Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn.
Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol. Diolch iddynt am eu cyfraniadau brwd!
Darllenwch fwy yma neu gwyliwch y fideo:
Nawr, mae plant yn cael y cyfle i weithredu ar eu syniadau!
Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau addysg hwylus, rhyngweithiol i blant oed cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a be sy’n ei achosi. Ar ddiwedd pob sesiwn mae’r plant yn cyfrannu at ddatblygu syniadau gweithredu yn eu cymunedau – ac yna yn cael cynnig i weithredu ar y syndiadau yma eu hunain, yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau dysgu pellach. Dyma ni’r cynnig:
- Sesiwn Hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod teimladau ynghylch newid hinsawdd, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd.
- Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!).
- Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr. Mae hyn (o fewn rheswm!) i fyny i’r plant a byddwn yno i’w cefnogi.

Y nod yw galluogi’r plant i gyd-weithio ag eraill yn eu cymuned i weithredu ar yr hinsawdd ac i ddeall sut mae eu gweithredu’n cyfrannu at ymateb i newid hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gwneud cysylltiadau ag eraill yn eu cymuned a mynd ati i wneud rhywbeth i daclo her yr hinsawdd hefyd yn helpu i leddfu gôr bryder am yr hinsawdd.
Mae’r arwyddion cynnar yn addawol: neidiodd nifer y plant oedd yn deud y buasent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau.
Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i ymateb i feysydd gweithredu cynllun gweithredu hinsawdd eu hardal nhw.
Dyma flas o beth sydd wedi bod yn digwydd ac ar y gweill:
Dyffryn Ogwen
- Ymweliadau i gynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
- Cydweithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi ysgolion.
- Ymchwilio patrymau teithio i’r ysgol ac adnabod ac ymateb i heriau teithio yno mewn modd mwy ‘actif’.
Dyffryn Peris
- Cymryd rhan ym mhrosiect Stori’r Tir – sef prosiect i drigolion y dyffryn ail ddarganfod ac ail berchnogi hanes eu tîr.
- Tyfu bwyd efo Fferm Tyddyn Teg a phlannu perllannau efo Prosiect Natur Llanddeiniolen.
- Taclo Jac y Neidiwr yn Llanberis hefo Cymdeithas Eryri.
Bro Ffestiniog
- Hel ac ail-ddosbarthu gwisgoedd ysgol holl ysgolion yr ardal.
- Datblygu cynllun coridorau bioamrywiaeth ar dir yr ysgol gan ymestyn allan i’r dref a’r dyffryn islaw.
Pen Llŷn
- Ymweld â’r prosiect Morwellt – a gwneud crysau-T yn hysbysebu’r pwysigrwydd o adfer Morwellt.
- Cyd-weithio cynnar ar gynllun rhannu beics.
Dyffryn Nantlle
- Cydweithio gyda phartneriaid i ddatblygu gerddi ysgolion.
- Mapio ein cynefin (gweler y blog yma am Ysgol Rhosgadfan)




Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu!
Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.
Rydym wrthi’n datblygu cynigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan!
Mae’r daith yn un cyffrous ac rydym wedi gwneud cychwyn cadarn arni! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Sara, ein Swyddog Addysg: sara@deg.cymru
