Postiwyd ar

Creadigrwydd yn Blodeuo er Budd Natur

Tu ol i len Haf GwyrddNi, mae disgyblion, pobl ifanc ac artistiaid lleol dawnus wedi bod yn brysur yn archwilio natur a’r argyfwng hinsawdd drwy greadigrwydd. Drwy gerddoriaeth, drama, dawns a ffilmio, mae’r cenedlaethau ifanc wedi dysgu am yr amgylchedd o’u cwmpas ac wedi rhannu eu syniadau mewn ffyrdd hwyliog ac ysbrydoledig. Mae’r prosiectau hyn yn dangos sut y gall creadigrwydd helpu i feithrin cysylltiad dyfnach â byd natur a rhoi hyder i bobl ifanc wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau.

Ysgol Bro Llifon

Bu disgyblion hoffus Ysgol Bro Llifon yn gweithio gyda Siôn o GwyrddNi, a Gai Toms, artist amlgyfrwng, ar brosiect creadigol yn canolbwyntio ar natur leol. Fel rhan o’r daith ddysgu, ymwelwyd â rhandiroedd Groeslon, lle cafwyd croeso cynnes gan Brian a Nerys, dau drigolyn lleol oedd yn rhannu eu gwybodaeth a’u profiadau melys.

Yn ystod yr ymweliad, dysgodd y plant am bwysigrwydd tyfu llysiau, ffrwythau a phlanhigion lleol, a sut mae mannau naturiol yn galluogi bywyd gwyllt i ffynnu. Rhoddwyd sylw arbennig i rôl hanfodol gwenynod yn y cylch bywyd a’r effaith gadarnhaol y maent yn eu cael ar fwyd, blodau a bioamrywiaeth.

Wedi’u hysbrydoli gan yr hyn a ddysgwyd, bu’r disgyblion yn cydweithio â Gai Toms i greu cân, rap a dawns yn dathlu gwenynod a phaill blodau, ynghyd â chreu gwisgoedd lliwgar i ddod â’u syniadau’n fyw. Aeth eu creadigrwydd gam ymhellach wrth ffilmio rhaglen newyddion ddoniol, S4G, gyda chymeriadau cofiadwy fel Bob ap Rhiwbob a Llifon ap Nionyn yn cyflwyno’r newyddion mewn ffordd hwyliog ac addysgiadol.

Daeth y prosiect i ben mewn dathliad arbennig yn Ffair Haf yr ysgol ar yr 2il o Orffennaf, lle cafodd teuluoedd gyfle i weld perfformiadau’r plant a mwynhau ffrwyth eu gwaith. Roedd y brwdfrydedd a’r balchder yn amlwg wrth i’r gymuned ddathlu popeth roedd y disgyblion wedi’i gyflawni.

Dilynwch y ddolen yma i wylio’r rhaglen newyddion a’u cân anhygoel:

Ysgolion Creadigol 2026 – YouTube

Ysgol Gynradd Llanrug

Bu disgyblion annwyl Ysgol Gynradd Llanrug yn gweithio gyda’r artist Liam Rickard ar brosiect creadigol oedd yn cyfuno cerddoriaeth, creadigrwydd ac ymgyrchu dros newid yn eu cymuned. Nod y prosiect oedd rhoi llais i’r plant wrth alw ar y Cyngor lleol i drosglwyddo darn o dir gwyrdd segur ger yr ysgol yn rhan o gae chwarae’r disgyblion.

Ar hyn o bryd, nid oes defnydd o’r tir hwn, ac mae’r plant yn awyddus i weld mwy o natur yn eu hamgylchedd ysgol yn hytrach nag arwynebau concrit. Wrth i nifer y disgyblion gynyddu, mae’r angen am fwy o le i chwarae ac i ddysgu yn yr awyr agored yn dod yn fwy amlwg. Roedd y prosiect hefyd yn gyfle i feithrin ymdeimlad o berthyn a dangos i’r plant fod eu lleisiau a’u barn yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.

Dan arweiniad Liam Rickard, bu’r disgyblion yn cyfansoddi cân a rap brotest, gan ddysgu sut i ddefnyddio alaw, rhythm a geirfa bwerus i gyfleu teimladau ac adeiladu neges glir. Gyda’i gilydd, crewyd rap a chân dair pennill oedd yn adlewyrchu eu hangerdd dros weld mwy o fannau gwyrdd yn yr ysgol.

Aeth eu syniadau ymhellach na cherddoriaeth yn unig. Bu’r plant yn creu gwaith celf, lluniadau a llythyrau at y cynghorydd lleol i gefnogi eu hymgyrch. Roedd brwdfrydedd y disgyblion mor amlwg nes bod rhai wedi parhau â’r gwaith gartref, gan greu rhagor o luniau a negeseuon i gefnogi’r achos.

Cafodd y prosiect ei arddangos yn Ffair Haf yr ysgol ar yr 2il o Orffennaf, ac mae’r disgyblion yn gobeithio anfon eu caneuon, eu lluniau a’u llythyrau at y cynghorwyr lleol. Eu dymuniad yw y bydd y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar leisiau’r dyfodol ac yn ystyried creu mwy o fannau gwyrdd er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Ers i’r prosiect ddod i ben, mae’r Cyngohrydd lleol wedi caniatau iddynt gael rhan o’r tir gwag er mwyn ei droi yn fan gwyrdd ar gyfer y disgyblion. Dyma ddangos bod llais y genhedlaeth ifanc yn bwerus ac yn gallu cael effaith gadarnhaol ar newidiadau hinsawdd yn ein cymunedau!

