Ar hyn o bryd mae staff GwyrddNi fel elyrch – rydan ni’n edrych yn weddol ar yr wyneb, ond o dan y dŵr, mae’n traed bach ni yn pedlo ffwl pelt!
A hithau bellach yn fis Mai, mae ein Cynulliad Cymunedol cyntaf un ar y gorwel – caiff Cynulliad cyntaf Dyffryn Peris ei gynnal yng Nghanolfan Llanberis ar yr 17eg ac 18fed o Fai. Wedyn daw Cynulliadau Ogwen, Nantlle, Ffestiniog a Phen Llŷn, Felly rydan ni wrthi’n paratoi arwyddion, yn archebu cawl a chacen, yn meddwl am drefn y byrddau a’r cadeiriau, yn creu amserlenni, yn trefnu siaradwyr gwadd, yn cynllunio ein sesiynau a’n dulliau ar gyfer dal yr holl sgyrsiau a’r syniadau.
Mae’r gwaith paratoi wedi dechrau ers misoedd. Rydym fel criw (5 Hwylusydd Cymunedol, 1 Cyfarwyddwr, 1 Swyddog Addysg ac Ymgysylltu ac 1 Swyddog Cyfathrebu) wedi derbyn llawer o hyfforddiant dros y misoedd diwethaf, hyfforddiant sydd yn ein grymuso i fod yn hwylusyr hyderus – i fedru cynnal trafodaethau ymysg grwpiau o bobl gan wneud yn siŵr bod bob un person yn y grŵp yn cael cyfle i siarad a bod pawb yn gwrando ar farn y naill a’r llall – waeth bynnag beth yw’r barn hwnnw.
Rydym wedi cael cyfle hefyd i ddysgu am ddulliau a thechnegau amrywiol ar gyfer cadw a nodi sgyrsiau a syniadau; technegau sydd yn caniatau hanner cant o bobl i gael un sgwrs fawr, yn y bôn, ac i wneud yn siŵr bod pawb yn medru cyfrannu mewn ffordd sydd yn gyfforddus iddyn nhw, ac yn cael cyfle i weld neu glywed syniadau eraill.
Yn dilyn misoedd yn hyrwyddo’r Cynulliadau a’r cyfle i fod yn aelod, daeth y dyddiad cau, a’r broses o ddewis a dethol. Gan bod mwy na hanner cant wedi ymgeisio i fod yn aelodau, roedd yn rhaid cael ffordd deg a thrylwyr o ddethol aelodau. Fe aethom ati i wneud hyn drwy ddefnyddio meddalwedd Panelot, gan ddilyn argymhelliad y Sortition Foundation, arbennigwyr yn y maes hwn. Defnyddiwyd data o gyfrifiad 2011, ac atebion i’r ffurlfen mynegi diddordeb er mwyn ceisio cael aelodaeth mor gynrycholiadol o’r boblogaeth â phosib, allan o’r nifer oedd wedi mynegi diddordeb.

Rwan rydym yn cael y swydd braf o godi’r ffôn a chael sgwrs gyda’r hanner cant llwyddiannus, er mwyn dechrau dod i’w hadnabod yn well. Ac ymddiheuro wrth gwrs wrth y rhai nad ydynt wedi eu dethol – gan esbonio y bydd nifer o gyfleoedd eraill i gymryd rhan yn ystod y broses.
Wel, mae’r cloc yn tician a’r rhestr yn faith felly mae’n well i mi fwrw mlaen! Os ydych chi’n un o aelodau’r cynulliadau, edrychwn ymlaen yn fawr at eich cyfarfod yn fuan. Fel arall cofiwch alw draw i’n gwefan o dro i dro i ddilyn hanes y cynulliadau a gweld sut fedrwch chi gymryd rhan maes o law.
