Postiwyd ar

Sut brofiad ydi beicio i’r gwaith ym Mhen Llŷn? – Stori Elin

Mae Hwb Beics Pen Llŷn yn gynnig newydd wedi’i leoli yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Deilliodd o gydweithio rhwng grŵp Trafnidiaeth Werdd GwyrddNi, O Ddrws i Ddrws ac Ynni Llŷn, gyda diolch enfawr i Sustrans am roddi a rhoi benthyg rhai o’r beiciau. Am aelodaeth o £20 y mis, gallwch fenthyg beic (hyd yn oed un trydan) i gael blas ar feicio cyn ymrwymo i brynu un!

Ysgrifennwyd y blog hwn gan Elin Jones, a oedd yn un o’r bobl gyntaf i ymuno a benthyg beic!

Blog gan Elin Jones

Dros y mis diwetha’ ‘ma wrth ymaelodi a Hwb Beics Pen Llŷn dwi wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle o logi un o’u beics trydan. Hoffwn ddiolch i GwyrddNi am y cyfle gwych. Dyma ‘chydig o’r hanes.

Nôl ym mis Mai bu rhaid i mi sgrapio nghar bach ffyddiog o rai blynyddoedd ac adeg honno, efo pres yn brin, esi ati i ddechrau meddwl sut yn y byd fedrwn i fyw yma- yn ganol nunlla – heb gar.

Fues i’n meddwl am fysus, cerdded, reidio beic a beic trydan ond y gwir amdani ydi nes i fethu.. tro ‘ma. Ar ôl pythefnos o ddibynnu ar mam am liffts i’r gwaith (diolch Mam), bod yn styc adra a dal bysus prin Rhydyclafdy rois i’r ffidl yn y tô a sylwi fo’ raid mi brynu car a dyna fo. Ges i hanes car ail-law, ryn abowt bach digon rhad – felly dyna fu. Rhaid mi gyfadda mae o wedi bod yn handi iawn dros y haf *tagu* gaeaf ‘ma a swni wedi stryglo bod hebddo, ond…

 Yn y cyfnod ‘na heb gar, ro’n i wedi penderfynu mod i eisiau dibynnu llai arno fo. Roeddwn i wedi bod yn edrych ar feics trydan ond mod i’n methu fforddio un. Yn fy nghawod-feddwl ac wrth holi o gwmpas ddes i glywed am yr Hwb Beics – prosiect ar y cyd rhwng GwyrddNi ac mentrau cymunedol eraill fel Ynni Llŷn ac O Ddrws i Ddrws. Roedd ‘na feics trydan ar gael i’w defnyddio i’r gymuned ac roeddwn i ar dȃn isio cael treialu un a defnyddio un mor aml a medrwn i dros yr haf! Sgwn i pa mor bosibl ydi hi i mi fyw yma heb gar, go iawn?

Wedi Cyfarfod Dafydd yng Nghongl Meinciau a gweld y beics oedd ar gael, ges i gyfle i fynd am sbin bach rownd y maes parcio i ddod i ddallt y dalltings. Mae ‘na 4 cic gwanhaol sy’n mynd o ‘chydig bach o help gan y beic i chydig bach mwy o help gan y beic- ‘‘eco’ ‘tour’ ‘sport’ a ‘turbo’ – a 10 ger. Aiff y beic ddim i nunlla heb i mi badlo. A dyna ni! Syml. Mond arfer reidio’r beic ar y lôn oedd eisiau gwneud wedyn. Mae’r beic s’gen i yn plygu ‘chydig, yr handlebars yn dod i lawr felly’n gallu ei ffitio i’r car. Grêt!

Diwrnod wedyn a helmet ar ‘y mhen a fest lachar amdanaf mi gychwynnais i i’r gwaith. I Lanbedrog fysa’n reid gyntaf – tua 5 milltir traws gwlad o Fadryn tuag at yr arfordir. Bendigedig. Ac am y tro cynta’ i mi gofio erioed mi fedrais i fynd yna ac o’no yr holl ffordd heb orfod dod oddi ar y beic a’i wthio fyny allt. Waw! Mae’n brofiad gwanhaol reidio beic fel hyn ac mae’n teimlo’n grêt – mi ddoi eto.

Gweithio ar feysydd parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fydda i dros yr haf rŵan yn rhai o fannau arbennig a bellach prysuraf Llŷn –  Llanbedrog, Porthdinllaen, Porthor a’r pentra dela’ ym mhen draw’r byd – Aberdaron. Mae hi’n braf gallu defnyddio’r beic trydan i fynd yno.

Dwi’n cael defnydd rheolaidd o’r beic – i fynd i’r gwaith a thu allan i’r gwaith hefyd. Mae gen i fag bach yn sownd ar ei ochr lle fedrai gario be dwi angen ac weithiau mynd â’r charger os dwi’n meddwl mynd yn bellach. Er – mae’r batri’n para’n wych ac mi aiff i Aberdaron ac yn ôl (sydd yn 13 milltir bob ffordd) – dim problem! Mae ceir yn reit dda am adael digon o le ar y cyfan, a dwi’n hapus fy myd yn mynd o amgylch y lle efo’r beic.

Dwi ’wrth fy modd ar y beic ac mae’n gyfle gwych i gael defnydd bob-dydd o feic trydan am bris hynod o resymol fedrai ei fforddio. Mae’r cyfle hwn hefyd wedi chwarae rhan fawr i mi ddod yn fwy cyfarwydd â gwaith GwyrddNi fel mudiad cymunedol sy’n gweithredu ar newid hinsawdd.

Wrth ‘mi lifo lawr y lonydd cefn a’r gwynt yn fy ngwyneb dwi’n cael amser i feddwl a gwerthfawrogi bob dim. Mae’r awyr yn las hapus. Pinc y blodyn neidr a phiws y bysedd cwn yn neidio allan o’r cloddiau gwyrdd gwyllt. Mae ’na ogla’ gwair. Ogla’ allan. Ogla’ bywyd. Dwi’n gweld adar – llwyth o adar!  Lot o adar ysglyfaethus mawr, yn isel, yn hofran, ar bolyn letric-  barcyd coch, bwncath ac adar bach y bore – un melyn llachar! Dwi’n gweld y byd o bersbectif gwahanol am ‘chydig.

Mae’n newid positif, yn gyfla ac yn ffres. Mae’r ymarfer corff ac yr awyr iach yn gwneud lles. Mae’r lonydd diddiwedd fel afonydd drwy’r tir a minnau’n padlo’n braf ond yn ystyried fy rôl fy hun yn y gymuned ac am newidiadau bach fedra’i wneud i droedio’r ddaear yn ‘sgafnach.

Os ydych eisiau benthyg beic, cysylltwch hefo Dafydd ar dafydd.rhys@ynnillyn.cymru


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!

Rhannwch hwn: