Mae ein cymunedau ni yn lefydd yn anhygoel. Ledled Gwynedd mae yna bobl â mynd ynddyn nhw, pobl greadigol sydd yn llawn syniadau a brwdfrydedd a talp go lew o eli penelin hefyd, yn barod i dorchi llewys a gwneud i bethau ddigwydd.
Ydych chi wedi clywed am Ynni Padarn Peris? Cynllun micro-hydro ar Afon Goch yn Llanberis ydi Ynni Padarn Peris, wedi ei ariannu gan y gymuned leol. Mae’r fenter egni adnewyddadwy bellach yn gwneud elw o £10,000 y flwyddyn ac mae pob ceiniog o hwnnw yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned leol.
A’r gwanwyn yn deffro o’n cwmpas ni, pa amser gwell i son am Bwyd Bendigedig Rhiwlas, mudiad sydd yn annog tyfu a bwyta bwyd mor lleol â phosib. Maent wrthi yn ceisio tyfu bwyd mewn cymaint o lefydd â phosib yn Rhiwlas ac mae croeso i unrhyw un o’r gymuned fod yn rhan o’r gwaith.

Draw yn Nyffryn Nantlle cynhelir clwb côdio i blant a phobl ifanc yn Yr Orsaf, ac yn ystod un sesiwn buon nhw yn cysylltu gwifrau a batri i fanans fel bod modd chwarae cerddoriaeth ar y fanana! Gwych a gwallgof! Mae caffi trwsio yno hefyd, ble gallwch alw draw gydag unrhyw beth o’ch eiddo sydd wedi torri er mwyn i rywun ei drwsio (yn lle prynu yn newydd o hyd ac o hyd), ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Yr Orsaf yn lansio Cynllun beiciau trydan – llond gwlad o weithgarwch.

Ym Mro Ffestiniog mae llond gwlad o bethau’n digwydd, ac un syniad gwych yno ydi oergell gymunedol. Mae archfarchnadoedd lleol yn rhoi y bwyd sydd methu bod ar y silffoedd y diwrnod wedyn am ddim i’r oergell, felly gall unrhyw un yn yr ardal alw draw a dewis rhywbeth o’r oergell. Mae’r Dref Werdd ym Mlaenau wedi datblygu llannerch yn y coed ac yn cynnal sesiynnau llesiant yno, ac mae grwpiau cymunedol eraill o’r ardal yn medru ei ddefnyddio. Mae criw Ti a Fi yn mynd yno i gynnal sesiwn ysgol goedwig ac i chwarae ymysg y gwyrddni!

Wyddoch chi bod clwb rygbi Bethesda yn adeilad carbon niwtral? Un o’r safleoedd chwaraeon mwyaf carbon niwtral trwy Gymru gyfan! Mae yna baneli solar, goleuadau LED ac insiwleiddio tan gamp. Mae gan y dyffryn ffynhonell o egni adnewyddadwy hefyd; Ynni Ogwen. Mae Ynni Ogwen yn dal pwer llif ynni Ogwen ac yn cynhyrchu trydan gyda thechnoleg hydro. Mae’r elw sy’n cael ei wneud o’r fenter yn mynd tuag at prosiectau cymunedol ac amgylcheddol eraill yn y dyffryn.
A draw i’r gorllewin ym Mhen Llŷn ble mae’r ffyrdd yn droellog a’r golygfeydd yn odidog gallwch nawr deithio o gwmpas mewn nifer o ffyrdd heblaw am neidio yn eich car, gan gynnwys mynd ar Fws Fflecsi Arfordir Llŷn. Caiff y gwasanaeth bws ar-alw ei gynnal o Bwllheli i Aberdaron a phob man yn y canol ar ddyddiau Gwener, Sadwrn, Sul a Llun rhwng 9am a 6pm. Gallwch archebu eich taith o flaen llaw wrth ffonio neu drwy app Fflecsi Llŷn; cyfle gwych i adael y car, arbed arian petrol neu ddisel a mwynhau’r golygfeydd wrth i rywun arall afael yn y llyw.
Dyna i chi gip sydyn ar rai o’r pethau gwych sydd ar droed ledled Gwynedd, ac wrth gwrs mae yna lawer mwy. Felly dychmygwch be allwn ni ei greu wrth dreulio tipyn o amser efo’n gilydd yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd, gan ddysgu mwy am newid hinsawdd a datrysiadau hinsawdd, a chael yr amser a’r cyfle i feddwl a dychmygu dyfodol gwyrdd a dyfodol gwell…
Mae’r cwbl o fewn ein cyrraedd. Ymunwch â ni rwan i fod yn rhan o’r prosiectau cyffrous nesaf yn eich ardal chi. I gofrestru ar gyfer eich Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd lleol ewch draw i www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan/
