Mae prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn cefnogi pobl ifanc i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.
Y syniad: Cysylltu ysgolion hefo artistiaid ac ymarferwyr creadigol lleol i greu prosiect i gyfleu negeseuon y bobl ifanc. Mae’r disgyblion yn cyfweld ac yn dewis yr ymarferydd creadigol eu hunain, ac mae’r allbwn yn dibynnu ar y syniadau mae nhw’n eu cynhyrchu gyda’i gilydd.
Mae hyn yn golygu gall unrhyw beth ddigwydd! Hyd yn hyn, rydym wedi cael caneuon, perfformiadau, llyfrau, cerddi, erthyglau, gwaith celf, parêd a mwy!
Y story hyd yma…
Dyffryn Ogwen
Yn Ysgol Dyffryn Ogwen, penderfynodd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 eu bod eisiau gwneud “sblash” mawr drwy fynd a’u neges i Garnifal Bethesda – gan berfformio dramâu byrion a chreu “fflôt” trawiadol i’w gario yn y parêd. Bu’r disgyblion yn brysur yn addurno eu llusernau a banneri hefo Manon Prysor.

Gwelsom bysgodyn enfawr yn llawn plastic, a hefyd Spongebob a Patrick yn dod i gwyno am ansawdd eu cartref! Bu’r bobl ifanc hefyd yn ysgrifennu ac ymarfer eu dramau dan arweiniad yr actores Angharad Llwyd.



Dyffryn Nantlle
Dewisodd disgyblion Ysgol Dyffryn Nantlle i weithio hefo’r cerddor ac awdur Gai Toms, ac maent wedi creu llyfr a thair cân wreiddiol o ganlyniad.
Mae’n siwr eich bod yn gyfarwydd â nofel wych Manon Steffan Ros – Llyfr Glas Nebo? Fel gwrthwenwyn i neges dystopian y llyfr, penderfynodd y disgyblion eu bod eisiau creu Llyfr Gwyrdd Nantlle, sef casgliad o gelf, barddoniaeth a gweledigaethau positif ar gyfer dyfodol y Dyffryn.



Mae tair cân wreiddiol hefyd wedi eu hysgrifennu: Cwm y Cerrig, y Llithr a’r Llethr a Pigavo.
Dyffryn Peris

Yn Ysgol Dolbadarn, dewisodd y plant i weithio hefo’r artist lleol Katie Ellidge. O greu llyfrau braslunio (sgrap) a gwehyddu gwaith celf allan o wastraff, cafodd y plant gyfle hefyd i ddysgu am bynciau pwysig fel gwastraff, rhywogaethau prin a theithio llesol.
Daeth artist lleol arall, Femke van Gent, i mewn wedyn i greu darn o gelf weledol yn dal gweledigaethau’r plant o ddyfodol disglair i’r Dyffryn.
Fel y gwelwch o’r lluniau – mae’r plant yn breuddwydio am fyd gwyrdd, glân, lle mae pobl yn teithio ar feiciau ac yn codi eu sbwriel!



Bro Ffestiniog
Yn Ysgol y Moelwyn, dewisodd grŵp o ddisgyblion blynyddoedd 7 ac 8 i weithio hefo Buddug Roberts. Ar ôl gwario dipyn o amser yn dod i nabod ei gilydd a’u bro, dechreuodd y disgyblion feddwl am ba negeseuon y hoffan nhw eu rhannu.



Maent wedi creu ‘Lotobot’ creadur sydd am gynnal a rhannu eu negeseuon am yr hinsawdd gyda’r gymuned yn ystod Gwyl y Glaw ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Medi.

Be’ nesaf?
Bydd prosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi yn parhau… dewch yn ôl i weld beth arall bydd ein pobl ifanc wedi ei ddychmygu!
