Ydych chi’n un o’r miloedd ar filoedd sydd yn mwynhau gwrando ar bodcast bach tra’n mynd am dro? Wel, mae yna un newydd i’w ychwanegu at eich rhestr; podcast GwyrddNi!
Yn y bennod gyntaf hon o’n podcast cyntaf erioed cawn gwrdd â rhai o griw GwyrddNi, sef Lowri Hedd Vaughan, ein Hwylusydd yn Nyffryn Peris, Dafydd Rhys, Hwylusydd Pen Llŷn, ac yn cadw trefn ar bawb mae Sara Ashton-Thomas, Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi. Hefyd yn ymuno yn y sgwrs mae Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, a Phil McGrath, Rheolwr Datblygu Cyd Ynni.
Cawn glywed am rai o’r pethau gwych sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau ledled Gwynedd, a chawn glywed am y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd fydd GwyrddNi yn eu cynnal mewn pum ardal yng Ngwynedd dros y misoedd nesaf. I ddysgu mwy am y Cynulliadau Cymunedol (a gaiff eu cynnal ym Mhen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris) ac i gofrestru i gymryd rhan ewch i www.gwyrddni.cymru.
Felly chwilio am ‘GwyrddNi’ ar Spotify neu Anchor, neu cliciwch yma i wrando ar y bennod gyntaf, a mwynhewch!
Os hoffech chi ddod am sgwrs efo ni yn un o bodcasts y dyfodol plis cysylltwch: casia@deg.cymru.
