Postiwyd ar

Caffi Trwsio

Mae caffi trwsio yn ddigwyddiad cymunedol di-dal lle gall pobl drwsio eitemau sydd wedi torri gyda chymorth gwirfoddolwyr. Mae caffis trwsio yn rhan o fudiad ar lawr gwlad i leihau gwastraff ac annog pobl i atgyweirio eitemau yn lle prynu rhai newydd.

Dyffryn Peris:

Mae TECSTILIAU yn cynnal Caffi Trwsio ar ail Ddydd Sul pob mis yn Y Bedol, Bethel o 1-3yp – manylion ar eu tudalen Facebook. Bu GwyrddNi yn helpu’r grŵp i ddechrau y caffi trwsio, a rydym yn eu cefnogi o amser i amser. Mae Caffi Trwsio wedi ei gynnal yn Llanrug hefyd, hefo’r gobaith o wneud mwy yn y dyfodol.

Fideo o Gaffi Trwsio Bethel ar Prynhawn Da, S4C: https://www.facebook.com/PrynhawnDaS4C/videos/1404428036813961

Bro Ffestiniog:

Ym Mro Ffestiniog, daeth grŵp Rhannu Stwff a Thrwsio allan o’r Cynulliadau – gallwch ymuno hefo’u grŵp WhatsApp yma! Un bwriad ydi cydweithio hefo’r gofod gwneud ar stryd fawr Blaenau Ffestiniog lle mae Ffiws a Llyfrgell y Pethau am fod i gynnal caffis trwsio.

Ar hyn o bryd, mae gwirfoddolwyr Ffiws yn hapus i geisio trwsio eich eitemau a gallwch wirfoddoli hefo nhw: https://www.drefwerdd.cymru/cy/caffi-trwsio-ffiws

Dyffryn Nantlle

Mae Caffi Trwsio yn cael ei gynnal yn Yr Orsaf unwaith y mis, fel arfer ar Ddydd Sadwrn. Dilynwch Yr Orsaf ar Facebook, dilynwch eu cylchlythyr neu cysylltwch hefo cylchol.yrosaf@gmail.com am fanylion.

Gwelwch POB caffi trwsio yng Nghymru ar galendr Repair Cafe Wales.

Beth mae pobl yn ei drwsio mewn caffis trwsio?

Electroneg, dyfeisiau mecanyddol, cyfrifiaduron, beiciau, dillad, ac eitemau sentimental.

Beth yw manteision caffis trwsio?

Arbed arian: Gallwch drwsio eich eitemau yn lle prynu rhai newydd

Lleihau gwastraff: Gallwch osgoi taflu eitemau sydd wedi torri, yn aml i safleodd tirlenwi

Lleihau allyriadau carbon: Gallwch arbed adnoddau ac arbed yr ynni o greu eitemau newydd

Cryfhau cydlyniant cymdeithasol: Gallwch ddod at eich cymuned i ddysgu sgiliau newydd a rhannu gwybodaeth

Sut mae caffis trwsio yn gweithio?

Dewch â’ch eitemau sydd wedi torri i leoliad cymunedol. Mae gwirfoddolwyr yn trwsio yr eitemau – os bosib! Weithiau, bydd angen mynd i rywle arall, a byddynt yn eich cynghori ar ble i fynd.

Gallwch ddysgu sut i drwsio eich heitemau fel y gallwch wneud eich hunain adref y tro nesa’! Mae paned a chacen ar gael tra rydych yn aros, a mae bocs rhodd os byddech eisiau cyfrannu ar gostau rhedeg y caffi trwsio ar ôl i chi gael eich eitem yn ôl.

Dechreuodd y syniad o “gaffis trwsio” yn yr Iseldiroedd yn 2009, er bod y syniad o drwsio pethau wrth gwrs yn mynd yn ôl llawer, llawer pellach!

Mae’n rhan o’r syniad ehanach o greu economi gylchol, lle mae pethau yn cael eu trwsio a’i hailgylchu (neu uwch-gylchu) yn lle eu taflu. Hefyd, yn lle bod angen i bob person gael peiriant gwnio neu set o offer trwsio, y syniad ydi bod cymunedau yn rhannu’r pethau yma i leihau gorgynhyrchiad.

Mwy:

Mudiad byd-eang Caffis Trwsio

Caffis Trwsio Cymru

Be ydi’r Economi Gylchol? (Fideo 3 munud, Saesneg)

Am yr ymgyrch Hawl i Drwsio (Right to Repair)

Eisiau gwirfoddoli mewn caffi trwsio neu ddechrau un yn eich ardal? Y peth gorau i’w wneud ydi cysylltu hefo https://repaircafewales.org/ – ond mae croeso i chi hefyd gysylltu hefo ni am gefnogaeth!

Rhannwch hwn: