- Pob Prosiect
- Prosiectau Bro Ffestiniog
- Prosiectau Dyffryn Nantlle
- Prosiectau Dyffryn Ogwen
- Prosiectau Dyffryn Peris
- Prosiectau Pen Llŷn
Briff – Cynyddu defnydd Map Ogwen
Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i drefnu a chynnal gweithdai a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o Map Ogwen.
Cynhyrchu Ynni Glân i’r Gymuned
Ynni oedd un o'r themâu allweddol a nodwyd ar draws pob un o bum ardal yng Nghynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi. Roedd trigolion o'r Cynulliadau yn glir y dylai prosiectau ynni leihau dibyniaeth y gymuned ar olew a nwy, cynnig amddiffyniad rhag codiadau sydyn mewn prisiau, a sicrhau bod buddion ariannol yn cael eu hailfuddsoddi'n lleol.
Mae Ynni Lleu wedi'i ailsefydlu fel cwmni budd cymunedol, ac ar hyn o bryd mae'n ymgymryd â gosod cynllun solar a batri ar raddfa fawr wedi'i leoli ar do'r hen ffatri bapur ar ystâd ddiwydiannol Penygroes.
Ysgolion Creadigol
Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn cefnogi pobl ifanc i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Y syniad: Cysylltu ysgolion hefo artistiaid ac ymarferwyr creadigol lleol i greu prosiect i gyfleu negeseuon y bobl ifanc. Mae’r disgyblion yn cyfweld ac yn dewis yr ymarferydd creadigol eu hunain, ac mae’r allbwn yn dibynnu ar y syniadau mae […]
Ysgrifennu Creadigol am Natur a’r Hinsawdd
Mae Clwb Sgwennu Diosg Dyffryn Ogwen yn cyfarfod bob pythefnos i ysgrifennu’n greadigol am natur a’r hinsawdd ac i rannu ysbrydoliaeth. Ewch i’r dudalen Digwyddiadau i weld pryd mae’r sesiwn nesaf yn dod i fyny, neu cysylltwch hefo chris@ogwen.org Sefydlwyd grŵp ysgrifennu Diosg gan yr awdur a’r bardd, Casia Wiliam fel rhan o gynllun Llên […]
Gwella Adeiladau a Chartrefi (Ôl-osod)
Mae pob cymuned a gymrodd rhan yn ein Cynulliadau Cymunedol hefo diddordeb cryf mewn ôl-osod tai, creu cymunedau mwy ynni-effeithlon ac edrych i mewn i ffyrdd o leihau biliau ynni. Yn Ionawr 2024, daeth aelodau o bob ardal at ei gilydd ym Mhenygroes i drafod ynni ac ôl-osod. Un peth oedd yn glir o'r cyfarfod Dadgarboneiddio yma oedd bod angen mwy o gyfleoedd hyfforddiant i uwch-sgilio pobl leol.
Mae Ynni Llŷn wedi dechrau eu rhaglen Ôl-osod i Bawb, lle maent yn asesu ac addasu tai ac adeiladau lleol ym Mhen Llŷn.
Hyrwyddo Cynnyrch Lleol
Dwedodd sawl cymuned yn y Cynulliadau eu bod eisiau creu lleoedd a systemau i rannu a dosbarthu bwyd a dyfwyd yn lleol, e.e. marchnadoedd, pantris, a chyfeiriaduron. Mae Marchnad Lleu yn Neuadd Goffa, Penyrgoes ar 3ydd Dydd Sadwrn y mis, a Marchnad Tre Cocos, Penrhyndeudraeth yn gwerthu cynnyrch lleol.
Map Natur Bro Ffestiniog
Mae GwyrddNi, mewn cydweithrediad â Cwmni Bro Ffestiniog a’r Dref Werdd, wedi comisiynu’r gwaith o greu map unigryw sy’n amlygu deg man cymunedol a natur arbennig ym Mro Ffestiniog. Nod y map yw cefnogi ac annog pobl i gysylltu â'u cymuned, dathlu a gwerthfawrogi cysylltu hefo byd natur.
Mapio Dyffryn Ogwen
Mae GwyrddNi, ar y cyd hefo Wild Resources a hefo ariannu gan Partneriaeth Natur Gwynedd, yn creu map i ddangos llefydd o bwysigrwydd amgylcheddol a diwyllianol yn Nyffryn Ogwen. Bydd unrhyw un yn gallu cyfrannu at y map, e.e. hefo eu hoff lwybrau neu goeden. Bydd busnesau cynaliadwy a prosiectau amgylcheddol lleol hefyd yn gallu cael eu cynnwys ar y map.
Gŵyl Hinsawdd
Fel rhan o Gynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Ogwen, un o’r syniadau a gytunodd y gymuned arni oedd creu gŵyl hinsawdd flynyddol – diwrnod i ddod a phobl a sefydliadau sydd yn ymwneud â gweithredu hinsawdd yn lleol at ei gilydd gyda’r gymuned a rhannu gwybodaeth am yr argyfwng hinsawdd a hyrwyddo datrysiadau hinsawdd bresennol Dyffryn Ogwen. Bu Gŵyl Hinsawdd ym Methesda yn 2023 ac yn Nhregarth yn 2024. Cysylltwch i fod yn rhan o drefnu gŵyl 2025!
Paned i’r Blaned
Lle i siarad am newid hinsawdd ac i ymarfer Cymraeg!
Bwriad Paned i’r Blaned ydi rhoi gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth.
Mae Paned i'r Blaned wedi cychwyn yn Nyffryn Ogwen, a rydym yn bwriadu cynnal sesiynau ym mhob ardal.
Gerddi a thyfu bwyd
Mae sawl prosiect tyfu bwyd wedi cychwyn!
Mae GwyrddNi yn cydweithio hefo Gerddi Maes-y-Plas ym Mlaenau Ffestiniog i dyfu bwyd ar safle cymunedol, a hefyd mae prosiect Tyfu Tatws wedi tyfu a dosbarthu 1000 o datws - a 25 o beynnau tyfu tatws i erddi gwahanol yn Manod. Y nod ydi i bobl allu darparu Tatws i Bawb yn eu hardaloedd eu hunain. Gallwch ymuno â Grŵp Bwyd Lleol Bro Ffestiniog am wybodaeth.
Yn Nyffryn Nantlle, mae Yr Orsaf yn rhedeg sawl gardd cymunedol, ac mae GwyrddNi wedi cefnogi Cyfeillion Talysarn a Nantlle i gychwyn Gardd Nant.
Mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod yng Ngerddi Ffrancon (Dyffryn Ogwen) sawl gwaith yr wythnos, ac mae GwyrddNi yn cefnogi gwirfoddolwyr i arddio hefo disgyblion yn Ysgol Abercaseg.
Oes gennych syniadau, eisiau bod yn rhan neu eisiau cychwyn rhandir neu ardd cymunedol eich hunain? Cysylltwch!
Clirio Jac-y-Neidiwr
Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth ymledol eang ym Mhrydain. Un o nodau'r grŵp Dŵr a Thir Dyffryn Peris oedd cychwyn mapio y rhywogaethau ymledol a phwy sy’n gwneud be’ amdanyn nhw yn barod. Mae sawl sesiwn clirio wedi ei drefnu yn barod diolch i wirfoddolwyr cymunedol, ysgolion, a chefnogaeth Cymdeithas Eryri a thirfeddianwyr lleol. Trefnwyd hyfforddiant i arwain grwpiau clirio yn Ebrill 2024 a bydd mwy o ddyddiau clirio i'w trefnu.
Dim Mwy o Byst

cymuned, Prosiectau Dyffryn Ogwen
Prosiectau bwyd