Postiwyd ar

Pobl Ifanc, LotoBot, a Blaenau: Gweithgareddau ysbrydoledig yng nghalon Eryri

Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Wedi llwyth o waith cyffrous, mae rownd un o’r prosiect wedi dod i ben, ac mae un peth yn enwedig wedi dyfod o’r prosiect. 

Cynnig cyfle i bobl ifanc weithio ar brosiectau creadigol am newid hinsawdd mae Ysgolion Creadigol. Mae’r bobl ifanc ar draws 5 ardal GwyrddNi wedi dewis creu pethau gwahanol ym Mlaenau Ffestiniog ymddangosodd Lotobot! Peidiwch a phoeni os nad yw’r  gair LotoBot yn golygu unrhyw beth i chi, mae Agi o Ysgol y Moelwyn yn esbonio:

“Lotobot yw ein cynrychiolydd ar gyfer newid hinsawdd ym Mro Ffestiniog. Fe’u cynlluniwyd gennym ni i gynrychioli popeth yn ein hardal leol, a dyna pam mae Lotobot yn edrych fel maen nhw.”

I ddod ar broses o greu LotoBot yn fyw cafodd ffilm ei greu a cewch ei wylio yn fan hyn. 

3 munud 30 eiliad yw hyd y fideo ac mae yna isdeitlau Saesneg ar gael. 

Mae’r broses o gymryd rhan ym mhrosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn bwysig i bobl ifanc Ysgol y Moelwyn sydd ddim yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu clywed ar faterion newid hinsawdd. Dywedodd Gethin, disgybl yn yr Ysgol, pam ei fod o’n gweld hi’n bwysig gweithredu “Mae hi’n bwysig i weithredu ar newid hinsawdd oherwydd bod hi’n broblem enfawr a bysa pobl yn gallu gwneud rhywbeth i helpu trwy wneud y pethau bychain.”

Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli staff GwyrddNi ac Ysgol y Moelwyn, sydd wedi cael y cyfle i adael i bobl ifanc redeg yn wyllt gyda’u syniadau. Dywedodd Edward Roberts, athro Daearyddiaeth yn Ysgol y Moelwyn  “Rydym yn hynod o ddiolchgar i GwyrddNi am gyd-weithio efo’r ysgol. Mae’r prosiect efo Buddug Roberts wedi bod yn fuddiol ofnadwy i’r plant sydd wedi cymryd rhan gan eu bod nhw wedi creu perthnasau arbennig efo’i gilydd ac wedi cyd-weithio’n agos o dan ei harweiniad i greu ffordd greadigol o gael eu neges am newid hinsawdd ac yr amgylchedd allan i’r gymuned leol”.

Dywedodd Nina Bentley, hwylusydd cymunedol GwyrddNi hefyd “Mae wedi bod yn llawenydd ac yn addysg bod yn rhan o’r gwaith hwn yn datblygu! Mae Lotobot wedi dod yn gynhwysydd ardderchog ar gyfer lleisiau plant wrth feddwl am eu hardal a’u dylanwad eu hunain. Maen nhw eisiau gweld lle gwyrddach, gyda mwy o goed, planhigion ac anifeiliaid a mwy o HWYL! Mae ganddyn nhw synnwyr craff o gyfiawnder cymdeithasol a natur a gallwn ni i gyd ddysgu a dylunio o amgylch hynny.”

Carousel 1
previous arrow
next arrow

Doedd y gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth anhygoel Buddug Roberts, arbenigwr mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ymarfer Theatr a Mari Gwent, artist sy’n arbenigo mewn dyluniadau 3D. Wrth Adlewyrchu ar weithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau, dywedodd Buddug “Mae LotoBot yn greadur aml-haenog a hynny ar lefel diriaethol a haniaethol. Roedd creu LotoBot efo’r bobl ifanc yn broses arbennig o wylio’r cyfan, eu teimladau, eu pryderon a’u gobeithion yn dod at ei gilydd i lunio’r cymeriad digri a difrifol yma.”

