Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc Dyffryn Nantlle i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.
Ym mis Tachwedd llynnedd, gwnaethom alwad agored am artistiaid, beirdd, adroddwyr straeon a phob math o ymarferwyr creadigol a oedd eisiau cydweithio hefo ysgolion i gyfleu eu negeseuon hinsawdd.
Dewisodd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle i weithio hefo’r cerddor ac awdur Gai Toms, ac rydym wrth ein bodd hefo’u hallbwn: tair cân wreiddiol a Llyfr Gwyrdd Nantlle.
Llyfr Gwyrdd Nantlle
Mae’n siwr eich bod yn nabod nofel wych Manon Steffan Ros – Llyfr Glas Nebo – sydd wedi ei osod mewn dyfodol tywyll iawn yn Nyffryn Nantlle. Fel gwrthwenwyn i’r neges yma, penderfynodd y disgyblion eu bod eisiau creu Llyfr Gwyrdd Nantlle, sef casgliad o gelf, barddoniaeth a gweledigaethau positif ar gyfer dyfodol y Dyffryn, ond sydd hefyd yn cynnwys rhybuddion am newid hinsawdd.
Cliciwch ar glawr y llyfr i’w ddarllen fel flipbook, neu cliciwch yma i’w weld fel PDF statig.
Gwrandewch ar ganeuon gwreiddiol y bobl ifanc yma:



Ffilm
Dyma ffilm fer am y broses gan Hedydd Ioan. Mae is-deitlau yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael drwy glicio’r eicon is-deitlau ar y gwaelod-dde (a settings i newid yr iaith)!
Mwy o’r hanes

Dechreuodd Gai Toms drwy fynd â disgyblion blynyddoedd 7-12 am dro o gwmpas eu cynefin hefo’r hanesydd lleol, John Dilwyn, er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o’u hanes a’u natur leol.
Roedd yn rhaid bod hyn wedi sbarduno cariad at gynefin y disgyblion, yn ogystal â’u creadigrwydd!
Dros fis Mehefin a Gorffennaf, bu’r disgyblion yn brysur yn ysgrifennu, arlunio, cyfansoddi, canu a recordio tair cân newydd hefo Gai. Cafodd llwyth o waith celf wych ei gynhyrchu, erthygl bapur newydd, drama fer, a cherfluniau paper mache – a llawer mwy – yn ogysgtal â’r tair cân arbennig – Cwm y Cerrig, y Llithr a’r Llethr a Pigavo, sydd wedi dal gwir ysbryd y prosiect.
“Er ein bod ni’n bobl ifanc, mi allwn ni wneud rhywbeth am newid hinsawdd,” meddai Cadi o flwyddyn 10. “Ein dyfodol ni ydi o – a hyd yn oed os nad oes neb yn gwneud rhywbeth amdano fo, mi fedrwn ni.”

Bydd y copi caled (gwreiddiol) o Lyfr Gwyrdd Nantlle ar gael i’w weld yng Nghaffi’r Orsaf yn ystod gwyliau’r haf.
Fel rhan o’r prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi, bu disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn cymryd rhan yng Ngharnifal Bethesda: yn creu fflôt i’r parêd a pherfformio cyfres o ddramâu byr yno. Gwnaeth disgyblion Ysgol Dolbadarn ddarn celf weledol hefo Katie Ellidge a Femke van Gent, yn dangos eu gweledigaethau am ddyfodol disglair i’r Dyffryn. Ac mae rhywbeth cyffrous ar y gweill yn Ysgol y Moelwyn hefo Buddug Roberts… mwy i ddod yn fuan!
Mae GwyrddNi hefyd yn gweithio hefo Ysgolion mewn pum ardal (Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Pen Llŷn, Bro Ffestiniog a Dyffryn Peris) i ddysgu plant am eu cynefin a’r hinsawdd – ac am ddatrysiadau posib. Rydym wedyn yn eu cefnogi i ddod a’u syniadau yn fyw trwy brosiectau fel creu gardd wyllt neu fapio eu cynefin – cysylltwch hefo ni os ydych eisiau i GwyrddNi weithredu hefo eich ysgol chi!
