Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i drefnu a chynnal gweithdai a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o Map Ogwen.
Gofynnwn i’r ymgesiwyr llwyddianus drefnu cyfres o weithdai a phresenoldeb mewn digwyddiadau yn cyflwyno Map Ogwen i drigolion yr ardal. Bydd disgwyl cyrraedd amrywiaeth o grwpiau dros gyfnod o hyd at 6 mis.
Beth yw Map Ogwen?
Map rhyngweithiol sydd yn galluogi defnyddwyr i fapio beth sydd yn bwysig iddyn nhw yn Dyffryn Ogwen.
Gall cael ei ddefnyddio i fapio amrywiaeth o bethau o goed, i fusnesau bwyd, i llecynnau celfyddydol arwyddocaol. Gellir addasu’r wefan i anghenion y gymuned, gan fapio beth sydd yn bwysig i bobl leol.
Mae’n bosib i unrhyw un wneud cyfrif ac ychwanegu at y map, a mae croeso i chi ei weld a y linc isod.
Mae’n rhaid i’r gwaith cael ei gwbwlhau rhwng 01.07.2026 a 31.01.2026. Gallwch gwbwlhau’r gwaith yn ystod y cyfnod yma yn unig.
Mae cyllideb o hyd at £3,500 ar gael, a gofynnwn i chi amlinellu eich costau yn eich cais.
Byddwn yn disgwyl i chi gynnal o leiaf 10 gweithdy neu digwyddiad yn cyflwyno Map Ogwen.
Byddwn yn disgwyl i chi adrodd ar faint o bobl, a pha grwpiau yr ydych chi wedi ymgysylltu hefo nhw.
Sut i ymgeisio
Gyrru llythyr cais, gyda amlinelliad bras o’ch costau, sut byddwch yn cyflawni’r gwaith, a proffil byr o’r rheini fydd yn ymgymryd â’r gwaith i chris@ogwen.org erbyn 28.05.2026 12:00pm (Hanner dydd). Yn eich cais, dylech chi hefyd sôn am eich gwaith neu profiad cysylltiedig. Bydd panel yn sgorio’r ceisiadau cyn cynnal cyfweliadau wythnos yn cychwyn 08.06.2026.
Am GwyrddNi
Eisiau gwybod mwy am GwyrddNi a Phartneriaeth Ogwen cyn ymgeisio? Gallwch ddarllen popeth am y ddau ar y dolenni isod.
Oherwydd rhesymau capasiti, mae Ynni Llŷn wedi gwneud y penderfyniad i gamu’n ôl o’u rôl o ddarparu GwyrddNi ym Mhen Llŷn.
Rydym yn ddiolchgar iawn am y gwaith y mae Ynni Llŷn wedi’i gyfrannu at GwyrddNi dros y blynyddoedd diwethaf,ac rydym yn parhau i’w cefnogi yn eu hymdrechion yn y dyfodol.
Dros yr ychydig fisoedd diwethaf, mae GwyrddNi ac Ynni Llŷn wedi gweithio gyda’i gilydd i ddod o hyd i sefydliad addas i gymryd drosodd ddarpariaeth gweithgareddau GwyrddNi ym Mhen Llŷn.
Mae Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn sefydliad elusennol â chenhadaeth gymdeithasol wedi’i leoli yn Llanbedrog. Eu prif genhadaeth yw ymgysylltu pobl â’r celfyddydau, ond mae ganddynt ethos amgylcheddol cryf hefyd – gofalu am goetir ffyniannus gyda chymorth gwirfoddolwyr, a chynnal cysylltiadau agos, hirhoedlog â’r gymuned leol.
“Mae’n bleser gan Blas Glyn-y-Weddw dderbyn y cyfle arbennig yma i ymuno mewn partneriaeth gyda sefydliadau a mudiadau cymunedol eraill yng Ngwynedd er mwyn helpu i weithredu gweledigaeth GwyrddNi. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio i wireddu prosiectau cyffrous.
Mae gan ein gweledigaeth a’n nodau yma yn y Plas lawer iawn yn gyffredin â egwyddorion Cynllun Gweithredu GwyrddNi ar gyfer Pen Llŷn, ac o ganlyniad gwelwn gyfle arbennig yma i gario ymlaen gyda’r gwaith arbennig mae Ynni Llŷn eisioes wedi arwain arno i wireddu y weledigaeth a’r syniadau gweithredu – gan ddod a buddion amgylcheddol, ieithyddol a diwylliannol yn eu sgîl gan wella gwydnwch cymunedol i’r dyfodol.” Oriel Plas Glyn-y-Weddw.
Credwn fod Plas Glyn-y-Weddw mewn sefyllfa dda i gario gwaith GwyrddNi ymlaen ym Mhen Llŷn, gan barhau i feithrin gweithredu hinsawdd lleol a chyfranogiad cymunedol mewn ffordd sy’n greadigol ac wedi’i seilio yr ardal leol.
Rydym yn gyffrous am y bartneriaeth hon a’r hyn y bydd yn ei olygu i ddyfodol ein gwaith ym Mhen Llŷn – a gobeithiwn y byddwch yn ymuno â ni i roi croeso cynnes i Blas Glyn-y-Weddw i’r teulu GwyrddNi.
Mae’n fraint gennym i gael blog gwadd gan Carwyn Graves, awdur Tir: The Story of the Welsh Landscape, ar ôl iddo ddod i siarad hefo ni fel rhan o Gwanwyn GwyrddNi (Yr Iaith yn y Tir, yng nghaffi’r Orsaf, 12/04/2025 hefo Elinor Gwynn a Gerallt Pennant). Dyma ei eiriau:
Hyfrydwch oedd derbyn gwahoddiad i gyfrannu i ddigwyddiad yn Yr Orsaf, Dyffryn Nantlle fel rhan o raglen ‘Gwanwyn GwyrddNi’ i drafod thema ‘Yr Iaith yn y Tir’. Noswaith yng nghwmni stafell lawn o bobl y fro, o dan gadeiryddiaeth ddeheuig Gerallt Pennant ac ochr-yn-ochr â’r Prifardd dawnus Elinor Gwynn.
Sgwrs Yr Iaith yn y Tir, Ebrill 12
Mae Elinor wedi gwneud gwaith manwl a dwfn yn cronni gwybodaeth ar enwau hynod leol ar fanylion yn y dirwedd ac yn enwedig felly ar yr arfordir, a hynny’n cwmpasu pob peth o wybodaeth leol pysgotwyr glannau Aber Tywi i enwau hanesyddol yn y Gymraeg ar liwiau nas defnyddir yn rheolaidd bellach. Yn ôl a ddeallaf nid yw cyfran helaeth o’r gwaith yma wedi ei gyhoeddi eto, a dyma gymryd y cyfle i fynegi’r gobaith y daw i hynny maes o law.
Cawsom sylwadau niferus o’r llawr hefyd, a minnau’n dysgu geiriau newydd o’r gynulleidfa; ‘gorof’ am allt goediog serth uwchben afon, ‘môr-flaidd’ am siarc a ‘crwnfa’ sef y rhan honno o’r môr wrth bysgota sydd o fewn cyrraedd ond y tu hwnt i’r don. Ond dyma fi’n teimlo’n fwyfwy anfodlon wrth adael, ein bod yn cylchu rhywbeth o bwys ac nad own i yn bersonol wedi llwyddo i fynegi’r peth canolog yr hoffwn fod wedi ei ddweud, ac na fuasai cyfle ychwaith i’w ddweud yn iawn mewn cyfrol Saesneg fel ag yw fy llyfr Tir yn y pendraw (hynny yw, er gwaetha fy mhrotestiadau mai ‘llyfr Cymraeg yn yr iaith fain’ ydyw!) Dyma roi ymgais arno felly.
Os nad oes gyda ni’r geiriau, sut gallwn ni warchod?
Carwyn (llun o Nation.Cymru)
Ieithydd ydw i o ran cefndir yn anad dim, yn siarad ac ysgrifennu dwy iaith heblaw am y Gymraeg a’r Saesneg i safon ddigon da, a chennyf rywfaint o gefndir proffesiynol ym meysydd academaidd iaith a chyfieithu. Dyna’r lens yr ydw i’n defnyddio, yn ddifeddwl bron, mewn sawl cyd-destun – ac mae’n rhoi, am wn i, ryw ychydig o bellter anorfod o’r ffordd y byddwn yn siarad a’r geiriau y byddwn yn eu defnyddio.
Mae gwarchod enwau llefydd yn amlwg o bwys i lawer iawn ohonom ni Gymry Cymraeg, a dwi’n meddwl yn aml iawn pan fydd amryw fyd ohonom yn ceisio mynegi pam ei fod yn bwysig i gadw hen enwau, bod yr esboniadau’n tueddu’n naturiol bron i fynd yn ddyfnach na sicrhau treftadaeth neu ymlyniad cenedlaetholgar yn unig. Meddai Tudur Owen ar S4C o fewn y misoedd diwethaf bod ‘enwau yn treiddio’n ddwfn i bwy ydan ni… yn gwreiddio lle i hanes, ac i’r bobl sy wedi byw yna. Unwaith wyt ti’n gwybod be ydy ystyr enw lle, ‘bang’ – mae e fel bod dimensiwn newydd wedi agor i ti!’
Pam fod Tudur, a chymaint ohonom, yn son am ‘ystyr’ enw lle yn y cyswllt yma? Pam fod arwyddocad i ystyr ‘cae rhyg’ neu ‘waun garanod’ neu ‘tyllgoed’ fel enwau ar leoliadau? (Cae rhyg – cae lle tyfid rhyg, a oedd yn rawn pwysig mewn ardaloedd oerach yng Nghymru hyd y 19eg ganrif; Waun garanod – tir agored, gwastad a gwlypaidd lle’r oedd garanod yn arfer byw; Tyllgoed – lle’r oedd arfer bod lliaws o goed gwag, ac awgrym cryf bod heidiau o wenyn gwyllt yno a pobl leol yn hel mêl.) Dwi’n meddwl, yn ei hanfod, mai’r rheswm yw am ein bod yn teimlo i’r enw gynnig cliwiau pwysig ecolegol a chymdeithasol, hynny yw fod yna allwedd i natur y darn tir/ môr, a pherthynas pobl â’r dernyn hwnnw, yn cael ei gynnig i ni yn yr enw.
Tir, llyfr diweddaraf Carwyn
Mae’r ddwy agwedd hon lawn bwysiced â’i gilydd. Yn gyntaf, yr ochr ecolegol; oes, mae newid, llanw a thrai yn nodweddu natur bywyd gwyllt ar y tir, a’r hinsawdd yn amrywio a deinameg rhywogaethau yn effeithio ar ei gilydd ddim yn rhoi sefyllfa statig o fewn byd natur. Ond ar y llaw arall, gorynys yn hemisffer y Gogledd yw talpyn daear Cymru, a daeareg y talpyn hwnnw a pheth wmbreth o’i nodweddion hinsoddol yn weddol ddigyfnewid ar bob graddfa ystyrlon i ddynolryw. Goblygiad hynny yw y bydd derwen a phorfa, gwas-y-neidr a gwylanod (a llu o rwyogaethau) bron yn rhwym o fod yn bresennol yma; ac o ymateb i’w gilydd ac i fryniau, pentydd, dolydd a chlogwyni’r tir hwn mewn ffyrdd gweddol bendant. Mae’r enwau, yn rhannol, yn rhoi disgrifiad ecolegol hir-dymor sy’n adlewyrchu’r ffordd mae pobl y telpyn hwn wedi nodi hynny dros amser. Mae yna reswm pam fod y ‘wern’ lle mae hi.
Ond mae’r rheswm yna, er yn rhannol ecolegol, hefyd yn un cymdeithasol (neu ‘diwylliannol’ neu ‘ddynol’). Dyw pobl ddim erioed wedi enwi pob un nodwedd o’r wlad o’u cwmpas. Nid pob un llechwedd sy’n derbyn enw, na phob cyfadran o goedlan. Fel rheol, rydyn ni’n enwi pethau pan fod pwrpas i hynny. O’r herwydd, mae afonydd yn hanesyddol wedi eu nodweddu gan enwau manwl dros ben, a phob pwll a rhaeadr a thraethell yn derbyn label disgrifiadol. I wneud yn bennaf mae hyn â phwysigrwydd pysgota. Y weithred o ddibynnu ar ddŵr croyw yr afon i ddarparu protein maethlon, blasus ar ran pobl leol a wnaeth esgor ar enwau hudolus hyd afon Teifi. Yn yr un modd, ar y cyfan mae nodweddion penodol yn perthyn i gaeau gwahanol a defnydd y cae, i raddau o leia, yn adlewyrchu hynny. Ond fel cae cyfan y defnyddir cae – ac nid fel arfer fel clytwaith o is-gaeau. Ac o’r herwydd dyma roi a thraddodi enwau i’r caeau – ond nid, ar y cyfan, i rannau penodol o fewn y cae! Adlewyrchu defnydd, i raddau, y mae’r enwi.
Yr wrth-ddadl yn erbyn hyn oll, yn awtomatig bron, yw mai rhamantu y byddwn wrth gynnig dadleuon o’r fath; bod iaith ac enwau’n newid yn naturiol ac mai rhyw fath o geidwadaeth gibddall sydd gennym wrth fynnu cadw hen enwau. Dwi’n meddwl bod hyn yn ddadl sy’n deillio o gamddealltwriaeth elfennol ynghylch natur newid mewn iaith. Mae’n wir fod corpws geirfaol ieithoedd yn newid dros amser, ac yn wir hefyd nad oes gan bob iaith o bell ffordd eiriau am yr un pethau â’i gilydd. Mae hyn yn mynd yn llawer bellach na 60 o eiriau am eira yn yr Arctig ac yn cynnwys pethau mor drawiadol â’r ffordd y bydd ieithoedd yn rhifo (“1-5…llawer… llawer iawn… ac anrhifadwy” yw rhifolion rhai ieithoedd), yn disgrifio’r sbectrwm lliw (ein ‘glas…wellt’ ni a’r ‘coch’ Cymraeg sy’n cynnwys ‘oren’ a ‘brown’ – gair na ddefnyddiwyd yn ein hiaith cyn c. 1830) neu’n son am y dyfodol a’r gorffennol (p’un sydd ‘yn ôl’ a ph’un sydd ‘o’n blaenau’, dywedwch?).
Y cwestiwn sy’n codi o’r ffeithiau ieithyddol hyn yw pam fod ieithoedd yn disgrifio’r byd mewn ffyrdd gwahanol i’w gilydd? Oes yma ryw fath o gysylltiad rhwng cyd- destun siaradwyr yr iaith a’r ffordd y bydd yr iaith honno’n datblygu i ddisgrifio’r byd? O ddefnyddio lliwiau fel enghraifft; oes modd i ni dybio bod y diffyg cymharol mewn ffenomena lliw ‘oren’ o fewn y cyd-destun Cymreig hyd yn gymharol ddiweddar wedi cyfrannu at y ffaith iddi fod yn ystyrlon cynnwys ‘oren’ o fewn ‘coch’ a ‘melyn’ (ac i raddau wedyn o fewn i ‘melyngoch’)? Tra’i bod, er enghraifft, yn bwysig bod gennym dermau penodol am liwiau fel ‘gwinau’ neu ‘llygliw’ wrth ddisgrifio anifeiliaid gwaith?
Dwi ddim am fynd â’r ddadl yn rhy bell – mae yna elfen o hap, damwain a mympwy yn hyn oll wrth gwrs. Ond mae’n ymddangos yn amlwg i mi bod yna elfen arall, glir o fireinio wedi digwydd ar draws y cenedlaethau, wrth i bobl chwilio am ffyrdd addas, effeithiol i gyfathrebu gyda’i gilydd am hanfodion bywyd oddi fewn i’r amgylchfyd hwn yr ydym yn ei alw ers tro byd yn ‘Gymru’.
Mae yna reswm ‘gwyrdd’ neu ecolegol dros oedi ar y mater yma yn fy nhyb i, a’r rheswm hwnnw’n dod yn glir wrth droi realiti ein tirwedd o chwith. Petaem ni ond heddiw yn darganfod tir Cymru, ac gorfod enwi’r wlad, ai tlotach fyddai ein henwau newydd am y tir na’r hyn sydd gennym mewn realiti? Wrth gwrs y byddai; a beth yn union, wrth fapio ac enwi tir gwyryfol y Gymru newydd-ddarganfyddedig hon, fydden ni’n ei golli? Mae’n siwr gen i y byddai nodweddion o bob math ddim yn derbyn enw petaem ni ond yn enwi’r tir yn awr, yn 2025. Byddai ysbrydion y gorffennol, wrth gwrs, yn gwbl absennol, ac hefyd ffenomena ymylol neu achlysurol (golchfeydd defaid; iyrchod ar gerrig; cimwch ar lechi arfordirol ayyb). Byddai ein llygaid yn bwl, a manylder yn mynd ar goll.
Llun o brosiect Enwau’r Caeau, Stori’r Tir Dyffryn Peris
A dyna bwysigrwydd hyn oll i mi; dyma graidd y berthynas rhwng iaith a’r tir. Mae’r ‘amgylchedd’ yn y pendraw yn rhy fawr o beth, rhy annelwig mewn ffordd, i ni fel pobl wir allu brwydro i’w ‘achub’. Gwahanol yw hi pan ddaw’n fater o ymladd i gadw bro, neu goedlan, neu fynydd penodol, lleol i ni. Medrwn ymladd i gadw lleoedd, cynefinoedd, rhywogaethau penodol am ein bod yn teimlo ein bod yn eu hadnabod. Ac er mwyn hynny, er mwyn wedyn medru ymladd i gadw dolydd rhag cael eu datblygu, neu lechwedd rhag gael ei reibio, rhaid medru eu diffinio a’u henwi. Cofiwn Dryweryn; achubwn Gaeau Ffos Fach ayyb.
Hynny yw; rheidrwydd yw adnabod er mwyn gallu gwarchod. Heb enwi, go brin bod yna adnabod o gwbl. Dyna pam i mi fod iaith yn elfen gwbl anhepgor o unrhyw ymgais amgylcheddol neu gadwriaethol.
Mae’n bosib fy mod i, yn hyn oll, yn ceisio rhoi fy mys ar rywbeth sydd i weld yn bwysig ac yn wir i mi, ond sydd ddim yn gwneud rhyw lawer o sens i eraill. Dwi’n derbyn hynny. Ond ceisio mynegu rhywbeth sy ychydig yn fwy na hynny yr ydw i; ceisio dweud fod yma ffordd o feddwl, agwedd fel petai, sydd at ei gilydd yn eitha cyffredin o fewn y diwylliant Cymraeg. Fy mod, mewn geiriau eraill, yn rhoi yn fy ffordd fy hun ryw ganfyddiad am y cysylltiad rhwng iaith, y tir – y gymdeithas, a’r amgylchedd – sydd yn gyffredin i lawer ohonom.
Does gen i ddim diddordeb mewn gor-ddweud; dwi ddim yn ceisio honni fod ‘y Cymry’ yn gynhenid ‘werdd’ mewn rhyw ffordd ddihafal. Ond tybed a oes yna rywbeth yma, dywedwch?
Mae’n anodd amgyffred y bwlch fydd ohoni yn sgil colli hoelion wyth ein bro. Anos fyth cysidro beth, os unrhywbeth, a ddaw i’w lenwi.
Mae tri felly wedi ein gadael, eleni. Tri a oedd yn llawn chwilfrydedd digyfaddawd ac yn arbennig hael eu hamser a’u syniadau gan gyfoethogi bywydau di-rif.
Sel Williams
Sosialydd, athronyddwr, athro, actifydd, cerddwr, naturiaethwr, hanesydd a mwy. Gweledigaeth Sel o gymunedau yn perchnogi a llywio eu dyfodolau eu hunain oedd un o brif yrrwyr sefydlu rhwydweithiau Cwmni Bro Ffestiniog a Cymunedoli yng Ngwynedd. Ei hawddgarwch a’i frwdfrydedd a’i gwthiodd ymhellach y llynedd i gymrodorion ar draws Cymru, a thu hwnt.
Bu’n ddarlithydd datblygu cymunedol gan ysbrydoli sawl un tuag at yrfaoedd ystyrlon. Ar ddiwrnod beth fuasai wedi bod ei benblwydd yn 80, bydd ei gyfeillion yn ymgynull i ddathlu ei oes, i rannu hanesion ac i gynllunio etifeddiaeth sy’n deilwng ohonno. Mae’n wir werth i pawb gymeryd hanner awr o’u diwrnod i wylio Sel a’i ddarlith ar y mynydd [https://vimeo.com/949563100] a oedd yn ran o Stori’r Tir, Dyffryn Peris yn 2024.
Yng ngwyneb heriau mawr ein hoes mae gwir ddeall a caru cymuned, perchnogi asedau lleol ac ymfalchio yn ein bro yn wersi holl bwysig. Gobeithiwn yn fawr allu gwneud cyfiawnder a’r gwersi yma a chyd-gynnal fflam Sel i’r dyfodol. Diolch amdanat, Sel.
Gareth Roberts
Yn trigo uwchben Deiniolen, collwyd Gareth yn sydyn fis Ebrill eleni, a gydag o, hanesion a damcaniaethau di-rif am yr hyn a fu, beth sydd wedi mynd a dod a beth allasai wedi a bodoli dros y canrifoedd yn y fro hon, a thu hwnt. Roedd ei deithiau cerdded wastad yn orlawn gyda mynychwyr selog yn aml yn awchu am fwy. O gasglu hanesion pentrefi a’u gosod ar fap i gyrchu henebion anelwig, roedd dawn Gareth i wefreiddio pobl o bob oedran heb ei gymharu.
Roedd ei gefnogaeth a’i anogaeth i waith GwyrddNi yn amhrisiadwy a gobeithiwn allu cefnogi Menter Fachwen ac eraill i sicrhau coffhad teilwng, o bosib trwy sefydlu canolfan gymuedol ac arddangosfa dreftadaeth a fu’n uchelgais ganddo ar safle hen Ysgol Cwm-y-Glo. Diolch amdanat, Gareth.
Chris Gathercole
Pan oedd GwyrddNi Dyffryn Peris yn hedyn bychan o syniad yn cynnal ambell ddigwyddiad galw-i-mewn gobeithiol, y person cyntaf i neidio am y cyfle oedd Chris a oedd yn 84 mlwydd oed ar y pryd. Dros nifer o sgyrsiau ac ebyst, cyfarfodydd grŵp ac ymweliadau i’w gartref carbon isel, roedd yn amlwg fod yma amgylcheddwr profiadol, angerddol ac uchelgeisiol. Bu’n ysbrydoliaeth ac yn fentor i mi yn hynny o beth. Roedd ei syniadau a chysylltiadau arbenigol yn gymorth mawr wrth ddylunio ein Cynulliadau.
Daeth yn ffrindiau gyda nifer o aelodau’r Cynulliad Cymunedol hefyd, a bu yn ymweld a chartrefi eraill i rannu arferion da ynglyn ag ôl-ffitio a lleihau defnydd ynni yn y cartref. Roedd Chris yn gymydog arbennig a hwylusodd sawl perthynas arall rhwng cymdogion – dyma adeiladu gwydnwch cymunedol ar waith, yn dawel bach. Rhoddodd domen o lyfrau ecolegol a chymdeithasolegol i mi i’w dosbarthu yn lleol. Ni wyddwn hyd nes ei angladd ei fod hefyd wedi arloesi ym maes iechyd meddwl fel seicolegydd clinigol, gan eirioli dros gefnogaeth a chynhwysiad cymunedol i’w gleifion yn hytrach na gwarchodaeth sefydliadol. Diolch amdanat, Chris.
Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny!
Fel y gwyddoch mae’n siŵr, cychwynnodd ein taith gyda’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawddyn 2022-2023, lle daeth trigolion ar draws ein pum ardal yng Ngwynedd ynghyd i gyd-ddychmygu dyfodol mwy gwyrdd. Yn dilyn hyn, roedd GwyrddNi yn falch iawn o dderbyn cyllid pellach gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn ein galluogi i ddechrau dod â syniadau ysbrydoledig ein cymuneddau – sydd wedi eu dal yn ein Cynlluniau Gweithredu– yn fyw!
Nododd hyn ddechrau’r “Cyfnod Gweithredu Cymunedol” – amser ar gyfer rhoi cynlluniau ar waith.
Ers hynny, mae egni ac angerdd ein cymunedau wedi bod yn ysbrydoledig. Mae rhai grwpiau wedi bod yn gweithio’n ddiflino ers y Cynulliadau, gan gymryd yr awenau i sicrhau eu cyllid eu hunain. Mae eraill wedi gweithio gyda Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, gan dderbyn cefnogaeth a chyllid sbarduno i roi cychwyn ar eu prosiectau.
Rydym wedi creu’r adroddiad hwn i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi rydym wedi’u dysgu gyda’n gilydd:
Ond nid dyma ddiwedd y stori – dim ond y dechrau! Mae’r Cynlluniau Gweithredu yn llawn syniadau gwych sydd angen eich cefnogaeth, ac mae arian had ar gael o hyd i roi hwb i fentrau newydd neu cefnogi rhai sy’n bodoli. P’un a ydych yn llawn syniadau neu’n awyddus i roi help llaw, rydym eisiau clywed gennych! Cysylltwch â ni neu llenwch y ffurflen fer yma i ddweud wrthym sut yr hoffech chi gymryd rhan.
Dros y tair blynedd nesaf, ein nod ydi hadu, meithrin a chefnogi ystod eang o brosiectau, gan alluogi ein cymunedau i gymryd perchnogaeth ohonynt yn y tymor hir – gan greu effaith crychdonnol o ysbrydoliaeth a newid positif dros Gwynedd a thu hwnt!
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni.
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.”
Dyma Lowri, Hwylusydd Dyffryn Peris, yn sôn am y gwaith sydd wedi bod yn digwydd dros y flwyddyn yma i geisio dod â’r weledigaeth yma yn fyw.
—
Lowri:
“Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.” – dyna chi lond ceg!
Her uchelgeisiol ac angenrheidiol i sicrhau ffyniant y fro hynod hon yng ngwyneb heriau lluosog, yn lleol a rhyngwladol. Mae ‘na beth wmbrath o waith gwych yn mynd rhagddo gan wirfoddolwyr a gweithwyr brwd, ac ychwanegu gwerth i hynny fu y nôd.
Ym mis Ionawr eleni, galwyd cyfarfod cyhoeddus yn y Sefydliad Coffa Arwyr, Llanrug er mwyn dal y syniad yma i fyny i’r golau. Gwahoddwyd y cynghorau cymuned lleol, grwpiau a mudiadau di-elw ac unrhyw un arall gyda diddordeb. Roedd y caffi yn orlawn!
Clywsom am flaenoriaethau’r gymuned a gasglwyd gan Gyngor Gwynedd yn eu hymgynghoriad Ardal Ni 2035. Datblygu Llwybrau, Gwella Edrychiad, Tai addas, Trafnidiaeth gyhoeddus, Cefnogi Busnesau, Twristiaeth Cynaliadwy, Cynlluniau i bobl ifanc, Gweithgareddau Cymraeg, Gwella cydweithio, Sgiliau cymunedol.
Clywsom hefyd am amcanion GwyrddNi ac am rwydwaith newydd sy’n hybu perchnogaeth a hunan-benderfyniad cymunedol yng Ngwynedd; Cymunedoli Cyf.
Roedd cyflwyniad i waith Antur Stiniog dros y 15 mlynedd diwethaf yn ysbrydoledig. Mae nhw wedi troi heriau gor-dwrisitaeth ar ei ben a chreu incwm ohonno sydd wedi hadu nifer o brosiectau cymunedol eraill. Bachodd y syniad o greu mudiad ‘ymbarel’ fel Cwmni Bro Ffestiniog i gefnogi a chysylltu mudiadau parod a gallu creu prosiectau newydd yn nychymyg y rhai fu’n bresennol.
Erbyn diwedd y cyfarfod, roedd syniadau o ffrydiau incwm a phrosiectau newydd wedi eu cofnodi, opsiynnau cyllido wedi eu hadnabod, gofod swyddfa posib ar gael a chynigion i hybu’r syniad trwy’r Papur Bro lleol, Eco’r Wyddfa.
—
Poster a aeth allan i esbonio’r weledigaeth
Datblygu cynlluniau
Dros y 7 cyfarfod dilynnol eleni, mae nifer o opsiynau wedi eu harchwilio, grŵp llywio wedi ei sefydlu, Cynllun Busnes wedi ei ddatblygu, Swydd Ddisgrifiad ar gyfer Rheolwr Datblygu wedi ei ysgrifennu a threfniadau cyllido’r swydd honno trwy nawdd Cynghorau Cymuned Llanberis a Nant a Llanrug a Cwm-y-Glo a Chwmni Ynni Padarn Peris yn cael eu mireinio.
£8000! Diolch i gyllido gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y DU a Grymuso Gwynedd, llogwyd gofod cydweithio yn Caban, Brynrefail am gyfnod o 6 mis. Rhoddodd hyn i’r gwaith o ddatblygu Partneriaeth Dyffryn Peris ofod swyddfa, ystafell gyfarfod, sgyrsiau achlysurol dros goffi a chyfle i gynnal digwyddiadau Cymraeg a denu gwirfoddolwyr.
Bu i’r grofna hon hefyd dalu am wasanaeth ymgynghorol gan arbenigwr Datblygu Cymunedol – Meleri Davies. Roedd dysgu o’i phrofiad hi o ddatblygu Partneriaeth Ogwen dros y ddegawd diwethaf yn amhrisiadwy, a’r Cynllun Busnes drafft a gynhyrchwyd yn hynod gynhwysfawr.
Diolch hefyd i holl wirfoddolwyr y Grŵp Llywio am rannu o’u profiadau ac arbenigeddau cyfoethog. Ecolegwyr, sylfaenwyr a chyfarfywddwyr sawl mudiad cymunedol, cynghorwyr Sir a chymuned, cyn- benaethiaid gwasanaethau tai, saeri, artistiaid a mwy!
Beth nesaf?
Diolch i waith diwyd a gofalus y Grŵp Llywio cychwynnol, mae trefniadau cyfreithiol, ariannol a chynllun busnes bron i gyd yn eu lle. Beth sydd ei angen nesaf ydy dod a’r Bartneriaeth yn FYW!
Perthynas ydy Partneriaeth yn y bôn, ac fel unrhyw berthynas, mae angen gofal a chariad ac ymdrech barhaus o bob ochr i’w chynnal. Nid oes un i arwain ac eraill i ddilyn! Wrth ddod i adnabod ein gilydd yn well mewn digwyddiadau achlysurol, a chefnogi ymdrechion ein gilydd, bydd y gwaith o ddatblygu’n cymunedau yn dod a mwy o wobrwyon i bawb, yn y pendraw.
Bydd digwyddiad cyhoeddus yn y flwyddyn newydd (amser a lleoliad i’w gadarnhau) i ddod a thrigolion a busnesau at ei gilydd i gael cyfle i sgwrsio, i rannu o’u profiadau, ac i ddathlu’r gwaith caled sy’n digwydd ar draws ein cymunedau. Byddwn hefyd yn hysbysebu swydd Rheolwr Datblygu Partneriaeth Dyffryn Peris er mwyn codi gwynt i’r hwyliau o ddiffrif.
Os oes gennych chi ddiddordeb ymuno gyda’r Grwp Llywio, byddwn yn croesawu sgwrs gyda chi.
Mae £10,000 wedi ei sicrhau ar gyfer cynnal Asesiad Anghenion Tai Lleol ac i asesu modelau, eiddo a chyllido posib ar gyfer Tai dan arweiniad y gymuned. Bydd cyfarfodydd yn cael eu galw yn y flwyddyn newydd i glywed barn a syniadau trigolion ynglyn a hyn er mwyn mynd i’r afael a’r argyfwng tai mewn modd rhagweithiol a chadarnhaol.
Os hoffech chi gael gwybod am ddigwyddiadau pellach – anfonwch ebost at peris@gwyrddni.cymru i gael eich ychwanegu i’r rhestr dosbarthu.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan i roi'r profiad mwyaf perthnasol i chi trwy gofio'ch dewisiadau ac ailymweliadau. Trwy glicio “Derbyn pob cwci”, rydych chi'n cydsynio i'r HOLL gwcis gael eu defnyddio. Fodd bynnag, gallwch ymweld â "Gosodiadau Cwci" i roi caniatâd rheoledig.
This website uses cookies to improve your experience while you navigate through the website. Out of these, the cookies that are categorized as necessary are stored on your browser as they are essential for the working of basic functionalities of the website. We also use third-party cookies that help us analyze and understand how you use this website. These cookies will be stored in your browser only with your consent. You also have the option to opt-out of these cookies. But opting out of some of these cookies may affect your browsing experience.