Pen Llŷn

Cynhaliwyd y cynulliad cyntaf ym mis Gorffennaf 2022 a cynhaliwyd y sesiwn olaf yn ystod gwanwyn 2023. Cliciwch yma i ddarllen Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol Pen Llŷn a greuwyd gan y gymuned drwy broses y cynulliadau.

Dyma fideo yn edrych ar bopeth sydd wedi digwydd ers cynnal y Cynulliadau ac yn dathlu popeth sydd wedi bod yn digwydd ym Mhen Llŷn:

Eisiau bod yn rhan o weithredu hinsawdd ym Mhen Llŷn? Cysylltwch hefo Dafydd: dafydd.rhys@ynnillyn.cymru

Gallwch ddysgu mwy am yr hyn ddigwyddodd ym mhob sesiwn o’r cynulliad wrth glicio isod. Mae lluniau, cyflwyniadau a llawer mwy. Gallwch hefyd ddarllen rhagor am y broses, y bartneriaid, y nawdd a llawer mwy wrth glicio yma i ddarllen yr adroddiad, GwyrddNi: Cynllunio, Cynulliadau, Gweithredu.

Addewid GwyrddNi

Ydych chi’n edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y Cynulliad? Os felly, beth am arwyddo Addewid GwyrddNi er mwyn ymrwymo i ddarllen ac ystyried cynnwys Cynllun Gweithredu Pen Llŷn pan fydd yn barod, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y gymuned? Byddwn yn anfon y Cynllun Gweithredu yn uniongyrchol at bawb sydd wedi arwyddo’r Addewid. I weld pwy sydd wedi arwyddo’r Adduned eisoes, ewch i waelod y dudalen neu cliciwch yma. 

Ewch ati i bori, dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol, ac os oes ganddoch unrhyw gwestiwn mae croeso i chi gysylltu â’ch hwylusydd lleol heddiw neu fynd draw i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Pwy sydd wedi arwyddo’r addewid?

Anna Home

Arabella Melville, Cyd-sylfeynydd ac Ymddiriedolwr Y Goedwig Dragwyddol

Carol Gilbert

Catrin Gruffudd

Craig Jones

Elgan Jones

Euriona Croft

Hourieh

Huw Lewis

Huw Morris, Gwelliant Trefin

Hywel Williams, Aelod Seneddol

Jodie Pritchard

Julia Everitt, The Eternal Forest Trust ltd

Keith Jones

Maggie Rogerson

Michelle Makatah

Natasha Jones

Paul Ireland

Sian Gwenllian, Aelod o Senedd Cymru

Wendy Jones

Rhannwch hwn: