Postiwyd ar

Hyrwyddo Cynnyrch Lleol

Mae pob cymuned yn cydnabod pwysigrwydd tyfu bwyd lleol i leihau milltiroedd bwyd, cefnogi’r economi leol, a chynyddu hunangynhaliaeth.

Dwedodd sawl cymuned yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd eu bod eisiau creu lleoedd a systemau i rannu a dosbarthu bwyd a dyfwyd yn lleol, e.e. marchnadoedd, pantris, a chyfeiriaduron.

Mae marchnadoedd lleol eisoes wedi cychwyn yn Nyffryn Nantlle a Bro Ffestiniog.

Dyffryn Nantlle

Deilliodd Marchnad Lleu, marchnad gymunedol fisol, o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu cynigion.

Roedd y tîm craidd tu ôl i Farchnad Lleu eisoes wedi cyfarfod trwy grŵp Gwrthryfel Difodiant (XR) yn Nyffryn Nantlle. Cawsant eu hailuno yn ddiweddarach yng Nghynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd GwyrddNi. Daeth Marchnad Lleu i’r amlwg fel ymateb i’r angen a’r awydd am ddewisiadau amgen cynaliadwy ac ymgysylltiad cymunedol.

Rydym yn cydweithio hefo’r Farchnad lle gallwn, e.e. drwy drefnu cyfnewidfa hadau. Mae’r Farchnad yn le gwych i brynu cynnyrch organic, lleol: 3ydd dydd Sadwrn y mis yn Neuadd Goffa, Penygroes – 10yb-1.30yp. Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth: https://marchnadlleu.co.uk neu ymunwch â’r grŵp Facebook i wneud yn siŵr eich bod yn cael y newyddion diweddaraf.

Blog am Farchnad Lleu: https://www.gwyrddni.cymru/marchnad-lleu/

Bro Ffestiniog

Mae Marchnad Gymreig Tre’ Cocos, Penrhyndeudraeth yn rhedeg yn fisol o Neuadd Goffa Penrhyndeudraeth, hefo stondinau bwyd a chrefftau lleol (llun: Wil hefo cynnyrch o Gerddi Maes-y-Plas, Blaenau Ffestiniog).

Gallwch gadw bwrdd a chael fwy o wybodaeth drwy ebostio marchnadtrecosos@gmail.com

Oes gennych ddiddordeb mewn hybu cynnyrch lleol ym Mhen Llŷn, Dyffryn Ogwen neu Dyffryn Peris? Llenwch y ffurflen neu cysylltwch i weld sut all GwyrddNi helpu i gefnogi eich syniad.

Postiwyd ar

Gerddi a thyfu bwyd

Roedd yn glir o’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd bod pob ardal yn angerddol am fedru tyfu bwyd eu hunain, sydd yn rhan hanfodol o leihau ein hôl troed carbon a chreu cymunedau gwydn ac iach.

Mae GwyrddNi wedi bod yn cefnogi rhai prosiectau tyfu a oedd yn bodoli yn barod, ac wedi helpu sbarduno rhai newydd. Cysylltwch os ydych eisiau cychwyn rhywbeth yn eich ardal chi!

Bro Ffestiniog:

Gerddi Maes-y-Plas

Mae grŵp garddio yn cyfarfod rhwng 11yb-1yp ar Ddydd Iau ym Mlaenau Ffestiniog – yng ngerddi Maes-y-Plas neu’r ar safle garddio gymunedol newydd gerllaw.

Ymunwch â grŵp Bwyd Lleol Bro Ffestiniog ar WhatsApp am fanylion o le/pryd i gyfarfod, neu hyd yn oed dim ond i gadw llygad am gynnydd a chynnyrch. Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru

Prosiect gardd farchnad gan Y Dref Werdd ydi Gerddi Maes-y-Plas ym Mlaenau Ffestiniog – dyma glip o’r gerddi ar S4C (ar Facebook). Mae GwyrddNi wedi bod yn cydweithio gyda Maes Y Plas, gyda gwirfoddolwyr ac i hybu ac ehangu’r gwaith.

Dilynwch Gerddi Maes-y-Plas ar Facebook.

Mae GwyrddNi hefyd wedi bod yn cydweithio gyda Gerddi Maes-y-Plas ar safle cymunedol arall gerllaw. Y llynedd daeth y safle â syniad o’r Cynlluniau Gweithredu i realiti a chynhyrchwyd mwy na 1000 o datws yn lleol. Eleni, bydd y ffocws yn symud i dyfu llwyni a choed ffrwythau.

Dosbarthodd Prosiect Tyfu Tatws 25 o focsys gyda phopeth y gallai fod ei angen arnoch i dyfu eich tatws eich hun i bob math o erddi gwahanol ym Manod. Mae’r prosiect hwn bellach ar gael i unrhyw grŵp Bwyd Lleol cymunedol ym Mro Ffestiniog – felly cysylltwch os ydych eisiau darparu Tatws i Bawb yn eich ardal.

Cysylltwch hefo ffestiniog@gwyrddni.cymru i fod yn rhan o hyn.

Dyffryn Nantlle:

Mae prosiect Bwyd a Lles Yr Orsaf yn datblygu 3 prif elfen – rhandiroedd cymunedol wrth ymyl y Ganolfan Hamdden; Gardd Wyllt Penygroes, i greu gardd gymunedol i bobl leol a chynyddu bio-amrywiaeth ar yr un pryd; a’r Pantri Cymunedol, sy’n defnyddio bwyd dros ben o’n Co-op lleol, a bwyd gan archfarchnadoedd eraill, yr ACT Foundation a FareShare. Cysylltwch hefo esyllt.yrorsaf@gmail.com am fwy o wybodaeth.

Mae Garddio Gyda’n Gilydd yn cymryd lle yn yr Ardd Wyllt, Penygroes pob Dydd Mercher o 10yb-12yp.

Gardd Nant, Talysarn

Mae Gardd Nant, Talysarn wedi ei gychwyn gan Gyfeillion Talysarn a Nantlle gyda chefnogaeth gan GwyrddNi. Dros y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi cydweithio hefo ysgolion lleol, wedi cael ymweliad gan grŵp o Alabama (roedd hyn ar S4C!) ac wedi bod yn trefnu digwyddiadau cymunedol eraill fel hel sbwriel.

Mae dyddiau gwirfoddoli yn cael eu trefnu yn rheolaidd. Cysylltwch hefo garddnant@yahoo.com neu gwyliwch am newyddion ar dudalen Facebook Cyfeillion Talysarn a Nantlle.

Dyffryn Ogwen

Mae Gerddi Ffrancon (wrth ymyl y Ganolfan Hamdden ym Methesda) yn ardd gymunedol gan Dyffryn Gwyrdd (Partneriaeth Ogwen), lle mae gwirfoddolwyr yn cyfarfod 3-4 gwaith yr wythnos i dyfu bwyd, hefo’r gobaith o rannu’r bwyd i’r gymuned. Bu’r criw yn creu jam dros y gaeaf hefo’r ffrwythau a dyfwyd dros haf llynnedd.

Cysylltwch hefo chris@ogwen.org i fod yn rhan o hyn!

Mae GwyrddNi hefyd yn cefnogi gwirfoddolwyr i arddio hefo’r disgyblion yn Ysgol Abercaseg.

Pen Llŷn

Yng Nghynllun Gweithredu Pen Llŷn, mae cynlluniau i sefydlu rhandiroedd i dyfu bwyd lleol, i gydweithio hefo ysgolion ac i greu rhwydwaith o gynhyrchwyr lleol a hybu bwyd lleol er mwyn lleihau milltiroedd bwyd, gwella iechyd, cryfhau cydweithio, a rhoi hwb i’r economi leol.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo llyn@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Dyffryn Peris

Dymunodd Cynulliad Dyffryn Peris i:

  • Greu map bwyd cymunedol
  • Canfod mannau caedig ar gyfer gardd/rhandir
  • Rhannu bwyd a gwybodaeth
  • Creu gofod i rannu hadau, sgyrsiau, offer a chwmni
  • Creu micro erddi cymunedol a rhandiroedd i bobl dyfu eu hunain.
  • Creu grŵp sydd gyda diddordeb gweithio ar yr uchod.

Oes gennych chi syniad am sut i ddechrau cyflawni hyn, neu ydych chi eisiau bod yn rhan o ddod a’r weledigaeth yma yn fyw? Os oes, cysylltwch hefo peris@gwyrddni.cymru neu llenwch y ffurflen yma.

Postiwyd ar

Cwt Piclo

Mae’r Cwt Piclo yn cynnig lle i bobl ddysgu am a chymryd rhan mewn gweithdai ar gadw bwyd. Cododd y syniad fel ffordd o ddelio â gormodedd o fwyd wedi’i dyfu yn y gerddi cymunedol lleol, ond mae hefyd yn cynnig y cyfle i bobl ddysgu rhywbeth yr oedd ein neiniau yn gwybod yn iawn – y grefft o biclo a chadw bwyd.

Mae gofod pwrpasol ar gyfer gweithdai piclo yn cael ei baratoi ar hyn o bryd yn Yr Orsaf a bydd yn barod yn fuan. Yn y cyfamser, mae nifer o weithdai eisoes wedi eu cynnal.

Darllenwch mwy yn y blog yma gan Trey: https://www.gwyrddni.cymru/cwt-piclo/

Eisiau bod yn rhan o hyn? Cysylltwch â sion.yrorsaf@gmail.com