Postiwyd ar

Podcast GwyrddNi

Ydych chi’n un o’r miloedd ar filoedd sydd yn mwynhau gwrando ar bodcast bach tra’n mynd am dro? Wel, mae yna un newydd i’w ychwanegu at eich rhestr; podcast GwyrddNi!

Yn y bennod gyntaf hon o’n podcast cyntaf erioed cawn gwrdd â rhai o griw GwyrddNi, sef Lowri Hedd Vaughan, ein Hwylusydd yn Nyffryn Peris, Dafydd Rhys, Hwylusydd Pen Llŷn, ac yn cadw trefn ar bawb mae Sara Ashton-Thomas, Swyddog Addysg, Ymgysylltu ac Allgymorth GwyrddNi. Hefyd yn ymuno yn y sgwrs mae Meleri Davies, Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen, a Phil McGrath, Rheolwr Datblygu Cyd Ynni. 

Cawn glywed am rai o’r pethau gwych sydd eisoes ar y gweill mewn cymunedau ledled Gwynedd, a chawn glywed am y Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd fydd GwyrddNi yn eu cynnal mewn pum ardal yng Ngwynedd dros y misoedd nesaf. I ddysgu mwy am y Cynulliadau Cymunedol (a gaiff eu cynnal ym Mhen Llŷn, Bro Ffestiniog, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris) ac i gofrestru i gymryd rhan ewch i www.gwyrddni.cymru. 

Felly chwilio am ‘GwyrddNi’ ar Spotify neu Anchor, neu cliciwch yma i wrando ar y bennod gyntaf, a mwynhewch!

Os hoffech chi ddod am sgwrs efo ni yn un o bodcasts y dyfodol plis cysylltwch: casia@deg.cymru.

Rhannwch hwn: