Postiwyd ar

Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

Un o’r cynlluniau a gafodd ei gynnwys yn Cynllun Gweithredu Cymunedol Dyffryn Ogwen oedd cynnal Gŵyl Hinsawdd. Pwrpas yr ŵyl oedd i cynyddu ymwbyddiaeth o’r argyfwng hinsawdd, hyrwyddo’r Cynllun Gweithredu a gwaith y Cynulliad Cymunedol, a rhannu gwybodaeth am datrysiadau lleol sydd eisioes ar waith.

Fe penderfynnodd yr Aelodau Cynulliad ar Mai’r 1af fel dyddiad, un arwyddocaol fel dathliad Calan Mai. Doedd dim llawer o amser i fynd ati i drefnu o diwedd y cynulliadau – 8 wythnos!



Daeth criw bychan et eu gilydd i rhoi pethau mewn lle gan gyfarfod yn gyson dros zoom, neu mewn tafarn i benderfyny be hoffai i’r ddigwyddiad fod. Roedd angen meddwl am stondinau a gweithgareddau, cysylltu hefo mudiadau lleol eraill, trefnu rhaglen siaradwyr, canfod cyllid, a hyrwyddo’r digwyddiad.

Fe ddaeth bob dim at ei gilydd yn gyflym ac ar y diwrnod roedd stondinau a gweithgareddau teuluol yn Llys Dafydd, rhaglen ddifyr llawn siaradwyr yn Neuadd Ogwen, taith i fyny i Hydro Ynni Ogwen a taith feics hynod boblogaidd o gwmpas Bethesda. Cawsom ychydig o gerddoriaeth byw, a roedd marchnad cynnyrch lleol hefyd wedi cael ei drefnu ar y diwrnod gan Cadwyn Ogwen lawr y lôn yn Cosyn!



Roedd y diwrnod yn lwyddiant, gyda dros 200 o bobl wedi mynychu a cysylltiadau newydd wedi ei gwneud. Rydym wedi llwyddo i recordio ambell un o’r sgyrsiau ac mi fydd allan ar ein ffrwd podlediadau yn fuan.(Gallwch wrando ar ein podlediad yma)

Rydym yn hynod ddigolchar i Elusen Ogwen ac  i EGIN am y nawdd i gynnal y digwyddiad.

Mae’r criw bellach yn edrych ymlaen i gynnal gŵyl arall yn Mai 2024, ac i drefnu ambell beth cyn hynny.

Os hoffech wybod mwy am waith GwyrddNi yn Dyffryn Ogwen, neu helpu gyda’r ŵyl, neu unrhyw un o’r cynlluniau yn y Cynllun Gweithredu e-bostiwch chris@deg.cymru

Postiwyd ar

Podcast GwyrddNi

Ydych chi’n un o’r miloedd ar filoedd sydd yn mwynhau gwrando ar bodcast bach tra’n mynd am dro? Wel, mae yna un newydd i’w ychwanegu at eich rhestr; podcast GwyrddNi!

Yn y bennod gyntaf hon o’n podcast cyntaf erioed cawn gwrdd â rhai o griw GwyrddNi, sef Lowri Hedd Vaughan, ein Hwylusydd yn Nyffryn Peris, Dafydd Rhys, Hwylusydd Pen Llŷn, ac yn cadw trefn ar bawb mae Sara Ashton-Thomas, Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi. Hefyd yn ymuno yn y sgwrs mae Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, a Phil McGrath, Rheolwr Datblygu Cyd Ynni. 

Cawn glywed am rai o’r pethau gwych sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau ledled Gwynedd, a chawn glywed am y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd fydd GwyrddNi yn eu cynnal mewn pum ardal yng Ngwynedd dros y misoedd nesaf. I ddysgu mwy am y Cynulliadau Cymunedol (a gaiff eu cynnal ym Mhen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris) ac i gofrestru i gymryd rhan ewch i www.gwyrddni.cymru. 

Felly chwilio am ‘GwyrddNi’ ar Spotify neu Anchor, neu cliciwch yma i wrando ar y bennod gyntaf, a mwynhewch!

Os hoffech chi ddod am sgwrs efo ni yn un o bodcasts y dyfodol plis cysylltwch: casia@deg.cymru.