Postiwyd ar

Oriel Plas Glyn-y-Weddw : Partner newydd GwyrddNi ym Mhen Llŷn!

***Cyhoeddiad pwysig am GwyrddNi ym Mhen Llŷn***

Oherwydd rhesymau capasiti, mae Ynni Llŷn wedi gwneud y penderfyniad i gamu’n ôl o’u rôl o ddarparu GwyrddNi ym Mhen Llŷn.

Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Ynni Llŷn wedi’i gyfrannu at GwyrddNi dros y blynyddoedd diwethaf,ac rydym yn parhau i’w cefnogi yn eu hymdrechion yn y dyfodol.

Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae GwyrddNi ac Ynni Llŷn wedi gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i sefydliad addas i gymryd drosodd ddarpariaeth gweithgareddau GwyrddNi ym Mhen Llŷn.

Rydym yn falch o gyhoeddi Oriel Plas Glyn-y-Weddw fel ein partner newydd ym Mhen Llŷn.

Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn sefydliad elusennol â chenhadaeth gymdeithasol wedi’i leoli yn Llanbedrog. Eu prif genhadaeth yw ymgysylltu pobl â’r celfyddydau, ond mae ganddynt ethos amgylcheddol cryf hefyd – gofalu am goetir ffyniannus gyda chymorth gwirfoddolwyr, a chynnal cysylltiadau agos, hirhoedlog â’r gymuned leol.

Mae’n bleser gan Blas Glyn-y-Weddw dderbyn y cyfle arbennig yma i ymuno mewn partneriaeth gyda sefydliadau a mudiadau cymunedol eraill yng Ngwynedd er mwyn helpu i weithredu gweledigaeth GwyrddNi. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio i wireddu prosiectau cyffrous. 

Mae gan ein gweledigaeth a’n nodau yma yn y Plas lawer iawn yn gyffredin â egwyddorion Cynllun Gweithredu GwyrddNi ar gyfer Pen Llŷn, ac o ganlyniad gwelwn gyfle arbennig yma i  gario ymlaen gyda’r gwaith arbennig mae Ynni Llŷn eisioes wedi arwain arno i wireddu y weledigaeth a’r syniadau gweithredu – gan ddod a buddion amgylcheddol, ieithyddol a diwylliannol yn eu sgîl gan wella gwydnwch cymunedol i’r dyfodol.” Oriel Plas Glyn-y-Weddw. 

Credwn fod Plas Glyn-y-Weddw mewn sefyllfa dda i gario gwaith GwyrddNi ymlaen ym Mhen Llŷn, gan barhau i feithrin gweithredu hinsawdd lleol a chyfranogiad cymunedol mewn ffordd sy’n greadigol ac wedi’i seilio yr ardal leol.

Rydym yn gyffrous am y bartneriaeth hon a’r hyn y bydd yn ei olygu i ddyfodol ein gwaith ym Mhen Llŷn – a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i roi croeso cynnes i Blas Glyn-y-Weddw i’r teulu GwyrddNi.

Rhannwch hwn: