Does dim byd gwell na bod yng nghanol bwrlwm plant a phobl ifanc, yn enwedig ar ôl cyfnod clo hir a thawel. Ac heb os, mae digon o fwrlwm, trafod, sgwrsio a chwerthin wedi bod dros y mis diwethaf wrth i mi ddechrau rhoi rhaglen addysg GwyrddNi ar waith.
Sara ydw i, Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi. Prif nod fy ngwaith yw sicrhau bod plant a phobl ifanc sy’n byw ac yn mynd i’r ysgol yn ardaloedd GwyrddNi yn cael cyfle i ddysgu am yr her hinsawdd a darganfod datrysiadau i’r her, cyn cael cyfle i weld y datrysiadau hynny yn eu milltir sgwâr. Yn dilyn hyn byddant hefyd yn cael cymryd rhan mewn proses gynulliadol, yn debyg i’r cynulliadau cymunedol ar yr hinsawdd mae hwyluswydd GwyrddNi yn eu cynnal.
Mae GwyrddNi yn gweithio mewn pum ardal (Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen, Dyffryn Peris, Bro Ffestiniog a Phen Llŷn), ac felly aethom ati i wahodd ysgolion o’r ardaloedd hyn i gymryd rhan yn ein rhaglen addysg. Mae hi bellach yn llawn dop ac eisoes wedi cychwyn, ac mae’n wych medru cynnig y profiad unigryw hwn i ddisgyblion mewn 19 o ysgolion yng Ngwynedd.
Cam cyntaf y rhaglen oedd cynnal gweithdy cyffredinol ar newid hinsawdd ym mhob ysgol. Mae’r gweithdai yma wedi cynnwys trafodaeth am y cyswllt sydd rhwng popeth ar y ddaear a’r cyslltiadau rhwng gwahanol elfennau o’n cymunedau. Roeddem hefyd yn dysgu am effaith tŷ gwydr, y cylch carbon, sut mae llosgi tanwydd ffosil yn cyfrannu at gynhesu byd eang, y newid yn yr hinsawdd mae cynhesu byd eang yn ei achosi a’r effaith mae rhain yn gael ar bobl ledled y byd. Buom hefyd yn trafod ein teimladau wrth ystyried newid hinsawdd, yn sgwrsio am sut y gallwn ni fynd ati i ddatrys her yr hinsawdd, a phwysigrwydd cydweithio o fewn ein cymunedau i ganfod ffyrdd o fyw fydd yn helpu i ddatrys yr her.




Mae’n wych gweld y plant yn cymryd diddordeb, yn dysgu, ac yn arbennig gweld faint mae nifer ohonynt yn wybod yn barod.
Dyma ddywedodd un disgybl Ysgol Dyffryn Nantlle:
“Diolch am y sesiwn, nes i rili mwynhau. Oedd o’n dda achos er bo ni’n son am y gwyddoniaeth roedden ni’n son am agweddau eraill hefyd. A mae hynny’n rili pwysig oherwydd mae newid hinsawdd am fwy na’r gwyddoniaeth, a ’da ni angen dallt hynny os ’da ni am neud rhywbeth amdano.”
Cam nesaf y daith yw trefnu cylchdaith leol i’r disgyblion er mwyn iddynt weld datrysiadau hinsawdd ar waith yn eu milltir sgwâr. Rydym newydd gynnal y rhain yn Nyffryn Nantlle, gan ymweld â llu o brosiectau difyr sy’n cael eu cynnal gan ein partner yno, Yr Orsaf. Roedd y plant yn gwirioni cael gweld pa gyfarpar arbennig sydd gan Osian yn y Gofod Gwneud, cael tro ar yr offerynnau yn Stiwdio’r Orsaf, cael ymweld â’r ardd wyllt a dysgu am fflyd gerbydau drydanol Yr Orsaf, yn ogystal â dysgu am leihau gwastraff trwy ddatblygu cynlluniau cymunedol fel Llyfrgell y Pethe, ble medrwn ni fenthyg pethau ymarferol o ddydd i ddydd. Fel y gwelwch chi, roedd yn ddiwrnod llawn dop o brofiadau amrywiol i’r disgyblion.



Cam nesaf y Rhaglen Addysg fydd cynnal cynulliadau yn yr ysgolion, er mwyn iddyn nhw gael dysgu mwy, cyn trafod a phenderfynu ar ragor o ddatrysiadau hinsawdd yr hoffent weld yn eu hardal nhw. Byddant yn cael cyfle i rannu’r rhain gyda’r cynulliad cymunedol sy’n cael ei gynnal yn yr ardal hefyd, cyn cael annogaeth a chefnogaeth gan GwyrddNi i wireddu un o’u datrysiadau hinsawdd!
Pwy well i gyfrannu at y gwaith o warchod ein dyfodol na chenedlaethau’r dyfodol eu hunain, ynte?



Hoffem ddiolch i holl athrawon a chymorthyddion yr ysgolion sy’n rhan o’r cynllun am eich cefnogaeth.
