Taith am Iaith, Tir a Pherthyn
Drwy lith a chân, ymunwch ar daith GwyrddNi â’r Gymraeg wrth ddatgelu perthynas iaith â thir.
Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Steve Eaves mewn 5 ardal.
Dyma gyfres o 5 sesiwn llawn trafodaethau difyr, cerddoriaeth Gymraeg, a darlithoedd angerddol. Mae’n gyfle i chi ymuno â GwyrddNi a Menter Iaith Gwynedd wrth i ni dreiddio’n ddyfnach wrth ddatgelu perthynas ein hiaith â’n tir. Dyma gyfle i fwynhau nosweithiau difyr, cynnal sgyrsiau ystyrlon, mwynhau cerddoriaeth, ac ymgysylltu gyda’r ardal a’r iaith leol.
Gwelwch fwy o wybodaeth am eich ardal chi isod:
Gwyneth Glyn, Dyffryn Ogwen, 12/06/2026
Lle? Clwb Criced Bethesda, Dyffryn Ogwen.
Pryd? 7yh – 10yh.
Ydych chi’n caru cerddoriaeth, caru’r iaith a charu’ch ardal leol? Dyma’r noson i chi!
Cyfle gwych i wrando ar swynion Gwyneth Glyn a chymryd rhan mewn sgyrsiau difyr am yr iaith Gymraeg a’r cysylltiad rhwng eich iaith a’ch tir. Mi fydd danteithion a diodydd ar gael drwy gydol y noson i’w fwynhau.
Er mwyn sicrhau lle, cliciwch y linc isod ac archebwch docyn ar Eventbrite: Tocynnau Gwyneth Glyn, Dyffryn Ogwen

Steve Eaves, Pen Llŷn, 27/06/2026
Lle? Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, Pen Llŷn.
Pryd? 10yb
Ydych chi’n mwynhau trafodaethau twfn, mwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg ac yn angerddol am eich ardal leol? Dyma’r bore i chi!
Cyfle gwych i wrando ar seminar Steve Eaves a chymryd rhan mewn sgyrsiau difyr am yr iaith Gymraeg a’r cysylltiad rhwng eich iaith a’ch tir. Mi fydd danteithion a diodydd ar gael drwy gydol y bore i’w fwynhau.
Er mwyn sicrhau lle, cliciwch y linc isod ac archebwch docyn ar Eventbrite:Tocynnau Steve Eaves, Pen Llŷn

Gwilym Bowen Rhys, Blaenau Ffestiniog, 02/07/2026
Lle? Caffi Antur, Blaenau Ffestiniog, Bro Ffestiniog
Pryd? 7yh – 10yh.
Ydych chi’n mwynhau cerddoriaeth Cymraeg, mwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg ac eisiau cysylltu efo’ch ardal leol? Dyma’r noson i chi!
Cyfle gwych i wrando ar gerddoriaeth Gwilym Bowen Rhys a chymryd rhan mewn sgyrsiau difyr am yr iaith Gymraeg a’r cysylltiad rhwng eich iaith a’ch tir. Mi fydd danteithion a diodydd ar gael drwy gydol y noson i’w fwynhau.
Er mwyn sicrhau lle, cliciwch y linc isod ac archebwch docyn ar Eventbrite:

Gwyneth Glyn, Dyffryn Peris, 17/09/2026
Lle? Pizza a Peint, Llanberis, Dyffryn Peris.
Pryd? 7yh – 10yh.
Ydych chi’n mwynhau trafodaethau twfn, mwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg ac yn angerddol am eich ardal leol? Dyma’r noson i chi!
Cyfle gwych i wrando ar seminar Steve Eaves a chymryd rhan mewn sgyrsiau difyr am yr iaith Gymraeg a’r cysylltiad rhwng eich iaith a’ch tir. Mi fydd danteithion a diodydd ar gael drwy gydol y noson i’w fwynhau.
Er mwyn sicrhau lle, cliciwch y linc isod ac archebwch docyn ar Eventbrite:Tocynnau Gwyneth Glyn, Dyffryn Peris

Steve Eaves, Dyffryn Nantlle, 09/10/2026
Lle? Yr Orsaf, Penygroes, Dyffryn Nantlle.
Pryd? 7yh – 10yh.
Ydych chi’n mwynhau trafodaethau twfn, mwynhau defnyddio’r iaith Gymraeg ac yn angerddol am ffyniant eich ardal leol? Dyma’r noson i chi!
Cyfle gwych i wrando ar seminar Steve Eaves a chymryd rhan mewn sgyrsiau difyr am yr iaith Gymraeg a’r cysylltiad rhwng eich iaith a’ch tir. Mi fydd danteithion a diodydd ar gael drwy gydol y noson i’w fwynhau.
Er mwyn sicrhau lle, cliciwch y linc isod ac archebwch docyn ar Eventbrite:


Gweithio mewn partneriaeth â Menter Iaith Gwynedd.
