Un o 8 amcan trosfwaol Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Peris a gynhyrchwyd gan drigolion y fro yn 2023 oedd:
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.”
Ers hynny, mae nifer o opsiynau wedi eu harchwilio, grŵp llywio wedi ei sefydlu, Cynllun Busnes wedi ei ddatblygu, Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Rheolwr Datblygu wedi ei ysgrifennu a threfniadau cyllido’r swydd honno trwy nawdd cynghorau cymuned a Chwmni Ynni Padarn Peris yn cael eu mireinio.
Mae £10,000 wedi ei sicrhau ar gyfer cynnal Asesiad Anghenion Tai Lleol ac i asesu modelau, eiddo a chyllido posib ar gyfer Tai dan arweiniad y gymuned. Bydd cyfarfodydd yn cael eu galw yn y flwyddyn newydd i glywed barn a syniadau trigolion ynglyn a hyn er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng tai mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol.
Darllenwch y newyddion diweddaraf gan Lowri yn ein blog: https://www.gwyrddni.cymru/partneriaeth-dyffryn-peris/
Cyswllt: peris@gwyrddni.cymru

