Byddwn yn cynnal tair sgwrs ar-lein dros y misoedd nesaf, yn seiliedig ar themâu sydd wedi codi yn ein Cynulliadau Cymunedol ar yr Hinsawdd. Mae’r sgyrsiau hyn yn agored i unrhyw un.
Sgwrs 1 – Tyfu Bwyd

Bydd y sgwrs gyntaf (26.10.22 am 7.30pm) yn edrych ar dyfu a gwerthu bwyd yn lleol. Bydd cyfle i glywed gan rai sy’n tyfu bwyd ar ffermydd a rhandiroedd cymunedol ar draws Gwynedd, a bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau hefyd.
Sut mae dechrau arni? Sut i dyfu? Sut mae gwerthu? Sut mae rhedeg menter gydweithredol? Yno i rannu eu profiad ac i ateb cwestiynau bydd Fferm Tyddyn Teg, Fferm Henbant, Fferm Pandy, Fferm Trigonos, rhandiroedd Brynrefail a Moelyci a rhagor o enwau i ddod.
Gallwch wylio’r sgwrs yn ôl ar YouTube yma. A cliciwch yma i weld y pecyn gwybodaeth yn gysylltiedig â’r sgwrs.
Sgwrs 2 – Ynni Cymunedol

Bydd yr ail sgwrs (30.11.22 am 7.30pm) yn canolbwyntio ar fentrau cymunedol sydd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a dod a buddion i’w cymunedau.
Cawn ddysgu am fentrau cydweithredol, rhanddaliadau cymunedol, gwirfoddoli, trwyddedu a’r holl gamau angenrheidiol ar gyfer cynllunio, gosod a chynnal mentrau tebyg. Bydd cynrychiolwyr Ynni Ogwen, Ynni Padarn Peris, Cyd Ynni, Ynni Cymunedol Cymru ac asiantaethau statudol yno i rannu eu profiadau ac i ateb eich cwestiynau.
Gallwch wylio’r sgwrs yn ôl ar YouTube yma. Yn anffodus mae’r sain Cymraeg a’r cyfieithiad Saesneg wedi eu recordio ar y fideo – sori am hyn! Clicliwch yma i weld y pecyn gwybodaeth yn gysylltiedig â’r sgwrs.
Sgwrs 3 – Trafnidiaeth Gynaliadwy

Ac yn y drydedd sgwrs (25.01.23) a gaiff ei chynnal mewn partneriaeth â’r Transport Action Network, trafnidiaeth gynaliadwy fydd yn mynd a’n bryd. Cawn glywed am ddatblygiadau cymunedol, sirol, cenedlaethol ac ysbrydoliaeth ryngwladol ym maes trafnidiaeth.
O lwybrau cerdded a beicio, i fentrau rhannu ceir, darpariaeth bysiau, gwelliannau trenau a chysylltiadau Ewropeaidd – dewch gyda ni ar y daith!
Yn cyfrannu at y sgwrs bydd Angela Jones o Barc Cenedlaethol Eryri, Iwan ap Trefor o Gyngor Gwynedd, Lee Robinson o Transport for Wales a Wil Parry o fenter Gymunedol Ynni Llŷn.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chofrestru yma: https://GwyrddNi.eventbrite.com
