Blog

  • Creadigrwydd yn Blodeuo er Budd Natur

    Creadigrwydd yn Blodeuo er Budd Natur

    Tu ol i len Haf GwyrddNi, mae disgyblion, pobl ifanc ac artistiaid lleol dawnus wedi bod yn brysur yn archwilio natur a’r argyfwng hinsawdd drwy greadigrwydd.

    Darllen Mwy…

  • Cystadleuaeth Trysor’Ha!

    Cystadleuaeth Trysor’Ha!

    Cyfle i ENNILL tocyn teulu Gelli Gyffwrdd neu tocyn ‘Sesiwn Darganfod’ ym Mhlas Menai!

    Darllen Mwy…

  • Dathlu Blas, Cymuned a Chysylltiadau Newydd yng Ngŵyl Fwyd Pen Llyn

    Dathlu Blas, Cymuned a Chysylltiadau Newydd yng Ngŵyl Fwyd Pen Llyn

    Eleni, cafwyd dathliad arbennig iawn ym Mhen Llŷn wrth i’r Ŵyl Fwyd gyntaf erioed agor ei drysau, gan groesawu miloedd o ymwelwyr i ymuno mewn diwrnod llawn blas, hwyl ac egni cymunedol.

    Darllen Mwy…

  • GwyrddNi â’r Gymraeg

    GwyrddNi â’r Gymraeg

    Drwy lith a chân, ymunwch ar daith GwyrddNi â’r Gymraeg wrth ddatgelu perthynas iaith â thir.

    Darllen Mwy…

  • GwyrddNi’n cefnogi ceir di-danwydd yn eich cymunedau chi

    GwyrddNi’n cefnogi ceir di-danwydd yn eich cymunedau chi

    Ydych chi’n barod i ail-wefru eich ffordd o deithio? 

    Darllen Mwy…

  • Briff – Cynyddu defnydd Map Ogwen

    Briff – Cynyddu defnydd Map Ogwen

    Rydym yn chwilio am unigolyn neu gwmni i drefnu a chynnal gweithdai a digwyddiadau i gynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o Map Ogwen.

    Darllen Mwy…

  • Pobl Ifanc, LotoBot, a Blaenau: Gweithgareddau ysbrydoledig yng nghalon Eryri

    Pobl Ifanc, LotoBot, a Blaenau: Gweithgareddau ysbrydoledig yng nghalon Eryri

    Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc ym Mlaenau Ffestiniog i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd.

    Darllen Mwy…

  • Swydd Newydd – Swyddog Addysg GwyrddNi

    Swydd Newydd – Swyddog Addysg GwyrddNi

    This is advertisment for the role of GwyrddNi Education Officer for which fluency in Welsh is essential. Mae DEG yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a threfnus, sydd yn gyfathrebwr da ac wrth eu boddau’n ysbrydoli a gweithio gyda phlant, bobl ifanc ac oedolion, i gyfrannu at gyflawni gwaith addysg mudiad GwyrddNi. Fydd y Swyddog Addysg…

    Darllen Mwy…

  • Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi

    Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi

    Ydych chi’n: Artist? Cerddor? Bardd? Animeiddiwr? Llenor? Dramodydd? Ymarferydd Ddawns? Storïwr? Gwneuthurwr Ffilmiau? Codiwr? Gwneuthurwr gemau? Crefftwr? Neu unrhyw fath arall o ymarferydd creadigol? Neu’n: Grŵp o unrhyw un/rhai o’r rhain?

    Darllen Mwy…

  • Oriel Plas Glyn-y-Weddw : Partner newydd GwyrddNi ym Mhen Llŷn!

    Oriel Plas Glyn-y-Weddw : Partner newydd GwyrddNi ym Mhen Llŷn!

    Mae Ynni Llŷn wedi camu’n ôl o’u rôl o ddarparu GwyrddNi ym Mhen Llŷn. Rydym yn falch o gyhoeddi Oriel Plas Glyn-y-Weddw fel ein partner newydd ym Mhen Llŷn.

    Darllen Mwy…

  • Parêd a pherfformio yng Ngharnifal Bethesda: Ysgolion Creadigol Dyffryn Ogwen

    Parêd a pherfformio yng Ngharnifal Bethesda: Ysgolion Creadigol Dyffryn Ogwen

    Mae Ysgolion Creadigol GwyrddNi wedi bod yn cefnogi pobl ifanc yn ein hardaloedd i gyfathrebu’n greadigol am newid hinsawdd. Penderfynodd disgyblion blwyddyn 7 ac 8 Ysgol Dyffryn Ogwen eu bod eisiau gwneud “sblash” mawr – a dyna pam eu bod wedi dewis mynd a’u neges i Garnifal Bethesda – gan berfformio dramâu byr a chreu…

    Darllen Mwy…

  • Llyfr Gwyrdd Nantlle a thair cân wreiddiol: Ysgolion Creadigol Dyffryn Nantlle

    Llyfr Gwyrdd Nantlle a thair cân wreiddiol: Ysgolion Creadigol Dyffryn Nantlle

    Darllenwch Lyfr Gwyrdd Nantlle, grandewch ar ganeuon y pobl ifanc a gwyliwch ffilm am y broses…

    Darllen Mwy…

  • Yr iaith yn y tir – gan Carwyn Graves

    Yr iaith yn y tir – gan Carwyn Graves

    Mae’n fraint gennym i gael blog gwadd gan Carwyn Graves, awdur Tir: The Story of the Welsh Landscape, ar ôl iddo ddod i siarad hefo ni fel rhan o Gwanwyn GwyrddNi (Yr Iaith yn y Tir, yng nghaffi’r Orsaf, 12/04/2025 hefo Elinor Gwynn a Gerallt Pennant). Dyma ei eiriau: Hyfrydwch oedd derbyn gwahoddiad i gyfrannu…

    Darllen Mwy…

  • Cofio Cewri Tawel – teyrnged (gan Lowri)

    Cofio Cewri Tawel – teyrnged (gan Lowri)

    Cofio Cewri Tawel gan Lowri Hedd Vaughan Mae’n anodd amgyffred y bwlch fydd ohoni yn sgil colli hoelion wyth ein bro. Anos fyth cysidro beth, os unrhywbeth, a ddaw i’w lenwi. Mae tri felly wedi ein gadael, eleni. Tri a oedd yn llawn chwilfrydedd digyfaddawd ac yn arbennig hael eu hamser a’u syniadau gan gyfoethogi…

    Darllen Mwy…

  • Uchafbwyntiau o Gwanwyn GwyrddNi

    Uchafbwyntiau o Gwanwyn GwyrddNi

    Wrth i’r dyddiau ymestyn a phopeth ddechrau blodeuo, roedd cymunedau GwyrddNi ar draws Gwynedd yn fywiog gyda gweithgaredd yn ystod ein tymor Gwanwyn. Roedd yn gyfnod llawn cyfleoedd i gysylltu, dysgu, a chymryd camau gweithredu lleol ar hinsawdd a natur. Wrth edrych yn ôl, mae cymaint i’w ddathlu! Dyma rai o’r uchafbwyntiau…

    Darllen Mwy…

  • Paned i’r Blaned – Cyfle i drafod natur a’r hinsawdd yn y Gymraeg

    Paned i’r Blaned – Cyfle i drafod natur a’r hinsawdd yn y Gymraeg

    Rydym wedi dechrau Paned i’r Blaned – gofod i bobl ddod at ei gilydd i drafod materion amgylcheddol trwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd cyfle i bawb gynnig pynciau trafod, a fydd yn newid bob sesiwn: o natur a bioamrywiaeth i dyfu bwyd, o ynni i drafnidiaeth.  Mae croeso i ddysgwyr sydd yn medru siarad rhywfaint…

    Darllen Mwy…

  • Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol: Adroddiad “Adlewyrchu ar 2024”

    Blwyddyn o Weithredu Hinsawdd Gymunedol: Adroddiad “Adlewyrchu ar 2024”

    Wel, am flwyddyn – o fapio mwsog i gaffis trwsio, ac o blannu llysiau i wneud cartrefi’n fwy cynnes… a dim ond y dechrau ydi hynny! Rydym wedi creu adroddiad i rannu blas o’r gwaith anhygoel sy’n digwydd, sut mae ein cymunedau’n teimlo am gefnogaeth GwyrddNi hyd yn hyn, ac i rannu rhai o’r gwersi…

    Darllen Mwy…

  • Dechrau Partneriaeth Dyffryn Peris (blog gan Lowri)

    Dechrau Partneriaeth Dyffryn Peris (blog gan Lowri)

    “Edrych i sefydlu Partneriaeth Gymunedol i gydlynnu gweithredu cymunedol, canfod cyllid, gwrando i’r gymuned, cynllunio a hybu ac ysgogi gweithredu, gweithio gyda busnesau, cyd-gynhyrchu newid cadarnhaol a mynd i’r afael a newid hinsawdd.” – dyma oedd un o amcanion Cynulliadau Hinsawdd Dyffryn Peris. Mae Lowri yn rhannu lle ‘dan ni arni hi hefo’r her yma!

    Darllen Mwy…

  • Newid Syniadau am Ddysgu Iaith: Fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn (blog gan Nina)

    Newid Syniadau am Ddysgu Iaith: Fy wythnos yn Nant Gwrtheyrn (blog gan Nina)

    Ym mis Hydref, cychwynnodd criw bach o gymuned GwyrddNi ar gwrs preswyl Cymraeg Canolradd/Uwch yn Nant Gwrtheyrn, a ddarparwyd yn hael am ddim gan y Nant. Dros yr wythnos, cafodd y myfyrwyr gyfle i glywed cyngerdd preifat gan Gwilym Bowen Rhys, i ymweld â’r Orsaf i glywed am eu gwaith, ac i glywed Steve Eaves…

    Darllen Mwy…

  • Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi

    Galwad Agored – Comisiwn Ysgolion Creadigol GwyrddNi

    Ydych chi’n: Artist? Cerddor? Bardd? Animeiddiwr?  Llenor? Dramodydd? Ymarferydd Ddawns? Storïwr? Gwneuthurwr Ffilmiau? Codiwr? Gwneuthurwr gemau? Crefftwr? Neu unrhyw fath arall o ymarferydd creadigol? Neu’n: Grŵp o unrhyw un/rhai o’r rhain?  Ydych chi’n gallu gweithio gyda phlant, pobl ifanc, ac ysgolion – a gyda’r gymuned? Ydach chi’n credu ym mhŵer cymunedau i ymateb i’r heriau…

    Darllen Mwy…

  • Mapio Cynefin a Dysgu am Natur yn Ysgol Rhosgadfan

    Mapio Cynefin a Dysgu am Natur yn Ysgol Rhosgadfan

    Yn ystod dwy flynedd gyntaf mudiad GwyrddNi fu cannoedd o blant a phobl ifanc ardaloedd GwyrddNi’n cyfrannu eu syniadau i Gynlluniau Gweithredu Hinsawdd Gymunedol bob ardal. Cafodd dyheadau a syniadau’r plant cryn ddylanwad ar y cynlluniau gweithredu, gyda sawl maes gweithredu wedi datblygu’n uniongyrchol o’u mewnbwn. Gallwch ddarllen am hyn fan hyn https://www.gwyrddni.cymru/rhaglen-addysg/  Nid yn…

    Darllen Mwy…

  • Rôl y Gymraeg mewn grwpiau gweithredu cymunedol (gan Emily-Louise)

    Rôl y Gymraeg mewn grwpiau gweithredu cymunedol (gan Emily-Louise)

    Mae Emily-Louise yn astudio ei PhD ym Mhrifysgol Bangor, yn archwilio sut mae pobl mewn cymunedau dwyieithog Cymraeg-Saesneg yn dewis pa iaith i’w defnyddio, a sut mae’r dewisiadau hyn yn effeithio ar eu hymwneud â gweithgareddau cymunedol.

    Darllen Mwy…

  • Helpu trigolion Pen Llŷn gyda thlodi tanwydd ac ôl-osod (blog gan Jon Bethell)

    Helpu trigolion Pen Llŷn gyda thlodi tanwydd ac ôl-osod (blog gan Jon Bethell)

    Symudodd Jon Bethell i Anelog, ger Aberdaron chwe blynedd yn ôl ar ôl byw yn Coventry am flynyddoedd lawer yn gweithio yn y diwydiannau awyrofod a modurol. Cyn mynd i Brifysgol Coventry, bu’n byw yn Rhydycroesau, ger Croesoswallt. Mae’n ddysgwr Cymraeg ymroddedig a bellach yn difaru peidio â rhoi mwy o sylw i ddosbarthiadau Cymraeg…

    Darllen Mwy…

  • Da i’r waled a’r blaned: Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Bro Ffestiniog

    Da i’r waled a’r blaned: Cyfnewidfa Gwisg Ysgol Bro Ffestiniog

    Dydd Sadwrn, yr 20fed o Orffennaf – cynhaliwyd Cyfnewidfa Gwisg Ysgol ym Mlaenau Ffestiniog. Cyfle i deuleuoedd dod draw am banad, gadael i’w plant chwarae ar y byrddau crefft a chael peintio eu gwynebau, tra’n edrych drwy’r 100kg neu fwy o wisgoedd ysgol cafodd eu rhoddi dros yr wythnosau diwethaf. Daeth y Gyfnewidfa fel syniad…

    Darllen Mwy…

  • Sut brofiad ydi beicio i’r gwaith ym Mhen Llŷn? – Stori Elin

    Sut brofiad ydi beicio i’r gwaith ym Mhen Llŷn? – Stori Elin

    Mae Hwb Beics Pen Llŷn yn gynnig newydd wedi’i leoli yng Nghongl Meinciau, Botwnnog. Deilliodd o gydweithio rhwng grŵp Trafnidiaeth Werdd GwyrddNi, O Ddrws i Ddrws ac Ynni Llŷn, gyda diolch enfawr i Sustrans am roddi a rhoi benthyg rhai o’r beiciau. Am aelodaeth o £20 y mis, gallwch fenthyg beic (hyd yn oed un…

    Darllen Mwy…

  • Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

    Cwt Piclo Dyffryn Nantlle

    Ffurfiwyd y Cwt Piclo fel ymateb i newid hinsawdd yn Nyffryn Nantlle, fel rhan o gynulliadau Gwyrddni yn 2022-23. Rydym yn ailafael ar ein bwyd i drio lleihau’r egni a ddefnyddir i’w dyfu, i’w drin a’i gludo, ac i greu cymuned fwy gwydn sy’n barod am unrhyw aflonyddiadau i’n systemau bwyd.

    Darllen Mwy…

  • Marchnad Lleu – Hybu Tyfwyr a Chrewyr Lleol yn Nyffryn Nantlle

    Marchnad Lleu – Hybu Tyfwyr a Chrewyr Lleol yn Nyffryn Nantlle

    Dechreuwyd Marchnad Lleu o awydd i rymuso trigolion lleol oedd yn ceisio tyfu, creu a rhannu eu nwyddau gyda’r gymuned. Gyda ffocws ar hyrwyddo bwyd a chrefftau lleol, mae’r farchnad yn darparu gofod croesawgar i gynhyrchwyr a chrefftwyr arddangos eu doniau a’u cynigion. Gall ymwelwyr bori trwy stondinau sy’n llawn danteithion cartref, cynnyrch o ffynonellau…

    Darllen Mwy…

  • Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen

    Mapio Mwsog yn Nyffryn Ogwen

    “Waw – roedd honno’n foment iwfforig!” gwennodd Rhian, Cydlynydd Prosiect GwyrddNi, y tro cyntaf iddi weld mwsogl yn agos drwy lens llaw. Roedd hi newydd ddychwelyd o’r Daith Mwsog, rhan o Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen yn Nhregarth, lle’r oedd criw o tua 40 o oedolion a phlant â diddordeb wedi mentro i’r coed gyda’r tîm…

    Darllen Mwy…

  • Yr Wythnos Werdd Fawr – Digwyddiadau Lleol

    Yr Wythnos Werdd Fawr – Digwyddiadau Lleol

    Mae’r Wythnos Werdd Fawr yn rhedeg o Fehefin 8-16 – beth sy’n mynd ymlaen yn ein cymunedau? Bydd Yr Wythnos Werdd Fawr yn gweld pobl ledled y wlad yn ymuno â’i gilydd mewn dathliad cenedlaethol o weithredu i amddiffyn y blaned, gan ddangos bod pobl ym mhobman ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau bob dydd…

    Darllen Mwy…

  • Dadgarboneiddio adeiladau: ymweliad â Neuadd Goffa Llanfairpwll

    Dadgarboneiddio adeiladau: ymweliad â Neuadd Goffa Llanfairpwll

    Mae aelodau pum ardal GwyrddNi wedi mynegi diddordeb mawr mewn dadgarboneiddio adeiladau, gyda sawl prosiect wedi cychwyn neu wrthi yn cael eu datblygu. Ar ôl gweithdy ym Mhenygroes yn gynharach eleni, gofynnodd yr aelodau rhwydwaith am gael ymweliadau i weld gwaith adnewyddu oedd wedi digwydd mewn gwahanol leoliadau yn lleol.  Cafodd sawl lleoliad ei awgrymu,…

    Darllen Mwy…

  • Ail Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

    Ail Ŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

    Cafodd Gŵyl Hisnawdd Dyffryn Ogwen 2024 ei gynnal Dydd Llun, y 6ed o Fai yng Nghanolfan Tregarth rhwng 11yb a 4yp.  “Roedd yn gyfle gwych i’r plant gymryd rhan yn y gweithgareddau natur amrywiol megis y daith hynod ddiddorol Mapio Mwsog, yn y bore ac yn y prynhawn roedd yr Helfa Chwilod Fawr, y daith…

    Darllen Mwy…

  • Mae cynnig addysg GwyrddNi yn parhau!

    Mae cynnig addysg GwyrddNi yn parhau!

    Mae cynnig addysg GwyrddNi yn parhau! Bwriad cynnig addysg GwyrddNi yw sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ddatrys her yr hinsawdd yn eu cymunedau. Gwnaethom hyn yn ystod cyfnod cyntaf GwyrddNi drwy gynnal rhaglen addysg oedd yn rhedeg ochr yn ochr â’r broses cynulliadau cymunedol.  Bu: Braint oedd cael…

    Darllen Mwy…

  • Egino Stori’r Tir

    Egino Stori’r Tir

    Mae pawb yn mwynhau stori. Un o’r pleserau mwyaf o fod yn Hwylusydd Cymunedol i fudiad GwyrddNi yw gwrando ar hanesion lleol. Mae ein pobl ifanc hefyd wrth eu bodd yn dysgu ynglŷn a’u bro a’i warchod – a dyna oedd yr hadyn gwreiddiol ar gyfer prosiect ‘Stori’r Tir Dyffryn Peris’. Gormes y fyddin brydeinig…

    Darllen Mwy…

  • Mae Cyfnod Gweithredu Cymunedol  GwyrddNi yn Dechrau!

    Mae Cyfnod Gweithredu Cymunedol GwyrddNi yn Dechrau!

    Efallai eich bod wedi clywed hyn yn barod –  mae GwyrddNi wedi cael cyllid am y bedair mlynedd a hanner nesaf gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau gweithredu ar y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol a greuwyd dros y dwy flynedd diwethaf!  Yn ôl yn 2021, rhoddwyd arian gan Gronfa…

    Darllen Mwy…

  • Swyddi, Hydref 2023

    Swyddi, Hydref 2023

    Mae GwyrddNi yn camu i mewn i wedd dau o’r gwaith holl-bwysig o Greu Cymunedau Gwyrdd. Yng nghanol helbulon byd-eang yn sgil yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, mae gweithredu yn gadarnhaol, yn bositif ac yn gymunedol ymysg y gwaith pwysicaf y gallwn fod yn ei wneud.

    Darllen Mwy…

  • Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

    Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

    Un o’r cynlluniau a gafodd ei gynnwys yn Cynllun Gweithredu Cymunedol Dyffryn Ogwen oedd cynnal Gŵyl Hinsawdd. Pwrpas yr ŵyl oedd i cynyddu ymwbyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, hyrwyddo’r Cynllun Gweithredu a gwaith y Cynulliad Cymunedol, a rhannu gwybodaeth am datrysiadau lleol sydd eisioes ar waith. Fe penderfynnodd yr Aelodau Cynulliad ar Mai’r 1af fel dyddiad,…

    Darllen Mwy…

  • Agor drws y Passivhaus

    Agor drws y Passivhaus

    Un o’r pethau gwych am ddod â grŵp o gymdogion ynghyd ar gyfer proses Cynulliad yw gweld y rhannu, y dysgu a’r cysylltiadau cyfeillgar sy’n digwydd yn annibynnol o’r broses a hwylusir. Mae Chris Gathercole wedi bod yn eiriolwr diwyd dros wella effeithlonrwydd adeiladau ers i ni gyfarfod gyntaf yn gynnar yn 2021. Ar ôl…

    Darllen Mwy…

  • Rôl y Gymraeg mewn mentrau cymunedol

    Rôl y Gymraeg mewn mentrau cymunedol

    Mae’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau (Prifysgol Bangor), gyda chefnogaeth Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC (DTP Cymru), ac mewn cydweithrediad â ni, Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), yn gwahodd ceisiadau ar gyfer astudiaeth ddoethurol wedi ei hariannu o fewn y Llwybr Dwyieithrwydd, i gychwyn mis Hydref 2023, ar y pwnc: Rôl y Gymraeg mewn mentrau gweithredu…

    Darllen Mwy…

  • Addysg ar Waith!

    Addysg ar Waith!

    Ochr yn ochr â’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd, rydym yn cynnal Rhaglen Addysg, ac mae hwn wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o’r rhaglen!  Yn dilyn sesiwn gyffredinol ar newid hinsawdd ac yna cylchdaith i weld datrysiadau i’r her hinsawdd yn eu hardal leol, mae’r plant a’r…

    Darllen Mwy…

  • Sgyrsiau GwyrddNi

    Sgyrsiau GwyrddNi

    Byddwn yn cynnal tair sgwrs ar-lein dros y misoedd nesaf, yn seiliedig ar themâu sydd wedi codi yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd. Mae’r sgyrsiau hyn yn agored i unrhyw un. Sgwrs 1 – Tyfu Bwyd Bydd y sgwrs gyntaf (26.10.22 am 7.30pm) yn edrych ar dyfu a gwerthu bwyd yn lleol. Bydd cyfle…

    Darllen Mwy…

  • Arwyddo Addewid GwyrddNi

    Arwyddo Addewid GwyrddNi

    Mae Cynulliadau GwyrddNi ar waith, ac erbyn diwedd gwanwyn nesaf bydd y bum ardal wedi cyd-greu cynllun gweithredu, yn llawn syniadau a chynlluniau am ffyrdd i arafu newid hinsawdd ac ymateb i’w effeithiau yn lleol. Gora po fwyaf o drigolion y bum ardal sydd yn sefyll yn barod i ddarllen a chefnogi’r cynllun gweithredu, er…

    Darllen Mwy…

  • Gorau Chwarae Cyd Chwarae

    Gorau Chwarae Cyd Chwarae

    Mae’r dyddiau’n faith, mae’r haul yn boeth, ac rydan ninnau yn cael ein gwynt atan ar ôl ein cyfres gyntaf o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd.

