Postiwyd ar

Swydd Newydd – Swyddog Addysg GwyrddNi

a logo for GwyrddNi and the National Lottery Community Fund next to each other in a line

This is advertisment for the role of GwyrddNi Education Officer for which fluency in Welsh is essential.

Mae DEG yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus, sydd yn gyfathrebwr da ac wrth eu boddau’n ysbrydoli a gweithio gyda phlant, bobl ifanc ac oedolion, i gyfrannu at gyflawni gwaith addysg mudiad GwyrddNi.

Fydd y Swyddog Addysg yn gyfrifol am gydweithio gyda thîm GwyrddNi i drefnu a chyflwyno arlwy o brofiadau addysgol o ansawdd i gyd fynd â, a chyfrannu at, Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol ardaloedd GwyrddNi. Bydd hyn yn cynnwys, dan arweiniad y Cydlynydd Addysg, gweithio gyda’r Hwyluswyr Cymunedol a phartneriaid yn y gymuned i ddatblygu, cynllunio, trefnu, cyflwyno a chofnodi profiadau addysgol.

Bydd y gwaith yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid cymunedol, ysgolion, colegau, darparwyr addysg i oedolion, cyrff eraill sy’n darparu profiadau addysgol, ac yn y gymuned. Bydd y gwaith yn cynnwys gweithio gyda phlant, bobl ifanc, ac oedolion.

Bydd y sawl a benodir yn chwarae rhan allweddol wrth i GwyrddNi greu mudiad gwybodus a medrus i weithredu ar faterion hinsawdd.

Rydym yn chwilio am berson sydd â phrofiad o weithio ym maes amgylchedd, y gymuned, a/ neu addysg ac sydd â phrofiad o drefnu a chyflwyno profiadau addysgol i blant a/neu oedolion.

Am fanylion pellach cliciwch ar y linc isod ar gyfer Pecyn Swydd.

Pecyn swydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r swydd hon, mae croeso i chi gysylltu â Andy Charles-O’Callaghan drwy e-bost yn y lle cyntaf, byddai o’n hapus i drefnu galwad ffôn gyda’r Cydlynydd Addysg os hoffech chi:

andy@deg.cymru

Gwnewch gais trwy anfon CV i Andy yn amlygu’r holl brofiad perthnasol a llythyr eglurhaol yn egluro pam rydych chi eisiau bod yn rhan o GwyrddNi a beth fyddwch chi’n ei ychwanegu at y mudiad. Dyddiad cau bydd 29 Ionawr. Bydd y cyfweliadau ar yr 11 Chwefror os yr ydych yn llwyddiannus.

Rhannwch hwn: