Efallai eich bod wedi clywed hyn yn barod – mae GwyrddNi wedi cael cyllid am y bedair mlynedd a hanner nesaf gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau gweithredu ar y Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol a greuwyd dros y dwy flynedd diwethaf!
Yn ôl yn 2021, rhoddwyd arian gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i GwyrddNi i gynnal Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd mewn pum ardal: Dyffryn Nantlle, Dyffryn Peris, Pen Llŷn, Bro Ffestiniog, a Dyffryn Ogwen. Y nod oedd i ddysgu, rhannu a thrafod cyn cydweithio i ateb y cwestiwn: Sut allwn ni yn [enw’r ardal] ymateb yn lleol i Newid Hinsawdd?
Y chwech sefydliad tu ôl i GwyrddNi yw Datblygiadau Egni Gwledig (DEG), Partneriaeth Ogwen yn Nyffryn Ogwen, Cyd Ynni yn Nyffryn Peris, Siop Griffiths yn Nyffryn Nantlle, Cwmni Bro ym Mro Ffestiniog, ac Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn.
Yn ystod 2022-2023 buom yn cynnal cyfres o bedwar Cynulliad Cymunedol ar yr Hinsawdd ym mhob ardal, lle daeth 50 o bobl o bob ardal at ei gilydd i drafod eu syniadau ac i gydweithio ar greu Cynlluniau Gweithredu Hinsawdd Cymunedol. Bu ein rhaglen addysg yn gweithio gydag ysgolion ym mhob un o’r ardaloedd, gyda phlant ysgol lleol yn ychwanegu eu cyfraniadau at y Cynlluniau Gweithredu. Mae pob Cynllun yn dangos y syniadau yr oedd y cymunedau eisiau eu blaenoriaethu. Gallwch eu darllen yma: https://www.gwyrddni.cymru/cynlluniau-gweithredu/





Ond be’ nesaf? Beth sy’n digwydd hefo’r Cynlluniau Gweithredu yma?
Cafwyd llawer o grwpiau gweithredu eu creu trwy’r Cynulliadau Cymunedol yn canolbwyntio ar wahanol themau – megis bwyd, ynni, trafnidiaeth ac yn y blaen. Mae’r grwpiau wedi bod yn gweithredu ac yn gweithio ers tro, hefo’r hwyluswyr yn gwneud eu gorau i’w cefnogi nhw, ac yn barod rydym yn gweld pethau cyffrous yn digwydd: datblygu prosiectau bwyd cymunedol ym Mro Ffestiniog, Caffis Trwsio yn Llanrug, Llanberis a Bethel, a dros 100 o bobl wedi mynychu Gŵyl Hinsawdd ym Methesda llynedd a’r cynllunio eisioes wedi cychwyn ar gyfer eleni – a llawer mwy ar y gweill!
Roedd rhai grwpiau yn llwyddiannus yn ennill cyllid o ffynonellau gwahanol i weithio ar eu syniadau – er enghraifft, Marchnad Lleu yn Nyffryn Nantlle: marchnad misol hefo bwyd a chrefftau lleol ar werth, gweithdai diddorol fel “Gwyddoniaeth Hinsawdd i Ddechreuwyr” a cyfle i gael paned a chyfarfod y gymuned. Y syniad ydi i fod yn farchnad hunan-gynhaliol, ond meant wedi llwyddo i gael cyllid gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’w helpu gyda gwefan a marchnata. Neu mae yna’r prosiect Ôl-Osod i Bawb gan YnNi Llŷn, lle ymunodd chwech o aelodau cynulliad Pen Llŷn â bwrdd YnNi Llŷn fel cyfarwyddwyr – meant nawr wedi llwyddo i gael cyllid gan Cyngor Gwynedd i weithio ar wella effeithlonrwydd ynni tai yn eu hardal, ac wedi creu tair swydd newydd i siaradwyr Cymraeg lleol.
Roeddym eisiau gwneud yn siwr bod digon o adnoddau gan ein grwpiau i allu parhau, a dyna pam yr ydym wedi bod yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni! Rydym rŵan yn hapus i gyhoeddi bod GwyrddNi wedi cael pedair blynedd a hanner o gyllid pellach gan Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i barhau hefo GwyrddNi. Bydd £500,000 o gyllid ar gael i’r cymunedau, wedi ei rannu yn gyfartal dros y pum ardal, er mwyn parhau i weithredu ar y syniadau yn y Cynlluniau Gweithredu.
Yn y flwyddyn gyntaf, bydd £40,000 ar gael i bob ardal weithredu ar y syniadau a cafodd eu blaenoriaethu yn y Cynlluniau Gweithredu. Bwriad y cyllid yma ydi sbarduno syniadau, nid i’w hariannu nhw yn cyfan gwbl – ond mae’r hwyluswyr yn hapus i’ch cefnogi i ddod o hyd i gyllid arall, hefyd.
Os ydych eisiau bod yn rhan o hyn, darllennwch am sut fedrwch chi gymryd rhan hefo un (neu fwy) o’r grwpiau gweithredu sydd wedi dod allan o’r cynulliadau yma: https://www.gwyrddni.cymru/cymryd-rhan. Gallwch gysylltu hefo’ch hwylysydd lleol am fwy o wybodaeth am yr arian, a byddwch yn derbyn y canllawiau ganddynt yn fuan.
Mae gwaith addysg GwyrddNi hefyd yn parhau, gydag arlwy o weithgareddau a chynig i gydweithio ar gael i ysgolion a cholegau’r pum ardal, a chynlluniau i ddatblygu cyfleoedd dysgu i oedolion ar y gweill.
Mae’r cyllid newydd hefyd yn gadael i hwyluswyr GwyrddNi barhau i wneud eu gwaith hyrwyddo a chefnogi gweithgareddau eu cymunedau, ac yn ogystal mae’n ei gwneud yn bosib i gael cydlynnydd, swyddog cyfathrebu, dwy swyddog addysg, ac mae un swydd newydd cyffrous wedi cael ei greu: mentor iaith i gefnogi a hyrwyddo defnydd yr iaith Gymraeg.
Gwahaniaeth arall ydi bydd ein hwyluswyr nawr yn cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan y sefydliad partner yr eu hardal nhw, yn hytrach na gweithio i le canolog (DEG) yng Nghaernarfon fel yn y cyfnod cyntaf. Buom yn recriwtio drwy gydol mis Hydref a Thachwedd 2023, a mae gennym bump o bobl newydd ar y tîm GwyrddNi o’r diwedd, yn barod i fynd! Isod fe gwelwch y staff newydd yn ymweld a’r cynllun hydro Ynni Ogwen fel rhan o’u cyfnod anwytho.

Er mwyn dathlu popeth mae ein cymunedau eisoes wedi ei gyflawni, rydym yn cynllunio dathliad ar yr 17eg o Fawrth yn Neuadd Bentref Penrhyndeudraeth. Bydd hwn yn gyfle i aelodau pob cynulliad ddod at ei gilydd a chlywed am y prosiectau sydd eisoes ar y gweill, i gysylltu â chyfranogwyr o’r ardaloedd eraill ac i ddarganfod mwy am sut y gallant gymryd rhan. Os nad oeddech yn rhan o’r Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd ond yn dal yn awyddus i ddod draw, cysylltwch â’ch hwylusydd agosaf am ragor o wybodaeth.
Mae GwyrddNi yn fudiad gweithredu hinsawdd cymunedol sy’n dod â phobl ynghyd mewn pum ardal yng Ngwynedd i drafod, rhannu a gweithredu’n lleol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gyd-greu cymunedau gwyrddach, mwy cynaliadwy a gwydn – cysylltwch â ni – neu cliciwch ar y botwm isod i roi gwybod i ni sut yr hoffech chi gymryd rhan. Byddwn yn dod yn ôl atoch ac yn cysylltu â chi â’r person/pobl fwyaf priodol!