    Darllen Mwy…

  • Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf

    Ysbrydoli’r Genhedlaeth Nesaf

    Does dim byd gwell na bod yng nghanol bwrlwm plant a phobl ifanc, yn enwedig ar ôl cyfnod clo hir a thawel. Ac heb os, mae digon o fwrlwm, trafod, sgwrsio a chwerthin wedi bod dros y mis diwethaf wrth i mi ddechrau rhoi rhaglen addysg GwyrddNi ar waith.

    Darllen Mwy…

  • Tu ôl i’r llenni

    Tu ôl i’r llenni

    Ar hyn o bryd mae staff GwyrddNi fel elyrch – rydan ni’n edrych yn weddol ar yr wyneb, ond o dan y dŵr, mae’n traed bach ni yn pedlo ffwl pelt!  A hithau bellach yn fis Mai, mae ein Cynulliad Cymunedol cyntaf un ar y gorwel – caiff Cynulliad cyntaf Dyffryn Peris ei gynnal yng…

    Darllen Mwy…

  • Podcast GwyrddNi

    Podcast GwyrddNi

    Ydych chi’n un o’r miloedd ar filoedd sydd yn mwynhau gwrando ar bodcast bach tra’n mynd am dro? Wel, mae yna un newydd i’w ychwanegu at eich rhestr; podcast GwyrddNi! Yn y bennod gyntaf hon o’n podcast cyntaf erioed cawn gwrdd â rhai o griw GwyrddNi, sef Lowri Hedd Vaughan, ein Hwylusydd yn Nyffryn Peris,…

    Darllen Mwy…

  • Syniadau rif y gwlith a digon o eli penelin

    Syniadau rif y gwlith a digon o eli penelin

    Mae ein cymunedau ni yn lefydd yn anhygoel. Ledled Gwynedd mae yna bobl â mynd ynddyn nhw, pobl greadigol sydd yn llawn syniadau a brwdfrydedd a talp go lew o eli penelin hefyd, yn barod i dorchi llewys a gwneud i bethau ddigwydd.  Ydych chi wedi clywed am Ynni Padarn Peris? Cynllun micro-hydro ar Afon…

    Darllen Mwy…

  • Baw Ci. Jest…yn wahanol

    Baw Ci. Jest…yn wahanol

    Beth bynnag fo’ch credoau neu’ch cefndir, rwy’n siŵr y medrwn ni gyd gytnuo ein bod yn byw mewn cyfnod digynsail. Mae llawer yn galw am lefelau digynsail o newid ac arloesedd.

    Darllen Mwy…

  • Caffi Hinsawdd Dyffryn Peris

    Caffi Hinsawdd Dyffryn Peris

    Mae Caffi Caban yn Brynrefail yn ran o ganolfan Caban sydd wedi ei sefydlu gyda gwerthoedd cynaliadwyedd yn ganolog. Braf iawn oedd cael bod yno ar y 4ydd o Chwefror ar gyfer trydydd Caffi Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris.

    Darllen Mwy…

  • Be ydi Cynulliad Cymunedol?

    Be ydi Cynulliad Cymunedol?

    Cynulliad. Dyna i chi air rydan ni’n ei glywed yn aml y dyddiau hyn, a gair sy’n gwneud i’r mwyafrif ohonom feddwl am y Senedd ym Mae Caerdydd dwi’n siŵr. Ond beth yn union mae’r gair cynulliad yn ei olygu? 

    Darllen Mwy…

Rhannwch hwn: