Ochr yn ochr â’n Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd, rydym yn cynnal Rhaglen Addysg, ac mae hwn wedi bod yn gyfnod prysur iawn i’r plant a’r bobl ifanc sy’n rhan o’r rhaglen!
Yn dilyn sesiwn gyffredinol ar newid hinsawdd ac yna cylchdaith i weld datrysiadau i’r her hinsawdd yn eu hardal leol, mae’r plant a’r bobl ifanc newydd ymuno am ddiwrnod cyfan i gymryd rhan mewn Cynulliad Ysgolion yn Nyffryn Nantlle, Peris ac Ogwen.
Yn sesiwn gynta’r diwrnod bu’r plant a’r bobl ifanc yn trafod yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw yn eu hardal leol heddiw. Roedd yn atebion yn amrwyiol iawn ac yn cynnwys y parciau chwarae, caeau chwaraeon, y mynyddoedd, siopau, a llawer mwy fel y gwelwch chi isod.

Yn dilyn hyn roedd pawb yn ceisio camu i ddyfodol ble’r ydym yn defnyddio llai o danwydd ffosil ac yn gwarchod yr amgylchedd naturiol, ac yn ceisio dychmygu sut le fyddai yn eu hardal leol nhw yn y dyfodol hwn, yn y flwyddyn 2040! Roedd ganddynt benrhyddid llwyr i feddwl beth fyddai yno, a cafwyd syniadau gwych, o drên magnedig, i gymunedau cyfan yn teithio ar droed, beic neu sgwter, paneli solar ar bob tŷ, pobl yn gwneud eu dillau eu hunain, gerddi cymunedol a llawer, llawer mwy.


Gweithgaredd ola’r diwrnod oedd mynd ati i feddwl am syniadau gweithredu allai fynd a ni o heddiw, yn nes tuag at eu dyfodol delfrydol. Doedd dim stop ar eu syniadau erbyn hyn a cafwyd llond gwlad o awgrymiadau gwych gan gynnwys creu parc antur enfawr i blant a phobl ifanc yr ardal, sefydlu gwasanaeth bws ‘bendi’ trydan i sicrhau trafnidiaeth am ddim i bawb, ailgyflwyno eirth gwyllt, a chreu ynni ar lefel gymunedol!
Dyma rai o ddisgyblion o Gynulliadau Ysgolion Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris a Dyffryn Ogwen yn rhannu eu syniadau:
Y cam nesaf wedyn oedd rhannu’r gweledigaethau a’r syniadau gwych ar sut i gyrraedd yno gyda’g aelodau eu Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd lleol. Mae hyn eisoes wedi digwydd yn Nyffryn Peris, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Nantlle, ac ym mhob achos mae’r aelodau wedi bod wrth eu boddau yn clywed lleisiau, barn, syniadau ac uchelgais y plant a’r bobl ifanc.


Dyma oedd gan Gwynfor i’w ddweud, aelod o Gynulliad Dyffryn Ogwen, ar ôl clywed syniadau y Cynulliad Ysgolion:
“”Roedd o’n braf clywed syniadau y bobl ifanc o’r ysgolion heddiw, ac roedd o’n ddiddorol gweld sut oeddan nw’n dod at y peth, roedd o’n ymddangos bo’ nhw ddim jyst yn meddwl am sut yda ni’n stopio problem ond sut yda ni hefyd yn gwneud pethau yn well ar gyfer y dyfodol iddyn nhw.”
Rydym yn edrach ymlaen at gynnal Cynulliadau Ysgolion ym Mhen Llŷn a Bro Ffestiniog yn y flwyddyn newydd!
