Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc yn ein hardaloedd i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.
Penderfynodd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 Ysgol Dyffryn Ogwen eu bod eisiau gwneud “sblash” mawr – a dyna pam eu bod wedi dewis mynd a’u neges i Garnifal Bethesda – gan berfformio dramâu byr a chreu “fflôt” trawiadol i’w gario yn y parêd.




Gwariodd y disgyblion amser yn addurno eu llusernau a banneri hefo Manon Prysor: gwelsom bysgodyn enfawr yn llawn plastic, a hefyd Spongebob a Patrick yn dod i gwyno am ansawdd eu cartref! Bu’r bobl ifanc hefyd yn ysgrifennu ac ymarfer eu dramau dan arweiniad yr actores Angharad Llwyd.
Wrth gynllunio daeth hi’n amlwg bod y bobl ifanc yn poeni ynghylch llygredd, gwastraff a difrod i’r byd natur, môr ac afonydd eu hardal leol – a’u bod eisiau codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd gwneud rhywbeth.
“Mae o’n warthus faint o blastig mae pobl yn lluchio i’r môr,” meddai Lloer, blwyddyn 8. “Dwi’n gobeithio bydd pobl yn sylweddoli faint o ddrwg ydi hyn i’r byd ac yn trio newid y penderfyniadau maen nhw yn eu gwneud.”
“Dwi’n gobeithio bydd pobl o’r gymuned yn dysgu parchu’r byd yn well,” dywedodd Nest o flwyddyn 8.
Cafodd y disgyblion syrpreis bach arall cyn y diwrnod mawr – roedd Heno eisiau gwneud pishyn eu gwaith, a chafodd rhai ohonynt y cyfle i ddweud eu dweud o flaen Gymru gyfan!
Dyma fideo am y broses gyfan, wedi ei greu gan Rhodri Williams:
Mwy am Ysgolion Creadigol GwyrddNi:
Fel rhan o brosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi, mae disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle wedi ysgrifennu tair cân wreiddiol hefo Gai Toms, ac wedi creu Llyfr Gwyrdd Nantlle. Bu disgyblion Ysgol Dolbadarn yn creu darn celf weledol hefo Katie Ellidge a Femke van Gent yn dangos eu gweledigaethau am ddyfodol disglair i’r Dyffryn. Ac mae rhywbeth cyffrous ar y gweill yn Ysgol y Moelwyn hefo Buddug Roberts – ewch i Ŵyl y Glaw, Blaenau Ffestiniog i ddysgu mwy!
