Postiwyd ar

Stori’r Tir Dyffryn Peris

Mae Stori’r Tir yn brosiect creadigol sy’n casglu a rhannu straeon am ein perthynas gyda’r tîr yn Nyffryn Peris. Deilliodd o syniad o Gynulliad Ysgolion yr ardal a cafodd ei fwydo i mewn i’r Cynllun Gweithredu wedi iddo godi teimlad cadarnhaol ymhlith y Cynulliad Cymunedol.

Nôd Stori’r Tir yw dod â’r gymuned ynghyd i gipio doethineb cenedlaethau blaenorol, hyrwyddo hunaniaeth a chysylltiad â’r tir, creadigrwydd a’r iaith Gymraeg.

Mae Stori’r Tir wedi ei greu gan Lindsey Colbourne, Emily Meilleur, Lowri Vaughan (Hwylusydd GwyrddNi Dyffryn Peris) ac Angharad Owen.

Yn 2024, yn dilyn galwad agored, cafwyd 15 o geisiadau prosiect bach, pob un yn derbyn cyllid meicro gan GwyrddNi. Roedd y prosiectau’n amrywio o ddarganfod hen enwau caeau’r ardal i deithiau cerdded tywys yn addysgu plant ac oedolion am fytholeg y tirwedd.

Mae rhwydwaith fywiog o greadigolion a haneswyr wedi datblygu yn ei sgil. Yn ail flwyddyn y prosiect, bydd yr ymchwiliadau creadigol yn dyfnhau a rhaglen o ddigwyddiadau yn dilyn dros y gwanwyn a’r haf, 2025.

Safle wê Stori’r Tir: https://www.utopiasbach.org/storir-tir-dyffryn-peris Cyswllt: storirtir@gmail.com