Postiwyd ar

Dathlu Blas, Cymuned a Chysylltiadau Newydd yng Ngŵyl Fwyd Pen Llyn

“Un o’r pethau mwyaf calonogol oedd gweld Pwllheli yn llawn bywyd. Roedd y dref yn fwrlwm o bobl drwy gydol y dydd, gyda’r ŵyl yn denu ymwelwyr o bob rhan o’r ardal a thu hwnt. Roedd yn amlwg bod y digwyddiad nid yn unig yn cefnogi’r stondinwyr, ond hefyd yn dod â budd ehangach i fusnesau lleol ac yn arddangos Pwllheli ar ei orau.”

-Jane Watkinson, Cadeirydd Gwyl Fwyd Llyn.

Eleni, cafwyd dathliad arbennig iawn ym Mhen Llŷn wrth i’r Ŵyl Fwyd gyntaf erioed agor ei drysau, gan groesawu miloedd o ymwelwyr i ymuno mewn diwrnod llawn blas, hwyl ac egni cymunedol. Roedd yn gyfle gwych i ddathlu talent, creadigrwydd a chynnyrch lleol yr ardal, ac roedd hi’n fraint i GwyrddNi fod yn rhan o’r achlysur cofiadwy hwn.

Gyda’r haul yn tywynnu, arogl bwyd blasus yn llenwi’r awyr a’r maes yn llawn bywyd a sŵn sgyrsiau hapus, roedd awyrgylch arbennig iawn i’w deimlo. Croesawyd ymwelwyr i stondin GwyrddNi drwy gydol y dydd, gan greu cyfle i rannu gwybodaeth am ein gwaith, trafod syniadau cymunedol a chreu cysylltiadau newydd gyda phobl sy’n rhannu’r un angerdd dros ddyfodol cynaliadwy a chryf i Ben Llŷn.

Roedd stondin GwyrddNi yn ganolbwynt cynnes a chroesawgar yng nghanol yr ŵyl, gyda choffi a chacennau blasus yn denu pobl draw am sgwrs a chyfle i ymlacio. Roedd Dafydd, Hwylusydd Pen Llŷn, ar y stondin yn rhannu mwy am waith GwyrddNi, tra hefyd yn croesawu Martyn Croydon o Hwb Cymraeg Dwyfor i gyd-gynnal sesiwn arbennig Paned i’r Blaned. Roedd hi hefyd yn braf cael cwmni Seimon, a fu’n arddangos ei fap digidol o gynnyrch lleol Llŷn – adnodd gwych i godi ymwybyddiaeth o’r hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig.

Gyda baneri lliwgar, addurniadau deniadol a nifer o weithgareddau diddorol ar gael, roedd rhywbeth i bawb ddod draw i’w fwynhau. Roedd y stondin yn lle perffaith i stopio, cael sgwrs, dysgu rhywbeth newydd a rhannu syniadau am sut gallwn ni barhau i gefnogi ein cymuned leol.

Paned i’r Blaned – Sgyrsiau Dros Baned a Chacen.

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd sesiwn lwyddiannus iawn Paned i’r Blaned. Gyda phawb yn mwynhau paned boeth a chacen ffres, cafwyd cyfle i drafod pynciau oedd yn cyd-fynd yn berffaith â thema’r ŵyl – bwyd, cynnyrch lleol a’r Gymraeg.

Roedd y sgyrsiau’n llawn egni a brwdfrydedd, gyda phobl yn rhannu eu hoff brydau lleol, eu hoff ddanteithion a’u profiadau o’r bwydydd amrywiol oedd ar gael ar draws yr ŵyl. Yn ogystal â mwynhau trafodaethau diddorol, dysgwyd termau Cymraeg newydd a defnyddiol fel “byrbryd” a “bwydlen”, gan ychwanegu elfen hwyliog ac addysgiadol i’r sesiwn.

Roedd yn arbennig o braf gweld nifer o ddysgwyr Cymraeg yn ymuno, gan roi cyfle iddynt ymarfer eu sgiliau, magu hyder a mwynhau sgwrsio gyda’i gilydd mewn awyrgylch hamddenol a chefnogol. Mae Paned i’r Blaned yn cynnig lle cynnes lle gall pobl ddod at ei gilydd i drafod materion pwysig, rhannu profiadau a defnyddio’r Gymraeg mewn ffordd naturiol bob dydd.

Roedd hefyd yn hyfryd gweld rhai o fynychwyr blaenorol y sesiynau yn dod o hyd i stondin GwyrddNi ar y maes a chymryd rhan unwaith eto – arwydd gwych o’r cysylltiadau a’r gymuned sy’n parhau i dyfu o gwmpas y sesiynau hyn.

Diolch enfawr i bawb a ddaeth draw i’n gweld ni, i rannu sgwrs ac i fod yn rhan o ddiwrnod mor arbennig. Roedd Gŵyl Fwyd Pen Llyn yn ddathliad gwych o bopeth sy’n gwneud yr ardal mor unigryw – pobl, bwyd, diwylliant a chymuned. 

Addewidion Bach i greu Newidiadau Mawr:

Yn ogystal â’r holl sgyrsiau a gweithgareddau ar y stondin, cynhaliwyd gweithgaredd arbennig ‘Addewid i Ben Llŷn’, a roddodd gyfle i ymwelwyr feddwl yn greadigol am sut gallwn ni i gyd gyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy, glanach ac eco-gyfeillgar i’r ardal.

Roedd yn weithgaredd hwyliog a chynhwysol i bawb – o blant a theuluoedd i ddysgwyr a thrigolion lleol – gan wahodd pawb i wneud un addewid bach ond ystyrlon dros Ben Llŷn. Roedd hi’n hyfryd gweld cymaint o bobl yn rhannu eu syniadau, eu gobeithion a’u hymrwymiad i ofalu am yr ardal arbennig hon.

Cafwyd nifer fawr o addewidion calonogol, gan ddangos pa mor gryf yw’r awydd ymhlith y gymuned i warchod harddwch naturiol Pen Llŷn a chreu dyfodol mwy gwyrdd i bawb. Roedd pob addewid yn adlewyrchu’r gofal a’r cariad sydd gan bobl tuag at yr ardal maent yn ei galw’n gartref – neu’r lle maent wedi dod i’w fwynhau.

Roedd yn arbennig o braf gweld ymwelwyr oedd ar wyliau yn cymryd rhan hefyd. Er nad oeddent yn byw’n lleol, roeddent wedi’u swyno gan harddwch Pen Llŷn, ei thirweddau unigryw a’r croeso cynnes a’r teimlad cryf o gymuned sydd i’w deimlo ledled yr ardal. Roedd eu parodrwydd i wneud addewid yn dangos bod cariad at Ben Llŷn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’w ffiniau.

Cysylltiadau Newydd, Gweledigaethau Cyffredin a Chymuned sy’n Tyfu:

Roedd hi’n deimlad gwirioneddol arbennig ac yn fraint cael cyfarfod ac ymgysylltu â chymaint o bobl newydd drwy gydol y diwrnod. Roedd gweld unigolion o bob cefndir yn dod at y stondin, yn rhannu eu syniadau ac yn dangos yr un angerdd a gweledigaeth tuag at ddyfodol Pen Llŷn yn hynod ysbrydoledig.

Mae sgyrsiau gyda phobl newydd bob amser yn dod â safbwyntiau ffres a syniadau gwerthfawr. Roedd gwrando ar brofiadau, barn a syniadau gwahanol yn ein hatgoffa o gryfder cymuned a bod pawb yn dod â rhywbeth unigryw i’r bwrdd. Mae’r cysylltiadau hyn yn ein helpu i barhau i ddatblygu GwyrddNi mewn ffordd sy’n adlewyrchu anghenion, gobeithion a syniadau’r gymuned. Trwy wrando, cydweithio a chreu lle i bawb gyfrannu, gallwn sicrhau bod ein gwaith yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gynhwysol i bawb ym Mhen Llŷn.

Edrychwn ymlaen yn fawr at groesawu’r holl wynebau newydd a ddaeth i gysylltiad â ni yn ystod yr ŵyl i’n digwyddiadau yn y dyfodol.

Dyma olwg ar rhai o’r Addewidion gan drigolion ardal Pen Llŷn! 

• Dwi’n mynd i brynu’n fwy lleol ac osgoi’r archfarchnad.

• I promise to save water by not letting the tap run, only boiling enough water for tea and saving rain water.

• Tyfu mwy o goed – a bwyta’n lleol!

• Dwi’n gaddo hel sbwriel pan yn mynd am dro.

• Dwi’n addo cefnogi trafnidiaeth werdd.

• Dwi’n gaddo ailgylchu yn gywir a defnyddio llai o blastig.

“Roedd hi’n wych gweld pobl o bob oed yn cymryd rhan ac yn mwynhau’r diwrnod gyda’i gilydd. O deuluoedd ifanc i drigolion hŷn, roedd rhywbeth at ddant pawb, ac roedd yr haul braf yn ychwanegu at yr awyrgylch arbennig. Roedd gweld y gymuned gyfan yn dod ynghyd i fwynhau bwyd lleol, adloniant a chwmni da yn dangos yn union beth mae Gŵyl Fwyd Llŷn yn ei olygu.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i’r gwirfoddolwyr, perfformwyr, noddwyr, partneriaid, stondinwyr a phawb a fynychodd y digwyddiad. Heb eu cefnogaeth a’u hymrwymiad, ni fyddai’r ŵyl yn bosibl. Rydym eisoes yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant eleni a chroesawu pawb yn ôl y flwyddyn nesaf.” 

-Jane Watkinson, Cadeirydd Gwyl Fwyd Llyn.

Postiwyd ar

Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol: Adroddiad “Adlewyrchu ar 2024”

Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!

Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd yn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu – yn fyw!

Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.

Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.

Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:

GwyrddNi: Adlerwyrchu ar 2024: Darllenwch yr adroddiad fel llyfr “fflipio” neu fel PDF statig.

Ond nid dyma ddiwedd y stori – dim ond y dechrau! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu cefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed gennych! Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.

Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Gwynedd a thu hwnt!

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.

Postiwyd ar

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

Dyma bost blog gan Trey, sy’n byw ym Mhenygroes. Mae Trey yn dod yn wreiddiol o Mississippi ac mae wedi taflu ei hun i weithgareddau cymunedol ers symud i Gymru wyth mlynedd yn ôl. Roedd Trey yn aelod o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd Dyffryn Nantlle, ac mae’n un o’r bobl frwd y tu ôl i’r syniad o’r Cwt Piclo.

Bydd y Cwt Piclo wedi’i lleoli yng nghefn yr hen swyddfa bost ym Mhenygroes – tra bydd blaen yr adeilad yn ganolbwynt bwyd gwyrdd, yn gartref parhaol i’r pantri cymunedol ac yn ganolbwynt bwyd gan gynhyrchwyr lleol.

Cysylltwch â Siôn ( nantlle@gwyrddni.cymru ) am fwy o wybodaeth neu i fod yn rhan o hyn!

Cwt Piclo Dyffryn Nantlle – gan Trey

Nos Lun y 24ain o Fehefin, cynhaliwyd cyfarfod y Cwt Piclo, sef criw newydd yn Nyffryn Nantlle sy’n mynd ati i ddysgu am sut mae pobl wedi cadw bwyd ers talwm ac i gyflwyno ffyrdd a thraddodiadau newydd o biclo, bragu a ffermentio bwyd.

Pam cwt piclo?

Mae nifer o bobl wedi troi’n ôl at yr ardd i dyfu llysiau a ffrwythau’u hunain. Dyma gam arall, i ddysgu sut i drin y bwyd unwaith fod y cynhaeaf wedi cyrraedd, yn enwedig pan mae gormodedd o gnwd wedi aeddfedu ar unwaith. Yn lle poeni am be i wneud efo llwyth o riwbob neu fresych, rydym ni’n hel ryseitiau i wneud siytni neu kimchi.

Trey leading a session on creating kombucha

Edrychwn ymlaen felly at bryd ddaw mwy o lysiau a ffrwythau at y bwrdd wedi’r cychwyn oer i’r tymor garddio rydym wedi ei brofi. Yn y cyfamser, rydym yn hel ryseitiau a’u rhannu efo’n gilydd.

Creu Kombucha

Rydym wedi cynnal dau weithdy ar siytniau riwbob ac ar kombucha, diod o de wedi’i fragu â meithriniad symbiotaidd o furum a bacteria.

Mae diddordeb mewn kombucha yn tyfu ar draws y byd oherwydd pa mor hawdd yw i’w fragu. Te a siwgr yw’r unig anghenion, efo ambell litr o ddŵr Eryri a chwpwrdd i anghofio amdano am wythnos.

Efallai fod bragu kombucha’n ymddangos fel rhyw ffansi’r funud, ond mae newidiadau bach yn medru helpu i ni i ailgysylltu i be rydym ni’n ei fwyta a pham.

O ble ddaeth y syniad?

Ffurfiwyd y Cwt Piclo fel ymateb i newid hinsawdd yn Nyffryn Nantlle, fel rhan o gynulliadau Gwyrddni yn 2022-23. Rydym yn ailafael ar ein bwyd i drio lleihau’r egni a ddefnyddir i’w dyfu, i’w drin a’i gludo, ac i greu cymuned fwy gwydn sy’n barod am unrhyw aflonyddiadau i’n systemau bwyd.

Ail gyfarfod y Cwt Piclo, gyda Rachel yn cyflwyno ei Siytni Riwbob!

Wrth lenwi poteli a phacio jariau, rydym yn magu’r galluog o weld potensial lle bynnag rydym yn ei edrych. Pats heulog o dir gwag, coeden anghofiedig â ffrwythau aeddfed, a hyd yn oed y silff bwyd yn yr archfarchnad sy â bwydydd sy wedi mynd heibio’r dyddiad ar y pecyn. Rwy’n arfer mynd at y silff yma i weld be fedraf yn rhoi mewn jar i’w ffermentio. Wythnos diwethaf des i adra efo tri chilo o fefus a chilo o ffa gwyrdd. Pwy a ŵyr be ffeindiwn i wythnos yma?

Mae bodlondeb dwfn mewn cymryd bwyd dros ben a’i drawsffurfio i mewn i gynnyrch newydd, i achub rhywbeth a fyddai wedi’i wastraffu er mwyn i gyflwyno ar newydd wedd.

Mae’n cyffwrdd ar rywbeth ynom ni fel pobl, rhyw ysu rydym ni’n ei deimlo, rhyw olwg dan ni’n codi at y gorwel cyn mynd i mewn ar ddiwedd y dydd. Ac mae rhannu hyn efo gweddill y Cwt Piclo wedi bod yn llawenydd pur.

Mewn tymor o etholiadau a dadleuo, mewn byd sy’n crynu dan derfysg a rhyfel, rydym angen cyfle i ddod at ein gilydd a dathlu rhythm y tymhorau, i atgoffa’n hunain na gorthrymder a phoen yw diben ein bywydau. Dyma ffordd i ni gofio’r pethau bychain.


Ni fydd potel o kombucha yn arwain at chwyldro’n cymdeithas neu’n meddyliau ni. Ond mae wedi bod yn cychwyn da i rai ohonom ni yn Nyffryn Nantlle. Edrychaf ymlaen at be a ddaw nesaf.


Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!