Postiwyd ar

Arwyddo Addewid GwyrddNi

Mae Cynulliadau GwyrddNi ar waith, ac erbyn diwedd gwanwyn nesaf bydd y bum ardal wedi cyd-greu cynllun gweithredu, yn llawn syniadau a chynlluniau am ffyrdd i arafu newid hinsawdd ac ymateb i’w effeithiau yn lleol.

Gora po fwyaf o drigolion y bum ardal sydd yn sefyll yn barod i ddarllen a chefnogi’r cynllun gweithredu, er mwyn cyfrannu at ddyfodol cynaliadwy y cymunedau oll. 

Felly os ydych chi yn byw neu’n gweithio yn Nyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Pen Llŷn neu Bro Ffestiniog, gallwch chi arwyddo Addewid GwyrddNi heddiw! Bydd hyn yn dangos eich bod yn ymrwymo i ddarllen y Cynllun Gwithredu pan fo’n barod. 

I arwyddo’r Addewid yn ddigidol cliciwch yma.

Os ydych chi yn gwmni neu’n fusnes yna cewch dystysgrif gennym i’w roi yn eich ffenest neu ar eich gwefan er mwyn dangos eich cefnogaeth yn gyhoeddus, a chodi ymwybyddiaeth pellach am yr hyn sydd ar droed. Diolch am eich cefnogaeth!

Rhannwch hwn: