Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Wedi llwyth o waith cyffrous, mae rownd un o’r prosiect wedi dod i ben, ac mae un peth yn enwedig wedi dyfod o’r prosiect.
Cynnig cyfle i bobl ifanc weithio ar brosiectau creadigol am newid hinsawdd mae Ysgolion Creadigol. Mae’r bobl ifanc ar draws 5 ardal GwyrddNi wedi dewis creu pethau gwahanol ym Mlaenau Ffestiniog ymddangosodd Lotobot! Peidiwch a phoeni os nad yw’r gair LotoBot yn golygu unrhyw beth i chi, mae Agi o Ysgol y Moelwyn yn esbonio:
“Lotobot yw ein cynrychiolydd ar gyfer newid hinsawdd ym Mro Ffestiniog. Fe’u cynlluniwyd gennym ni i gynrychioli popeth yn ein hardal leol, a dyna pam mae Lotobot yn edrych fel maen nhw.”

I ddod ar broses o greu LotoBot yn fyw cafodd ffilm ei greu a cewch ei wylio yn fan hyn.
3 munud 30 eiliad yw hyd y fideo ac mae yna isdeitlau Saesneg ar gael.
Mae’r broses o gymryd rhan ym mhrosiect Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn bwysig i bobl ifanc Ysgol y Moelwyn sydd ddim yn teimlo fel eu bod nhw’n cael eu clywed ar faterion newid hinsawdd. Dywedodd Gethin, disgybl yn yr Ysgol, pam ei fod o’n gweld hi’n bwysig gweithredu “Mae hi’n bwysig i weithredu ar newid hinsawdd oherwydd bod hi’n broblem enfawr a bysa pobl yn gallu gwneud rhywbeth i helpu trwy wneud y pethau bychain.”
Mae’r prosiect hwn wedi ysbrydoli staff GwyrddNi ac Ysgol y Moelwyn, sydd wedi cael y cyfle i adael i bobl ifanc redeg yn wyllt gyda’u syniadau. Dywedodd Edward Roberts, athro Daearyddiaeth yn Ysgol y Moelwyn “Rydym yn hynod o ddiolchgar i GwyrddNi am gyd-weithio efo’r ysgol. Mae’r prosiect efo Buddug Roberts wedi bod yn fuddiol ofnadwy i’r plant sydd wedi cymryd rhan gan eu bod nhw wedi creu perthnasau arbennig efo’i gilydd ac wedi cyd-weithio’n agos o dan ei harweiniad i greu ffordd greadigol o gael eu neges am newid hinsawdd ac yr amgylchedd allan i’r gymuned leol”.
Dywedodd Nina Bentley, hwylusydd cymunedol GwyrddNi hefyd “Mae wedi bod yn llawenydd ac yn addysg bod yn rhan o’r gwaith hwn yn datblygu! Mae Lotobot wedi dod yn gynhwysydd ardderchog ar gyfer lleisiau plant wrth feddwl am eu hardal a’u dylanwad eu hunain. Maen nhw eisiau gweld lle gwyrddach, gyda mwy o goed, planhigion ac anifeiliaid a mwy o HWYL! Mae ganddyn nhw synnwyr craff o gyfiawnder cymdeithasol a natur a gallwn ni i gyd ddysgu a dylunio o amgylch hynny.”
Doedd y gwaith hwn ddim yn bosib heb gefnogaeth anhygoel Buddug Roberts, arbenigwr mewn Ysgrifennu Creadigol ac Ymarfer Theatr a Mari Gwent, artist sy’n arbenigo mewn dyluniadau 3D. Wrth Adlewyrchu ar weithio gyda phobl ifanc ym Mlaenau, dywedodd Buddug “Mae LotoBot yn greadur aml-haenog a hynny ar lefel diriaethol a haniaethol. Roedd creu LotoBot efo’r bobl ifanc yn broses arbennig o wylio’r cyfan, eu teimladau, eu pryderon a’u gobeithion yn dod at ei gilydd i lunio’r cymeriad digri a difrifol yma.”

Bydd y gwaith yn parhau eleni felly cadwch olwg allan am anturiaethau nesaf Lotobot! Yn y cyfamser, a ydych wedi cael eich ysbrydoli i weithredu? Mae gan GwyrddNi sawl ffordd gwahanol i chi gymryd rhan.
Cofrestru i’n cylchlythyr misol i dderbyn newyddion a chyfleoedd ar draws Gwynedd: http://eepurl.com/h21srj
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol:
Dilynwch y gwaith anhygoel ein partner Cwmni Bro Ffestiniog hefyd fan hyn! https://www.instagram.com/brocast_ffestiniog
















