Facebook i wneud yn siwr nac ydych yn colli’r newyddion diweddaraf.


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen

Emil Meillieur yn arwain Taith Mwsog yng Ngŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

“Waw – roedd honno’n foment iwfforig!” gwennodd Rhian, Cydlynydd Prosiect GwyrddNi, y tro cyntaf iddi weld mwsogl yn agos drwy lens llaw. Roedd hi newydd ddychwelyd o’r Daith Mwsog, rhan o Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen yn Nhregarth, lle’r oedd criw o tua 40 o oedolion a phlant â diddordeb wedi mentro i’r coed gyda’r tîm Mapio Mwsog – ac nid hi oedd yr unig un a chafodd ei tharo gan y harddwch o weld mwsogl yn agos.

Drwy gydol yr Ŵyl Hinsawdd, gwelais bobl yn cerdded i fyny at stondin Mapio Mwsog ac yn syllu mewn rhyfeddod trwy ficrosgopau ar rywbeth y byddent fel arfer yn ei anwybyddu. Yn naturiol, roeddwn i eisiau darganfod mwy, felly siaradais â rhai o’r ‘tim mwsogl’ craidd.

Mae Mapio Mwsog yn un o syniadau prosiect Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Ogwen, er bod y ‘tîm mwsog’ wedi bod yn dysgu ac addysgu am fwsog ers llawer hirach. Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r ecolegydd ac artist Emily Meilleur wedi bod yn arwain teithiau cerdded mwsog yn Nyffryn Ogwen. Ar ôl ychydig, daeth ei ffrindiau Emily Farrel ac Alys Wardle i ymuno â hi, a treulion lawer o Suliau hir dros y gaeaf gyda’i gilydd yn cerdded trwy goedwigoedd gyda lensys llaw, yn chwilio am fwsogl a dysgu amdano.

“Ar ôl tyfu i fyny mewn coetir, fy maes diddordeb yw sut mae pobl yn cysylltu â’r amgylchedd,” meddai Alys. “Yng Nghynulliadau Hinsawdd GwyrddNi, roedd yn rhaid i ni ddewis pwnc i ganolbwyntio arno, a fy angerdd pennaf yw mwsog… faint o lawenydd y mae’n ei ddod â chi, pa mor brydferth yw hi, a pha mor wych ydi hi i fod tu allan. Roedden ni eisiau rhannu’r hyn roedden ni wedi bod yn ei wneud gyda’r gymuned ehangach.”

Pam mwsog?

I lawer ohonom, mae’n debyg bod mwsogl yn rhywbeth nad ydym yn talu llawer o sylw iddo. Ac eto mae rhwng 12,000 a 15,000 o rywogaethau o fwsogl wedi’u cofnodi – ac maen nhw’n llawer pwysicach, a mwy diddorol, nag y byddech chi’n meddwl.

Mae mwsoglau yn arbenigwyr ar ddal a storio carbon deuocsid o’r atmosffer, yn ogystal ag amsugno llygredd aer. Roeddwn i’n arfer meddwl bod mwsogl yn tyfu ar fy mhridd yn rhywbeth i boeni amdano, ond nawr rydw i wedi dysgu ei fod yn helpu i atal erydiad pridd, ac yn helpu i reoli tymheredd y pridd a chadw lleithder. Mae mwsog yn cyfrannu at greu ecosystemau iach sy’n cefnogi bioamrywiaeth ac yn  wytn yn erbyn amrywiadau yn yr hinsawdd.

Gallai mwsoglau hefyd ein helpu i fonitro newidiadau cynnil yn ein hamgylchedd:

“Maent yn ddangosyddion gwych o ansawdd aer, ac o fetelau trwm yn yr amgylchedd;” mae Robin Wall-Kimmerer yn dweud, awdur y llyfr Gathering Moss, “gan nad oes ganddyn nhw epidermis, maen nhw’n agos at y byd. Storïwyr ydyn nhw.”

Mae mwsoglau hefyd yn ran greiddiol o stori ein planed werdd: gwnaethant esblygu o algâu gwyrdd tua 470 miliwn o flynyddoedd yn ôl, sy’n eu gwneud nhw yn un o’r planhigion tir cynharaf – mewn ffordd, mae’n eu gwneud yn un o hynafiaid cynharaf bywyd planhigion y tu hwnt i’r môr .

“Yn llythrennol, dechrau bywyd ydyn nhw, bywyd gwyrdd!” meddai Emily Meilleur yn frwdfrydig pan dwi’n gofyn iddi. “A mwsoglau yw sylfaen y pridd. Unwaith mae mwsogl yn dechrau tyfu, yna fe gewch chi bridd, ac yna gallwch chi dyfu planhigion mwy, planhigion blodeuol.”

Rwy’n gwybod na fyddaf byth yn edrych ar fwsogl yn yr un ffordd eto!

Prosiect Mapio Mwsog

Wedi’i lansio’n swyddogol ar Hydref 21ain, 2023, Diwrnod Cenedlaethol Mwsogl, dechreuodd y prosiect Mapio Mwsog gyda thaith mwsogl ym Methesda. Wedi’i harwain gan Emily Meillieur a’i chefnogi gan Alys Wardle, Emily Farrell, a Catharine Moss, denodd y daith 35 o gyfranogwyr eiddgar. Ni cawsant eu rhwystro gan y glaw, a treulion amser yn astudio’r amrywiaeth gyfoethog o fryoffytau (sy’n cynnwys mwsogl, llysiau’r afu a llysiau’r afu deiliog) yn tyfu ar goed, creigiau, a waliau.

Yn dilyn lansiad y prosiect, mae’r tîm Mapio Mwsog wedi bod yn mynd â phobl ar deithiau cerdded mwsogl rheolaidd i astudio’r mwsoglau yn y dyffryn, yn ogystal â threfnu diwrnodau celf lle mae oedolion a phlant yn casglu samplau o fwsogl a’u defnyddio i ysbrydoli barddoniaeth a chelf yn seiliedig ar beth maent yn gweld ac yn teimlo.

Yn ogystal â cheisio annog pobl i arafu a sylwi ar y byd naturiol o’u cwmpas, nod prosiectau Mapio Mwsog yw cofnodi a storio gwybodaeth am fwsoglau a llysiau’r afu yn Nyffryn Ogwen. Bydd hyn yn helpu i ddarparu llinell sylfaen ar gyfer monitro yn y dyfodol ac i olrhain newidiadau dros amser, gan ddarparu mewnwelediad gwerthfawr i iechyd a gwytnwch yr ecosystem.

Gan ddechrau gyda naw pwynt penodol yn Nyffryn Ogwen, bydd tîm Mapio Mwsog yn cofnodi ac yn arolygu mwsoglau a llysiau’r afu – gyda lensys llaw, microsgopau a’r llygad noeth. Bydd Partneriaeth Ogwen a GwyrddNi yn cefnogi a hyrwyddo’r prosiect ochr yn ochr â’r tîm mwsogl.

“Mae hefyd yn gysylltiedig â’r angen i warchod natur lle yn gyffredinol. Mae Cymru, ynghyd â gweddill y byd, yn wê gymhleth o wahanol fathau o gynefinoedd, pob un yn llawn bywyd o’u gadael i’w dyfeisiau eu hunain,” meddai’r tîm. “Gall beth sy’n ymddangos yn dirwedd ddiffrwyth yn aml fod yn gyforiog o fioamrywiaeth, ar raddfa lai nag yr ydym yn ei chydnabod fel arfer… Mae’n canolbwyntio ar ymwybyddiaeth a dysgu’r grefft o arsylwi gan ddefnyddio mwsoglau a llysiau’r afu deiliog, fel ffocws.”

National moss day – 21st October 2023 – Marked in Parc Meurig, Bethesda, with a talk by Emily Meilleur and a wonder around the (very mossy) woods.

Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y prosiect Mapio Mwsog, i gymryd rhan neu i ymuno â thaith mwsog, cysylltwch â Chris, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Ogwen (chris@ogwen.org).

Gan Gwyneth Jones, Swyddog Cyfathrebu GwyrddNi

Adnoddau diddorol am fwsog:

Gathering Moss gan Robin Wall-Kimmerer (llyfr)

The Magical World of Moss, BBC: https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m001hqth/the-magical-world-of-moss-moss-ancient-ancestor-of-all-plants-and-vital-for-the-health-of-the-planet-205048

Mosses are an amazing ally for soil health – Re-Soil Foundation

Mosses are the lifeblood of plant ecosystems, say researchers – Open Access Government

7 Interesting Things About Moss -erthygl o Kew Royal Botanic Gardens

The secret world of moss, ancient ancestor of all plants and vital for the health of the planet – erthygl yn The Conversation


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Yr Wythnos Werdd Fawr – Digwyddiadau Lleol

Mae’r Wythnos Werdd Fawr yn rhedeg o Fehefin 8-16 – beth sy’n mynd ymlaen yn ein cymunedau?

Bydd Yr Wythnos Werdd Fawr yn gweld pobl ledled y wlad yn ymuno â’i gilydd mewn dathliad cenedlaethol o weithredu i amddiffyn y blaned, gan ddangos bod pobl ym mhobman ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau bob dydd i helpu creu fory gwell.

Dyma gipolwg o rai pethau sy’n mynd ymlaen yng nghymunedau GwyrddNi, gan wirfoddolwyr a’n partneriaid. Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy (Facebook, Twitter/X, Instagram).

Gweler isod am fwy o fanylion neu ewch i https://greatbiggreenweek.com/find-an-event/ i ddarganfod mwy!

Cyfnewid gwisgoedd ysgol – Bro Ffestiniog – Trwy’r wythnos!
Dewch a’chhen wisgoedd ysgol i un o’r biniau penodol – byddent yn cael eu golchi a’u rhoi i rhywun sydd eu hangen! Ysgolion: Ysgol Tanygrisiau, Bro Cynfal, Manod, Maenofferen and Bro Hedd Wyn. Ffestiniog@gwyrddni.cymru am fwy o wybodaeth

Ymweliad Retrofit – Canolfan Cymru Fydd, Penygroes – 10fed Mehefin, 6:30yh
Cyfle i weld sut mae Canolfan Cymru Fydd wedi cyrraedd statws ‘Passivhaus’ a clywed mwy am ôl-osod (retrofit). Lowri@deg.cymru i gofrestru.

Garddio – Gardd Nant, Talysarn – Dydd Llun 10fed a Mawrth 11fed, 10yb – 12yp
Ymunwch â Gardd Nant yn Nhalysarn i gael eich dwylo i mewn i’r pridd! Garddnant@yahoo.com am fwy o wybodaeth

Cyfnewid dillad – Eglwys Crist, Penygroes – Dydd Mercher 12fed, 6:30-7:30yh
Dewch ac i fyny at 6 eitem (dillad neu gyfwisgoedd) glân o ansawdd dda i’w cyfnewid – ffasiwn newydd heb y gost! Eleri53@hotmail.com am fwy o wybodaeth

Taith beics tywys – Dechrau o Glwb Rygbi Bethesda – Dydd Mercher 12fed, 4-6yh
Ymunwch â ni am daith beics tywys o Glwb Rygbi Bethesdai Fangor. £1 hefo beic eich hun, £10 i logi un gan Beics Ogwen. Beics@ogwen.org am fwy o wybodaeth.

Garddio – Gardd Wyllt, Penygroes – Dydd Mercher 12fed, 10yb – 12yp
Cyfle i gael sgwrs, panad, cymdeithasu yn yr awyr agored, a gwneud tipyn bach o arddio. Gwenllian.yrorsaf@gmail.com

Tyfu’n Lleol – Maes y Plas, Blaenau Ffestiniog – Dydd Iau 13fed, 11yb -1yp
Dewch i ymuno â ni i blannu tatws neu beth bynnag arall sydd mynd ymlaen – croeso mawr i bawb! Ffestiniog@gwyrddni.cymru

Garddio – Gerddi Ffrancon, Bethesda – Dydd Iau 13fed, 1 – 5yh
Ymunwch hefo Barry Roberts, ein garddwr cymunedol a gwirfoddolwyr eraill i arddio yn ein gerddi cymunedol. Croeso i bawb o bob profiad. Chris@ogwen.org

Taith Natur – o amgylch Ceunant Mawr – Dydd Mercher 12fed, 6:30-7:30yh
Cyfle i archwilio sefydlu coedlannau a chynefinoedd amrywiol gyda Paul Nickson. Llawer o bethau i’w trafod. Lowri@deg.cymru am fwy o wybodaeth.

Sgwrs Ynni a Phanad – Llyfrgell Pwllheli – Dydd Gwener 14fed, 2-4yh
Dewch draw i sgwrsio ag Ynni Llŷn am bopeth ynni. Bydd paned ar gael, yn ogystal â gwobrau WWF i’w hennill. Mwy o wybodaeth: tesni.harrison@ynnillyn.cymru  

Pantri Cymunedol – Yr Orsaf, Penygroes – Dydd Gwener 14fed, 4-5yh
Dewch â bag a chymerwch unrhyw beth rydych chi eisiau i’ helpu ni leihau gwastraff bwyd! Bwyd dros ben o’r siopau am ddim.. gwenllian.yrorsaf@gmail.com

Aduniad GwyrddNi Dyffryn Peris – Gwesty Padarn, Llanberis – Dydd Gwener 14fed, 6-9yh
Mae croeso cynnes i holl drigolion Dyffryn Peris i’r aduniad cyntaf ers cwblhau Cynllun Gweithredu Hinsawdd y llynedd. Cewch gyfle i glywed am y prosiectau sydd ar droed, cynllwynio rhai o’r newydd, neu ymlacio, sgwrsio a mwynhau ychydig o gerddoriaeth gan fand Cymraeg lleol – Ofergoelus! Ateb o.g.y.dd ar gyfer niferoedd bwyta – lowri@deg.cymru

Marchnad Lleu – Neuadd Goffa, Penygroes – Dydd Sadwrn 15fed Mehefin, 10yb – 1:30yp
Marchnad gymunedol a redir gan aelodau cynulliad GwyrddNi. Tyfwyr a gwneuthurwyr lleol, bwyd, gweithdy am berlysiau, a llawer mwy. Gweler https://marchnadlleu.co.uk/

Marchnad Gymunedol Tre’ Cocos – Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth – Dydd Sadwrn Mehefin 15, 12-3yh
Diwrnod hwylus i’r gymuned hefo stondinau bwyd a chrefftau lleol, gweithgareddau i blant a diweddardiad ar “Sbarduno Penrhyn”. Merylrobs.ctpenrhyndeudraeth@gmail.com am wybodaeth.