Bydd y gwaith yn parhau eleni felly cadwch olwg allan am anturiaethau nesaf Lotobot! Yn y cyfamser, a ydych wedi cael eich ysbrydoli i weithredu? Mae gan GwyrddNi sawl ffordd gwahanol i chi gymryd rhan. 

Cofrestru i’n cylchlythyr misol i dderbyn newyddion a chyfleoedd ar draws Gwynedd: http://eepurl.com/h21srj

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:

Dilynwch y gwaith anhygoel ein partner Cwmni Bro Ffestiniog hefyd fan hyn!  https://www.instagram.com/brocast_ffestiniog

Postiwyd ar

Ysgolion Creadigol

Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn cefnogi pobl ifanc i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.

Y syniad: Cysylltu ysgolion hefo artistiaid ac ymarferwyr creadigol lleol i greu prosiect i gyfleu negeseuon y bobl ifanc. Mae’r disgyblion yn cyfweld ac yn dewis yr ymarferydd creadigol eu hunain, ac mae’r allbwn yn dibynnu ar y syniadau mae nhw’n eu cynhyrchu gyda’i gilydd.

Mae hyn yn golygu gall unrhyw beth ddigwydd! Hyd yn hyn, rydym wedi cael caneuon, perfformiadau, llyfrau, cerddi, erthyglau, gwaith celf, parêd a mwy!

Y story hyd yma…

Dyffryn Ogwen

Yn Ysgol Dyffryn Ogwen, penderfynodd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 eu bod eisiau gwneud “sblash” mawr drwy fynd a’u neges i Garnifal Bethesda – gan berfformio dramâu byrion a chreu “fflôt” trawiadol i’w gario yn y parêd. Bu’r disgyblion yn brysur yn addurno eu llusernau a banneri hefo Manon Prysor.

Gwelsom bysgodyn enfawr yn llawn plastic, a hefyd Spongebob a Patrick yn dod i gwyno am ansawdd eu cartref! Bu’r bobl ifanc hefyd yn ysgrifennu ac ymarfer eu dramau dan arweiniad yr actores Angharad Llwyd. 

Dyffryn Nantlle

Dewisodd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle i weithio hefo’r cerddor ac awdur Gai Toms, ac maent wedi creu llyfr a thair cân wreiddiol o ganlyniad.

Mae’n siwr eich bod yn gyfarwydd â nofel wych Manon Steffan Ros – Llyfr Glas Nebo? Fel gwrthwenwyn i neges dystopian y llyfr, penderfynodd y disgyblion eu bod eisiau creu Llyfr Gwyrdd Nantlle, sef casgliad o gelf, barddoniaeth a gweledigaethau positif ar gyfer dyfodol y Dyffryn.

Mae tair cân wreiddiol hefyd wedi eu hysgrifennu: Cwm y Cerrig, y Llithr a’r Llethr a Pigavo.

Darllenwch y stori gyfan, gwrandewch ar y caneuon ac edrychwch ar fersiwn ddigidol o Lyfr Gwyrdd Nantlle yma.

Dyffryn Peris

Yn Ysgol Dolbadarn, dewisodd y plant i weithio hefo’r artist lleol Katie Ellidge. O greu llyfrau braslunio (sgrap) a gwehyddu gwaith celf allan o wastraff, cafodd y plant gyfle hefyd i ddysgu am bynciau pwysig fel gwastraff, rhywogaethau prin a theithio llesol.

Daeth artist lleol arall, Femke van Gent, i mewn wedyn i greu darn o gelf weledol yn dal gweledigaethau’r plant o ddyfodol disglair i’r Dyffryn.

Fel y gwelwch o’r lluniau – mae’r plant yn breuddwydio am fyd gwyrdd, glân, lle mae pobl yn teithio ar feiciau ac yn codi eu sbwriel! 

Bro Ffestiniog

Yn Ysgol y Moelwyn, dewisodd grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 i weithio hefo Buddug Roberts. Ar ôl gwario dipyn o amser yn dod i nabod ei gilydd a’u bro, dechreuodd y disgyblion feddwl am ba negeseuon y hoffan nhw eu rhannu.

Maent wedi creu ‘Lotobot’ creadur sydd am gynnal a rhannu eu negeseuon am yr hinsawdd gyda’r gymuned yn ystod Gwyl y Glaw ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Medi.

Be’ nesaf?

Bydd prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn parhau… dewch yn ôl i weld beth arall bydd ein pobl ifanc wedi ei ddychmygu!

Postiwyd ar

Hyrwyddo Cynnyrch Lleol

Mae pob cymuned yn cydnabod pwysigrwydd tyfu bwyd lleol i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi’r economi leol, a chynyddu hunangynhaliaeth.

Dwedodd sawl cymuned yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd eu bod eisiau creu lleoedd a systemau i rannu a dosbarthu bwyd a dyfwyd yn lleol, e.e. marchnadoedd, pantris, a chyfeiriaduron.

Mae marchnadoedd lleol eisoes wedi cychwyn yn Nyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.

Dyffryn Nantlle

Deilliodd Marchnad Lleu, marchnad gymunedol fisol, o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu cynigion.

Roedd y tîm craidd tu ôl i Farchnad Lleu eisoes wedi cyfarfod trwy grŵp Gwrthryfel Difodiant (XR) yn Nyffryn Nantlle. Cawsant eu hailuno yn ddiweddarach yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi. Daeth Marchnad Lleu i’r amlwg fel ymateb i’r angen a’r awydd am ddewisiadau amgen cynaliadwy ac ymgysylltiad cymunedol.

Rydym yn cydweithio hefo’r Farchnad lle gallwn, e.e. drwy drefnu cyfnewidfa hadau. Mae’r Farchnad yn le gwych i brynu cynnyrch organic, lleol: 3ydd dydd Sadwrn y mis yn Neuadd Goffa, Penygroes – 10yb-1.30yp. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth: https://marchnadlleu.co.uk neu ymunwch â’r grŵp Facebook i wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf.

Blog am Farchnad Lleu: https://www.gwyrddni.cymru/marchnad-lleu/

Bro Ffestiniog

Mae Marchnad Gymreig Tre’ Cocos, Penrhyndeudraeth yn rhedeg yn fisol o Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, hefo stondinau bwyd a chrefftau lleol (llun: Wil hefo cynnyrch o Gerddi Maes-y-Plas, Blaenau Ffestiniog).

Gallwch gadw bwrdd a chael fwy o wybodaeth drwy ebostio marchnadtrecosos@gmail.com

Oes gennych ddiddordeb mewn hybu cynnyrch lleol ym Mhen Llŷn, Dyffryn Ogwen neu Dyffryn Peris? Llenwch y ffurflen neu cysylltwch i weld sut all GwyrddNi helpu i gefnogi eich syniad.

Postiwyd ar

Map Natur Bro Ffestiniog

Mae GwyrddNi, mewn cydweithriad hefo Cwmni Bro Ffestiniog ac Y Dref Werdd, wedi comisiynu creu map unigryw sy’n amlygu deg o fannau cymunedol a natur arbennig ym Mro Ffestiniog.

Bydd y map hwn yn gwahodd trigolion ac ymwelwyr i archwilio’r lleoliadau hyn yn ddyfnach, gydag un ochr yn cynnwys dehongliadau artistig o bob gofod gan artist lleol, a’r ochr arall yn cynnig dehongliadau ysgrifenedig yn y disgrifiadau Cymraeg gan awdur lleol. Mae cyfieithiad Saesneg yn annog ymgysylltu â’r Gymraeg i gefnogi dysgu, defnyddio a phrofi’r Gymraeg a lle.

Nod y map yw cefnogi ac annog pobl i gysylltu â’u cymuned, dathlu a gwerthfawrogi eiliadau o fyd natur.

Mae’n ffordd newydd o brofi Bro Ffestiniog – boed yn artist, yn chwilfrydig am fyd natur, neu am iaith.

Cadwch lygad am ei lansiad, teithiau cymunedol a digwyddiadau yn y mannau natur trefol/gwledig hyn.

Cysylltwch â ffestiniog@gwyrddni.cymru i ddarganfod mwy!

Postiwyd ar

Paned i’r Blaned

Lle i siarad am newid hinsawdd ac i ymarfer Cymraeg!

Mae’r syniad o Paned i’r Blaned wedi ei ysbrydoli gan bethau fel Climate Cafes; People, Planet, Pint; a Phaned a Sgwrs – cyfleoedd i bobl drafod materion hinsawdd mewn ffordd anffurfiol, wedi’u harwain gan y gymuned. Gyda mwy a mwy o bobl yn bryderus am newid hinsawdd, mae sesiynau fel hyn yn dod yn fwyfwy poblogaidd ar draws y byd.

Bwriad Paned i’r Blaned ydi rhoi gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth. 

Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint o Gymraeg, ac rydym yn annog Cymry Cymraeg i ddod draw i rhoi cefnogaeth iddynt!

Bydd geirfa sydd yn addas i bwnc y mis ar gael i’ch helpu, ac wrth gwrs gallwch ofyn am esboniad neu gyfieithiad. Mae Menter Iaith wedi bod yn ein cefnogi i wneud yn siwr bod yn sesiynau yn hwylus ac yn hygyrch.

Cynhaliwyd sesiwn gyntaf Paned i’r Blaned ar y 25ain o Ionawr yng Nghanolfan Cefnfaes, Bethesda, ac mae pob ardal eisoes yn barod i gychwyn. Ewch i’n tudalen Digwyddiadau i weld y rhai diweddaraf.

Gwyliwch allan am Paned i’r Blaned yn eich hardal chi – neu gysylltwch os ydych eisiau cychwyn un!

Postiwyd ar

Gerddi a thyfu bwyd

Roedd yn glir o’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd bod pob ardal yn angerddol am fedru tyfu bwyd eu hunain, sydd yn rhan hanfodol o leihau ein hôl troed carbon a chreu cymunedau gwydn ac iach.

Mae GwyrddNi wedi bod yn cefnogi rhai prosiectau tyfu a oedd yn bodoli yn barod, ac wedi helpu sbarduno rhai newydd. Cysylltwch os ydych eisiau cychwyn rhywbeth yn eich ardal chi!

Bro Ffestiniog:

Gerddi Maes-y-Plas

Mae grŵp garddio yn cyfarfod rhwng 11yb-1yp ar Ddydd Iau ym Mlaenau Ffestiniog – yng ngerddi Maes-y-Plas neu’r ar safle garddio gymunedol newydd gerllaw.

Ymunwch â grŵp Bwyd Lleol Bro Ffestiniog ar WhatsApp am fanylion o le/pryd i gyfarfod, neu hyd yn oed dim ond i gadw llygad am gynnydd a chynnyrch. Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru

Prosiect gardd farchnad gan Y Dref Werdd ydi Gerddi Maes-y-Plas ym Mlaenau Ffestiniog – dyma glip o’r gerddi ar S4C (ar Facebook). Mae GwyrddNi wedi bod yn cydweithio gyda Maes Y Plas, gyda gwirfoddolwyr ac i hybu ac ehangu’r gwaith.

Dilynwch Gerddi Maes-y-Plas ar Facebook.

Mae GwyrddNi hefyd wedi bod yn cydweithio gyda Gerddi Maes-y-Plas ar safle cymunedol arall gerllaw. Y llynedd daeth y safle â syniad o’r Cynlluniau Gweithredu i realiti a chynhyrchwyd mwy na 1000 o datws yn lleol. Eleni, bydd y ffocws yn symud i dyfu llwyni a choed ffrwythau.

