Mae’r dyddiau’n faith, mae’r haul yn boeth, ac rydan ninnau yn cael ein gwynt atan ar ôl ein cyfres gyntaf o Gynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd.
Diben y cynulliadau cyntaf hyn oedd gosod cynsail a sylfeini cadarn er mwyn medru cyd-weithio, cyd-greu a chyd-weithredu yn llwyddiannus efo’n gilydd yn hir-dymor. Gyda hyd at hanner cant o aelodau ym mhob ardal roedd angen i ni ddod i adnabod ein gilydd, dod i ddeall lle oedd ‘adra’ i bawb, a beth oedd wedi eu cymell i ymuno â’r cynulliad.
Pleser a braint oedd cael cyfarfod cymaint o bobl – rhai yn ffrindiau ac eraill yn newydd sbon – ym Mro Ffestiniog, Pen Llŷn, Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Dyffryn Peris. Pob cymuned wedi ei gwneud o gymunedau llai, a’r rheiny yn llawn unigolion talentog, angerddol a gwybodus. Pobl sy’n nabod eu tir, eu pobl, eu patch; pobl sydd am ei warchod.
Aethom ati i fyfyrio ar ein profiadau ein hunain o newid hinsawdd ar raddfa leol. Pa newidiadau ydan ni wedi eu gweld yn ystod ein hoes ni? Gydag amser a gofod i feddwl am hyn yn iawn roedd canfyddiadau pob cynulliad yn syfrdanol. O erydiad yr arfordir a’r fryngaer hynafol yn disgyn i’r môr yn Ninas Dinlle, i bwll pysgod mewn gardd sydd heb rewi ers dros bum mlynedd. Ac o sylwi bod llawer llai o bryfed marw ar ffenestri ein ceir y dyddiau hyn, i ddarllen barddoniaeth natur a sylwi nad yw’n berthnasol mwyach oherwydd newidiadau i batrymau’r tymhorau a bioamrywiaeth. Mae newid yn digwydd ac mae pobl yn sylwi.


Yn y cynulliadau cyntaf hefyd roedd yn bwysig ein bod yn clywed am brosiectau a gwaith ein partneriaid ym mhob ardal – Cwmni Bro Ffestiniog, Ynni Llŷn, Yr Orsaf, Partneriaeth Ogwen a Cyd Ynni. Clywsom gan nifer o drigolion lleol hefyd, Duncan Brown, Nia Williams, Bini Jones, Ceri Cunnington, Siôn Williams a Dr Gareth Wyn Jones i enwi dim ond rhai. Pobl a fu yn rhannu gwybodaeth a phrofiad gyda ni am fioamrywiaeth, newidiadau mewn patrymau pysgota oherwydd newid hinsawdd, posibiliadau ffermio amgen oherwydd newid hinsawdd a mentrau cymunedol sy’n ail-berchnogi’r stryd fawr. Ewch draw i sianel YouTube GwyrddNi i wylio’r cyflwyniadau hyn – dim ond mynd i YouTube ac yna teipio GwyrddNi. Mae trawsgrifiadau o’r sgyrsiau i gyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.


Roedd yn amlwg bod nifer fawr o weithgareddau eisoes ar droed ym mhob cymuned i weithredu yn erbyn newid hinsawdd, a bod llawer o awydd a brwdfrydedd dros greu mwy. Ac felly dyma’r sylfaen cadarn sydd o dan ein traed wrth i ni ddechrau cynllunio a pharatoi ar gyfer yr ail gyfres o Gynulliadau ble byddwn yn dechrau cyd-ddychmygu’r dyfodol. Sut le fydd yma ymhen 20, 40, 60 o flynyddoedd? Sut ydan ni am i’r lle yma fod? A sut mae cyrraedd y lle hwnnw?
Mae’r rhain yn gwestiynau mawr, ond does gen i ddim amheuaeth, ar sail ein cynulliadau cyntaf, y bydd yr hanner cant o bobl ym mhob ardal yn medru eu hateb, ac yna yn medru cydweithio i greu’r llwybr sydd ei angen i gychwyn ar y daith yno. Dwi’n meddwl mai tîm pêl-droed Cymru ddywedodd hi orau; Gorau Chwarae Cyd Chwarae.
Grant Peisley
Cyfarwyddwr GwyrddNi – 21.07.22