Dilynwch y ddolen i wylio eu cân protest: Ysgolion Creadigol 2026 – YouTube

Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen

Yn Ysgol Uwchradd Dyffryn Ogwen, bu 14 o ddisgyblion Blwyddyn 8 yn gwirfoddoli i gymryd rhan yn Haf GwyrddNi. Roedd y grŵp yn llawn o bobl ifanc brwdfrydig a blaengar, yn awyddus i ddefnyddio eu creadigrwydd i ysbrydoli newid cadarnhaol ar gyfer natur a’r amgylchedd.

Gan weithio ochr yn ochr â’r cerddor Gai Toms, cyfansoddodd y disgyblion gân wreiddiol a chreu eu dihareb eu hunain – “Hadau Heddiw, Dail Yfory” – sy’n cyfleu’r syniad bod y camau a gymerwn heddiw yn siapio’r byd y bydd cenedlaethau’r dyfodol yn etifeddu.

Aeth eu creadigrwydd y tu hwnt i gerddoriaeth hefyd. Mewn cydweithrediad â’r artist Steven Willis, dyluniodd y disgyblion logo unigryw ar gyfer y prosiect a chafodd y ddihareb ei hargraffu ar grysau-T gwyn, gan greu symbol gweledol pwerus o’u neges.

Fel rhan o’r broses greadigol, ymwelodd grŵp o’r disgyblion â Choed Meurig i gasglu ysbrydoliaeth. Wrth gerdded drwy’r goedwig, buont yn myfyrio ar y gwrthgyferbyniad rhwng prysurdeb a sŵn y dref gyfagos a thawelwch byd natur. Defnyddiwyd y profiadau hyn i lywio eu syniadau a’u gwaith creadigol.

Daeth y prosiect i ben gyda arddangosfa o’r crysau-T a pherfformiad o’r gân yn Neuadd Ogwen, lle cafodd trigolion Bethesda gyfle i weld a chlywed neges y bobl ifanc. Roedd y digwyddiad yn ddathliad o greadigrwydd, cydweithio a grym lleisiau pobl ifanc i godi ymwybyddiaeth am ofalu am ein hamgylchedd.

Gwyliwch rap rhai o’r disgyblion ar YouTube drwy ddilyn y linc isod, a cadwch lygad am gerddi gwreiddiol yn fuan:

Ysgolion Creadigol 2026 – YouTube

GISDA a Chyfle

Bu criw o oedolion ifanc GISDA a Cyfle yn cydweithio â’r artist a’r cerddor Liam Rickard ar brosiect a oedd yn cyfuno creadigrwydd, natur a chymuned. Daeth y grŵp o wahanol ardaloedd ledled Gwynedd, gyda phob unigolyn yn dod â’i ddoniau a’i sgiliau unigryw ei hun i’r prosiect. Drwy gydweithio, llwyddwyd i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig, gan gario neges bwerus – ‘Mae popeth – pobl a natur – wedi’u cysylltu’.

Gan ddefnyddio’r llwybr rhwng Plas Glyn-y-Weddw a’r amffitheatr fel eu cynfas, mae’r grŵp wedi bod yn creu cyfres o osodiadau celf naturiol i ymwelwyr eu mwynhau. Defnyddiwyd deunyddiau naturiol ac wedi’u hailddefnyddio, gan gynnwys helyg, mwsogl, cerrig a deunyddiau wedi’u hailgylchu, i greu gwaith sy’n cyd-fynd yn naturiol â’r dirwedd ac sy’n annog pobl i edrych yn nes ar y byd o’u cwmpas.

Un o uchafbwyntiau’r prosiect yw cerdd deimladwy a ysgrifennwyd gan un o’r cyfranogwyr, Hayley, sy’n myfyrio ar effaith colli coed yn ystod Storm Darragh. Y bwriad yw creu mainc bren gan ddefnyddio hen goed cafodd eu dinistrio yn ystod y storm, gyda’r gerdd ar ganfas ar gefn y fainc. Mae’r fainc a’r gerdd drawiadol yn troi colled yn symbol parhaol o obaith, adferiad a chysylltiad â natur.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae’r grŵp hefyd yn awyddus i greu gwarchodfa i drychfilod ar hyd y llwybr, gan gyfrannu at fioamrywiaeth yr ardal a chreu etifeddiaeth werdd fydd o fudd i fywyd gwyllt ac i’r gymuned am flynyddoedd i ddod.

Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn enghraifft wych o’r hyn sy’n bosibl pan fydd creadigrwydd, cydweithio a gofal dros natur yn dod ynghyd. Mae’n dangos bod gan bawb, waeth beth fo’u cefndir neu eu hoedran, y gallu i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd a’r cymunedau rydym yn eu rhannu. Diolch yn fawr i’r holl bartneriaethau, ysgolion ac artistiaid lleol am gefnogi a chydweithio ar brosiect mor bwysig a theimladwy.

Rhannwch hwn: