Mae Jac y Neidiwr yn rhywogaeth ymledol eang ym Mhrydain. Mae’n niweidiol iawn, yn achosi erydiad i lannau afonydd, ac yn ffurfio clystyrau trwchus sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o lifogydd ac yn lleihau neu’n atal planhigion brodorol, yn ogystal ag effeithio’n negyddol ar fioamrywiaeth arall.
Mae’n cystadlu yn erbyn planhigion brodorol, gan dynnu sylw peillwyr oddi wrthynt. Mae Jac y Neidiwr yn cynhyrchu a gwasgaru hadau yn egnïol iawn, sy’n ei wneud yn ymledol iawn.
Un o syniadau o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Dyffryn Peris oedd “Cychwyn mapio y rhywogaethau ymledol (e.e. Jac y Neidiwr) a phwy sy’n gwneud be’ amdanyn nhw yn barod.
Roedd hyn yn ran o grŵp ehanach Dŵr a Thir, sydd hefo’r nodau canlynol:
- Cynyddu gwybodaeth am beth sydd yma yn barod gan adnabod a mapio cynefinoedd, bioamrywiaeth a rhywogaethau ymledol i arwain ein hymagwedd.
- Cymryd ymagwedd lle wrth le, osgoi ‘datrysiadau blanced’ a gweithio gyda thirfeddianwyr i greu clytwaith o ymatebion addas i le.
- Cefnogi llewyrch cynefinoedd, rhywogaethau o blanhigion, coed ac anifeiliaid yn y llefydd cywir ar gyfer bioamrywiaeth, rheoli llifogydd a chynhyrchu bwyd.
Yr Ateb?
Mae’r Jac-y-Neidiwr yn cael ei fapio hefo’r app “INSS Mapper”, arweinwyr cymunedol yn cael eu hyfforddi a rydym a trefnu dyddiau ‘tynnu’ rheolaidd dros y gwanwyn a’r haf bob blwyddyn.
Rydym wedi bod yn gweithio hefo tirfeddianwyr, y gymunedol ac ysgolion Nyffryn Peris i weithio tuag at y nodau yma. Mae ymdrechion gwirfoddol yn canolbwyntio ar fanau uchel ger Afon Hwch ac Afon Caledffrwd i ddechrau a gweithio i lawr o’r mannau hynny.
Yn Ebrill 2024, trefnwyd hyfforddiant Clirio Jac-y-Neidiwr hefo Cymdeithas Eryri i 9 o bobl gael dysgu sut i arwain grwpiau clirio yn ddiogel ac yn effeithiol.
Dyma fideo o Fehefin 2024 gyda phlant Ysgol Dolbadarn, Llanberis a lenwodd 4 sach tunnell o Jac-y-Neidiwr!
Eisiau bod yn rhan o hyn? Cysylltwch hefo Lowri ar peris@gwyrddni.cymru