Postiwyd ar

Dadgarboneiddio adeiladau: ymweliad â Neuadd Goffa Llanfairpwll

Mae aelodau pum ardal GwyrddNi wedi mynegi diddordeb mawr mewn dadgarboneiddio adeiladau, gyda sawl prosiect wedi cychwyn neu wrthi yn cael eu datblygu. Ar ôl gweithdy ym Mhenygroes yn gynharach eleni, gofynnodd yr aelodau rhwydwaith am gael ymweliadau i weld gwaith adnewyddu oedd wedi digwydd mewn gwahanol leoliadau yn lleol. 

Cafodd sawl lleoliad ei awgrymu, ac i Neuadd Goffa Llanfairpwll yr aeth rhai o’r criw yn gyntaf. Mae’r adborth a gafwyd yn ddefnyddiol iawn ac yn dangos i ni sut mae cyfarfod mewn person, trafod a dysgu o brofiadau a gwersi ein gilydd yn gallu bod yn werthfawr, hyd yn oed os nad ydym ar yr un math o drywydd gweithredol.

Dyma beth oedd gan rhai i’w ddweud:

“Roedd hi’n ddiddorol iawn cwrdd a bobol o neuaddau a sefydlaiadau eraill ac oedd ambell un ohonnynt efo’r un problemau a ni. Nes i fwynhau cwrdd ag arbenigwyr mewn technoleg Passivhaus hefyd ac mi fyswn i ‘di licio treulio llawer mwy o amser yn trafod a dysgu gan y bobol yma.

Roedd y cyflwyniad gan Gareth Cemlyn yn ddiddorol iawn, ac roedd yr ymweliad yn un llwyddianus. ‘Dwi wedi cael llawer o syniadau newydd ar syt i ddatblygu’n neuadd ni.”

“Nid yw sefyllfa y Neuadd yn Llanfairpwll yn debyg iawn i un ni – roeddent hefo problemau penodol yn sgil dirywiad eu neuadd dros amser – mae ein neuadd ni wedi cael ei uwchraddio yn weddol ddiweddar ac roedd eu atebion i’w problemau yn wahanol i be ‘da ni yn bwriadu ei wneud.

Serch hynny, roedd yr ymweliad yn ddefnyddiol iawn achos cafon glywed y stori o’u man cychwyn a’i taith hyd heddiw yn glir iawn.

Dysgais lot drwy wrando ar y broses roeddent wedi ei ddilyn ac o glywed Gareth Cemlyn yn son yn agored iawn am y problemau roedd wedi eu gwynebu a beth fuasai wedi ei wneud yn wahanol os y cai y cyfle eto.

Roedd yn gyfle hefyd i drafod pwyntiau mwy cyffredinol am redeg ganolfan bentrefol a clywed am wahanol ffyrdd y mae mudiadau yn delio hefo problemau a’r sialensau o wneud hyn.”


Bydd ymweliad arall i Ganolfan Cymru Fydd, Yr Orsaf, Penygroes, sydd wedi ei adnewyddu yn ddiweddar i safonnau Passivhaus. Ymunwch â ni ar nôs lun, Mehefin y 10fed am 18:30.

Croeso i bob un. Mwy o wybodaeth gan lowri@deg.cymru

Gan Lowri Hedd Vaughan


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Ail Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

Cafodd Gŵyl Hisnawdd Dyffryn Ogwen 2024 ei gynnal Dydd Llun, y 6ed o Fai yng Nghanolfan Tregarth rhwng 11yb a 4yp. 

“Roedd yn gyfle gwych i’r plant gymryd rhan yn y gweithgareddau natur amrywiol megis y daith hynod ddiddorol Mapio Mwsog, yn y bore ac yn y prynhawn roedd yr Helfa Chwilod Fawr, y daith adar a thaith siarad o amgylch Fferm Pandy a Moelyci,” meddai Maria Jones, aelod o grŵp Weithredu Hinsawdd Gymunedol a ddaeth allan o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi. 

“Roedd y daith o amgylch Fferm Pandy yn y prynhawn yn wych ac yn uchafbwynt i mi yn bersonol. Roedd llawer o ddulliau tyfu bwyd cyfeillgar i’r hinsawdd cyraeddadwy ar waith ac fe helpodd ail-wylltio eu prosiect gwlyptir ni i gyd i ailgysylltu â, a gwerthfawrogi ein hamgylchedd naturiol yn ardal brydferth Dyffryn Ogwen lle rydyn ni i gyd mor ffodus i fyw.”

Ymweliad i Fferm Pandy

Roedd llawer o weithgareddau yn mynd ymlaen drwy’r dydd – plannu hadau, codi sbwriel, creu lluniau, edrych ar fwsog hefo microsgop, a chreu bocsys nythu i adar. Yn ogystal ac arwain taith beics ar y Lôn Las, bu Beics Ogwen ar y maes yn helpu i drwsio beics, rhoi gwynt yn nheiars pobl, neu rhoi cyngor cyffredinol iddynt am feicio yn yr ardal.

Margot Saher a’i darlith am newid hinsawdd

Cawsom ddarlithoedd hefyd gan Margot Saher am y gwyddoniaeth tu ôl i newid hinsawdd, a gan Alison Cameron am ddifodiant a newid hinsawdd, yn ogystal â chwis hinsawdd mawr ar ddiwedd y dydd.

Roedd yr Ŵyl hefyd yn fan lansio i “Paned i’r Blaned”, syniad wedi ei hysbrydoli gan Climate Cafes a “People, Planet, Pint” – cyfle i bobl ddod at ei gilydd, cael paned a thrafod pethau i’w wneud a’r blaned a newid hinsawdd mewn atmosffer ymlaciol ac anffurfiol. Rydym yn gobeithio ymestyn y rhain ar draws y pum ardal GwyrddNi – mwy i ddod ar hyn yn fuan!

Fel rhan o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen. Llynedd, bu’r Ŵyl Hinsawdd gyntaf ym Methesda.

“Roedd yn galonogol gweld cymaint o bobl leol yn dod i helpu gyda’r diwrnod,” meddai Maria. “Roedd hefyd yn gyfle gwych i mi fel dysgwr Cymraeg ymgysylltu â phobl leol am faterion gwirioneddol sydd o bryder gwirioneddol yn ein cymuned leol. Profiad mor anhygoel oedd siarad yr iaith mewn lleoliad hynod bwysig ond anffurfiol, a gyda chymaint o gefnogaeth gan Gymry Cymraeg lleol. Teimlais fy nefnydd o’r iaith – er ei fod yn gyfyngedig – yn FYW.”

Os ydych chi yn ffansi bod yn rhan o drefnu Gŵyl Hinsawdd 2025, cysylltwch hefo Chris: chris@ogwen.org 


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Mae cynnig addysg GwyrddNi yn parhau!

Mae cynnig addysg GwyrddNi yn parhau! Bwriad cynnig addysg GwyrddNi yw sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ddatrys her yr hinsawdd yn eu cymunedau.

Gwnaethom hyn yn ystod cyfnod cyntaf GwyrddNi drwy gynnal rhaglen addysg oedd yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses cynulliadau cymunedol. 

Bu:

  • Sesiynau am newid hinsawdd;
  • Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol;
  • Cynulliadau plant a phobl ifanc;
  • Cyflwyniadau gan blant a phobl ifanc i’r cynulliadau cymunedol; a
  • Sesiynau gweithredu ymarferol.

Braint oedd cael gweithio gyda chynifer – 613 o ddysgwyr mewn cyfanswm – o blant a phobl ifanc deallus, brwdfrydig, creadigol, a gweithgar! 

Plant yn Nyffryn Nantlle yn cymryd rhan mewn sesiwn addysg

Pwysig oedd sicrhau fod llais y plant i’w glywed yn ystod y broses cynulliadol – wedi’r cyfan y nhw fydd yn byw yn y dyfodol rydym am ei greu. A llais pwerus oedd hwnnw! Dylanwadwyd ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd Gymunedol derfynol bob un o’r ardaloedd mewn un ffordd neu’i gilydd.  

“Roedd yn wych cael yr ymweliad gan y plant cynradd lleol hefyd, yn rhannu eu gobeithion a’u dyheadau ar gyfer y dyfodol. Roedd yn wirioneddol emosiynol. Un peth wnes i sylwi oedd yn dda iawn oedd eu bod yn eithaf ‘awyr las’ yn eu ffordd o feddwl. Dydyn nhw ddim mor gaeth i ymarferoldeb pethau ag oedolion, sy’n wych oherwydd gallwch chi golli golwg ar bethau rydych chi eisiau anelu atynt gan eich bod yn meddwl ‘o wel dydy o ddim yn ymarferol’, ond pam ddim anelu’n uchel, anelu at y canlyniadau gorau.” meddai Martyn o Gynulliad Dyffryn Nantlle.

Plant o Ben Llŷn yn cyflwyno eu syniadau i’r Cynulliad Hinsawdd

Nod arall y cynnig addysg yw magu cysylltiadau rhwng ysgolion a phobl neu grwpiau yn y gymuned sy’n gweithredu ar yr hinsawdd. Mewn rhai ardaloedd mae cysylltiadau wedi tyfu eisoes: ar ôl diwrnod o ymweliadau â datrysiadau hinsawdd lleol a drefnwyd gan GwyrddNi, mae Ysgol Uwchradd Brynrefail bellach yn anfon grwpiau o fyfyrwyr i wirfoddoli ar fferm gydweithredol ac organig Tyddyn Teg. Hefyd, ym Mro Ffestiniog, gofynnodd myfyrwyr am gael gwneud eu profiad gwaith gydag un o’r sefydliadau a fu’n rhan o’r diwrnod ymweliadau ar ôl dysgu am ei waith yn ystod y dydd.

Plant ym Mro Ffestiniog ar gylchdaith yn gweld datrysiadau hinsawdd leol

‘Roedd adborth y plant yn bositif: “Roedd o’n wych i gael y plant o oedrannau gwahanol gyda’i gilydd,” meddai Ela o Dyffryn Ogwen.

Roedd athrawon hefyd yn hapus gyda chanlyniadau’r rhaglen addysg:

“Roedd yn wych i’r plant dysgu am y pethau sy’n digwydd yn eu cymuned i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Dywedodd nifer o’r plant eu bod yn mynd i drafod Pantri Pesda a Llyfrgell y Petha gyda’u rhieni. Diolch yn fawr iawn am yr holl wybodaeth, mae’i wedi bod yn agoriad llygad go iawn i’r plant” dywedodd un athrawes am y diwrnodiau ymweld.

Nawr bod GwyrddNi wedi derbyn ail rownd o gyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn symud ymlaen i gyfnod gweithredu cymunedol. Mae’r cynnig addysg wedi newid i adlewyrchu hyn. 

Gweithredu: Ysgol Dyffryn Ogwen yn ailgylchu dillad ysgol

Medd Sara, ein Cydlynydd Addysg, “Rydym yn dal i gynnig sesiynau ar yr hinsawdd ac ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd leol ond mae’r pwyslais erbyn hyn ar weithredu – gyda chyfle i ysgolion cydweithio gyda’n hwyluswyr a’r gymuned i ddatblygu neu weithio ar brosiectau sy’n mynd i’r afael a her yr hinsawdd.

Byddwn hefyd yn cydweithio ag athrawon i ddatblygu adnoddau i’r dosbarth ar ddatrysiadau hinsawdd lleol. Unwaith mae’r gwaith gydag ysgolion wedi ei sefydlu byddwn yn edrych ar sut i ddatblygu addysg am yr hinsawdd yn ein cymunedau’n gyffredinol”.

Angharad, Swyddog Addysg newydd GwyrddNi

Datblygiad cyffrous arall ym myd addysg GwyrddNi yw penodiad Angharad Owen fel Swyddog Addysg. Mae Angharad yn ased i’r tîm, gyda llawer o brofiad o weithio efo cymunedau ac ysgolion ar brosiectau amgylcheddol a chreadigol amrywiol. Roedd yn aelod o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Peris ac felly gyda dealltwriaeth ddofn o’r hyn mae mudiad GwyrddNi yn ei gyflawni. Bydd yn gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi i weithredu ar y cynnig addysg. Croeso i’r tîm Angharad!

Dyma fideo yn dangos be ddigwyddodd yn ystod y cyfnod cyntaf o’r rhaglen addysg, a beth fydd yn digwydd yn mynd ymlaen:

Os ydych yn gweithio mewn ysgol yn un o ardaloedd GwyrddNi ac eisiau manteisio ar y cynnig addysg, cysylltwch! Cydlynydd Addysg GwyrddNi: sara@deg.cymru / 07536974982

Postiwyd ar

Egino Stori’r Tir

Mae pawb yn mwynhau stori. Un o’r pleserau mwyaf o fod yn Hwylusydd Cymunedol i fudiad GwyrddNi yw gwrando ar hanesion lleol. Mae ein pobl ifanc hefyd wrth eu bodd yn dysgu ynglŷn a’u bro a’i warchod – a dyna oedd yr hadyn gwreiddiol ar gyfer prosiect ‘Stori’r Tir Dyffryn Peris’.

Gormes y fyddin brydeinig a’u safle hyfforddi yng Ngwauncwmbrynog. Hanes y rhandiroedd comin fu yn ardal Cae’r Ddôl yn Llanberis a miri mawr ffair haf y teithwyr yn yr un fan. Ffynnon iachau fictoriannaidd Cegin Arthur. 

Yn ystod tymor yr hydref 2022, bu rhai o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn trafod eu syniadau i wireddu dyfodol iach, diogel a ffynianus i bobl ac i natur. Cyflwynwyd syniadau helaeth ganddynt, a bu i’r cynulliad oedolion eu cysidro yn ofalus cyn mynnu y dylai’r syniad arbennig hwn o gasglu a chreu storiau o’r newydd er mwyn annog gofal bro fod yn ran blaenllaw o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Dyffryn Peris.

Ers cyhoeddi’r cynllun, mae grŵp o wirfoddolwyr lleol wedi datblygu syniad y bobl ifanc ymhellach a chreu prosiect newydd er mwyn ysgogi a datblygu rhwydweithiau a gweithiau creadigol yn lleol. Mae traddodiad arbennig o gasglu a rhannu straeon yma eisioes, a gobaith mawr y prosiect hwn yw adfywio ac ail-gynnau diddordeb ynddynt ac annog mwy o gyd-weithio, cyfeillgarwch a chyd-greu cymunedol.

Yn dilyn cyfnod o ymchwilio, cynhaliwyd digwyddiad EGINO ar yr 2il o Fawrth yn Y Ganolfan, Llanberis. Caswom glywed am y syniadau cychwynnol i’r gwaith yma, a gwahodd syniadau creadigol gan y rhai a oedd wedi ymgynull.

Dyma rai lluniau o ddydd Sadwrn yr 2il o Fawrth, yn dangos amrywiaeth o eitemau a ddaeth pobl gyda nhw, pob un gyda chysylltiad â’r tir lleol. Cawsom hefyd daith gerdded a pherfformiad dan arweiniad Emily Meilleur gyda’r nod o ddod â phobl i ymdeimlad dyfnach o gysylltiad hefo’r tir.

Mae syniadau gwych hefyd wedi dod i law gan ddwy ysgol leol sy’n awyddus i gyd-weithio ag awduron ac artistiaid lleol i ail-ddychmygu chwedloniaeth ac ymchwilio enwau caeau a chofebion yr ardal.

Mae ffenest i gyflwyno syniadau creadigol sy’n cyfleu Stori’r Tir yn Nyffryn Peris ar agor tan yr 28ain o Fawrth. Bydd cyfnod creu y gweithiau yn rhedeg tan ddiwedd Gorffennaf a bydd arddangosfa yn ystod Mis Medi. A fydd eich gwaith chi yn eu plith?

Mae rhywfaint o gyllid ar gael i gefnogi cyd-weithio neu os yw costau yn rwystr i greu gweithiau, a’r symiau hynny yn ddibynol ar nifer y ceisiadau ddaw i law.

Mwy o wybodaeth yma: tinyurl.com/storirtir

 Anfonwch unrhyw ymholiad i – storirtir@gmail.com

Gan Lowri Vaughan, Hwylusydd Dyffryn Peris


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Postiwyd ar

Mae Cyfnod Gweithredu Cymunedol GwyrddNi yn Dechrau!

Efallai eich bod wedi clywed hyn yn barod –  mae GwyrddNi wedi cael cyllid am y bedair mlynedd a hanner nesaf gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau gweithredu ar y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol a greuwyd dros y dwy flynedd diwethaf! 

Yn ôl yn 2021, rhoddwyd arian gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i GwyrddNi i gynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum ardal: Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, a Dyffryn Ogwen. Y nod oedd i ddysgu, rhannu a thrafod cyn cydweithio i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn [enw’r ardal] ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?

Y chwech sefydliad tu ôl i GwyrddNi yw Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn. 

Yn ystod 2022-2023 buom yn cynnal cyfres o bedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd ym mhob ardal, lle daeth 50 o bobl o bob ardal at ei gilydd i drafod eu syniadau ac i gydweithio ar greu Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol. Bu ein rhaglen addysg yn gweithio gydag ysgolion ym mhob un o’r ardaloedd, gyda phlant ysgol lleol yn ychwanegu eu cyfraniadau at y Cynlluniau Gweithredu. Mae pob Cynllun yn dangos y syniadau yr oedd y cymunedau eisiau eu blaenoriaethu. Gallwch eu darllen yma: https://www.gwyrddni.cymru/cynlluniau-gweithredu/

Ond be’ nesaf? Beth sy’n digwydd hefo’r Cynlluniau Gweithredu yma?

Cafwyd llawer o grwpiau gweithredu eu creu trwy’r Cynulliadau Cymunedol yn canolbwyntio ar wahanol themau – megis bwyd, ynni, trafnidiaeth ac yn y blaen. Mae’r grwpiau wedi bod yn gweithredu ac yn gweithio ers tro, hefo’r hwyluswyr yn gwneud eu gorau i’w cefnogi nhw, ac yn barod rydym yn gweld pethau cyffrous yn digwydd: datblygu prosiectau bwyd cymunedol ym Mro Ffestiniog, Caffis Trwsio yn Llanrug, Llanberis a Bethel, a dros 100 o bobl wedi mynychu Gŵyl Hinsawdd ym Methesda llynedd a’r cynllunio eisioes wedi cychwyn ar gyfer eleni – a llawer mwy ar y gweill! 

Roedd rhai grwpiau yn llwyddiannus yn ennill cyllid o ffynonellau gwahanol i weithio ar eu syniadau – er enghraifft, Marchnad Lleu yn Nyffryn Nantlle: marchnad misol hefo bwyd a chrefftau lleol ar werth, gweithdai diddorol fel “Gwyddoniaeth Hinsawdd i Ddechreuwyr” a cyfle i gael paned a chyfarfod y gymuned. Y syniad ydi i fod yn farchnad hunan-gynhaliol, ond meant wedi llwyddo i gael cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’w helpu gyda gwefan a marchnata. Neu mae yna’r prosiect Ôl-Osod i Bawb gan YnNi Llŷn, lle ymunodd chwech o aelodau cynulliad Pen Llŷn â bwrdd YnNi Llŷn fel cyfarwyddwyr  – meant nawr wedi llwyddo i gael cyllid gan Cyngor Gwynedd i weithio ar wella effeithlonrwydd ynni tai yn eu hardal, ac wedi creu tair swydd newydd i siaradwyr Cymraeg lleol.

Roeddym eisiau gwneud yn siwr bod digon o adnoddau gan ein grwpiau i allu parhau, a dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni! Rydym rŵan yn hapus i gyhoeddi bod GwyrddNi wedi cael pedair blynedd a hanner o gyllid pellach gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau hefo GwyrddNi. Bydd £500,000 o gyllid ar gael i’r cymunedau, wedi ei rannu yn gyfartal dros y pum ardal, er mwyn parhau i weithredu ar y syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu. 

Yn y flwyddyn gyntaf, bydd £40,000 ar gael i bob ardal weithredu ar y syniadau a cafodd eu blaenoriaethu yn y Cynlluniau Gweithredu. Bwriad y cyllid yma ydi sbarduno syniadau, nid i’w hariannu nhw yn cyfan gwbl – ond mae’r hwyluswyr yn hapus i’ch cefnogi i ddod o hyd i gyllid arall, hefyd. 

Os ydych eisiau bod yn rhan o hyn, darllennwch am sut fedrwch chi gymryd rhan hefo un (neu fwy) o’r grwpiau gweithredu sydd wedi dod allan o’r cynulliadau yma: https://www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan. Gallwch gysylltu hefo’ch hwylysydd lleol am fwy o wybodaeth am yr arian, a byddwch yn derbyn y canllawiau ganddynt yn fuan. 

Mae gwaith addysg GwyrddNi hefyd yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill.  

Mae’r cyllid newydd hefyd yn gadael i hwyluswyr GwyrddNi barhau i wneud eu gwaith hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau eu cymunedau, ac yn ogystal mae’n ei gwneud yn bosib i gael cydlynnydd, swyddog cyfathrebu, dwy swyddog addysg, ac mae un swydd newydd cyffrous wedi cael ei greu: mentor iaith i gefnogi a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg. 

Gwahaniaeth arall ydi bydd ein hwyluswyr nawr yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y sefydliad partner yr eu hardal nhw, yn hytrach na gweithio i le canolog (DEG) yng Nghaernarfon fel yn y cyfnod cyntaf. Buom yn recriwtio drwy gydol mis Hydref a Thachwedd 2023, a mae gennym bump o bobl newydd ar y tîm GwyrddNi o’r diwedd, yn barod i fynd! Isod fe gwelwch y staff newydd yn ymweld a’r cynllun hydro Ynni Ogwen fel rhan o’u cyfnod anwytho.

Er mwyn dathlu popeth mae ein cymunedau eisoes wedi ei gyflawni, rydym yn cynllunio dathliad ar yr 17eg o Fawrth yn Neuadd Bentref Penrhyndeudraeth. Bydd hwn yn gyfle i aelodau pob cynulliad ddod at ei gilydd a chlywed am y prosiectau sydd eisoes ar y gweill, i gysylltu â chyfranogwyr o’r ardaloedd eraill ac i ddarganfod mwy am sut y gallant gymryd rhan. Os nad oeddech yn rhan o’r Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ond yn dal yn awyddus i ddod draw, cysylltwch â’ch hwylusydd agosaf am ragor o wybodaeth.


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!