

Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i drefnu a chynnal gweithdai a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o Map Ogwen.
Gofynnwn i’r ymgesiwyr llwyddianus drefnu cyfres o weithdai a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn cyflwyno Map Ogwen i drigolion yr ardal. Bydd disgwyl cyrraedd amrywiaeth o grwpiau dros gyfnod o hyd at 6 mis.
Beth yw Map Ogwen?
Map rhyngweithiol sydd yn galluogi defnyddwyr i fapio beth sydd yn bwysig iddyn nhw yn Dyffryn Ogwen.
Gall cael ei ddefnyddio i fapio amrywiaeth o bethau o goed, i fusnesau bwyd, i llecynnau celfyddydol arwyddocaol. Gellir addasu’r wefan i anghenion y gymuned, gan fapio beth sydd yn bwysig i bobl leol.
Mae’n bosib i unrhyw un wneud cyfrif ac ychwanegu at y map, a mae croeso i chi ei weld a y linc isod.
Y Telerau
I gael eich ystyried ar gyfer y briff hwn:
- Mae’n rhaid i’r gwaith cael ei gwbwlhau rhwng 01.07.2026 a 31.01.2026. Gallwch gwbwlhau’r gwaith yn ystod y cyfnod yma yn unig.
- Mae cyllideb o hyd at £3,500 ar gael, a gofynnwn i chi amlinellu eich costau yn eich cais.
- Byddwn yn disgwyl i chi gynnal o leiaf 10 gweithdy neu digwyddiad yn cyflwyno Map Ogwen.
- Byddwn yn disgwyl i chi adrodd ar faint o bobl, a pha grwpiau yr ydych chi wedi ymgysylltu hefo nhw.
Sut i ymgeisio
Gyrru llythyr cais, gyda amlinelliad bras o’ch costau, sut byddwch yn cyflawni’r gwaith, a proffil byr o’r rheini fydd yn ymgymryd â’r gwaith i chris@ogwen.org erbyn 28.05.2026 12:00pm (Hanner dydd). Yn eich cais, dylech chi hefyd sôn am eich gwaith neu profiad cysylltiedig.
Bydd panel yn sgorio’r ceisiadau cyn cynnal cyfweliadau wythnos yn cychwyn 08.06.2026.
Am GwyrddNi
Eisiau gwybod mwy am GwyrddNi a Phartneriaeth Ogwen cyn ymgeisio? Gallwch ddarllen popeth am y ddau ar y dolenni isod.
GwyrddN: Amdanom ni (https://www.gwyrddni.cymru/ynglyn-a-gwyrddni/)
Partneriaeth Ogwen: Amdanom ni (https://www.partneriaethogwen.cymru/en/about-us/)
GwyrddNi Dyffryn Ogwen: YouTube (https://youtu.be/YUIa59rMWi8?si=JukSu3TCfbkr4BzS)
