Postiwyd ar

Caffi Hinsawdd Dyffryn Peris

Mae Caffi Caban yn Brynrefail yn ran o ganolfan Caban sydd wedi ei sefydlu gyda gwerthoedd cynaliadwyedd yn ganolog. Braf iawn oedd cael bod yno ar y 4ydd o Chwefror ar gyfer trydydd Caffi Hinsawdd GwyrddNi yn Nyffryn Peris. Cynhaliwyd y cyntaf ym mis Tachwedd yng nghaffi’r Goeden Unig yn Llanberis, a’r ail ar lein ddechrau Rhagfyr er diogelwch COVID.

Mae Caffis Hinsawdd yn digwydd ar draws y byd. Mae nhw’n ddigwyddiadau anffurfiol. Cyfle i rannu barn, clywed gan eraill a gwneud cysylltiadau newydd.

Roedd yn hyfryd gweld rhai wynebau wedi dychwelyd ar ôl caffis blaenorol yn ogystal a wynebau newydd.

Dros y ddwy awr, gyda rhai yn mynd a dod fel sy’n ddisgwyliedig, cefais gwmni Moira, Rhian, Gareth, Eve, Lindsey, Kerry, Ruth a Trystan. Rhai wedi gweld yr hysbyseb ar Facebook ac eraill wedi cael clywed amdano gan ffrind.

Dyma rai o’r sgyrsiau difyr iawn a gafwyd a’r syniadau a rannwyd;

  • Utopias Bach
  • Ysgolion Cynradd lleol yn gwenud gwaith arbennig
  • RSPB/CNC Natur am Byth y mae Eve yn weithio gyda
  • Cyn adeilad ysgol Cwm y Glo i ddod yn bencadllys i Menter Fachwen
  • Locavores (lle allwn ni brynnu bwyd wedi ei dyfu yn lleol?)
  • Gareth & Menter Fachwen ‘Beth os…..?’ teithiau tywys yn dychmygu tirweddau gwahanol  (ysbrydoliaeth i weithgaredd grwp)
  • A fuasai gwresogi ardal yn bosib ym Mrynrefail?
  • Asesiad a modelu dichonolrwydd ynni gan Trystan 
  • Profiad Ni – cyfnewid cyfoedion ymweliadau cartref i arddangos ymdrechion cynaliadwyedd domestig
  • Clwb Gwnio  @ Caban pob bore Mawrth
  • Gwaith arbennig gan y cynhorydd cymunedol Cari Jones’ yn adeiladu cymuned
  • Adeiladau newydd, 
  • Llwybrau pryfaid 3km ar draws
  • Mynediad cynnar i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y Cynulliadau Hinsawdd

Yn dilyn o hanes Gareth am ei deithiau cerdded lle gwahoddwyd cerddwyr i ddychmygu tirwedd mewn gwahanol ffyrdd, gwahoddais bawb oedd yno i wneud yr un peth yng nghyd-destun newid hinsawdd.

Dyma’r cwestiynau a osodwyd. Allwch chi ymateb i rai o’r rhain tybed?

Cyn mynd adra, fe ges i ymweld a rhandiroedd Brynrefail gyda Angharad Owen. Engraifft arall arbennig o gymunedau yn tynnu gyda’ gilydd i fod yn fwy cynaliadwy.

Dwi’n hynod ddiolchgar i bawb am ddaeth draw a chymeryd siawns ar ddigwyddiad a pherson dieithr! Gobeithio yn fawr iddynt fod wedi canfod cymaint o fwynhad a gobaith yno ac y gwnes i.

Bydd y Caffi Hinsawdd nesa’ 4.3.22 am 10yb yn y Coffee Pot (Canolfan Celf a Chrefft) Llanberis

Rhannwch hwn: