Rhaglen Addysg

Concept image if green crumpled paper lightbulb, symbol of scr, innovation and eco friendly business
Concept image if green crumpled paper lightbulb, symbol of scr, innovation and eco friendly business

Mae Rhaglen Addysg GwyrddNi ar waith! 

Yn ystod 2022 a 2023 gweithion gydag 19 o ysgolion dros bum ardal GwyrddNi, sef Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Bro Ffestiniog a Phen Llŷn.

Roedd y Rhaglen Addysg yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau cyffredinol i ddysgu am newid hinsawdd, sesiynau am ddatrysiadau hinsawdd lleol, ynghŷd â chyfle i ymweld ac arlwy o ddatrysiadau hinsawdd yn lleol i bob cymuned. 

Yn dilyn hyn oll bu pob ysgol yn cynnal Cynulliad Hinsawdd ac oedd yn rhoi cyfle i ddysgwyr drin, trafod a blaenoriaethu’r hyn hoffent weld fel datrysiadau hinsawdd yn eu cymuned. Yna aeth y dysgwyr i rannu blaenoriaethau hinsawdd gyda’u Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd lleol yr oedd yn cael eu cynnal yn yr un cyfnod.

Gallwch nawr ddarllen Adroddiadau Cynulliadau Ysgolion Dyffryn Peris, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Bro Ffestiniog a Phen Llŷn.

Yn dilyn pob Cynulliad roeddym hefyd yn cefnogi’r disgyblion i weithredu un o’u prif ddatrysiadau, mewn partneriaeth â mudiad yn y gymuned os yn berthnasol (e.e. plannu coed, sefydlu dull i basio hen ddillad ysgol ymlaen, dysgu sgiliau coginio bwyd ffres, cydweithio ag ymarferydd creadigol i greu ffilm i rannu neges am ddatrysiadau hinsawdd gyda’r gymuned).

Dyma fideo yn dathlu popeth a gyflawnwyd yng nghyfnod cyntaf GwyrddNi ac yn edrych ymlaen at y cyfnod nesaf:

Yn mynd ymlaen, bydd gwaith addysg GwyrddNi yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill.  

Mae’r holl weithgareddau hyn yn rhoi ffocws i’r cyngor ysgol neu eco gyngor, yn rhoi cyfle i addysgu am ddatrysiadau hinsawdd, yn rhoi cyfle i ddatblygu llais y dysgwr, yn helpu dysgwyr o bosib i gwblhau Bagloriaeth Cymru ac yn cynnig cyfle euraidd i ddatblygu mwy o berthynas gyda mudiadau a grwpiau o fewn y gymuned leol. 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Sara Ashton-Thomas, Cydlynydd Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi ar sara@deg.cymru neu 07536974982.

Rhannwch hwn: