

Yn ystod 2022-2023 buom yn cynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum ardal yng Ngwynedd: Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris.
Roedd y Cynulliadau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd i rannu, dysgu, gwrando, trafod a chynllunio, cyn gweithredu, gan geisio ateb y cwestiwn: ‘Sut allwn ni yn [lleoliad] ymateb yn lleol i newid hinsawdd?’
Gwyliwch ein fideos am y Cynulliadau Cymunedol ar ein sianel YouTube yma.
Mae’r ffordd hon o ddod â phobl ynghyd i wneud penderfyniadau eisoes wedi gweithio’n llwyddiannus ledled y byd. A glywsoch chi am Gynulliad Hinsawdd y DU? Eu nod oedd gwneud argymhellion i Lywodraeth y DU ar sut i gyrraedd allyriadau Net Zero erbyn 2050, ac fe’i gwnaed yn rhaglen deledu ar y BBC, ‘The People V Climate Change’. Neu efallai eich bod wedi clywed am y Rheithgor Hinsawdd a gynhaliwyd ar-lein yn Kendal, neu’r Decitizenship ym Mrasil, a edrychodd ar fynediad at ddiwylliant. Y cynulliad cyntaf o’r natur hwn a gynhaliwyd yng Nghymru oedd Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent, a gynhaliwyd ym mis Mawrth y llynedd. Os oes gennych ddiddordeb gallwch ddod o hyd i ragor o enghreifftiau o wasanaethau o’r fath ledled y DU yma, ac ar draws y byd yma.
Gallwch ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin yma, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach mae croeso i chi gysylltu gyda ni.