Dosbarthodd Prosiect Tyfu Tatws 25 o focsys gyda phopeth y gallai fod ei angen arnoch i dyfu eich tatws eich hun i bob math o erddi gwahanol ym Manod. Mae’r prosiect hwn bellach ar gael i unrhyw grŵp Bwyd Lleol cymunedol ym Mro Ffestiniog – felly cysylltwch os ydych eisiau darparu Tatws i Bawb yn eich ardal.

Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru i fod yn rhan o hyn.

Dyffryn Nantlle:

Mae prosiect Bwyd a Lles Yr Orsaf yn datblygu 3 prif elfen – rhandiroedd cymunedol wrth ymyl y Ganolfan Hamdden; Gardd Wyllt Penygroes, i greu gardd gymunedol i bobl leol a chynyddu bio-amrywiaeth ar yr un pryd; a’r Pantri Cymunedol, sy’n defnyddio bwyd dros ben o’n Co-op lleol, a bwyd gan archfarchnadoedd eraill, yr ACT Foundation a FareShare. Cysylltwch hefo esyllt.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Mae Garddio Gyda’n Gilydd yn cymryd lle yn yr Ardd Wyllt, Penygroes pob Dydd Mercher o 10yb-12yp.

Gardd Nant, Talysarn

Mae Gardd Nant, Talysarn wedi ei gychwyn gan Gyfeillion Talysarn a Nantlle gyda chefnogaeth gan GwyrddNi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cydweithio hefo ysgolion lleol, wedi cael ymweliad gan grŵp o Alabama (roedd hyn ar S4C!) ac wedi bod yn trefnu digwyddiadau cymunedol eraill fel hel sbwriel.

Mae dyddiau gwirfoddoli yn cael eu trefnu yn rheolaidd. Cysylltwch hefo garddnant@yahoo.com neu gwyliwch am newyddion ar dudalen Facebook Cyfeillion Talysarn a Nantlle.

Dyffryn Ogwen

Mae Gerddi Ffrancon (wrth ymyl y Ganolfan Hamdden ym Methesda) yn ardd gymunedol gan Dyffryn Gwyrdd (Partneriaeth Ogwen), lle mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod 3-4 gwaith yr wythnos i dyfu bwyd, hefo’r gobaith o rannu’r bwyd i’r gymuned. Bu’r criw yn creu jam dros y gaeaf hefo’r ffrwythau a dyfwyd dros haf llynnedd.

Cysylltwch hefo chris@ogwen.org i fod yn rhan o hyn!

Mae GwyrddNi hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr i arddio hefo’r disgyblion yn Ysgol Abercaseg.

Pen Llŷn

Yng Nghynllun Gweithredu Pen Llŷn, mae cynlluniau i sefydlu rhandiroedd i dyfu bwyd lleol, i gydweithio hefo ysgolion ac i greu rhwydwaith o gynhyrchwyr lleol a hybu bwyd lleol er mwyn lleihau milltiroedd bwyd, gwella iechyd, cryfhau cydweithio, a rhoi hwb i’r economi leol.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo llyn@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Dyffryn Peris

Dymunodd Cynulliad Dyffryn Peris i:

  • Greu map bwyd cymunedol
  • Canfod mannau caedig ar gyfer gardd/rhandir
  • Rhannu bwyd a gwybodaeth
  • Creu gofod i rannu hadau, sgyrsiau, offer a chwmni
  • Creu micro erddi cymunedol a rhandiroedd i bobl dyfu eu hunain.
  • Creu grŵp sydd gyda diddordeb gweithio ar yr uchod.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo peris@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Postiwyd ar

Caffi Trwsio

Mae caffi trwsio yn ddigwyddiad cymunedol di-dal lle gall pobl drwsio eitemau sydd wedi torri gyda chymorth gwirfoddolwyr. Mae caffis trwsio yn rhan o fudiad ar lawr gwlad i leihau gwastraff ac annog pobl i atgyweirio eitemau yn lle prynu rhai newydd.

Dyffryn Peris:

Mae TECSTILIAU yn cynnal Caffi Trwsio ar ail Ddydd Sul pob mis yn Y Bedol, Bethel o 1-3yp – manylion ar eu tudalen Facebook. Bu GwyrddNi yn helpu’r grŵp i ddechrau y caffi trwsio, a rydym yn eu cefnogi o amser i amser. Mae Caffi Trwsio wedi ei gynnal yn Llanrug hefyd, hefo’r gobaith o wneud mwy yn y dyfodol.

Fideo o Gaffi Trwsio Bethel ar Prynhawn Da, S4C: https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/1404428036813961

Bro Ffestiniog:

Ym Mro Ffestiniog, daeth grŵp Rhannu Stwff a Thrwsio allan o’r Cynulliadau – gallwch ymuno hefo’u grŵp WhatsApp yma! Un bwriad ydi cydweithio hefo’r gofod gwneud ar stryd fawr Blaenau Ffestiniog lle mae Ffiws a Llyfrgell y Pethau am fod i gynnal caffis trwsio.

Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr Ffiws yn hapus i geisio trwsio eich eitemau a gallwch wirfoddoli hefo nhw: https://www.drefwerdd.cymru/cy/caffi-trwsio-ffiws

Dyffryn Nantlle

Mae Caffi Trwsio yn cael ei gynnal yn Yr Orsaf unwaith y mis, fel arfer ar Ddydd Sadwrn. Dilynwch Yr Orsaf ar Facebook, dilynwch eu cylchlythyr neu cysylltwch hefo cylchol.yrosaf@gmail.com am fanylion.

Gwelwch POB caffi trwsio yng Nghymru ar galendr Repair Cafe Wales.

Beth mae pobl yn ei drwsio mewn caffis trwsio?

Electroneg, dyfeisiau mecanyddol, cyfrifiaduron, beiciau, dillad, ac eitemau sentimental.

Beth yw manteision caffis trwsio?

Arbed arian: Gallwch drwsio eich eitemau yn lle prynu rhai newydd

Lleihau gwastraff: Gallwch osgoi taflu eitemau sydd wedi torri, yn aml i safleodd tirlenwi

Lleihau allyriadau carbon: Gallwch arbed adnoddau ac arbed yr ynni o greu eitemau newydd

Cryfhau cydlyniant cymdeithasol: Gallwch ddod at eich cymuned i ddysgu sgiliau newydd a rhannu gwybodaeth

Sut mae caffis trwsio yn gweithio?

Dewch â’ch eitemau sydd wedi torri i leoliad cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn trwsio yr eitemau – os bosib! Weithiau, bydd angen mynd i rywle arall, a byddynt yn eich cynghori ar ble i fynd.

Gallwch ddysgu sut i drwsio eich heitemau fel y gallwch wneud eich hunain adref y tro nesa’! Mae paned a chacen ar gael tra rydych yn aros, a mae bocs rhodd os byddech eisiau cyfrannu ar gostau rhedeg y caffi trwsio ar ôl i chi gael eich eitem yn ôl.

Dechreuodd y syniad o “gaffis trwsio” yn yr Iseldiroedd yn 2009, er bod y syniad o drwsio pethau wrth gwrs yn mynd yn ôl llawer, llawer pellach!

Mae’n rhan o’r syniad ehanach o greu economi gylchol, lle mae pethau yn cael eu trwsio a’i hailgylchu (neu uwch-gylchu) yn lle eu taflu. Hefyd, yn lle bod angen i bob person gael peiriant gwnio neu set o offer trwsio, y syniad ydi bod cymunedau yn rhannu’r pethau yma i leihau gorgynhyrchiad.

Mwy:

Mudiad byd-eang Caffis Trwsio

Caffis Trwsio Cymru

Be ydi’r Economi Gylchol? (Fideo 3 munud, Saesneg)

Am yr ymgyrch Hawl i Drwsio (Right to Repair)

Eisiau gwirfoddoli mewn caffi trwsio neu ddechrau un yn eich ardal? Y peth gorau i’w wneud ydi cysylltu hefo https://repaircafewales.org/ – ond mae croeso i chi hefyd gysylltu hefo ni am gefnogaeth!

Postiwyd ar

Cynnig Addysg

Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn.

Nid yn unig roedd yn dda i’r plant fod yn rhan o’r broses, roedd eu cyfranogiad yn allweddol. Diolch iddynt am eu cyfraniadau brwd!

Darllenwch fwy yma neu gwyliwch y fideo:

Nawr, mae plant yn cael y cyfle i weithredu ar eu syniadau!

Rydym wedi bod yn cynnig sesiynau addysg hwylus, rhyngweithiol i blant oed cynradd er mwyn codi ymwybyddiaeth o newid hinsawdd a be sy’n ei achosi. Ar ddiwedd pob sesiwn mae’r plant yn cyfrannu at ddatblygu syniadau gweithredu yn eu cymunedau – ac yna yn cael cynnig i weithredu ar y syndiadau yma eu hunain, yn cynnwys ymweliadau a phrofiadau dysgu pellach. Dyma ni’r cynnig:

  • Sesiwn Hinsawdd ryngweithiol (mewn dwy ran) sy’n creu cyfleoedd i ddeall newid hinsawdd a’r effaith mae’n cael, trafod teimladau ynghylch newid hinsawdd, deall beth allwn ei wneud amdano, a dechrau cynllunio gweithredoedd i fynd i’r afael a her yr hinsawdd. 
  • Ymweliadau i ddatrysiadau hinsawdd lleol (a thu hwnt!).
  • Cyfleoedd i’r plant datblygu eu syniadau cymunedol a’u gweithredu . Gall hyn fod yn weithred ‘un tro’ neu brosiect mwy hir dymor a chynhwysfawr. Mae hyn (o fewn rheswm!) i fyny i’r plant a byddwn yno i’w cefnogi.

Y nod yw galluogi’r plant i gyd-weithio ag eraill yn eu cymuned i weithredu ar yr hinsawdd ac i ddeall sut mae eu gweithredu’n cyfrannu at ymateb i newid hinsawdd. Y gobaith yw y bydd gwneud cysylltiadau ag eraill yn eu cymuned a mynd ati i wneud rhywbeth i daclo her yr hinsawdd hefyd yn helpu i leddfu gôr bryder am yr hinsawdd. 

Mae’r arwyddion cynnar yn addawol: neidiodd nifer y plant oedd yn deud y buasent yn hyderus iawn yn esbonio i rywun arall beth oedd newid hinsawdd o 17% cyn ein sesiynau i 84% ar ôl ein sesiynau.

Mae brwdfrydedd y plant wedi bod yn amlwg yn ystod ein sesiynau, yn enwedig wrth iddynt fynd ati i hel syniadau a phenderfynu sut hoffent fynd ati i ymateb i feysydd gweithredu cynllun gweithredu hinsawdd eu hardal nhw. 

Dyma flas o beth sydd wedi bod yn digwydd ac ar y gweill:

Dyffryn Ogwen

  • Ymweliadau i gynllun hydro cymunedol Ynni Ogwen.
  • Cydweithio gyda phartneriaid a gwirfoddolwyr i ddatblygu gerddi ysgolion.
  • Ymchwilio patrymau teithio i’r ysgol ac adnabod ac ymateb i heriau teithio yno mewn modd mwy ‘actif’. 

Dyffryn Peris

  • Cymryd rhan ym mhrosiect Stori’r Tir – sef prosiect i drigolion y dyffryn ail ddarganfod ac ail berchnogi hanes eu tîr.
  • Tyfu bwyd efo Fferm Tyddyn Teg a phlannu perllannau efo Prosiect Natur Llanddeiniolen.
  • Taclo Jac y Neidiwr yn Llanberis hefo Cymdeithas Eryri.

Bro Ffestiniog

  • Hel ac ail-ddosbarthu gwisgoedd ysgol holl ysgolion yr ardal.
  • Datblygu cynllun coridorau bioamrywiaeth ar dir yr ysgol gan ymestyn allan i’r dref a’r dyffryn islaw.

Pen Llŷn

  • Ymweld â’r prosiect Morwellt – a gwneud crysau-T yn hysbysebu’r pwysigrwydd o adfer Morwellt. 
  • Cyd-weithio cynnar ar gynllun rhannu beics.

Dyffryn Nantlle

Tra bod pethau wedi dechrau cynnal momentwm efo ysgolion cynradd, rydan ni wedi bod wrthi yn datblygu sesiwn addas ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd. Rydym wedi treialu hyn yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, lle mae pobl ifanc brwdfrydig yr ysgol wedi bod wrthi yn datblygu syniadau, ac yn barod i weithredu! 

Byddwn hefyd yn cydweithio ag ysgolion i ddatblygu adnoddau hinsawdd lleol i’r dosbarth.

Rydym wrthi’n datblygu cynigion addysg i oedolion, er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i rymuso grwpiau drwy gynyddu sgiliau a chael profiadau dysgu eraill, er mwyn ein grymuso i weithredu yn ein cymunedau. Mwy o wybodaeth ar y ffordd yn fuan! 

Mae’r daith yn un cyffrous ac rydym wedi gwneud cychwyn cadarn arni! Am fwy o wybodaeth, cysylltwch hefo Sara, ein Swyddog Addysg: sara@deg.cymru

Postiwyd ar

Cyfnewidfa Gwisg Ysgol

Daeth y Cyfnewid Gwisg Ysgol fel syniad gan y grŵp “Rhannu Stwff a Trwsio” ym Mro Ffestiniog, sydd wedi ymrwymo i leihau gwastraff a chefnogi’r gymuned i fyw’n gynaliadwy. 

Mae Cyfnewidfa yn cynnig ateb syml ond dylanwadol: gall teuluoedd gyfnewid gwisg ysgol a sicrhau bod dillad yn dod o hyd i gartrefi newydd yn hytrach na mynd i safleoedd tirlenwi. Nid yn unig bod hyn yn helpu i leihau gwastraff, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i deuluoedd arbed arian ar wisg ysgol. Cyfle i deuluoedd ddod draw am baned, gan adael i’w plant chwarae ar y byrddau crefft a chael paentio eu gwynebau, wrth edrych drwy’r 300kg o wisgoedd ysgol a roddwyd dros yr wythnosau diwethaf: ar yr 20fed o Gorffennaf ym Mlaenau Ffestiniog a’r 27ain yn Nhrawsfynydd, llwyddodd cannoedd o deuluoedd i arbed arian drwy gymryd gwisg ail law. 

“Pan rydyn ni’n rhannu pethau, mae’n creu cymuned gryfach ac yn creu cysylltiadau cryfach rhwng pobl, mae pobl yn teimlo bod eu cymuned yn eu helpu, bod yr ysgol yn teimlo fel teulu. Mae’n creu teimladau positif am ble rydyn ni’n byw.” Nina, Hwylusydd Bro Ffestiniog

Darllenwch fwy am y Cyfnewidfa ar ein blog: https://www.gwyrddni.cymru/cyfnewidfagwisgysgol/

Eisiau bod yn rhan o helpu hefo’r prosiect yma? Cysylltwch hefo Nina: nina@cwmnibro.cymru