Postiwyd ar

Uchafbwyntiau o Gwanwyn GwyrddNi

Wrth i’r dyddiau ymestyn a phopeth ddechrau blodeuo, roedd cymunedau GwyrddNi ar draws Gwynedd yn fywiog gyda gweithgaredd yn ystod ein tymor Gwanwyn. Roedd yn gyfnod llawn cyfleoedd i gysylltu, dysgu, a chymryd camau gweithredu lleol ar hinsawdd a natur. Wrth edrych yn ôl, mae cymaint i’w ddathlu!

Dyma rai o uchafbwyntiau Gwanwyn GwyrddNi:

🫙Creu ‘picalili’, sauerkraut a ffyn moron pefriog: yn Nyffryn Ogwen, dysgodd Claire Mace i ni sut i droi bresych a moron yn rhywbeth iach fydd yn para am amser hir – gyda ei Gweithdy Eplesu a Phiclo. Yn y cyfamser, yn y Cwt Piclo yn Nyffryn Nantlle – a dyfodd allan o sgyrsiau am beth i’w wneud â chynnyrch gormodol ac sy’n anelu at leihau gwastraff bwyd – dysgon ni sut i wneud “picalili”!

🌎Steve Eaves yn ein cyflwyno i Eco-ieithyddiaeth: Mae gwaith Steve yn dwyn ynghyd angerdd dros amddiffyn y byd naturiol gydag awydd cryf i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg ac yn dangos sut y gellir darganfod byd-olwg gwahanol trwy ffenestr pob iaith. Myfyriom ar faint o eiriau sy’n ymwneud â chysylltiadau teuluol a’r tir sydd wedi mynd ar goll yn y Gymraeg a’r Saesneg. Faint o eiriau am blanhigion, er enghraifft, oedd eich hen nain yn eu hadnabod o’i gymharu â chi? A beth sy’n digwydd i’n perthynas â’r tir pan fydd y geiriau hyn yn mynd ar goll?

🌳Trafodaeth Carwyn Graves, Elinor Gwynn a Gerallt Pennant ar Yr Iaith yn y Tir: Bu’r sgwrs hon, a gynhaliwyd yng Nghaffi’r Orsaf, Pen-y-groes, yn drafodaeth hynod ddiddorol ar y berthynas rhwng iaith a thirwedd – a roedd y caffi’n llawn dop!

🌿Plannu llysiau gyda Gardd Nant: Ymunodd y cyfranogwyr â gardd gymunedol Talysarn i roi eu dwylo yn y pridd a pharatoi ar gyfer yr haf. Mae Gardd Nant tu ôl i Ganolfan Gymunedol Talysarn, ac maent yn awyddus i wirfoddolwyr ymuno – cysylltwch â garddnant@yahoo.com am wybodaeth!

Cawsom hefyd ddigonedd o hwyl yn plannu a garddio yng Ngardd Ffrancon, Bethesda; Yr Ardd Wyllt, Penygroes, a Gerddi Maes-y-Plas a Gardd Newydd, Blaenau Ffestiniog/Manod. Dysgwch fwy am brosiectau bwyd y gallwch chi gymryd rhan gyda nhw yma.

🫖Lansiodd Paned i’r Blaned ar draws ein pum ardal: Gofod cyfforddus i bobl ddod ynghyd a thrafod materion amgylcheddol drwy gyfrwng y Gymraeg, gyda chroeso mawr i ddysgwyr gael ymarfer eu hiaith wrth ehangu eu geirfa.

Cynhaliwyd ein Paned i’r Blaned cyntaf ym Mhwllheli, Blaenau Ffestiniog a Llanberis, gan barhau â’r rhai a ddechreuodd ym mis Ionawr ym Methesda a threialu sesiwn o Glwb Clebran ar thema’r hinsawdd ym Mhenygroes.

Sgyrsiau diddorol yn Llyfrgell Pwllheli gan R Gareth Wyn Jones, Rhys Williams + Siôn Williams: Ar y 3ydd o Ebrill, rhoddodd R Gareth Wyn Jones, Prifysgol Bangor, awdur Ynni a Phŵer – Ein Chwantau Peryglus ac Energy – the Great Driver, ddarlith ddiddorol iawn i ni am gyfyngiadau ein system ynni a’r hyn y gallwn ei wneud yn wahanol.

Ymunodd Sîon Williams, pysgotwr lleol, a Rhys Williams, ac ymgynghorydd amaethyddol, â ni eto ar yr 16eg i drafod sut mae newid hinsawdd wedi effeithio eu gwaith yn barod, a beth maent yn ei wneud yn wahanol, yn y drafodaeth Amaethyddiaeth, y Môr, a Bioamrywiaeth.

🍕Rhannu hadau a phitsa ym Manc Hadau Pen Llŷn: Cafon Ddiwrnod Agored ym Manc Hadau Llangwnadl i gyfnewid hadau, sgyrsiau, a phitsa wedi’i gwneud â llysiau o’r ardd.

📽️Noson ffilm – River: Cawsom nifer fawr o bobl yn Llanberis ar gyfer dangosiad River (2021), “odisi sinematig a cherddorol” sy’n archwilio’r berthynas ryfeddol rhwng bodau dynol ac afonydd.

🪡Caffis trwsio: Cynhaliwyd nifer o gaffis trwsio ym Mlaenau Ffestiniog, Penygroes a Bethel – gyda gweithdy gwadd ym Methel ar y 13eg o Ebrill ar Drwsio Gweladwy – sut i drwsio’ch dillad yn greadigol wrth weithio’r ‘atgyweiriad’ i mewn i’r dyluniad!

🐰Fe wnaethon ni hefyd bartneru â llawer o sefydliadau fel Cymdeithas Eryri, Ffiws, a Ffrindiau Pwllheli i gefnogi nifer o ddigwyddiadau cydweithredol.

Roedd yr egni a’r brwdfrydedd a ddangoswyd yn ystod Gwanwyn GwyrddNi yn ysbrydoledig. O ddyfnhau ein cysylltiad â’r tir trwy iaith a straeon i gamau ymarferol fel tyfu bwyd, lleihau gwastraff, a chefnogi bioamrywiaeth, mae ein cymunedau’n dangos gweithredu hinsawdd lleol pwerus.

Cadwch lygad allan am Haf GwyrddNi, a fydd yn digwydd rhwng Gorffennaf 19eg – Awst 3ydd!

Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i weithredu ar newid hinsawdd.

P’un a ydych chi eisiau helpu o bryd i’w gilydd gyda garddio cymunedol neu a allwch chi gymryd rhan fwy dwys yn un o’n prosiectau niferus, cysylltwch â ni! Rydym yn cefnogi grwpiau i greu cymunedau mwy bywiog a gwydn, gan ganolbwyntio ar feysydd fel ynni, trafnidiaeth, tai, bwyd, gwastraff, natur a rhannu sgiliau ac adnoddau.

Rhannwch hwn: