Mae GwyrddNi yn camu i mewn i wedd dau o’r gwaith holl-bwysig o Greu Cymunedau Gwyrdd. Yng nghanol helbulon byd-eang yn sgil yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol, mae gweithredu yn gadarnhaol, yn bositif ac yn gymunedol ymysg y gwaith pwysicaf y gallwn fod yn ei wneud.
Ar ôl 2 flynedd o ddysgu, trafod, rhannu a dathlu ein asedau cymunedol, mae ‘na gynlluniau mewn lle i ddatblygu prosiectau, gweithgareddau a rhwydweithiau bywiog ymhellach ar draws 5 ardal GwyrddNi. 5 Cynllun Gweithredu Hinsawdd Cymunedol a Chynllun Addysg.
Gyda dyraniad grant o £2.4m gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd y Loteri Cenedlaethol dros gyfnod hyd at Mawrth 2028, rydym yn barod i atgyfnerthu ac adfywio’r tîm a’r mudiad.
Mae angen Cydlynydd arnom – person trefnus, deallus sy’n gallu cadw llygad ar y darlun mawr a’r manylion bach. Ydych chi’n drefnydd o fri sy’n gallu arwain ac ysbrydoli? Allwch chi gynnal llif gwybodaeth clir a chyson a chyswllt ystyrlon rhwng llawr gwlad, swyddogion, grwp llywio’r mudiad a’r cyllidwyr?
Ydych chi’n ‘nabod rhywyn gyda gafael gwych ar gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg? Mae angen dweud storiau GwyrddNi a’i chymunedau mewn ffyrdd gwreiddiol a chyffrous. Erthyglau papurau bro ac ar-lein, hysbysebion, fideos, podlediadau, cyfweliadau gyda’r wasg, cyfryngau cymdeithasol yn ogystal a chyfathrebu ein cynnydd i’n harianwyr a’n rhanddeiliaid. A’i chi fydd ein Swyddog Cyfathrebu ni?
Mae nifer o gyfarfodydd cymunedol GwyrddNi yn ofodau dwyieithog. Mae llawer o ddysgwyr Cymraeg yn mynychu, a rhai sy’n dangos diddordeb mewn dysgu. Mae Hwyluswyr Cymunedol GwyrddNi, yn ogystal a phartneriaid eraill yng Ngwynedd yn cysidro a threialu ffyrdd o hwyluso gofodau dwyieithog mewn ffyrdd sy’n caniatau i’r Gymraeg gael ei defnyddio ac sydd yn gynhwysol o aelodau sydd ddim eto yn rhugl. Bydd Swyddog Iaith GwyrddNi ar flaen y gad wrth ddatblygu gweithdrefnau arloesol a chefnogaeth greadigol i hybu dwyieithrwydd a chadernid iaith ar draws y mudiad. Byddwch wedi eich lleoli gyda Phartneriaieth Ogwen, mudiad arloesol oedd yn un o wneuthurwyr newid blaenllaw Cymru gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn thêm flaenllaw ym mywydau ein plant a’n pobl ifanc. Mae gwaith addysg GwyrddNi wedi gosod sylfaen wych o ddeall y gwyddoniaeth a’r angen i leihau defnydd o danwydd ffosil, o ddeall cyd-destun a datrysiadau cymunedol parod ac o’r boddhad a rhyddid rhag pryder y gellir ei ganfod wrth weithredu yn lleol. Bydd Swyddog Addysg GwyrddNi yn adeiladu ar y gwaith yma trwy weithredu y Cynllun Addysg ar y cyd a’r Cydlynydd Addysg, ysgolion a’r Hwyluswyr Cymunedol.
Ac yna i mewn a ni i galon cymuned. Mae lle i berson sy’n mwynhau pobl a pherthnasu, cynllunio a chynnal digwyddiadau – person all fod yn gatalydd ar gyfer gweithredu cymunedol hunan-gynhaliol a gwireddiad Cynllun Gweithredu Cynulliad Hinsawdd Dyffryn Nantlle. Byddwch yn gweithio gyda thim arbennig yn Yr Orsaf sydd eisioes yn gweithredu ystod eang o brosiectau cymdeithasol ac amgylcheddfol yn yr ardal. Ai chi ydi Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi Dyffryn Nantlle?
Gwnewch gais trwy anfon CV i post@gwyrdddni.cymru yn amlygu’r holl brofiad perthnasol a llythyr eglurhaol yn egluro pam rydych chi eisiau bod yn rhan o GwyrddNi a beth fyddwch chi’n ei ychwanegu at y mudiad. Dyddiad cau 26 Hydref 2023.
